Arolygon deiliadaeth llety twristiaeth Cymru: Ionawr i Fedi 2020
Mae’r arolygon deiliadaeth yn darparu gwybodaeth am dueddiadau yn y galw am lety twristiaeth yng Nghymru ar gyfer Ionawr i Fedi 2020.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mae 2 fis cyntaf yr adroddiad hwn yn cwmpasu'r cyfnod cyn i effeithiau llawn y pandemig COVID-19 gael eu gweld yn y DU. O 23 Mawrth 2020, caeodd y diwydiant llety oherwydd y rheoliadau clo a weithredwyd ledled y DU a welodd fusnesau ledled Cymru yn cau dros dro. Felly, mae meintiau’r sampl yn ystod misoedd Ebrill i Orffennaf yn y sector gwestai yn fach iawn a dylid bod yn ofalus iawn wrth ddehongli'r canlyniadau hyn. Ni chasglwyd data ar gyfer y sectorau eraill yn ystod y cyfnod hwn o gau gorfodol.
Prif bwyntiau
- Oherwydd y cau gorfodol sydd ar waith ledled y DU, rhwng misoedd Ebrill a Gorffennaf 2020, mae canlyniadau defnydd ar gyfer y cyfnod hwn ar draws pob sector yn isel iawn neu nid oedd unrhyw ddata defnydd ar gael.
- Yn ystod y cyfnod Mawrth i Fedi 2020, gwelodd defnydd ystafell[1] westai ymatebol yn adrodd lefelau defnydd sylweddol is ar draws tri chwarter cyntaf y flwyddyn. Roedd defnydd gwely yn profi'r un patrwm.
- Cynyddodd gyfraddau defnydd hunanddarpar ar gyfer mis Medi o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol, gyda defnydd unedau yn ystod y mis hwn ar ei lefel uchaf dros y tair blynedd diwethaf.
- Cyrhaeddodd gyfraddau defnydd yn y sector carafanau statig a chartrefi gwyliau uchafbwynt ym mis Medi gyda defnydd 92%; cynnydd o 2 bwynt canran ar fis Medi 2018 a 2019.
- Roedd dau fis cyntaf y flwyddyn yn cyfateb i flynyddoedd blaenorol ar gyfer hosteli ond yn ystod y cyfnod clo cenedlaethol rhwng 23 Mawrth ac 11 Gorffennaf, gwelwyd lefelau defnydd mewn hosteli yn cael eu heffeithio'n ddifrifol gan bandemig COVID-19, gyda mis Medi yn gostwng 31 pwynt canran ar fis Medi 2019. Roedd natur llety hostel a byncws yn ffactor allweddol yn y lefelau defnydd isel a welir ar draws y sector, oherwydd cyfyngiadau ar niferoedd yn aros mewn ystafelloedd aml-feddiannaeth ynghyd â chanllawiau pellter cymdeithasol.
[1] Mae’n bosib y bydd rhai cyfraddau defnydd ar gyfer gwestai unigol ychydig yn uwch nag y byddent mewn blwyddyn arferol oherwydd ei bod yn bosib nad yw rhai ystafelloedd/unedau yn gweithredu oherwydd yr angen am bellter cymdeithasol. Mae'r data yr adroddwyd arnynt yn ystod mis Ionawr i Fedi yn seiliedig ar ddefnydd net sy'n cyfeirio at y busnesau hynny a oedd ar agor yn unig ac a ddarparodd ddata yn ystod y cyfnod hwn
Newid mewn pwysau
Yn ystod sawl mis yn 2020, nid oedd nifer sylweddol o westai, a thai llety/Gwely a Brecwast ar agor oherwydd cyfyngiadau COVID-19 a oedd yn cyfyngu ar weithredu llety â gwasanaeth gan arwain at ddim ond nifer fach o westai a tai llety/gwely a brecwast yn darparu data, a effeithiodd ar y pwysiadau. Mae pwysoli data defnydd wedi'i gynllunio i addasu ar gyfer gwahanol lefelau ymateb ar draws rhanbarthau a bandiau maint ond pan fydd maint y sampl yn fach gellir gorliwio effaith y pwysiad ar gyfer rhai rhanbarthau neu fandiau maint. Yn ystod misoedd clo mawr COVID-19 pan oedd maint samplau mewn rhai rhanbarthau mewn ffigurau sengl, byddai wedi cael yr effaith o wneud i sefydliadau unigol ddominyddu'r canlyniadau. Felly, mae'r data yn 2020 yn cael ei gyflwyno heb ei bwysoli a dim ond yn adlewyrchu lefelau defnydd gwestai a thai llety/gwely a brecwast a oedd ar agor yn y mis perthnasol. Oherwydd hyn, dylid nodi na ellir dehongli bod data defnydd gwestai a thai llety/Gwely a Brecwast a ddangosir yn yr adroddiad hwn ar gyfer 2020 yn cynrychioli'r farchnad llety â gwasanaeth yn ei chyfanrwydd, ac o ystyried y gwahaniaethau methodolegol, nid oes modd ei gymharu â data 2018 a 2019 a ddangosir yn adrannau gwestai a thai llety/gwely a brecwast yr adroddiad hwn.
