Neidio i'r prif gynnwy

Prif Weinidog Cymru'n dweud bod Cymru'n awyddus i drafod busnes. Bydd y daith fasnach yn tynnu sylw at gryfderau diwylliannol ac economaidd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd taith fasnach fwyaf erioed Cymru i Japan yn cyd-daro â Chwpan Rygbi'r Byd. 

Bydd y daith fasnach yn cael ei harwain gan Brif Weinidog Cymru Mark Drakeford, a'r nod yw tynnu sylw at fusnesau, bwydydd a diwylliant Cymru. Cromen Cymru yn Tokyo fydd canolbwynt y daith fasnach. 
 
Bydd y rhaglen uchelgeisiol yn dathlu pwysigrwydd y cysylltiadau diwylliannol ac economaidd rhwng y ddwy wlad, a'r nod fydd atgyfnerthu'r cysylltiadau rhwng Cymru a Japan. 

Mae cwmnïau Japan wedi bod yn rhan o dirwedd busnes Cymru ers dros 40 o flynyddoedd. 

Roedd allforion o Gymru i Japan werth bron i £250m yn 2018 - sy'n gynnydd o 25% o'i gymharu â 2017. Dros y pum mlynedd diwethaf mae Cymru wedi allforio bron i £1 biliwn o nwyddau i Japan. 

Mae llawer o gysylltiadau creadigol wedi’u meithrin rhwng Cymru a Japan dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf. Mae hyn wedi arwain at deithiau cyfnewid arbennig rhwng sefydliadau diwylliannol allweddol a rhwng artistiaid unigol – sydd oll wedi’u cefnogi gan bartneriaethau cadarn o asiantaethau yn y ddwy wlad. 

Ymysg y partneriaethau hyn mae’r un barhaus rhwng Amgueddfa Cymru ac Amgueddfa Celf Fodern Japan; gwaith y Theatr Genedlaethol gyda’r Theatr Genedlaethol Newydd yn Tokyo; arddangosfa barhaol Canolfan Mileniwm Cymru o waith gan Takumasa Ono o Japan; Focus Wales yn cyflwyno bandiau Japan ac arddangosfa Canolfan Grefftau Rhuthun o ddyluniadau cynaliadwy Japan. 

Mae Gogledd Cymru yn dod yn fwyfwy poblogaidd ymysg ymwelwyr o Japan - bydd gefeillio Castell Conwy â Chastell Himeji yn hwb pellach i dwristiaeth. 

Dywedodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog:

"Gan fod Cymru ar y brig fel un o dimau rygbi gorau'r byd mae gennym gyfle gwych i ymwneud â defnyddwyr rhyngwladol a'r cyfryngau wrth i Gwpan Rygbi'r Byd gael ei gynnal yn Japan. 

"Bydd y gystadleuaeth yn cynnig llwyfan amlwg a chadarnhaol ar gyfer dangos pa mor hyderus a chroesawgar yw Cymru. Ein nod yw ysbrydoli cynulleidfaoedd o bob ban byd i ddewis Cymru fel lleoliad ar gyfer gwyliau, buddsoddi, gwaith ac astudio.

"Mae Cymru'n awyddus i drafod busnes."

Fel rhan o ymgyrch marchnata rhyngwladol - sydd wedi derbyn cyllid pontio gan yr UE - mae Llywodraeth Cymru'n tynnu sylw at Gymru drwy gynnig profiad arbennig 360 gradd yng nghanol Tokyo. 

Bydd y gromen naw metr, a fydd wedi'i lleoli yng Ngorsaf Shinjuku yng nghanol Tokyo rhwng 20 Medi a 3 Hydref, yn ganolbwynt i'r ymgyrch ar gyfer hyrwyddo Cymru yn ystod camau grŵp Cwpan Rygbi'r Byd.

Bydd cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yma er mwyn tynnu sylw at y gorau y gall Cymru ei gynnig, gan gynnwys lletygarwch preifat a digwyddiadau cyhoeddus.

Mae'r gweithgarwch yn Japan yn rhan o raglen barhaus ar gyfer codi proffil Cymru fel gwlad i ymweld â hi, i fuddsoddi ynddi ac i weithio ynddi o fewn y DU ac yn rhyngwladol o dan frand llwyddiannus Cymru Wales. 

Bydd yr ymgyrch hefyd yn targedu marchnadoedd Ewropeaidd allweddol gan gynnwys Ffrainc ac Iwerddon, a hefyd Awstralia a Seland Newydd. 
Nod y daith fasnach yw ennyn diddordeb pobl yng Nghymru ac annog pobl sydd wedi symud o Gymru i ehangu cymuned Cymru ar-lein a helpu i rannu straeon o Gymru gyda'r byd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â  Celfyddydau Rhyngwladol Cymru ar y rhaglen a fydd yn creu cyfle i Japan ddarganfod mwy am Gymru a'i diwylliant. 

Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn bwriadu annog cydweithredu diwylliannol rhwng Cymru a Japan fel rhan o Dymor Diwylliant Japan-Y DU  2019-20. 

Dywedodd Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru:

"Dyma gyfle gwych i Gymru brofi ei hun yng Nghwpan Rygbi'r Byd, a hefyd i feithrin partneriaethau diwylliannol rhwng Cymru a Japan. Gall diwylliant a'r celfyddydau godi calon pobl a hefyd eu huno. Mae'r croeso arbennig drwy gân gan bymtheg mil o bobl Japan yn canu ein hanthem a hefyd Calon Lân yn y gwersyll agored yn Kitakyushu wedi codi ysbryd y tîm a hefyd bobl Cymru."

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cydweithio ag Undeb Rygbi Cymru ar ffilm i hyrwyddo Cymru. Bydd y ffilm hon yn cael ei dangos yng Nghromen Cymru yn Tokyo.