Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r canllawiau hyn yn adlewyrchu’r darpariaethau yn Rhan 4 a Rhan 5 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (DTGT).

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

DTGT/3090 Cofrestru

Mae ein dull o gofrestru yn cyd-fynd yn fras â rhannau eraill o'r DU. Wrth ddrafftio'r ddeddfwriaeth, mae'r elfennau mwyaf priodol wedi'u diweddaru, eu hegluro neu eu dwyn ynghyd.

Gelwir person neu bersonau a ddisgrifir yn Neddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (DTGT) yn weithredwr safleoedd tirlenwi at ddibenion gweinyddu a chasglu treth ACC, gan gynnwys cofrestru.

DTGT/3100 Dyletswydd i gofrestru ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Rhaid i weithredwyr safleoedd tirlenwi sydd, neu sy’n bwriadu, gwneud gwarediadau trethadwy o 1 Ebrill 2018, gofrestru ar gyfer Treth Gwarediadau Tirlenwi (TGT).

Rhaid i weithredwyr safleoedd tirlenwi gyflwyno cais i ni am gael eu cofrestru o leiaf 14 diwrnod cyn i’r gweithrediadau trethadwy ddechrau.

At ddibenion cofrestru a chanslo cofrestriadau rydym yn ystyried bod gweithrediadau trethadwy a gwarediadau trethadwy yn golygu'r un peth.

Gall gweithredwr safle tirlenwi fod yn:

  • unigolyn: mae'r unig berchennog yn atebol am eu holl ymrwymiadau a rhwymedigaethau mewn perthynas â DTGT
  • partneriaeth neu gorff anghorfforedig: mae pob partner neu aelod yn atebol am holl rwymedigaethau'r bartneriaeth neu'r corff anghorfforedig mewn perthynas â DTGT (gweler DTGT/3180); a
  • corff corfforaethol: mewn rhai amgylchiadau sydd wedi’u hamlinellu isod (yn DTGT/3160), gall cwmnïau cysylltiedig wneud cais am driniaeth grŵp

Dim ond os ydym yn fodlon bod cais yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen y byddwn yn cofrestru cwmni safle tirlenwi. Ar ôl i ni adolygu cais, byddwn yn rhoi hysbysiad sy'n cynnwys ein penderfyniad i’r gweithredwr safle tirlenwi.

Os byddwn yn caniatáu cofrestru byddwn yn hysbysu'r gweithredwr safle tirlenwi o'u cofnod yn y gofrestr gyhoeddus o weithredwyr safleoedd tirlenwi, gan gynnwys darparu eu rhif cofrestru unigryw a gwybodaeth iddynt am y ffurflen dreth ar-lein.

DTGT/3110 Cofrestr o bersonau sy'n cyflawni gweithrediadau trethadwy

Er mwyn ein galluogi i weinyddu a chasglu TGT yn effeithiol, mae'n bwysig ein bod yn gwybod pwy yw'r trethdalwyr. Rhaid i ni gadw cofrestr gyhoeddus o weithredwyr safleoedd tirlenwi sy'n gweithredu safleoedd tirlenwi awdurdodedig lle gwneir gwarediadau trethadwy yng Nghymru.

Rhaid i gofnod gweithredwr safle tirlenwi yn y gofrestr gynnwys y wybodaeth a nodir yn Atodlen 2 DTGT o leiaf.