Gwestai
Yn ystod y cyfnod rhwng Mawrth a Medi 2020, gwelodd defnydd ystafell y gwestai a ymatebodd yn adrodd lefelau defnydd sylweddol is, gyda defnydd gwlâu yn profi'r un patrwm. Effeithiwyd ar y ddau fesur gan y cau dros dro dros bandemig COVID-19 yn y sector llety â gwasanaeth, oherwydd rhwng 23 Mawrth ac 11 Gorffennaf dim ond gwesteion hanfodol a ganiatawyd yn y nifer fach o westai a oedd ar agor. Ym mis Awst a mis Medi, cynyddodd nifer y sefydliadau ar agor er y gallai capasiti fod wedi lleihau o hyd yn ystod y cyfnod hwn oherwydd cyfyngiadau COVID-19.
Nodyn: Mae’n bosib y bydd rhai cyfraddau defnydd ar gyfer gwestai unigol ychydig yn uwch nag y byddent mewn blwyddyn arferol oherwydd ei bod yn bosib nad yw rhai ystafelloedd/unedau yn gweithredu oherwydd yr angen am bellter cymdeithasol. Mae'r data yr adroddwyd arnynt yn ystod mis Ionawr i Fedi yn seiliedig ar ddefnydd net sy'n cyfeirio at y busnesau hynny a oedd ar agor yn unig ac a ddarparodd ddata yn ystod y cyfnod hwn.
Effeithiwyd ar ddefnydd ystafell a defnydd gwely yn ystod tri chwarter cyntaf y flwyddyn, ac roedd cau busnesau yn ystod y cyfnod hwn yn dylanwadu fwyaf ar Ebrill-Mehefin 2020. Dechreuodd y cyfnod canlynol ym mis Gorffennaf i fis Medi weld cyfraddau defnydd yn codi. Fodd bynnag, ni ailagorodd pob busnes ar 11 Gorffennaf oherwydd gweithredu mesurau COVID-19 i ddiogelu gwesteion a staff (gweler yr adran cyd-destun).
Gyda dim ond nifer fach o westai ar agor i weithwyr allweddol yn ystod y cyfnod cau gorfodol, roedd cyfraddau RevPAR yn ystod y cyfnod hwn yn llawer is nag y byddai disgwyl fel arfer yn ystod misoedd brig yr haf.
Mae refeniw fesul ystafell sydd ar gael (RevPAR) yn fetrig a ddefnyddir yn y diwydiant lletygarwch i fesur perfformiad. Cyfrifir y mesuriad trwy luosi cyfradd ystafell ddyddiol gyfartalog gwestai (ADR) â'i gyfradd ddefnydd.
Tŷ llety a, Gwely a brecwast
Ni chynigiodd mwyafrif o dai llety/Gwely a Brecwast lety i weithwyr allweddol ac felly caewyd mwyafrif y sefydliadau yn llwyr yn ystod y cyfnod atal byr rhwng 23 Mawrth a 11 Gorfennaf ac felly ni chasglwyd data yn ystod y cyfnod hwn. Yn ogystal, mae maint y sampl ar gyfer y sector hwn yn hanesyddol yn isel iawn a dylid ei ddehongli'n ofalus.
Yn yr un modd â'r sector gwestai, mae'r cyfraddau defnydd yn cael eu hadlewyrchu yn y cyfnod y mae'r cyfnod clo yn effeithio arno, rhwng 23 Mawrth ac 11 Gorffennaf. Er i fusnesau ddechrau ailagor ym mis Gorffennaf, a gwelodd fisoedd Awst a Medi gynnydd yn nifer y sefydliadau ar agor, gallai capasiti fod wedi lleihau o hyd yn ystod y cyfnod hwn oherwydd cyfyngiadau COVID-19.
