Neidio i'r prif gynnwy

Mae Julie James, y Gweinidog Tai, wedi cyhoeddi ein bod yn mynd i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn 2021, a’n bod am ragori arno.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

A gwerth 12 mis o ffigurau swyddogol eto i ddod i law, mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod ychydig o dan 3,000 o gartrefi fforddiadwy newydd wedi’u darparu yn ystod blwyddyn ariannol 2019-2020, sy’n dod â chyfanswm nifer y cartrefi a ddarparwyd i 19,000.

Mae’r ffigurau a ryddhawyd heddiw yn ei gwneud yn glir bod Llywodraeth Cymru wedi darparu’r lefel flynyddol uchaf o gartrefi cymdeithasol ers dechrau eu cofnodi yn 2008.

Bydd y gyfres nesaf o ystadegau swyddogol, a fydd yn cadarnhau bod y targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy wedi’i gyrraedd, yn cael ei chyhoeddi yn yr hydref.

Mae’r data gweithredol yn awgrymu y byddwn wedi rhagori ar y targed hwn erbyn mis Mawrth.

Dywedodd Julie James:

Dw i ar ben fy nigon ein bod am daro ein targed ar gyfer cartrefi fforddiadwy y tymor hwn, a hynny’n hawdd. Mae’r cynnydd mewn tai fforddiadwy yn deillio’n uniongyrchol o’n buddsoddiad ym maes tai y tymor hwn, buddsoddiad na welwyd ei debyg.

Mae’r rhain yn gartrefi cynnes, ynni-effeithlon, o ansawdd uchel, sydd wedi’u codi i bara ac, yn bwysig iawn, maen nhw’n fforddiadwy i’w rhedeg.

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol i bawb, ac mae’n wych gweld ein bod, er gwaethaf y pandemig a’i effaith ar adeiladwyr tai a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, yn dal i fod wedi gallu adeiladu cartrefi fforddiadwy yr oedd eu hangen yn fawr, yn gyflym ac yn ôl y gofyn.

Mae ein data ein hunain yn dweud wrthon ni ein bod wedi taro’r targed o 20,000, ac wedi rhagori arno.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £2 biliwn ym maes tai ar draws Cymru yn ystod tymor y Senedd hon, gan gynnwys £33 miliwn yn ystod cyfnod diweddaraf y Rhaglen Tai Arloesol a mwy nag £89 miliwn yn y Grant Tai Cymdeithasol yn 2020-2021.

Bydd y cyllid yn parhau yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, a mwy na £200 miliwn wedi’i neilltuo i godi cartrefi y gall pobl fforddio eu prynu a byw ynddynt.

Ychwanegodd y Gweinidog:

Mae gofalu bod modd i bawb yng Nghymru gael cartref fforddiadwy o ansawdd uchel yn un o brif flaenoriaethau’r llywodraeth hon, ac mae’n allweddol i’n hymrwymiad i fynd i’r afael â digartrefedd a rhoi terfyn arno.

Mae tai fforddiadwy, diogel, o ansawdd yn ganolog i unrhyw gymuned – gan alluogi pobl a theuluoedd i ffynnu ym mhob rhan o’u bywydau. Wnawn ni ddim stopio ar ôl cyrraedd 20,000 ac fe fyddwn ni’n parhau i ddarparu tai i’r rheini sydd eu hangen.”

Dywedodd Joanna Davoile, cyfarwyddwr datblygu Tai Wales and West:

Mae cael cartref cyfforddus, diogel, gwirioneddol fforddiadwy yn bwysicach nag erioed. Mae Tai Wales and West wedi ymrwymo i helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei tharged o godi 20,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn diwedd tymor y Senedd hon.

Rydyn ni’n bwriadu codi 2,500 o gartrefi dros y pum mlynedd nesaf, ac mae gyda ni fwy na 900 o gartrefi newydd ar y gweill ledled Cymru eisoes. Mae’r rhain yn cynnwys cartrefi modern, ynni-effeithlon yn llawer o ardaloedd awdurdodau lleol Cymru, o Gaerdydd i Sir Gaerfyrddin, Conwy i Wrecsam, ac ar draws Ceredigion a Sir Benfro. Rydyn ni’n adeiladu cymysgedd o lety – cartrefi i deuluoedd, fflatiau, llety gofal ychwanegol a llety byw â chymorth arbenigol, yn ôl anghenion cymunedau lleol.

Bydd ein datblygiadau tai fforddiadwy yn cefnogi economi adeiladu leol Cymru ac yn creu cymunedau lle gall pobl ffynnu.”