Neidio i'r prif gynnwy

Ar 29 Ebrill 2019, ni oedd un o'r gwledydd cyntaf yn y DU i ddatgan ei bod yn Argyfwng Hinsawdd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rydyn ni eisoes yn gwneud pethau mawr, gyda thros 100 o gamau yn ein cynllun, gan gynnwys:

  • defnyddio mwy ynni adnewyddadwy yn gynt
  • gwneud ein cartrefi'n fwy ynni effeithiol a lleihau tlodi tanwydd
  • gweddnewid Cymru trwy ei gwneud yn un o'r tair gwlad orau yn y byd am ailgylchu
  • plannu dros 800,000 o goed, a
  • chreu mwy na 840 o orsafoedd ail-lenwi poteli dŵr di-dâl.

Ond mae pawb yn cytuno bod angen gwneud mwy.

Ers inni ddatgan ei bod yn Argyfwng Hinsawdd, rydyn ni wedi bod yn siarad â grwpiau fel Extinction Rebellion, asiantaethau fel eich cynghorau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru a chi, y cyhoedd, am y camau nesaf y dylem ni eu cymryd i greu dyfodol gwell ar gyfer ein planed.

Dyma'r 8 peth pwysica rydyn ni'n ei wneud i daclo'r Argyfwng Hinsawdd yng Nghymru:

  1. Gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer lleihau allyriadau carbon. Rydyn ni'n codi'n targed ar gyfer lleihau carbon i 95% gydag uchelgais i fod ddi-garbon erbyn 2050.
  2. Ei gwneud yn haws i bobl beidio â defnyddio'u ceir. Rydyn ni'n buddsoddi £30m i wella mesurau teithio llesol i'w gwneud hi'n haws i bobl gerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
  3. Gwahardd rhai eitemau plastig untro. Rydyn ni am wahardd neu gyfyngu ar 10 o eitemau plastig untro gan gynnwys gwellt yfed, ffyn troi a ffyn gwlân cotwm, cyllyll a ffyrc plastig, deunydd pacio bwyd polystyrene a chwpanau plastig. 
  4. Mynd i'r afael â'r Argyfwng ym myd Natur. Rydyn ni'n taclo'r colledion yn ein bioamrywiaeth ac yn cryfhau'n hecosystemau trwy greu Coedwig Genedlaethol a buddsoddi £500,000 mewn prosiectau cymunedol i wella bioamrywiaeth a lleihau gwastraff.
  5. Buddsoddi yn yr Economi Gylchol. Rydyn ni'n helpu busnesau yng Nghymru i ailddefnyddio deunydd a lleihau gwastraff.
  6. Mwy o fannau gwefru cerbydau trydan. Rydyn ni'n datblygu strategaeth gwefru cerbydau trydan ac wedi gwario mwy na £500,000 ar seilwaith gwefru. Rydyn ni hefyd wedi dechrau cyflwyno bysiau trydan cyhoeddus.
  7. Sefydlu diwydiannau adnewyddadwy sy'n arwain y byd. Rydyn ni wedi cael £20m oddi wrth yr UE i sefydlu sector ynni morol yng Nghymru sy'n arwain y byd.
  8. Addo cadw'r sgwrs i fynd. Rydyn ni wedi sefydlu Is-bwyllgor parhaol o'r Cabinet i gadw'r Argyfwng Hinsawdd yn flaenoriaeth yn lefelau uchaf y llywodraeth. Rydyn ni'n addo cadw'r sgyrsiau i fynd, yn enwedig gyda phobl ifanc trwy'r Eco-Sgolion a'r rhaglen Maint Cymru, a'r cwricwlwm newydd.

Dyma rai yn unig o'n haddewidion i daclo'r newid yn yr hinsawdd.

Diolch i bawb sydd wedi cysylltu â ni am yr Argyfwng yn yr Hinsawdd. Rydyn ni bob amser wrth ein boddau clywed oddi wrthych ar:

Facebook: facebook.com/llywodraethcymru/
Twitter: twitter.com/LlywodraethCymru 
#CymruCarbonIsel