Yn yr un modd â'r sector gwestai, gwelodd defnydd ystafell a defnydd gwely effeithiau'r pandemig yn chwarter cyntaf a thrydydd chwarter y flwyddyn.
Hunanddarpar
Yn gyffredinol mae gwyliau ysgol yn effeithio ar gyfraddau defnydd hunanddarpar, gyda chyfraddau defnydd uwch yn ystod y cyfnod hwn. Cofnododd fis Awst 2020 ei ddefnydd uned uchaf yn fisol ers mis Awst 2018 (y ddau yn 90%), gyda llawer o bobl yn trefnu i fynd i ffwrdd ar ôl i'r cyfyngiadau clo gael eu codi'n llawn. Ym mis Medi, roedd y defnydd uned yr uchaf y bu dros y tair blynedd ddiwethaf.
Gellir gweld effeithiau'r pandemig ar gyfartaledd y flwyddyn rhwng Ionawr a Medi 2020 hyd yn hyn, sef 52%, yn cynnwys cwymp o 10 pwynt canran o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2019 ar 62%. Mae hyn hyd yn oed yn fwy amlwg pan gymharwch gyfartaledd Ionawr i Fedi o 2018 ar 60%, â ffigwr 2019 lle roedd cyfraddau defnydd unedau wedi codi 2 bwynt canran.
Yn yr un modd â sectorau eraill, effeithiwyd yn ddifrifol ar chwarter Ebrill i Mehefin 2020 gan y pandemig COVID-19. Fodd bynnag, yn y chwarter canlynol a oedd yn cynnwys Gorffennaf i Medi 2020, gwelwyd cynnydd o 4 pwynt canran ar y ddwy flynedd flaenorol gyda hyder wrth drefnu gwyliau a seibiannau byr yn cynyddu yn ystod misoedd yr haf yn syth ar ôl y cyfnod clo.
Cartrefi gwyliau carafanau statig
Ar 11 Gorffennaf 2020, dechreuwyd codi cyfyngiadau clo ar ddefnydd llety mewn dull graddol. Gallai llety a oedd yn gwbl hunanddarpar fel carafanau gwyliau statig ailagor er nad oedd cyfleusterau ar y safle ar gael i'w defnyddio.
Cyrhaeddodd gyfraddau defnydd yn y sector carafanau statig a chartrefi gwyliau uchafbwynt ym mis Medi gyda defnydd 92%; cynnydd o 2 bwynt canran ar Fedi 2018 a 2019. Gyda mwyafrif o fusnesau ar gau trwy gydol y cyfnod clo rhwng 23 Mawrth ac 11 Gorffennaf, roedd defnydd lleiniau ym mis Gorffennaf ac Awst yn sylweddol is na'r disgwyl yn ystod y prif dymor ar gyfer pobl ar eu gwyliau.
Nodyn adolygu
Oherwydd bod data ychwanegol ar gael i'w ymgorffori yn y gyfradd defnydd cyfanredol, mae ffigurau ar gyfer defnydd carafannau sefydlog ym mis Gorffennaf ac Awst 2020 wedi'u diwygio ers cyhoeddi'r adroddiad hwn. Gweler adroddiad Arolygon deiliadaeth llety twristiaeth Cymru: Hydref i Ragfyr 2020 am y ffigurau diweddaraf.
Parciau carafanau teithio a gwersylla
Yn yr un modd â pharciau carafanau statig a gwersylla, gallai llety a oedd yn gwbl hunanddarpar, fel carafanau teithio modern, cartrefi modur a rhywfaint o lety glampio a oedd â'u cyfleusterau eu hunain; ailagor ar 11 Gorffennaf 2020.
Syrthiodd ddefnydd llain ar draws y parciau carafanau teithio a gwersylla ychydig yn ystod mis Medi 2020 o'i gymharu â'r un mis yn 2019, er bod mis Awst 2020 wedi dychwelyd i lefel resymol, i lawr 4 pwynt canran yn unig ar Awst 2019.
