Cwynion am Awdurdod Cyllid Cymru
Sut i gwyno am Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).
Cynnwys
Pryd i ddefnyddio ein proses gwynion
Cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl os ydych yn anhapus gyda'r gwasanaeth rydych chi wedi’i dderbyn, er enghraifft:
- camgymeriadau
- sut rydym wedi eich trin chi
- camymddwyn gan staff ACC
Byddwn yn edrych ar eich cwyn ac yn ceisio datrys pethau.
Dilynwch broses wahanol os:
- ydych yn anghytuno â'n penderfyniad treth neu gosb
- yn dymuno cwyno am Lywodraeth Cymru neu ei gweinidogion
- oes gennych adborth nad yw'n gŵyn, defnyddiwch ein ffurflen adborth ar-lein
Cysylltwch â'n Swyddog Gwybodaeth os yw eich cwyn yn ymwneud â chais rhyddid gwybodaeth.
Sut i wneud cwyn
Gallwch ddefnyddio ein ffurflen gwynion ar-lein.
Neu ysgrifennwch atom yn:
Awdurdod Cyllid Cymru
Blwch Postio 108
Merthyr Tudful
CF47 7DL
Rhif ffôn: 03000 254 000
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Gallwch hefyd awdurdodi rhywun arall ar eich rhan i gwyno drosoch chi.
Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth
Gweler ein polisi preifatrwydd ynglŷn â sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch chi i ni.
Beth fyddwn yn ei wneud nesaf
Byddwn yn cydnabod eich cwyn ac yn ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith i'w derbyn.
Os yw eich cwyn yn fwy cymhleth a bod angen mwy o amser arnom, byddwn yn rhoi gwybod i chi.
Fel arfer, dim ond os ydych chi'n dweud wrthym o fewn 6 mis y byddwn yn gallu ystyried cwyn.
Nid ydym yn ystyried cwynion am faterion a ddigwyddodd dros 3 blynedd cyn i chi godi'r mater.
Canlyniad
Byddwn yn rhoi gwybod y canlyniad i chi a pham ein bod wedi dod i'n casgliad.
- Os ydym wedi gwneud camgymeriad, byddwn yn egluro beth ddigwyddodd ac yn datrys pethau cyn gynted ag y gallwn ni.
- Os ydym yn nodi gwelliannau i'n prosesau wrth ddelio â'ch cwyn, byddwn yn dweud wrthych amdanynt.
- Os oeddem ar fai, byddwn yn ymddiheuro.
Sut i fynd â'ch cwyn ymhellach
Os ydych yn anhapus â'n penderfyniad terfynol, gallwch chi uwchgyfeirio eich cwyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Rheoli materion treth yn ystod cwyn
Dylech barhau i dalu unrhyw dreth sy'n ddyledus tra bod ACC neu'r Ombwdsmon yn datrys eich cwyn.