Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru’n rhoi £400,000 i helpu busnes o Hengoed sy’n cynhyrchu cynnyrch wedi’u mowldio trwy chwistrellu plastig gan greu 25 o swyddi newydd dros y 12 i 18 mis nesaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd Ken Skates heddiw y bydd OGM (SW) Ltd yn defnyddio’r arian o Gronfa Economi’r Dyfodol i droi’r ffatri yn Hengoed yn ganolfan o safon byd ar gyfer cynnyrch o fowldiau chwistrell plastig.

Bydd yr arian yn hanfodol i helpu’r economi leol i ymadfer ar ôl y coronafeirws.

Yn ogystal â helpu i greu 25 o swyddi newydd, bydd yr arian yn galluogi’r cwmni i fuddsoddi mewn peiriannau mowldio plastig newydd a gosod robotiaid ochr yn ochr â chelloedd awtomeiddio.

Mae OGM Ltd yn dylunio ac yn cynhyrchu rhannau arbenigol ar gyfer amrywiaeth o ddiwydiannau, gan gynnwys y sectorau trydanol, modurol, meddygol a diwydiannol.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates:

“Mae OGM (SW) Ltd yn gyflogwr pwysig yn y rhanbarth a welodd gryn dyfiant yn y blynyddoedd diwethaf diolch i’r sylfaen amrywiol o gwsmeriaid y mae wedi’i datblygu.

“Yn ogystal â’i helpu i greu swyddi o’r ansawdd uchaf, bydd cyhoeddiad heddiw hefyd yn hwb i’r economi leol wrth inni ddelio ag effeithiau’r coronafeirws.
 
“Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu helpu OGM. Mae’n profi unwaith eto ein bod yn benderfynol o ddod â ffyniant i bawb ac o rymuso’n holl ranbarthau i fod yn fwy cynhyrchiol.

Dywedodd Kevin Jones, cyfarwyddwr safle yn OGM (SW) Ltd:

“Rydym yn croesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru.  Bydd y £400,000 yn caniatáu inni brynu peiriannau mowldio plastig newydd ac offer trin robotig inni allu delio â’r archebion newydd rydym wedi’u derbyn.

Mae’r cwmni wedi cael arian hefyd o’r Gronfa Cadernid Economaidd, i ddelio ag effeithiau’r coronafeirws.

Fel ymateb i’r pandemig, mae’r cwmni wedi datblygu nifer o gynnyrch, gan gynnwys tarian dwylo gwrthfeirol a gwrthfacteriol o’r enw TouchSafe, sy’n helpu pobl i osgoi gorfod cyffwrdd ag arwynebau pob dydd fel dolenni drysau.

Ychwanegodd Mr Jones:

“Rydym oll wedi gorfod wynebu heriau digynsail yn sgil y pandemig. I helpu, mae OGM wedi dylunio, datblygu a chynhyrchu tri chynnyrch newydd – TouchSafe, TouchSafe Transit a’r BreathSafe Visor. Maen nhw wedi’u datblygu i arafu lledaeniad y feirws gan ychwanegu at y portffolio o gynnyrch rydym yn eu cynhyrchu ar gyfer y sector meddygol.  Mae’n hwb hefyd i’n busnes mowldiau masnachol.