Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, bydd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas yn lansio Cymru Greadigol - i sicrhau bod Cymru yn cael ei gweld fel y lle i fusnesau creadigol ffynnu ynddo.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd y Dirprwy Weinidog: 

Rydyn ni o hyd wedi bod yn genedl o storïwyr. Mae rhannu straeon dros genedlaethau naill ai mewn geiriau, ar ffurf delweddau neu drwy ganu wedi mireinio ein meddyliau creadigol. Heddiw, efallai fod y dechnoleg wedi newid ond yr un yw'r pwrpas: i ddefnyddio ein sgiliau creadigol i gysylltu â phobl, rhannu syniadau, diddanu a darparu gwybodaeth.

Fy ngweledigaeth i ar gyfer Cymru Greadigol yw creu sefydliad a fydd yn adeiladu ar y llwyddiannau presennol yn y diwydiant sgrin i sbarduno twf ar draws y sector cyfan; gan ddatblygu sylfaen sgiliau o’r radd flaenaf, ymestyn y gefnogaeth y tu hwnt i ffilm a theledu a sicrhau fod Cymru’n cael ei gweld fel y lle delfrydol i leoli eich busnes creadigol.

Prif flaenoriaethau Cymru Greadigol yw:

  • Ysgogi twf yn sector Diwydiannau Creadigol Cymru drwy dargedu ffocws yn fwy ar ranbarthau ac is-sectorau.
  • Datblygu'r sgiliau cywir ar draws y sector i gynnal twf parhaus, gan gydnabod nad oes modd gwneud hynny heb gydweithio'n agosach â phartneriaid yn y diwydiant a'r undebau llafur.
  • Codi safonau a hyrwyddo amrywiaeth a chydraddoldeb. Bydd hyn yn cynnwys datblygu ymrwymiadau gan bob partner o ran cynhwysiant, cyflog teg ac arferion gweithio.
  • Symleiddio ein cymorth ariannol i'r diwydiant creadigol a sicrhau ein bod yn gallu ymateb yn ddigon cyflym i'r sector. Bydd yr holl gyllid yn cael ei roi drwy gontract economaidd.
  • Byddwn yn arwain wrth farchnata a hyrwyddo'r diwydiannau creadigol yng Nghymru i'r byd, drwy frand newydd Cymru Greadigol.

Bydd Cymru Greadigol yn cael ei lansio yng Ngwobrau Sgiliau Creadigol a Diwylliannol Cymru yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro [29 Ionawr], sy'n dangos pa mor bwysig yw sgiliau o fewn y set o flaenoriaethau newydd. Bydd y Dirprwy Weinidog hefyd yn cyhoeddi cyllid a fydd yn cael ei roi i Sgiliau Creadigol a Diwylliannol a'i bartneriaid, er mwyn sefydlu a chyflawni peilot o Raglen Gyrfaoedd Creadigol Cymru. Bydd y rhaglen yn gweithio gyda mwy o bobl ifanc i godi ymwybyddiaeth o'r amrywiaeth o gyfleoedd am yrfa creadigol sydd ar gael yn y sector ac i feithrin diddordeb ynddynt.

I gefnogi'r diwydiant, bydd gan Cymru Greadigol ddwy ffrwd gyllido ar gyfer cyllid cyfalaf a refeniw, gwerth hyd at £7miliwn yn 2020-21, a fydd yn ymateb yn gyflym ac yn hyblyg i anghenion y sector.

Mae hi’n Wythnos Lleoliadau Annibynnol, ac fe fydd y Dirprwy Weinidog hefyd yn cyhoeddi  £120,000 ar gyfer Lleoliadau Lleol i Gynnal Cerddoriaeth.

Bydd y camau nesaf yn cynnwys sefydlu bwrdd cynghori a chyhoeddi hysbysebion ar gyfer recriwtio Cadeirydd ac aelodau'r Bwrdd ar 29 Ionawr. Mae Gerwyn Evans wedi'i benodi yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Cymru Greadigol.

Dywedodd Dr David Banner MBE, Rheolwr Gyfarwyddwr Cymru Ryngweithiol: 

Rwy’n falch iawn gyda lansiad Cymru Greadigol a fydd yn rhoi cymorth hanfodol i'r diwydiant gemau fideo a'r diwydiannau creadigol ehangach yng Nghymru. Mae mentrau fel hyn yn hanfodol er mwyn helpu cwmnïau creadigol Cymru i dyfu, meithrin talent newydd, datblygu cynhyrchion blaengar a chystadlu ar y llwyfan byd-eang yn y pen draw.

Dywedodd Huw Stephens, cyflwynydd y noson wobrwyo: 

Mae’r sector greadigol yn un sydd mor bwysig i ni yng Nghymru. Mae’n dod a gwaith, mae’n creu partneriaethau, a dyma sydd yn cyrraedd corneli pellaf y byd, sef y gwaith creadigol sydd yn dod o Gymru. Rwy’n meddwl ei bod yn beth positif fod cyd-weithio fel hyn yn dod yn fwy amlwg. Yn sicr, mae pethau da iawn yn gallu digwydd wrth i ni gyd-weithio yn y sector greadigol.

Meddai Sarah Mair Hughes, Pennaeth Partneriaethau, Sgiliau Creadigol a Diwylliannol:

Mae Sgiliau Diwylliannol & Creadigol yn gweithio ledled Cymru i helpu i greu cyfleoedd i weithio a dysgu yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol.  Mae’r  ffocws ar sgiliau gan Cymru Greadigol yn rhoi pwyslais ar ein nodau a bydd yn ein cynorthwyo i gyrraedd mwy o bobl ifanc er mwyn ennyn eu diddordeb yn y sector a'r cyfleoedd sydd ar gael.