Baromedr Twristiaeth (Arolwg effaith coronafeirws (COVID-19)): cam 2 2020 (crynodeb)
Er mwyn darparu data effeithiol ac i helpu i gefnogi'r diwydiant trwy'r amseroedd heriol hyn, cynhaliodd Croeso Cymru arolwg ffôn o fusnesau twristiaeth yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Cynhaliwyd yr arolwg rhwng y 26 a 31 Mawrth 2020
Cynhaliodd Croeso Cymru arolwg ffôn gyda 402 o fusnesau twristiaeth yn ymwneud â:
- llety â gwasanaeth
- hunanarlwyo
- carafanau a gwersylloedd
- hosteli
- atyniadau
- darparwyr gweithgareddau
- bwytai
- tafarndai
- chaffis
Mae'r sefyllfa o ran COVID-19 yn symud yn gyflym iawn. Cynhaliwyd y cyfweliadau hyn tua wythnos ar ôl i'r Prif Weinidog ofyn gyntaf i'r cyhoedd aros gartref oni bai bod angen teithio, gan annog cau busnesau sy'n cynnig cynhyrchion a gwasanaethau nad ydynt yn hanfodol dros dro.
Effaith ar staff
Mae hanner (50%) y busnesau wedi gorfod gofyn i staff gymryd absenoldeb â thâl. Yn gyffredinol, mae perchnogion busnes yn eu talu nhw ym mha bynnag fodd y gallant, hyd yn oed allan o'u pocedi eu hunain, ac maent yn dibynnu ar y cyllid a addawyd ar gyfer y Cynllun Cadw Swyddi am ad-daliad.
Mae tua traean (35%) y busnesau wedi gorfod gofyn i staff gymryd absenoldeb di-dâl.
Dim ond 4% o fusnesau sydd hyd yma wedi diswyddo staff. Fodd bynnag, mae angen y cyllid a addawyd ar gyfer y Cynllun Cadw Swyddi ar frys gan fod cyfyngiad ar ba mor hir y gall busnesau dalu cyflog eu staff cyn iddynt redeg allan o arian parod.
Ansicrwydd ynghylch cymhwysedd i gael cymorth ariannol
Mae rhai (37%) busnesau yn credu eu bod yn gymwys i gael grant gan y llywodraeth, ond dywed hanner (50%) nad ydyn nhw'n gwybod a ydyn nhw'n gymwys ai peidio.
Yn yr un modd â chymorth ariannol arall - nid yw llawer o fusnesau yn gwybod a ydynt yn gymwys. Dywed 38% eu bod yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnes, ond nid yw 48% yn gwybod.
Ymhlith y rhesymau dros y dryswch mae:
- anhawster cysylltu gyda banciau i drafod eu sefyllfa
- ddim yn gwybod sut neu a yw'r gefnogaeth yng Nghymru yn wahanol i Loegr
- canfod bod y broses ymgeisio yn rhy anodd i ymchwilio iddi
Mae angen eglurder ar y busnesau i ddeall os ydynt yn gymwys a sut i wneud cais.
Bylchau mewn cyllid
Mae busnesau'n gwerthfawrogi'r gefnogaeth a addawyd gan y llywodraeth, ond yr agweddau lle gallent eu gweld yn anodd iw hariannu yw:
- cyflogau: y mae'n rhaid i'r busnes eu talu o hyd nes i 80% o’r arian Cynllun Cadw Swyddi gael ei dalu
- biliau a llog ar fenthyciadau a gymerwyd eisoes
- ad-dalu blaendaliadau a balansau i gwsmeriaid
- mae angen staff ar rai busnesau er gwaethaf y diffyg cwsmeriaid nac incwm er mwyn cynnal neu sicrhau fod eu safle yn saff
Mesurau a gymerwyd i gynnal y cwmni
Mae busnesau yn y diwydiant yn gwneud y canlynol i geisio cynnal eu cwmni:
- gwasanaethau amgen fel siopau tecawê neu gartrefu'r digartref
- siarad â'r banc am drefniadau gorddrafft ac ad-daliadau benthyciad
- torri costau i'r lleiafswm
- hawlio cefnogaeth y llywodraeth
- trosglwyddo archebion yn hytrach nag ad-dalu lle bo hynny'n bosibl
Effaith coronafeirws ar y diwydiant yn y dyfodol
Mae bron pob busnes (96%) yn disgwyl i effaith y sefyllfa yn y dyfodol fod yn ‘sylweddol negyddol’. Ni does modd gorbwysleisio effaith y straen y mae hyn yn ei achosi i berchnogion busnes, gan eu bod yn cael trafferth dod o hyd i ffyrdd o oroesi yn ariannol yn ystod cyfnod nad oes diwedd clir iddo ar hyn o bryd.
Yr unig effaith gadarnhaol mae busnesau yn gobeithio ei weld ydi cynnydd mewn twristiaeth ddomestig wedi i’r argyfwng ddod i ben.
Cyswllt
Joanne Corke
Rhif ffôn: 0300 025 1138
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru
Rhif ymchwil gymdeithasol: 30/2020