Neidio i'r prif gynnwy

Mae clinigau newydd yng Nghymru yn helpu i roi diagnosis cyflymach i gleifion â symptomau sy’n peri pryder, ac mae hyn yn rhan o waith ledled y wlad i leihau amseroedd aros ar gyfer canser.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi croesawu agor Canolfannau Diagnosis Cyflym mewn gwahanol rannau o Gymru.

Mae'r canolfannau hyn yn rhan o raglen genedlaethol sy’n helpu’r byrddau iechyd i roi opsiwn ychwanegol i feddygon teulu ar gyfer ymchwilio i symptomau amwys a allai gael eu hachosi gan ganser. Gall y Ganolfan Diagnosis Cyflym roi sicrwydd yn gyflym i bobl sydd heb ganser, helpu i wneud diagnosis o amryw o gyflyrau iechyd cronig eraill neu gyfeirio pobl yn eu blaenau i gael triniaeth canser yn gyflymach.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: 

"Gan fod un o bob dau o bobl yn datblygu rhyw fath o ganser yn ystod eu hoes, gwella canlyniadau i gleifion canser yw un o brif flaenoriaethau GIG Cymru.

"Mae'n wych gweld gwaith arloesol o'r fath yn cael ei gyflwyno, gan gynnwys canolfannau diagnosis cyflym a rhaglenni eraill i gynyddu capasiti, cyflymu diagnosis a lleihau pryder i gleifion ar adeg yn eu bywydau sy’n gallu bod yn anodd.

"Mae hwn wedi bod yn gyfnod heriol iawn i'n gwasanaeth iechyd ond rwy'n falch o weld gwaith yn cael ei wneud i ddatblygu gwasanaethau canser er gwell."

Dywedodd Dr Daniel Menzies, Ymgynghorydd Meddygaeth Anadlol yn Ysbyty Glan Clwyd:

"Mae'r Clinigau Diagnosis Cyflym yn rhoi eglurder i'r claf a sicrwydd i'r meddyg teulu ac yn ein galluogi hefyd, gobeithio, i ganfod canserau yn gynt nag y byddem fel arfer.

"Mewn amgylchiadau arferol, mae cleifion sy'n dod at eu meddyg teulu gyda symptomau amhenodol yn cael nifer o brofion i ddarganfod beth sy'n eu hachosi. Nawr mae'r cleifion hyn yn cael eu cyfeirio i'r Clinig Diagnosis Cyflym mewn ychydig o dan wythnos. Mae gwerthusiad diagnostig yn cael ei gynnal, gan gynnwys yr holl ddelweddu CT, ac rydyn ni’n rhoi ateb iddynt o fewn yr amserlen honno.

"Mae'r clinigau'n rhi sicrwydd a diagnosis yn gyflym i gleifion os oes pryderon am ganser. Gorau oll os gallwn wneud y diagnosis yn gynt a chael y driniaeth gywir i’r cleifon yn gyflymach. Ac, ac yn yr un modd, os ydyn nhw’n poeni beth allai fod yn achosi eu symptomau –  colli pwysau er enghraifft – rydyn ni’n gallu rhoi eglurhad iddyn nhw a’u sicrhau onad oes problem sylfaenol ddifrifol."

Mae prosiect arall sy'n ceisio gwella'r amser y mae'n ei gymryd i roi diagnosis a thriniaeth wedi'i gyflwyno ym Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fel rhan o'r Rhaglen Arloesi a Gwella ar gyfer Canser i drin gwaedu ar ôl y menopos.

Mae'r Clinig Mynediad Cyflym newydd yn darparu gwasanaeth 'gweld a thrin' mewn un man i roi diagnosis cyflym i gleifion â symptomau gwaedu amwys ar ôl y menopos. Lle bo hynny’n bosibl, bydd gwasanaeth ar gael yr un diwrnod i’r rhai sydd angen archwiliad neu driniaeth bellach. 

Yn ogystal â sicrhau lleihad sylweddol yr amser cyfartalog y mae’n ei gymryd i gael diagnosis, mae'n lleihau'r pryder y mae cleifion yn deimlo wrth aros.

Dywedodd yr Athro Tom Crosby, Cyfarwyddwr Clinigol Cymru ar gyfer Canser: 

"Mae gwasanaethau canser y GIG o dan bwysau na welwyd eu tebyg o'r blaen oherwydd effeithiau’r pandemig COVID a'r galw cynyddol cyn hynny am wasanaethau diagnostig a thriniaeth. Yn ogystal â’r angen am fuddsoddi mewn seilwaith ac, yn bwysicaf oll, y gweithlu canser, rhaid inni ddefnyddio’r cyfnod hwn i fynd i’r afael â phwysau ar wasanaethau er mwyn gwella ac arloesi yn y ffordd rydym yn cefnogi cleifion drwy lwybrau cymhleth."

Yn ogystal â'r gwasanaethau diagnosis cyflym hyn, mae byrddau iechyd yng Nghymru wedi cyflwyno amrywiaeth o ffyrdd arloesol o wella canlyniadau canser i gleifion, gyda chymorth Rhwydwaith Canser Cymru.

Mae hyn yn cynnwys y modd y mae canolfannau canser yng Nghymru wedi ymateb i dystiolaeth wyddonol sy'n dod i'r amlwg er mwyn lleihau'n ddiogel nifer yr apwyntiadau sydd eu hangen i ddarparu radiotherapi.

Dim ond pump neu saith sesiwn driniaeth y bydd angen i gleifion â chanser y fron a chanser y prostad eu mynychu, yn lle’r 15, 20 neu 37 o apwyntiadau triniaeth y byddent yn eu mynychu o’r blaen. Bydd hyn yn rhyddhau capasiti sylweddol i drin mwy o bobl yn gynt gydag uwch-dechnegau radiotherapi.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn buddsoddi'n helaeth mewn cyfarpar cynllunio a darparu radiotherapi newydd, megis peiriannau CT newydd ym mhob un o’r tair canolfan ganser a buddsoddiad o £8.3m mewn cyflymyddion llinellol ledled Cymru i sicrhau bod y cyfarpar yn gyfredol, yn ddibynadwy ac yn gallu darparu'r uwch-dechnegau diweddaraf.