Neidio i'r prif gynnwy

1. Diben y polisi hwn

Diben y polisi hwn yw cefnogi Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a byrddau iechyd i weithredu atgyfeiriadau uniongyrchol at Ofal Brys ar yr Un Diwrnod (SDEC).  

Mae atgyfeirio uniongyrchol yn lleihau ‘ymdriniaeth ddwbl’ â chleifion ac yn sicrhau eu bod yn cyrraedd y cyrchfan clinigol mwyaf priodol yn gynharach yn eu taith drwy’r system. Dylai effaith y gostyngiad mewn ymdriniaeth ddwbl gyfrannu at leihau’r risg yn y system i’r cleifion hynny sy’n profi oedi hir.

Mae’n hanfodol i system gofal brys a gofal mewn argyfwng Cymru fod atgyfeiriad uniongyrchol gan Barafeddygon* at wasanaethau SDEC/Triniaeth Ddydd yn cael ei weithredu, yn unol â ‘Nod 3:  Dewisiadau eraill sy’n ddiogel yn glinigol yn lle mynd i’r ysbyty’ dan y Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng.

Nid yw'r polisi hwn yn ceisio cynyddu gweithgaredd i SDEC ond yn hytrach i gyfeirio cleifion at y gwasanaeth heb orfod mynd drwy'r system adran argyfwng (ED) cyn y gellir nodi bod y claf yn addas ar gyfer gwasanaethau SDEC.  

Mae'r ddogfen hon yn disgrifio'r egwyddorion cyffredinol i'w mabwysiadu wrth weithredu llwybrau atgyfeirio uniongyrchol gan barafeddygon i SDEC.  

Un o'r nodau allweddol yw lleihau'r nifer o ambiwlansys a fydd yn mynd i'r adrannau argyfwng, drwy atgyfeirio'n uniongyrchol i SDEC lle bo hynny'n llwybr priodol. 

Mae atgyfeirio uniongyrchol gan barafeddygon yn osgoi achosion o drosglwyddo clinigol dro ar ôl tro ac yn osgoi gwneud cleifion yn agored i risgiau ehangach yn yr adran argyfwng gan gynnwys haint nosocomiaidd. 

*Mae ‘Parafeddyg’ yn y ddogfen hon yn cyfeirio at weithiwr clinigol proffesiynol cofrestredig a gyflogir gan Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ar y rheng flaen neu ddesg cymorth clinigol a gall gynnwys Uwch Ymarferwyr Parafeddygol, Meddygon Teulu a Nyrsys Cofrestredig yn ogystal â Pharafeddygon.

2. Cefndir

Beth yw gofal mewn argyfwng ar yr un diwrnod (SDEC)?

Mae SDEC, a elwid gynt yn driniaeth ddydd, yn galluogi arbenigwyr i ofalu am gleifion priodol ar sail dydd, gan ddileu oedi i gleifion sydd angen asesiad wyneb yn wyneb ac ymchwiliad a/neu driniaeth bellach, ac a fyddai fel arall yn cael eu cludo i Adran Argyfwng neu eu derbyn yn uniongyrchol i ysbyty.

Nod SDEC (a elwid gynt yn driniaeth ddydd) yw lleihau a dileu oedi yn y llwybr brys i gleifion, gan ganiatáu i wasanaethau ofalu am gleifion ar yr un diwrnod ag y maent yn cyrraedd heb orfod mynd i'r ysbyty. 

  • Dylai ysbytai ehangu neu sefydlu llwybrau atgyfeirio uniongyrchol SDEC ar fyrder ar gyfer gofal sylfaenol, parafeddygon yn y lleoliad, neu ar y ddesg cymorth clinigol. 
  • Dylai pob bwrdd iechyd ddarparu SDEC am o leiaf 12 awr y dydd, bob dydd ar gyfer arbenigeddau meddygol a llawfeddygol (nod o fewn 3 blynedd). 
  • Dylai pob bwrdd iechyd gynnig ystod eang o glinigwyr cyffredinol ac arbenigol sy’n darparu SDEC i sicrhau bod mwy o gleifion yn cael y gofal cywir ar yr amser cywir. 

