Daeth yr ymgynghoriad i ben 23 Ebrill 2021.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o’r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem glywed eich barn ynghylch deddfwriaeth arfaethedig sy’n anelu at wella gwasanaethau cyhoeddus a hyrwyddo llesiant.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ynghylch Bil drafft a fydd yn:
- atgyfnerthu a hyrwyddo cysondeb ym maes partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru
- cyflawni canlyniadau gwaith teg
- cyflawni caffael cymdeithasol gyfrifol
Dogfennau ymgynghori
Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1022 KB
Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 192 KB
Asesiad effaith rheoliadol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Gwybodaeth ychwanegol
Bydd gweithdai rhithiol yn cael eu cynnal i drafod themâu cyffredinol yr ymgynghoriad. Bydd allbynnau’r gweithdai hyn yn cyfrannu at feireinio’r ddogfen bolisi derfynol.
Manylion Digwyddiadau
Dydd Gwener 19 Mawrth am 14:00, sesiwn agored, trwy gyfrwng y Gymraeg
Dydd Llun 22 Mawrth am 14:00, sesiwn agored, trwy gyfrwng y Saesneg
Dydd Mawrth 23 Mawrth am 14:00, digwyddiad bord gron i gynrychiolwyr y Trydydd Sector
Am fwy o fanylion, e-bostiwch: nick@miller-research.co.uk