Neidio i'r prif gynnwy

O heddiw ymlaen (dydd Iau 5 Tachwedd), bydd ap COVID-19 y GIG ar gyfer olrhain cysylltiadau yn cydweddu ag apiau tebyg yn yr Alban, Gogledd Iwerddon, Jersey a Gibraltar.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr holl apiau’n gallu rhyngweithredu â’i gilydd, sy’n golygu y bydd person sy’n defnyddio unrhyw un o’r apiau hyn yn cael gwybod ei fod wedi ‘dod i gysylltiad agos’ â rhywun sydd wedi cael prawf positif am y coronafeirws ac sy’n defnyddio unrhyw un o’r apiau canlynol: Protect Scotland, StopCovid NI, Jersey COVID alert, Beat COVID Gibraltar neu ap COVID-19 y GIG yng Nghymru a Lloegr.

Bydd y gallu newydd hwn i ryngweithredu yn amddiffyn pobl yn fwy wrth iddynt groesi ffiniau ac wrth i gyfyngiadau newid ac amrywio yng ngwahanol rannau o’r DU dros y misoedd nesaf.

Bydd cyfyngiadau’r cyfnod atal byr yng Nghymru yn dod i ben ddydd Llun 9 Tachwedd, pan fydd mesurau cenedlaethol newydd yn dod i rym i ddiogelu iechyd pobl a sicrhau bod y feirws yn achosi cyn lleied o niwed â phosibl.

Caniateir teithio y tu hwnt i Gymru am resymau hanfodol, megis ar gyfer gwaith, addysg ac ar sail dosturiol. Caiff pobl Cymru eu hannog i gydymffurfio â rheoliadau a chyfyngiadau’r wlad y maent yn ymweld â hi.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru:

Wrth i ni addasu i fyw gyda’r coronafeirws, mae’n gynyddol bwysig bod yr holl apiau olrhain cysylltiadau a ddefnyddir ar draws y DU yn gallu cyfnewid a defnyddio data mewn modd diogel pan fydd pobl yn teithio i’r gwledydd gwahanol.

Mae’r apiau hyn, a’u gallu i weithio gyda’i gilydd, yn allweddol i gefnogi ein rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu yng Nghymru, a rhaglenni cyfatebol mewn gwledydd eraill, gan helpu i reoli lledaeniad y feirws, ac yn y pen draw, helpu i achub bywydau.

Dywedodd Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU:

Mae’n bwysig ein bod yn gweithio gyda’n gilydd ar draws y DU, ac yn defnyddio pob arf sydd gennym i atal y feirws rhag lledaenu, diogelu ein holl ddinasyddion ac achub bywydau. 

Mae heddiw yn dynodi cam pwysig ymlaen yn ein hymateb i’r pandemig ar lefel y DU gyfan, gan sicrhau, waeth pa ap olrhain cysylltiadau rydych yn ei ddefnyddio ar draws y DU, Jersey neu Gibraltar, y byddwch yn cael gwybod os oes risg eich bod wedi dal y feirws. 

Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae i atal y coronafeirws rhag lledaenu, gan gynnwys ynysu pan cawn wybod y dylwn wneud hynny.

Dywedodd Jeane Freeman, Ysgrifennydd Iechyd yr Alban:

Mae’r ap Protect Scotland yn arf hollbwysig i helpu i leihau lefelau COVID-19, ac rwy’n croesawu’r ffaith ei fod bellach yn rhyngweithredu ag ap COVID-19 y GIG.

Datblygodd yr Alban ei ‘gweinydd wedi’i ffedereiddio’ ei hun sy’n galluogi’r holl apiau agosrwydd o fewn y DU, Tiriogaethau Dibynnol y Goron a Gibraltar i weithio gyda’i gilydd am y tro cyntaf. Fel rhan o hyn, mae’r ap Protect Scotland, yn yr un modd ag ap COVID-19 y GIG, bellach hefyd yn gallu rhyngweithredu â’r apiau yng Ngogledd Iwerddon, Jersey a Gibraltar.

Er mai’r cyngor yw na ddylai pobl deithio ond am resymau hanfodol ar hyn o bryd, mae’r ffaith bod yr apiau hyn bellach yn cydweddu yn golygu y bydd y rheini sy’n gorfod teithio yn parhau i gael eu hysbysu drwy’r ap Protect Scotland os ydynt wedi dod i gysylltiad agos ag achos positif o COVID-19.

Ar ôl nodi canlyniad positif i brawf, gofynnir i bobl sy’n defnyddio ap COVID-19 y GIG a ydynt yn dymuno rhannu eu ID unigryw. Os bydd defnyddiwr yn cydsynio i hynny, caiff yr wybodaeth ei rhannu ag apiau olrhain cysylltiadau eraill, yn ogystal â defnyddwyr ap COVID-19 y GIG.

Nid yw’r diweddariad hwn yn effeithio ar y lefelau uchel o breifatrwydd y mae ap COVID-19 y GIG yn ei sicrhau, a bydd yr holl ddata personol yn parhau i gael ei gadw ar ddyfais yr unigolyn yn unig.

Nid oes angen i ddefnyddwyr wneud unrhyw beth er mwyn gwneud y newid hwn, gan y bydd pob ap yn parhau i ddefnyddio data Bluetooth defnyddiwr y ffôn er mwyn darparu data ar leoliad ac agosrwydd.

Nid yw’r ap yn dal gwybodaeth bersonol megis eich enw, cyfeiriad na’ch dyddiad geni, a dim ond rhan gyntaf eich cod post sydd ei angen er mwyn sicrhau bod modd rheoli achosion lleol. Ni chaiff unrhyw ddata personol eu rhannu â llywodraethau, yr heddlu na’r GIG.

Mae’r ap ar gyfer Cymru a Lloegr wedi cael ei lawrlwytho dros 19 miliwn o weithiau, ac mae’n rhan allweddol o raglen olrhain cysylltiadau pob gwlad, gan helpu i leihau’r cyfraddau trosglwyddo ar draws y DU.