Neidio i'r prif gynnwy

Mae carreg filltir bwysig wedi mynd heibio yn hanes Bargen Twf y Gogledd ar ôl sesiwn ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, bwrdd Uchelgais Economaidd y Gogledd a phartneriaid yn y sector preifat i drafod y prosiectau t dylid rhoi blaenoriaeth iddyn nhw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nod y sesiwn oedd penderfynu ar ffordd glir ymlaen ar gyfer y Fargen, gan ganolbwyntio ar ynni carbon isel, cysylltiadau digidol ynghyd â thir ac eiddo.

Cam nesa'r Fargen yw dod i Gytundeb ar Benawdau'r Telerau, ac yn y cyfarfod yng Nghyffordd Llandudno, penderfynwyd ar y gofynion sy'n angenrheidiol ar gyfer hynny. Mae Llywodraethau Cymru a'r DU wedi cytuno i neilltuo £120 miliwn a disgwylir i hwnnw sbarduno buddsoddiad o £500m gan y sector preifat yn y rhanbarth.

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth y DU Kevin Foster:

"Cafwyd trafod bywiog ond adeiladol, gyda phanel y sector preifat a'r gweinidogion yn tanlinellu'r gwaith mawr oedd eisoes wedi'i wneud gan y Bwrdd Uchelgais Economiadd ac ymrwymiad ac undod yr arweinwyr."

"Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i Fargen Twf y Gogledd ac mae'n parhau i weithio gyda chwmnïau a grwpiau ar lawr gwlad sydd wrthi'n datblygu bargen unigryw fydd yn gweithio i'r Gogledd yn gyfan.

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi a'r Gogledd, Ken Skates:

"Roedd y sesiwn yn gyfle pwysig i'r ddwy lywodraeth glywed barn y sector preifat a bwrdd yr uchelgais am y cyfleoedd a'r heriau sydd ynghlwm wrth Fargen Twf y Gogledd.

"Rydyn ni'n dal i weithio ar y cyd ar draws y rhanbarth i gefnogi'r fargen twf fel ei bod yn dewis y trywydd iawn ar gyfer gweddnewid y Gogledd a'i bod yn dod â thwf economaidd cynaliadwy a ffordd well o fyw i genedlaethau'r dyfodol yn y rhanbarth.

"Mae ein hymrwymiad i'r fargen dwf yn ychwanegol i'n rhaglen fuddsoddi yn y Gogledd.

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd y Gogledd, Dyfrig Siencyn:

“Ar ran Bwrdd yr Uchelgais, hoffwn ddiolch i Lywodraethau Cymru a’r DU a chynrychiolwyr y sector preifat am eu hadborth a’u barn yn ystod y sesiynau anodd hyn.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd er lles pobl a busnesau’r Gogledd, i wireddu’r nod cytûn o greu swyddi, rhoi hwb i’r economi a darparu’r Fargen Dwf a gaiff effaith gadarnhaol a pharhaol er lles cenedlaethau’r dyfodol.

Bydd y partneriaid nawr yn gweithio ar Gytundeb Penawdau'r Telerau a fydd yn amlinellu'r ffordd ymlaen ar gyfer Bargen Twf y Gogledd.