Mae mynediad at wasanaethau SDEC o fewn byrddau iechyd ar gyfer cleifion priodol yn elfen allweddol yn y system gofal brys a gofal mewn argyfwng yng Nghymru. Mae Nod 3, o'r Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng, yn amlygu'r angen am ddewisiadau amgen sy'n glinigol ddiogel yn lle gorfod mynd i’r ysbyty. Mae SDEC (Gofal Dydd) yn wasanaeth sydd wedi'i sefydlu ers tro, wedi'i brofi'n glinigol, ac wedi’i ddangos i fod yn boblogaidd gyda chleifion.  

Mae SDEC yn darparu gofal a thriniaeth i gleifion â chyflyrau nad ydynt yn fygythiad uniongyrchol i fywyd ond sydd angen asesiad clinigol wyneb yn wyneb, fel arfer o fewn oriau yn hytrach na dyddiau, gyda'r potensial ar gyfer diagnosteg bellach mewn lleoliad gofal dydd. Mae yna nifer o fethodolegau sy’n gallu nodi carfan o gleifion y dylid eu rheoli yn y modd hwn. 

Mae cyllid ar gael i fyrddau iechyd yng Nghymru i’w cefnogi i ddatblygu gwasanaethau SDEC gyda’r nod o ddarparu Gofal mewn Argyfwng ar yr Un Diwrnod ar gyfer arbenigeddau meddygol a llawfeddygol o leiaf 12 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos o fewn y 3 blynedd nesaf. 

Mae byrddau iechyd mewn mannau gwahanol o ran y targed hwn ar hyn o bryd a bydd angen i unrhyw bolisi trosfwaol gael ei danategu gan brotocolau lleol hyd nes y cyrhaeddir y targed 12 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ym mhob bwrdd iechyd. 

Mae atgyfeirio uniongyrchol gan barafeddygon yn cael ei gydnabod fel datblygiad arloesol sy’n gallu cynhyrchu buddion ar draws y system.  

Mae Bwrdd Rhaglen y Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng wedi ymrwymo i gynyddu nifer y cleifion sy’n cael eu hatgyfeirio’n uniongyrchol at wasanaethau gofal eilaidd fel Gofal mewn Argyfwng ar yr Un Diwrnod (SDEC) fel dewis arall yn lle adran argyfwng neu yn lle mynd i’r ysbyty, lle mai dyma’r gwasanaeth mwyaf priodol ar gyfer anghenion y claf.

Mae hyn yn golygu y bydd cleifion yn: 

  • Derbyn cyfeiriad clir ar yr hyn sydd angen iddynt ei wneud a lle mae angen iddynt fynd i ddatrys eu problem iechyd uniongyrchol
  • Derbyn profiad gwell a chael eu gweld y tro cyntaf y byddant yn ymwneud â’r gwasanaeth a fydd yn bodloni eu hanghenion gofal iechyd
  • Cael eu cyfeirio at ofal eilaidd gan barafeddyg sydd wedi'i hyfforddi'n briodol yn y fan a'r lle neu gofrestrydd clinigol arall (parafeddyg, nyrs, meddyg teulu) o'r ddesg cymorth clinigol
  • Osgoi ymgynnull mewn ystafelloedd aros Adrannau Argyfwng cyn asesiad clinigol rhagarweiniol mewn gofal eilaidd, gan leihau cyswllt â chleifion eraill a, thrwy hynny, y risg o haint nosocomiaidd. 

O ganlyniad, mae angen i ni sicrhau bod cleifion yn profi buddion atgyfeirio neu gludo uniongyrchol fel dewis amgen priodol i'r Adran Argyfwng.

3. Trosglwyddo gofal i SDEC 

Gall cleifion y bernir eu bod yn glinigol briodol ar gyfer SDEC gan glinigydd cofrestredig sydd wedi'i hyfforddi'n briodol yn y fan a'r lle neu yn y ganolfan gyswllt glinigol gael eu hatgyfeirio'n uniongyrchol.  

