Mae'r adroddiad hwn yn nodi'r theori, y tybiaethau a'r dystiolaeth sy'n sail i'r diwygiadau i’r cwricwlwm ac asesu ac yn nodi argymhellion ar gyfer rhaglen fonitro a gwerthuso gadarn.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Un o’r prif bethau y mae’r adroddiad yn canolbwyntio arno yw damcaniaeth newid, sy'n esbonio sut y bwriedir i'r broses ddiwygio gyflawni ei nodau a'i hamcanion drwy egluro'r mewnbynnau, y gweithgareddau, yr allbynnau, y canlyniadau a'r effeithiau disgwyliedig, yn ogystal â'r cysylltiadau tybiedig rhyngddynt.
Mae'r adroddiad yn cyflwyno'r cwestiynau ymchwil a gwerthuso y dylai Llywodraeth Cymru eu gofyn er mwyn archwilio i ba raddau y mae'r mecanweithiau yn y ddamcaniaeth newid yn digwydd yn ôl y disgwyl.
Mae'r adroddiad yn argymell cyfres gynhwysfawr o astudiaethau sydd, gyda'i gilydd, yn galluogi archwiliad o gynnydd ac effaith y diwygiadau i'r cwricwlwm dros amser. Cynigir naw astudiaeth, ac mae rhai ohonynt yn rhoi trosolwg eang a hir o lwyddiant diwygiadau'r cwricwlwm a nifer yn cydnabod pwysigrwydd ymchwilio'n fanwl i agweddau mwy penodol ar y gwaith.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried yr argymhellion ac wedi cyhoeddi ymateb.
Adroddiadau
Astudiaeth gwmpasu ar gyfer gwerthuso diwygiadau i'r cwricwlwm ac asesu yng Nghymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.