Neidio i'r prif gynnwy

Mae mwy na £25 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn offer delweddu newydd i sicrhau bod gan y GIG yng Nghymru fynediad at y dechnoleg ddiweddaraf i helpu i roi diagnosis a thriniaeth gynharach ar gyfer canser a chlefydau eraill.

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i uwchraddio technoleg ac offer hanfodol, gan gynnwys sganwyr MRI a CT. Bydd hefyd yn gwella cadernid a dibynadwyedd yr offer diagnostig sydd ar gael i’r GIG yng Nghymru.

Oherwydd bod llawer o bobl wedi methu â mynd i’r ysbyty ar gyfer apwyntiadau delweddu a diagnostig yn ystod y pandemig, mae amseroedd aros wedi cynyddu.

Bydd buddsoddi mewn gwasanaethau diagnostig ar draws byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG yn helpu’r gwasanaeth iechyd i adfer ac yn gwella’r gofal i gleifion.

Bydd gwasanaethau canser yn derbyn hwb sylweddol, gyda buddsoddiad newydd mewn sganwyr CT, camerâu gama, ac ystafelloedd delweddu MRI a phelydr-x fflworosgopeg.

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cael £5.5 miliwn tuag at efelychydd CT, sy’n rhoi gwasanaeth cynllunio triniaeth 3D ar gyfer cleifion canser; ystafell fflworosgopeg, sy’n darparu gwasanaeth delweddu pelydr-x o’r radd flaenaf yn Ysbyty Treforys a diweddariad i’r camera gama technoleg CZT.

Dywedodd Sarah Gwynne, oncolegydd clinigol ymgynghorol yn Ysbyty Singleton, y byddai’r offer yn gwneud gwahaniaeth i sut y bydd cleifion yn cael eu trin.

Bydd y sganiwr CT newydd yn ein galluogi i roi triniaeth radiotherapi i ladd celloedd canser yn fwy manwl gywir, gan anfon y dos i’r mannau sydd ei angen ac osgoi’r mannau cyfagos.

Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn triniaeth canser y fron, yr oesoffagws a’r ysgyfaint, lle gall symudiadau anadlu ei gwneud yn anoddach fyth i dargedu mannau penodol.

Bydd gweddill y cyllid yn darparu:

  • £2.3 miliwn ar gyfer sganiwr CT a dwy ystafell radioleg diagnostig yn Ysbyty Ystrad Fawr, yn Ystrad Mynach
  • £3.3 miliwn ar gyfer camera gama ac ystafell radioleg ymyriadol yn Ysbyty Maelor Wrecsam
  • £2.1 miliwn ar gyfer efelychydd CT newydd yn Ysbyty Glan Clwyd
  • £3.2 miliwn ar gyfer labordy fflworosgopeg a labordy cathetreiddio yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd
  • £3.1 miliwn i uwchraddio’r ystafell MRI a fflworosgopeg, sy’n darparu gwasanaeth delweddu pelydr-x yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr
  • £4.5 miliwn ar gyfer dau sganiwr CT newydd yn Ysbyty Glangwilli, yn Sir Gaerfyrddin ac Ysbyty Llwynhelyg, Sir Benfro
  • £1 miliwn i uwchraddio offer MRI a delweddu pelydr-x fflworosgopeg yng Nghanolfan Ganser Felindre, Caerdydd
  • £350 mil ar gyfer pedwar peiriant uwchsain yn ysbytai Aberhonddu, y Drenewydd, Llandrindod a’r Trallwng

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan: 

Ein blaenoriaeth yw cefnogi adferiad y Gwasanaeth Iechyd a dyma gam cyntaf i sicrhau bod gan y gwasanaeth iechyd fynediad at ddigon o allu diagnostig i ymdrin â’r bobl sydd ar y rhestrau aros o ganlyniad i’r pandemig.

Nid yw’r pandemig ar ben eto. Mae buddsoddi yn y rhaglen gyfalaf genedlaethol ar gyfer darparu offer diagnostig newydd, ac uwchraddio’r offer sydd ar gael i’n gweithlu gofal iechyd anhygoel yn allweddol i roi diagnosis, triniaeth a gofal i bobl wrth inni edrych i’r dyfodol.

Bydd y buddsoddiad hwn o £25 miliwn yn darparu offer newydd yn lle hen rai fel rhan o’n hymdrech i sicrhau y gall y GIG ymateb i’r galw gan ddarparu gwasanaethau cadarn.