Mae angen gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y claf yn cael ei drosglwyddo i'r lleoliad gofal mwyaf priodol a dim ond pan fo hynny'n briodol y defnyddir Adrannau Argyfwng. 

Wrth wneud atgyfeiriad i SDEC, dylai’r clinigwr atgyfeirio ystyried unrhyw faterion diogelu perthnasol fel mater o drefn yn unol â busnes-fel-arfer a thrwy ddilyn polisi lleol. 

Rhaid i bob bwrdd iechyd gyflwyno proses ar gyfer derbyn galwadau gan barafeddygon i drafod a, lle y bo'n briodol, i dderbyn atgyfeiriadau yn uniongyrchol i'r gwasanaethau SDEC lleol.

4. Disgwyliadau darparwyr ambiwlans  

Darperir meini prawf ar gyfer mynediad uniongyrchol i SDEC mewn cydweithrediad â’r gwasanaeth derbyn, bydd hyn yn amrywio ar draws byrddau iechyd, a safleoedd o fewn byrddau iechyd. 

Lle mae llwybrau cymunedol a llwybrau eraill nad ydynt yn seiliedig ar ysbytai yn bodoli e.e. llwybrau Eiddilwch Cymunedol neu Anadlol Cymunedol, ni ddylai cleifion gael eu hatgyfeirio i SDEC os ydynt yn bodloni’r meini prawf ar gyfer y llwybrau cymunedol hyn. 

Bydd disgwyl i Barafeddygon Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru atgyfeirio cleifion sy’n bodloni’r meini prawf y cytunwyd arnynt ar gyfer y gwasanaethau canlynol o leiaf. Gallant hefyd gychwyn mynediad uniongyrchol gan barafeddygon at unrhyw wasanaeth dydd sy’n derbyn atgyfeiriadau gan barafeddygon a fydd yn cynnwys isafswm craidd o’r canlynol ym mhob bwrdd iechyd: 

  • Meddygol 
  • Llawfeddygol 
  • Eiddilwch – mewn rhai ardaloedd mae gwasanaethau eiddilwch yn cael eu rhedeg ar sail gymunedol a dylid cael mynediad atynt trwy'r llwybrau presennol priodol; fodd bynnag bydd rhai unedau SDEC yn derbyn claf â diagnosis sylfaenol yn ymwneud ag eiddilwch. 

Lle mae byrddau iechyd yn darparu gwasanaethau SDEC eraill a fydd yn derbyn atgyfeiriadau gan barafeddygon, bydd disgwyl i Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru eu defnyddio pan fo’n briodol e.e. Gynaecoleg neu Trawma ac Orthopaedeg. 

