Neidio i'r prif gynnwy

Data ar enillion cyfartalog gros bob awr, wythnosol ac yn flynyddol yn y DU i lawr at lefel awdurdod lleol ar gyfer 2020.

Mae’r arolwg yn rhoi gwybodaeth am lefelau, dosbarthiad a chyfansoddiad enillion a’r oriau a weithiwyd gan weithwyr ym mhob diwydiant a swydd.

Mae ystadegau o'r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) yn ymwneud â'r cyfnod tâl sy'n cynnwys 22 Ebrill 2020, ac ar yr adeg honno roedd oddeutu 8.8 miliwn o weithwyr ar ffyrlo o dan Gynllun Cadw Swydd Coronafirws, yn y DU. Mae'r amcangyfrifon gan ASHE yn cynnwys gweithwyr ar ffyrlo.

Prif bwyntiau

Enillion wythnosol amser llawn

Roedd canolrif enillion wythnosol gros oedolion sy’n gweithio llawn amser yng Nghymru yn £537.8 ym mis Ebrill 2020, sef 91.9% o gyfartaledd y DU cyfan (£585.5). Canolrif enillion wythnosol gros yng Nghymru oedd trydydd leiaf o'r 12 gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.

Cynyddodd enillion wythnosol gros canolrifol ar gyfer oedolion amser llawn sy'n gweithio yng Nghymru 0.6% rhwng 2019 a 2020, o'i gymharu â chynnydd o 5.1% rhwng 2018 a 2019.

Cynyddodd y DU 0.1% dros y flwyddyn. Cymru oedd â'r pumed newid canrannol uchaf ymhlith 12 gwlad y DU a rhanbarthau Lloegr.

Bwlch tâl rhyw

Mae tystiolaeth gan yr ASHE ac Arolwg y Llafurlu yn awgrymu nad yw ffactorau coronafirws (COVID-19) wedi cael effaith nodedig eto ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y DU yn 2020.

Roedd y bwlch cyflog canolrif fesul awr (gan eithrio gôr amser) rhwng y rhywiau ym mhlith gweithwyr llawn amser ym mis Ebrill 2020 yn 4.3% yng Nghymru ac 7.4% yn y DU. Yng Nghymru, mae'r bwlch wedi culhau 1.9 pwynt canran, ac yn y DU mae wedi culhau 1.6 pwynt canran.

Ar gyfer gweithwyr rhan-amser mae menywod yn ennill mwy na gwrywod, gan arwain at fwlch cyflog negyddol. Roedd y bwlch cyflog canolrif fesul awr (gan eithrio gor amser) rhwng y rhywiau ym mhlith gweithwyr rhan-amser ym mis Ebrill 2020 yn -1.5% yng Nghymru a -2.9% yn y DU. Yng Nghymru, mae'r bwlch wedi culhau gan 0.3 pwynt canran, ac wedi culhau gan 0.6 pwynt canran yn y DU. Gall y bwlch cyflog rhan amser islaw lefel y DU fod yn anweddol.

Enillion yn seiliedig ar breswylfa

Bu cynnydd o 0.3% (i £541.7) dros y flwyddyn yn enillion canolrif gweithwyr amser llawn sy’n byw yng Nghymru. Yn 2020 roedd y lefel yn 92.5% o gyfartaledd y DU.

Adroddiadau

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.