Cynllun cyhoeddi
Mae ein cynllun cyhoeddi yn rhestru categorïau o wybodaeth yr ydym yn ei chyhoeddi neu'n bwriadu ei chyhoeddi yn Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).
Cynnwys
Rydym wedi ymrwymo i fod yn dryloyw ac yn atebol fel awdurdod cyhoeddus. Mae'r Ddeddf Rhyddid gwybodaeth yn ein hannog i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i'r cyhoedd. Rydym yn cyhoeddi data y mae angen i bobl ei ddeall:
- pwy ydym ni
- faint rydym yn ei wario
- yr hyn yr ydym yn ei gyflawni
Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ni gynhyrchu cynllun cyhoeddi sy'n cynnwys yr wybodaeth arferol yr ydym yn ei darparu. Rydym yn grwpio gwybodaeth yn y dosbarthiadau gwybodaeth canlynol.
Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud
Gwybodaeth am y sefydliad, bywgraffiadau a chysylltiadau
Gwybodaeth am Awdurdod Cyllid Cymru
Aelodaeth o’r Bwrdd (ar ein tudalen hafan)
Ein hymrwymiadau
- Gwneud tryloywder yn rhan o'r ffordd yr ydym yn gweithredu.
- Cyhoeddi data yn ddiofyn lle bynnag y bo hynny’n bosibl.
- Cyhoeddi data yn unol â'r egwyddorion data cyhoeddus.
- Sicrhau bod setiau data ar gael i'w hailddefnyddio, ac mewn fformat rhesymol ac ymarferol.
- Adolygu ein data’n rheolaid.
- Archwilio a gwella faint o ddata sy’n cael ei ryddhau i’r cyhoedd, a pha mor aml y gwneir hynny.
- Cysylltu’r holl setiau ddata a gyhoeddir ar ein tudalennau gwe.
Faint rydym yn ei wario a sut rydym yn gwneud hynny
Gwybodaeth am incwm a gwariant a ragfynegir a’r symiau gwirioneddol, caffael, contractau, ac archwiliadau ariannol.
Ariannu
Manylion adran yn gwario dros £25,000
Ein cyfrifon blynyddol cyfunol
Cyllideb Awdurdod Cyllid Cymru (heb ei chyhoeddi eto)
Cyfarfodydd y Prif Weithredwr, y Cadeirydd ac Aelodau'r Bwrdd â sefydliadau allanol (heb eu cyhoeddi eto)
Recriwtio
Gweinidogion Cymru sy’n gwneud penodiadau cyhoeddus i’n Bwrdd.
Mwy o wybodaeth am benodiadau cyhoeddus
Cyflogau a buddion
Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn efelychu telerau cyflog Llywodraeth Cymru ar gyfer staff, nad ydynt yn staff uwch y gwasanaeth sifil ac yn cyhoeddi'r rhain ar ein tudalen gweithio i ni.
Ar gyfer staff yr uwch wasanaeth sifil: Corff Adolygu'r Uwch Wasanaeth Sifil
Caffael
Ein blaenoriaethau a ble rydym ni arni
Strategaethau a chynlluniau, dangosyddion perfformiad, archwiliadau, arolygiadau ac adolygiadau
Data agored ar drethi sydd wedi'u datganoli i Gymru
Ein hadroddiadau blynyddol a'n cyfrifon
Ein cynlluniau ac adroddiadau cydraddoldeb
Ein strategaeth rheoli gwybodaeth a data
Rhyddid gwybodaeth, cyhoeddiadau a chwynion
Ymatebion i geisiadau rhyddid gwybodaeth (cael eu harchifo ar ôl 3 blynedd)
Ystadegau rhyddid gwybodaeth (yn ein Hadroddiad Blynyddol)
Sut rydym yn gwneud penderfyniadau
Prosesau gwneud penderfyniadau a chofnodion o benderfyniadau
Polisïau a gweithdrefnau
Ein hamserlen cadw a gwaredu (yr hyn yr ydym yn ei gadw)
Concordat ar gofnodion cyhoeddus Cymru – rydym wedi'n rhwymo gan yr un ddeddfwriaeth â Chynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru
Dosbarthiadau eraill
Rydym hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth:
Ni fyddwn yn cyhoeddi gwybodaeth:
- sy’n wybodaeth warchodedig am drethdalwyr
- sydd wedi’i diogelu rhag cael ei datgelu
- sydd ar ffurf drafft
- sydd ddim bellach ar gael yn hwylus
Mae'r holl gynnwys ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored v 3.0, ac eithrio lle nodir fel arall.
Gwneud cais am wybodaeth
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cymaint o wybodaeth ag sy'n ymarferol bosibl o dan y cynllun. Mae hyn yn golygu ei bod yn hawdd cael gwybodaeth, yn rhad ac am ddim.
Mae hyn hefyd yn golygu, mewn cryn nifer o achosion, y bydd y wybodaeth rydych yn chwilio amdani eisoes ar gael, ac na fydd angen i chi wneud cais ffurfiol.
Os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn chwilio amdano, neu os hoffech ofyn am ragor o wybodaeth, gallwch e-bostio data@acc.llyw.cymru. Ni chodir tâl am wybodaeth a ddarperir gennym yn electronig.
Gwneud cais am fformat papur
Os byddwch yn gofyn i ni ddarparu'r wybodaeth sydd ar gael ar ein gwefan ar bapur, efallai y bydd angen i ni godi tâl arnoch. Caiff pob achos ei ystyried yn unigol.
Er enghraifft, efallai y byddwn yn codi tâl os oes angen llawer o lungopïo, neu os yw’n gostus iawn i bostio llawer o waith papur.
Cywirdeb
Mae'n bwysig i ni fod y wybodaeth yr ydym yn ei darparu’n berthnasol ac yn gyfoes. Bydd y rhan fwyaf o'r wybodaeth a gynhwysir yn ein cynllun yn gyfredol. Fodd bynnag, efallai y bydd angen i ni gyhoeddi rhai dosbarthiadau o wybodaeth o'r gorffennol.
Fe wnawn ddarparu cymaint o wybodaeth â phosibl, ond ni fydd gwybodaeth o’r gorffennol sydd yn y cynllun bob amser ar gael.
Adborth
Rydym yn croesawu’ch adborth ar ein cynllun cyhoeddiadau. Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn gwybod pa ddata yr hoffech i ni ei ddarparu.
Awdurdod Cyllid Cymru
Blwch Postio 108
Merthyr Tudful
CF47 7DL
E-bost: data@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.