4.1 Safonau atgyfeirio

Safonau atgyfeirio
Dylai’r clinigwr ambiwlans fod â set sgiliau parafeddygol neu uwch a dylai fod yn gymwys i atgyfeirio at glinigydd arbenigol SDEC.
Y clinigwr SDEC yn y bwrdd iechyd sy'n gyfrifol am dderbyn yr atgyfeiriad gan y Parafeddyg mewn modd amserol trwy ddeialu’n uniongyrchol dros y ffôn (DDI).  
Dylai cleifion sydd wedi’u hatgyfeirio i SDEC drwy gytundeb rhwng y clinigwr ambiwlans a’r clinigwr SDEC gael eu trosglwyddo i’r gwasanaeth derbyn ymhen 15 munud wedi cyrraedd. 
Y claf (neu ei warcheidwad) sy’n gyfrifol am ddewis a ddylid dilyn argymhellion y gwasanaeth ambiwlans. 
Rhaid i glinigwyr SDEC hysbysu’r clinigwyr ambiwlans o’r amserlen y dylai’r claf fynychu gofal eilaidd ynddi os nad yw’r gwasanaeth ambiwlans yn cludo’r claf i SDEC a bod apwyntiad diweddarach gyda chludiant preifat yn cael ei ystyried yn briodol ac wedi’i gytuno. 
Gall y clinigwr SDEC dderbyn y claf ar gyfer llwybr derbyn lle mae’n teimlo bod y claf yn anaddas ar gyfer llwybr triniaeth ddydd yn hytrach na bod y parafeddyg yn cludo’r claf i’r adran argyfwng. 
Rhaid i’r clinigwr ambiwlans ailgyfeirio’r claf yn briodol, os nad yw’r clinigwr SDEC yn ystyried bod yr atgyfeiriad yn briodol ar gyfer SDEC (neu’n cael ei dderbyn ar ran gwasanaeth arall fel yr uchod) ar sail canlyniad galwad ffôn rhwng y ddau glinigwr. 
Mae’r bwrdd iechyd yn gyfrifol am reoli’r claf yn amserol ar ôl iddo gyrraedd. 
Gwasanaethau Ambiwlans Cymru sy’n gyfrifol am sicrhau bod yr asesiad a’r cyngor cywir yn cael eu darparu i’r claf (a/neu’r gofalwr) os bydd y symptomau’n gwaethygu yn achos diffyg cludo i SDEC mewn ambiwlans. 
Dylai pob clinigwr fod yn ymwybodol bod gwasanaethau SDEC yn amrywio o ran arbenigedd ond dylent gynnwys Atgyfeiriadau Meddygol a Llawfeddygol lle na ellir rheoli’r claf ar y safle na’i atgyfeirio i lwybr cymunedol sefydledig neu’n ôl at y Meddyg Teulu ac y byddai fel arall yn cael ei gludo i’r Adran Argyfwng.

Wrth ystyried a yw’r claf yn addas ar gyfer SDEC, dylid ystyried y meini prawf canlynol:

  • Ystyried atgyfeiriad SDEC/gofal triniaeth ddydd ar gyfer unrhyw glaf y credir bod angen ymchwiliad a thriniaeth bellach yn yr ysbyty arno ond y credir ei fod yn ddigon iach i’w anfon adref ar yr un diwrnod ar ôl yr asesiad, yr ymchwiliad a’r driniaeth honno.
  • NEWS: dylai sgorio sgôr news o 4 neu is fod yn rhybudd y dylid ystyried y claf ar gyfer SDEC (efallai y bydd rhai cleifion â diffyg anadl cronig neu ffibriliad atrïaidd bob amser yn dangos sgôr NEWS uchel felly nid yw sgôr o >4 yn eu heithrio yn awtomatig yn yr achosion hyn).
  • Dylid derbyn cleifion dros 18 oed ym mhob uned SDEC/gofal triniaeth ddydd a bydd gan lawer ohonynt y cyfleusterau i reoli pobl ifanc 16 ac 17 oed hefyd.
  • Rhestr symptomau arbenigedd meddygol/diagnosis gweithio (gweler y rhestr enghreifftiol o gyflyrau cyfaint uchel).
  • Diagnosis gweithio arbenigol llawfeddygol/wrolegol.

Meini prawf eithrio:

  • Cleifion sy'n ymddangos â chyflwr critigol o ran amser, sydd angen triniaeth ar unwaith ar ôl cyrraedd yr ysbyty; byddai hyn yn cynnwys unrhyw gleifion lle byddai'r parafeddyg yn cychwyn rhag-rybudd ASHICE/ATMIST.
  • O dan 16 oed wrth atgyfeirio at wasanaethau oedolion.
  • Cleifion trawma / meddygol sydd angen eu trosglwyddo ar unwaith i uned arbenigol fwy priodol yn unol â’u cynllun gofal. 
Rhaid i glinigwyr yn y fan a’r lle neu wrth y ddesg cymorth clinigol ddefnyddio’r rhif deialu uniongyrchol a ddarperir gan y bwrdd iechyd/uned sy’n derbyn y gwasanaeth ar gyfer y gwasanaeth SDEC er mwyn siarad yn uniongyrchol â’r clinigwr SDEC neu’r uwch swyddog gwneud penderfyniadau y cytunwyd arno. Bydd rhai unedau’n defnyddio gwasanaethau trydydd parti, fel Consultant Connect, i hwyluso'r llwybr atgyfeirio uniongyrchol, efallai y bydd eraill yn defnyddio model canolfan llif mwy cyffredinol. Os caiff yr atgyfeiriad ei wneud gan glinigwr ar y ddesg cymorth clinigol, rhaid cael cyfleusterau ar gyfer naill ai sgwrs 3 ffordd gyda’r unigolyn anghofrestredig ar y safle neu’r claf. Os nad yw hyn yn dechnegol bosibl, efallai y bydd y clinigwr am ffonio’r claf/clinigwr anghofrestredig ar y safle am eglurhad pellach cyn derbyn/gwrthod yr atgyfeiriad. 