Hosteli
Roedd dau fis cyntaf y flwyddyn yr un peth â'r blynyddoedd blaenorol ond gwelodd y cyfnod clo rhwng 23 Mawrth i 11 Gorffennaf lefelau defnydd mewn hosteli wedi'u heffeithio'n ddifrifol gan bandemig COVID-19, gyda mis Medi 2020 yn disgyn 31 pwynt canran ar fis Medi 2019. Er bod Awst wedi gweld cynnydd yn lefelau defnydd, roedd natur y sector yn ei gwneud hi'n anodd ailagor yn llawn i fusnesau gyda chyfyngiadau Covid-19 ar nifer y gwesteion sy'n aros mewn hosteli.
Yn gyffredinol, roedd defnydd gwely hostel wedi gostwng 25 pwynt canran yn y cyfnod rhwng mis Ionawr i Fedi 2020
Gostyngodd chwarter cyntaf 2020 6 phwynt canran ac fel y soniwyd eisoes, roedd natur yr hostel a'r llety byncws yn ffactor allweddol yn yr adferiad araf ar draws y sector, gyda chyfyngiadau ar y niferoedd sy'n aros yn yr ystafelloedd amlfeddiannaeth. Roedd chwarter Gorffennaf i Fedi 2020 wedi gostwng yn sylweddol, i lawr o 66 pwynt canran yn 2019 i 29 pwynt canran yn 2020, gostyngiad o 37 pwynt canran.
Cyd-destun
Cyn i'r cyfnod clo cenedlaethol ddechrau ar 23 Mawrth 2020, roedd lefelau defnydd ar draws yr holl sectorau a gwmpesir yn yr adroddiad cryno hwn yn weddol gyson â blynyddoedd blaenorol yn 2018 a 2019. Yn ystod y cyfnod clo rhwng 23 Mawrth a chanol mis Gorffennaf, roedd llawer o fusnesau wedi cau dros dro oherwydd pandemig Covid-19. Roedd y sampl fach yr adroddwyd arni yn ystod y cyfnod hwn yn y sector gwestai mewn perthynas â gwestai a oedd yn darparu llety angenrheidiol i weithwyr allweddol, grwpiau bregus a'r rhai a oedd wedi bod yn sownd yn eu llety oherwydd y cyfnod clo a'r cyfyngiadau ar deithio. Ar 6 Gorffennaf, cododd Gymru ei chyfyngiadau “Aros yn Lleol” a alluogodd bobl i ymweld ag ardaloedd eraill o'r wlad ac ymhellach i ffwrdd. Ar 11 Gorffennaf, codwyd cyfyngiadau clo ar ddefnydd llety, er y mabwysiadwyd dull graddol yn ystod mis Gorffennaf. Gallai llety a oedd yn gwbl hunanddarpar fel bythynnod gwyliau, carafanau gwyliau gan gynnwys carafanau teithio modern a chartrefi modur a rhywfaint o lety glampio ailagor. Roedd hyn hefyd yn cynnwys gwestai a llety arall â gwasanaeth (Gwely a Brecwast, hosteli ac ati) a oedd yn darparu ystafelloedd en-suite ac yn gallu darparu prydau bwyd yn yr ystafell. Ni ailagorodd llety a oedd yn cynnig cyfleusterau a rennir fel safleoedd gwersylla a charafanau a hosteli tan 25 Gorffennaf 2020.
Fodd bynnag, ni wnaeth pob busnes ailagor ar unwaith ac oedi eu hailagor i sicrhau bod eu hadeiladau yn ddiogel o ran COVID-19 a bod asesiadau risg ar waith, ac nid oedd eraill a oedd yn rhedeg busnesau teuluol bach o'r farn ei bod yn ariannol hyfyw agor gyda chyfyngiadau yn eu lle. Roedd y risg i rai perchnogion busnes a oedd wedi bod yn cysgodi hefyd yn ffactor yn eu penderfyniad i beidio ag ailagor pan godwyd cyfyngiadau clo.
Llinellau amser allweddol yn 2020
- Clo Cenedlaethol y DU o 23 Mawrth 2020.
- 6 Gorffennaf 2020 Cymru yn codi ei chyfyngiadau teithio “Aros yn Lleol” a chaniatawyd i atyniadau awyr agored ailagor.
- Daeth y clo i ben 11 Gorffennaf 2020 ar gyfer busnesau llety heb gyfleusterau a rennir.
- 13 Gorffennaf 2020 ailagor atyniadau ymwelwyr dan do ond heb gynnwys unrhyw ran o atyniad i ymwelwyr sydd o dan y ddaear.
