Neidio i'r prif gynnwy

Adeilad rhestredig Gradd II yw Marchnad Gaws y Gelli Gandryll. Roedd gofyn buddsoddi’n helaeth ynddo ac yr oedd Cyngor Sir Powys wedi dweud nad oedd ei angen arno bellach.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Roedd Menter Gymunedol CIC y Gelli Gandryll yn dymuno cael les am rent nominal. Byddai rhoi les o’r fath yn caniatáu i’r sefydliad wneud cais am grant Trosglwyddo Asedau Cymunedau o dan y Gronfa Loteri Fawr/Cronfa Dreftadaeth y Loteri ac adfer yr adeilad yn gyfleuster i’r gymuned. 

Cwblhawyd Achos Busnes Cyngor Sir Powys ac Arolwg Strwythurol. Llwyddwyd i gaffael yr eiddo yn y lle cyntaf gan Gyngor Dosbarth Trefol y Gelli ac mae nifer o gyfamodau’n cyfyngu ar ei ddefnydd.

Busnes

Mewn ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus a gyflawnwyd yn 2008, roedd mandad clir gan bobl y Gelli Gandryll i gefnogi trosglwyddo adeilad y Farchnad Gaws o’r Cyngor Sir, am swm nominal, i Fenter Gymunedol CIC y Gelli er mwyn sicrhau ei fod yn dal i gael ei ddefnyddio gan drigolion lleol ac ymwelwyr. 

Bydd yr adeilad yn galluogi Menter Gymunedol CIC y Gelli Gandryll i godi rhagor o fewnfuddsoddi a fydd yn ategu’r economi leol ac yn creu swyddi yn y tymor byr. Drwy ddefnyddio’r Farchnad Gaws i lansio mentrau eraill, bydd cynllun Menter Gymunedol CIC y Gelli, yn y tymor canol i’r tymor hir, yn sicrhau rhagor o fewnfuddsoddi ac yn ei galluogi i sefydlu nifer o fentrau sy’n creu swyddi hyfyw, ac a fydd, maes o law, yn ategu economi leol ffyniannus. 

Yn ogystal â’r budd economaidd, bydd adeilad y farchnad gaws yn dwyn manteision cymdeithasol yn sgil y mentrau y bydd yr adeilad yn gartref iddynt a’r rheini o fudd i holl drigolion y Gelli ac ymwelwyr. 

Y bwriad oedd adnewyddu’r adeilad drwy ddefnyddio deunyddiau a dulliau amgylcheddol cynaliadwy fel y byddai’n enghraifft o arferion da o fewn cyfyngiadau adnewyddu adeilad rhestredig Gradd II.

Manylion

Roedd CIC y Gelli’n bwriadu adnewyddu’r adeilad, creu gofod cymunedol ar y llawr gwaelod ac adnewyddu’r llawr cyntaf yn llety gwyliau a fyddai’n darparu incwm refeniw hanfodol. 

Cyflwynwyd y cais cychwynnol am TAC i Gyngor Sir Powys yn 2009. Roedd y Cyngor, ar ôl ystyried yr Achos Busnes, wedi cytuno i roi les hir am rent nominal. 

Roedd hyn yn caniatáu i’r grwˆ p ffurfioli ei geisiadau am grant. Cwblhawyd les hir yn ystod haf 2013 ar ôl cadarnhau’r ariannu.

Manteision

  • Mae’r adeilad rhestredig nodedig wedi cael ei gadw mewn ffordd sensitif yn dystiolaeth o ddulliau adeiladu traddodiadol;
  • Roedd y cynllun yn cynnwys ymgysylltu’n helaeth â chymunedau drwy gynnal digwyddiadau niferus;
  • Mae adeilad nodedig wedi’i gadw at ddefnydd a mwynhad y gymuned.

Gwersi a ddysgwyd

Pan fydd angen atgyweirio adeilad rhestredig a bod gofyn cydymffurfio â chyfyngiadau cyfreithiol, rhaid peidio byth â thanamcangyfrif faint o amser a gymer i gyrraedd cerrig milltir allweddol. 

Mae’r prosiect hwn wedi cymryd dros 4 blynedd i’w gwblhau ac mae bellach wedi cyrraedd y cam lle mae’r grwˆ p yn gallu dechrau gwireddu ei amcanion.

Mwy o wybodaeth

Adran Eiddo Corfforaethol

Adfywio ac Eiddo Corfforaethol
Cyngor Sir Powys

Rhif ffôn: 01597 826055