Dylid atgyfeirio’n uniongyrchol a chael sgwrs gyda’r clinigwr SDEC neu uwch swyddog gwneud penderfyniadau’r uned. Dylid penderfynu a gytunir ar yr atgyfeiriad ai peidio yn ystod yr alwad ffôn gychwynnol. Mae’n debygol y bydd cleifion sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer atgyfeiriad SDEC yn cael eu derbyn. 
Mae’r darparwr ambiwlans yn gyfrifol am gytuno ar gludiant priodol ac amserol i SDEC ac mae’n ofynnol iddo osod disgwyliadau gyda’r claf ynghylch amser cyrraedd y gwasanaeth y mae wedi’i atgyfeirio iddo. 
Dylid defnyddio barn glinigol os yw apwyntiad/amser cyrraedd diweddarach i SDEC gyda chlaf yn defnyddio ei gludiant ei hun/cludiant amgen yn briodol yn glinigol. Dylid cytuno ar hyn gyda’r claf tra yn y lleoliad a chadarnhau’r amseroedd cyrraedd.
Dylid trosglwyddo cofnod clinigol y claf (PCR) drwy drosglwyddiad electronig ar borth Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru gan y ddesg glinigol neu barafeddyg ar y safle. 
Rhaid i’r ysbyty derbyn ddarparu man derbyn ar gyfer ambiwlansys. Lle bo modd, ni ddylai hwn fod yn Adran Argyfwng. 
Dylid rhannu cofnodion clinigol cleifion electronig â SDEC o fewn 15 munud i’r trosglwyddo neu yn y fan a’r lle pan fo systemau’n caniatáu hynny. 
Mae cyflyrau/symptomau cyffredin a llwybrau cyfaint uwch i’w gweld yn adran 4.2 a dylid cyfeirio atynt wrth roi atgyfeiriadau SDEC ar waith.  

Nid yw’r rhestr yn hollgynhwysfawr a dylid ystyried unrhyw glaf yr ystyrir ei fod yn briodol o fewn y meini prawf uchod i'w atgyfeirio yn hytrach na'i drosglwyddo i'r Adran Argyfwng.  Dylid ystyried y rhestr o gyflyrau clinigol/symptomau cymhleth fel safonau gofynnol. 

4.2 Llwybrau cyfaint uchel 

Mae’r tabl isod yn amlygu llwybrau y dylid eu hystyried bob amser ar gyfer atgyfeiriad gan barafeddygon. 

Gall parafeddygon, fodd bynnag, ystyried atgyfeirio at glinigwyr SDEC unrhyw glaf y maent yn ystyried y gellid ei reoli ar sail triniaeth ddydd ac y gallai ddychwelyd adref yr un diwrnod. 

Dylid ystyried y cyflyrau hyn yn y cyd-destun y byddai’r claf fel arall yn cael ei gludo i’r Adran Argyfwng, h.y. eithrio’r rhai y gellir eu rheoli ar y safle neu drwy lwybrau Meddyg Teulu/Cymunedol amgen, ond hefyd yn eithrio’r cleifion hynny sydd angen dadebru ar unwaith neu a fyddai fel arfer yn sbarduno rhag-rybudd ASHICE/ATMIST. 