- Llwyddodd llety i dwristiaid gyda chyfleusterau a rennir fel safleoedd gwersylla i ailagor o 25 Gorffennaf 2020 ond arhosodd cyfleusterau a rennir ar y safle ar gau, megis pyllau nofio, cyfleusterau hamdden, cawodydd a blociau toiledau a rennir.
- 27 Gorffennaf 2020 caniatáu i amgueddfeydd ac orielau ailagor.
- Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan (3 i 31 Awst 2020).
- 7 Medi 2020 preswylwyr Cyngor Bwrdeistref Sir Caerffili yn amodol ar glo lleol cyntaf yng Nghymru, a ddaw i rym o 6pm ar 8 Medi 2020.
- 21 Medi 2020 cyhoeddi cyfyngiadau cyfnod clo ar gyfer Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent a Chasnewydd yn dod i rym o 6pm ar 22 Medi 2020.
- 26 Medi 2020 daw cyfnod clo un dref cyntaf Cymru i rym yn Llanelli.
Maint sampl
Pan ddechreuodd y clo cenedlaethol ar 23 Mawrth 2020, caeodd bron pob busnes llety ledled Cymru dros dro ac eithrio nifer fach o westai mawr a arhosodd ar agor i ddarparu llety dros dro i weithwyr allweddol a grwpiau eraill yr oedd pandemig COVID-19 yn effeithio arnynt. Er i'r cyfnod clo ddod i ben ar 11 Gorffennaf, a dechreuodd feintiau sampl gynyddu, ni ailagorodd pob busnes ar unwaith. Erbyn mis Medi, roedd meintiau sampl yn dechrau dychwelyd i'r lefelau a welwyd yn ystod misoedd cynnar 2020 ond roedd ansicrwydd ar draws y sectorau yn dal i fod yn amlwg. Mae'n werth nodi nad yw'r sampl hunanddarpar is ym mis Medi yn gysylltiedig â phandemig COVID-19 ond y newid ym mherchnogaeth un o'r asiantaethau mawr sy'n cyflenwi data defnydd ac felly nid oedd data ar gael yn ystod y mis hwn.
Mae pob un o'r meintiau sampl misol yn ôl sector a ddangosir isod yn fusnesau a oedd ar agor ac a ddarparodd ddata yn eu ffurflen ar gyfer y mis hwnnw.
Gwestai | Tŷ llety a, Gwely a brecwast |
Hunan-ddarpar | ||||
---|---|---|---|---|---|---|
Ar agor | Ar gau | Ar agor | Ar gau | Ar agor | Ar gau | |
Ionawr | 175 | 6 | 20 | 7 | 856 | 84 |
Chwefror | 170 | 4 | 20 | 6 | 627 | 89 |
Mawrth | 163 | 18 | 18 | 10 | 759 | 104 |
Ebrill | 19 | 162 | 1 | 27 | 3 | 736 |
Mai | 20 | 161 | 2 | 26 | 0 | 739 |
Mehefin | 22 | 164 | 1 | 27 | 0 | 740 |
Gorffennaf | 126 | 56 | 13 | 12 | 950 | 17 |
Awst | 162 | 16 | 17 | 6 | 945 | 19 |
Medi | 162 | 13 | 18 | 7 | 653 | 17 |
Carafanau statig | Carafanau teithiol | Hosteli | ||||
---|---|---|---|---|---|---|
Ar agor | Ar gau | Ar agor | Ar gau | Ar agor | Ar gau | |
Ionawr | 2 | 20 | 2 | 32 | 21 | 0 |
Chwefror | 2 | 20 | 2 | 32 | 18 | 1 |
Mawrth | 11 | 11 | 6 | 28 | 18 | 2 |
Ebrill | 0 | 22 | 0 | 34 | 0 | 20 |
Mai | 0 | 22 | 0 | 33 | 0 | 21 |
Mehefin | 0 | 22 | 0 | 33 | 0 | 21 |
Gorffennaf | 18 | 1 | 18 | 7 | 20 | 1 |
Awst | 18 | 1 | 18 | 6 | 20 | 1 |
Medi | 17 | 2 | 16 | 6 | 21 | 0 |
Manylion cyswllt
Birgitte Magnussen
Ffôn: 0300 062 5296
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru
Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 4/2021
ISBN digidol 978-1-80082-698-4