Yn y canllaw hwn
5. Esgus rhesymol
Gallwch ofyn i ni adolygu rhai cosbau neu apelio i'r tribiwnlys os credwch fod gennych esgus rhesymol. Mae hyn yn berthnasol i gosbau am fethu â:
- llenwi ffurflen dreth mewn pryd
- talu ffurflen dreth mewn pryd
- cadw a diogelu cofnodion
- cydymffurfio â, neu rwystro, Awdurdod Cyllid Cymru
Gallwch hefyd ofyn i ni adolygu cosbau cofrestru Treth Gwarediadau Tirlenwi.
Beth allai gyfrif fel esgus rhesymol
Mae esgus rhesymol yn rhywbeth a wnaeth eich atal rhag cwrdd â rhwymedigaeth treth neu gyfnod o amser y gwnaethoch gymryd gofal rhesymol i gwrdd ag ef. Er enghraifft:
- bu farw eich partner neu berthynas agos arall ychydig cyn dyddiad cau cyflwyno neu dalu’r ffurflen dreth
- roedd gennych salwch difrifol neu salwch oedd yn peryglu eich bywyd
- cawsoch arhosiad annisgwyl yn yr ysbyty a wnaeth eich atal rhag delio â'ch materion treth
- rydych chi wedi colli cofnodion trwy dân, llifogydd neu ladrad
I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallwn ei ystyried ac na fyddwn yn ei ystyried yn esgus rhesymol, gweler canllawiau technegol ynghylch esgusodion rhesymol.