Cyflyrau cyffredin 

Prinder anadl a allai gynnwys cleifion â diagnosis gweithredol o gyflyrau gan gynnwys:

  • COPD
  • Methiant y galon
  • Asthma
  • PE
  • Niwmonia a geir yn y gymuned

Diabetes

Cellulitis (Lle mae angen ysbyty y tu hwnt i ofal sylfaenol) 
Thrombosis gwythiennau dwfn (DVT)  
Diabetes 
Poen yn y frest (dim newidiadau ECG acíwt) 
Ffibriliad atrïaidd sydd angen asesiad ysbyty 

Poen yn yr Abdomen  

  • Poen amhenodol yn yr abdomen yn absenoldeb unrhyw arwyddion o sepsis 
  • Amheuaeth o lid y pendics cynnar anghymhleth (poen Iliac Fossa ar y dde) 
  • Amheuaeth o ddiferticwlitis cynnar anghymhleth (poen Iliac Fossa ar y chwith) 
  • Amheuaeth o golig bustlog/colecystitis ysgafn (poen yn y Cwadrant Uchaf ar y dde)
Problemau clwyfau ar ôl llawdriniaeth – na all nyrsys ardal cymunedol eu rheoli 
Torgest poenus ond ad-ddygol – na ellir ei reoli yn y gymuned/gan Feddyg Teulu 

Crawniad – heb dystiolaeth o sepsis systemig 

  • Perianal, bongorff, pionidal neu forddwyd i Lawfeddygaeth Gyffredinol 
  • Crawniad Aelodau i Lawfeddygaeth Orthopedig

5. Disgwyliadau darparwyr gofal aciwt 

5.1 Capasiti SDEC

Rhaid i’r byrddau iechyd ystyried sut i hwyluso atgyfeirio cleifion yn uniongyrchol gan Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.  Yn unol â’r safonau a nodir yn y Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng, dylai pob bwrdd iechyd fod yn gweithio tuag at gael gwasanaethau SDEC/gofal triniaeth ddydd 12 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ar gyfer cleifion meddygol a llawfeddygol. 

Mae angen i fyrddau iechyd ystyried a ellir cyflawni hyn gyda’r rolau a’r modelau gofal presennol neu a oes angen cyflwyno rolau neu fodelau gofal newydd.  

Rhaid i ofal eilaidd werthuso argaeledd ei weithlu presennol a chynllunio recriwtio ac unrhyw hyfforddiant ychwanegol i gefnogi atgyfeirio uniongyrchol gan Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.  

Nid nod y polisi hwn yw gweld mwy o gleifion yn mynd trwy unedau SDEC, ond bod cleifion yn cael eu rheoli mewn uned SDEC ar ôl cyrraedd yr ysbyty yn hytrach na mynd trwy wasanaeth Adran Argyfwng a chael eu hatgyfeirio ymlaen yn ddiweddarach yn eu taith i SDEC.

5.2 Ateb galwadau 

  • Bydd angen datblygu proses rhwng Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a byrddau iechyd i amlinellu disgwyliadau ar safonau ateb galwadau er mwyn osgoi oedi wrth atgyfeirio. 
  • Dylai rhif deialu uniongyrchol ar gyfer swyddogion gwneud penderfyniadau clinigol SDEC fod ar gael i’r clinigwyr ambiwlans.    
  • Pe na bai’r alwad yn cael ei hateb dylid dewis y gwasanaeth priodol nesaf i atgyfeirio’r claf yn ddiogel i ofal eilaidd.

5.3 Galw ar SDEC

  • Bydd unrhyw alw a gynhyrchir gan Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn caniatáu dylunio profiad cyson, diogel ac o ansawdd uchel i gleifion ar gyfer cael mynediad at SDEC ac efallai y bydd angen datrysiad technegol i reoli llif cleifion.  
  • Rhaid i glinigwyr byrddau iechyd dderbyn atgyfeiriadau uniongyrchol priodol i SDEC yn ystod oriau gweithredu gan glinigwr o fewn Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Er mwyn gwneud hynny, bydd angen i Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru restru rhif penodol ar gyfer pob gwasanaeth SDEC sydd ar gael i alluogi atgyfeirio a throsglwyddo.  
  • Dylai fod digon o adnoddau ar gael i staffio’r rhifau deialu uniongyrchol ym mhob bwrdd iechyd yn ddigonol.    
  • Sicrhau bod systemau TG yn galluogi darparwyr ambiwlans i rannu gwybodaeth am gleifion, lle bo’n briodol, er mwyn galluogi trosglwyddo gwybodaeth cleifion yn ddiogel cyn yr ymgynghoriad yn SDEC.

