Neidio i'r prif gynnwy

Gweithio gyda'n gilydd i ddarparu system dreth deg i Gymru.

Byddwn yn gweithio gyda threthdalwyr, eu cynrychiolwyr a'r cyhoedd i ddarparu system dreth deg i Gymru.

Rydym wedi gweithio gyda chi i ddatblygu siarter sy'n nodi gwerthoedd, ymddygiadau a safonau a rennir gennym, sy'n ein galluogi ni i gydweithio.

  • Diogel: gwarchod gwybodaeth a pharchu cyfrinachedd.
  • Cefnogol: darparu cymorth pan fyddwch yn gofyn am help. Creu gwasanaethau digidol effeithiol sy’n hawdd eu defnyddio.
  • Teg: bod yn onest wrth ddelio â'n gilydd. Mynd i'r afael ag efadu ac osgoi trethi, defnyddio pŵerau’n gyson ac yn gymesur.
  • Ymgysylltiol: cefnogi pobl i ddeall trethiant datganoledig a gweithio gyda'n gilydd i'w ddatblygu er budd Cymru.
  • Ymatebol: gwrando ar ein gilydd a bod yn agored yn ein sgyrsiau, gweithredu ar yr adborth a'r cyngor a roddir. Trin ein gilydd â pharch.
  • Dwyieithog: bod â’r hyder i gynnal ein busnes yn y Gymraeg a'r Saesneg.
  • Manwl Gywir: cydweithio i wneud pethau'n iawn a'u cywiro os oes angen, rhannu data a gwybodaeth gywir, gan gymryd gofal rhesymol i osgoi camgymeriadau. Cadw cofnodion manwl gywir.
  • Effeithlon: ymateb i'n gilydd yn gyflym, cyflwyno ffurflenni a phrosesu ceisiadau’n brydlon. Canfod ffyrdd y gallwn ni wella'r gwasanaeth.

Os nad ydym wedi ymddwyn yn unol â'r safonau a'r gwerthoedd uchod gallwch roi gwybod i ni neu wneud cwyn.