5.4 Darpariaeth gwasanaeth SDEC

Rhaid i Ymddiriedolaethau Acíwt sicrhau bod anghenion y boblogaeth gyfan yn cael eu hystyried, gan gynnwys grwpiau sy’n glinigol fregus, a bod unrhyw newidiadau arfaethedig i weithredu atgyfeiriad gan ambiwlans yn gwella profiad y claf. 

Safonau atgyfeirio darparwyr acíwt 
Rhaid i gleifion priodol gael eu hatgyfeirio/cyfarwyddo gan glinigwyr ambiwlans at SDEC yn ystod oriau gweithredu’r gwasanaeth SDEC yn unig (sy’n amrywio ar hyn o bryd ar draws byrddau ac unedau iechyd ond dros gyfnod o 3 blynedd sy’n cael ei fandadu i gyrraedd o leiaf 12 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos) ac unrhyw feini prawf mynediad penodol sydd wedi’u cynnwys yng ngwybodaeth atgyfeirio’r darparwr.
Rhaid i glinigwyr SDEC fod ar gael ar gyfer atgyferiadau trwy glinigwyr ambiwlans yn ystod oriau agor safonol SDEC. Mae hyn yn golygu bod cleifion yn gallu cael eu gweld a’u trin yn ystod a hyd at yr amser cyn i’r gwasanaeth SDEC gau e.e. pan fo claf yn gallu bod yn bresennol am brawf gwaed neu ddiagnostig cyn triniaeth ddilynol y diwrnod canlynol. 
Mae gallu technegol i Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru atgyfeirio cleifion at SDEC ac yn dilyn sgwrs glinigol gyda’r clinigwr SDEC, efallai y byddant yn penderfynu atgyfeirio at wasanaethau eraill e.e. Clinigau Poeth neu lwybrau derbyn. Y clinigwr SDEC sy’n gyfrifol am atgyfeirio ymlaen wedyn.
Rhaid sicrhau bod mynediad ffôn ar gael i glinigwyr ambiwlans atgyfeirio claf a dylai amseroedd presenoldeb ganiatáu digon o amser i'r claf deithio i’w apwyntiad os na chaiff ei gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans. 
Rhaid i bresenoldeb yn yr ysbyty ganiatáu digon o le i gleifion allu cadw pellter cymdeithasol yn SDEC lle bo’n briodol. 
Fel arfer bydd presenoldeb yn yr ysbyty wyneb yn wyneb. 
Lle mae opsiynau rhithwir ar gyfer ymgynghori yn cael eu hystyried, byddai angen cyfathrebu hyn yn glir i’r claf. Byddai hyn yn ystyriaeth allweddol ar gyfer cleifion sy’n agored i niwed yn glinigol. 
Rhaid i’r neges atgyfeirio at SDEC ar ôl y sgwrs glinigol gynnwys enw’r claf, dyddiad geni a sympton/diagnosis a amheuir ac amser apwyntiad y cytunwyd arno. 
Dylid defnyddio rhif GIG y claf fel y dynodwr unigryw i sicrhau y gellir paru cofnodion. Pan fo’r claf yn breswylydd dros dro ac nad oes ganddo rif GIG wedi’i gofrestru yng Nghymru, bydd yn rhaid i’r enw llawn a’r dyddiad geni fod yn ddigon. 
Ni ddylid bwcio cleifion y tu hwnt i’r amserlen y bwriedir iddynt dderbyn gofal ynddi, oni bai bod clinigwr SDEC yn cynghori hyn. 
Dylai’r bwrdd iechyd gofnodi presenoldeb SDEC ar system gweinyddu cleifion yr ysbyty a, lle mae’r dechnoleg yn bodoli, ‘ambiwlans’ ddylai fod y ffynhonnell atgyfeirio a ddewisir. 
Bydd cleifion nad ydynt yn mynychu (DNA) yn cael eu hysbysu trwy drefniant cysoni apwyntiadau presennol gan y darparwr gofal eilaidd yn unol â pholisi a gweithdrefn diogelu lleol. Mae hyn ond yn berthnasol pan nad yw ambiwlans yn cludo cleifion ond yn trefnu apwyntiad yn ddiweddarach trwy drafodaeth glinigol a chytundeb y claf. 
Os bydd methiant technegol, bydd angen gweithredu trefniadau parhad busnes. Rhaid i Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru gofnodi pob atgyfeiriad â llaw nes nad oes angen y trefniadau parhad busnes mwyach. 
Pe bai angen gweithredu’r broses parhad busnes, rhaid i bob darparwr olrhain yr atgyfeiriadau nad oedd modd eu trosglwyddo er mwyn gallu adfer gwybodaeth cleifion yn ôl-weithredol ar ôl dychwelyd i fusnes fel arfer. 
Rhaid i fyrddau iechyd ystyried trefniadau amgen ar gyfer ymdrin â chleifion sy’n gwarchod eu hunain yn unol â’r polisi Atal a Rheoli Heintiau (IPC). 
Rhaid i fyrddau iechyd roi trefniadau ar waith i adolygu atgyfeiriadau gan barafeddygon Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn rheolaidd. Lle mae unrhyw bryderon neu drosiad uwch na’r disgwyl o atgyfeirio at SDEC i dderbyn, sef 10-15% ar hyn o bryd, rhaid dilyn proses gwersi a ddysgwyd, mewn partneriaeth â Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. 
Dylai fod gan fyrddau iechyd brosesau llaw ar gael i gofnodi presenoldeb cleifion mewn achos o fethiant technegol (neu oherwydd parhad busnes).

6. Disgwyliadau comisiynwyr

Ffactor galluogi allweddol fydd bod gan ddarparwyr y seilwaith TG angenrheidiol yn ei le. Rhaid rhoi ystyriaeth i allu ryngweithredu systemau i hwyluso cyfnewid data priodol. 

Mae’n hanfodol bod byrddau iechyd yn edrych ar y system gyfan i fuddsoddi yn y meysydd a fydd yn cael yr effaith fwyaf o ran cost a budd a chanlyniadau i gleifion.

6.1 Asesiad effaith diogelu data

Bydd angen i gomisiynwyr a darparwyr adolygu Cytundebau Rhannu Gwybodaeth presennol i sicrhau bod unrhyw lifoedd data newydd yn bodloni’r gofynion llywodraethu ar gyfer cynyddu’r gwasanaethau a ddarperir. 

6.2 Monitro a gwerthuso

Mae disgwyliad cenedlaethol bod monitro a gwerthuso lleol yn cael eu rhoi ar waith o’r amser y bydd y gwasanaeth yn ‘mynd yn fyw’ er mwyn sicrhau bod adborth cyflym ar y gweithredu ar gael i Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a byrddau iechyd. 

Diben hyn yw sefydlu a yw atgyfeiriadau’n cael eu nodi’n gywir gan glinigwyr ambiwlans; yn cael eu derbyn gan ofal eilaidd mewn niferoedd digonol; a sicrhau bod y system yn dysgu o’r broses yn barhaus, er mwyn gwella’r gwasanaethau a ddarperir i gleifion.

Dylid datblygu proses Cymru gyfan i werthuso a dod â darparwyr ynghyd i ddatblygu ac esblygu darpariaeth gwasanaeth yn barhaus, gan sicrhau bod gwelliannau pellach yn bodloni safonau sicrwydd a llywodraethu gan bob parti. Mae’r canlynol yn bwysig: 

  • Mae’r system yn esblygu trwy ddysgu
  • Cesglir gwybodaeth yn gyson i fesur llwyddiant
  • Mae gan fyrddau iechyd rôl weithredol wrth gefnogi newid
  • Yn y tymor canolig, bydd dangosyddion perfformiad allweddol (DPA) yn cael eu datblygu trwy ddysgu a datblygu