Mae'r wybodaeth yn Adran 1 o Atodlen 2 yn amlinellu'r wybodaeth gyffredinol sy'n ofynnol ar gyfer yr holl safleoedd tirlenwi sy'n cofrestru ar gyfer TGT yng Nghymru ac mae’n cynnwys:

  • enw’r gweithredwr safle tirlenwi;
  • unrhyw enw masnachu a ddefnyddir gan y gweithredwr safle tirlenwi;
  • datganiad ynghylch a yw’r gweithredwr safle tirlenwi yn:
    • gorff corfforaethol
    • unigolyn
    • partneriaeth
    • corff anghorfforedig
  • cyfeiriad busnes y gweithredwr safle tirlenwi
  • cyfeiriad neu ddisgrifiad o bob safle tirlenwi awdurdodedig y mae'r gweithredwr safle tirlenwi yn ei weithredu
  • y rhif cofrestru yr ydym wedi’i roi i’r gweithredwr safle tirlenwi

Mae adran 2 yr Atodlen yn amlinellu'r wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen os yw'r gweithredwr safle tirlenwi yn cofrestru fel grŵp corfforaethol ac mae’n cynnwys:

  • datganiad gan y gweithredwr safle tirlenwi yn nodi mai nhw yw’r aelod sy’n cynrychioli’r grŵp
  • enw a chyfeiriad pob aelod arall o'r grŵp
  • cyfeiriad neu ddisgrifiad o bob safle tirlenwi awdurdodedig y mae unrhyw aelod o'r grŵp yn ei weithredu
  • enw a chyfeiriad busnes unrhyw gorff corfforaethol neu unigolyn nad yw'n aelod o'r grŵp ond sydd (naill ai ar ei ben ei hun neu mewn partneriaeth) yn rheoli ei holl aelodau

Mae adran 3 yn amlinellu'r wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen ar gyfer partneriaethau a chyrff anghorfforedig gan gynnwys enw a chyfeiriad pob un o aelodau’r bartneriaeth neu'r corff anghorfforedig sy'n rhaid eu cynnwys yn y gofrestr gyhoeddus.

Mae adran 4 yr Atodlen yn diffinio ymhellach yr hyn y mae’r cyfeiriad yn ei olygu mewn perthynas â phartneriaethau a chyrff anghorfforedig ac yn nodi mai cyfeiriad y swyddfa gofrestredig neu'r brif swyddfa ddylai hwn fod.

Gallwn ofyn am wybodaeth ychwanegol gan weithredwr safle tirlenwi at ddibenion cofrestru.

DTGT/3120 Newidiadau a chywiro gwybodaeth

Mae'n bwysig bod y gofrestr gyhoeddus o weithredwyr safleoedd tirlenwi yn parhau’n gywir ac yn adlewyrchu'r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael ynghylch safleoedd tirlenwi awdurdodedig.

Rhaid i weithredwr safle tirlenwi cofrestredig roi gwybod i ni (yn ysgrifenedig neu drwy e-bost) am unrhyw newidiadau neu gywiriadau i’r wybodaeth sydd wedi’i chyhoeddi ar y gofrestr gyhoeddus a’r wybodaeth sydd gennym yn ein cofnodion. Er enghraifft, lle mae gweithredwr safle tirlenwi’n gweithredu mwy nag un safle tirlenwi ac wedi rhoi'r gorau i wneud gwarediadau trethadwy yn barhaol ar un safle yn unig, rhaid iddynt roi gwybod i ni fel y gallwn ddiwygio'r gofrestr gyhoeddus a'n cofnodion. Dylai gweithredwr safle tirlenwi roi gwybod i ni am unrhyw newid neu gywiriad o fewn 30 diwrnod iddo ddigwydd, neu gallent wynebu cosb o hyd at £300.

Lle byddwn yn dod yn ymwybodol o anghywirdeb yn y wybodaeth ar y gofrestr gyhoeddus neu yn ein cofnodion ni, gallwn gywiro hyn ein hunain a byddwn yn rhoi gwybod i’r gweithredwr safle tirlenwi am y cywiriad yr ydym wedi'i wneud. Os yw gweithredwr wedi rhoi'r gorau i wneud gwarediadau trethadwy yn ei holl safleoedd tirlenwi ac yn dymuno canslo eu cofrestriad dylent wneud cais am ganslo cofrestriad (DTGT/3130).

DTGT/3130 Canslo cofrestriad

Rhaid i weithredwr safle tirlenwi sy'n rhoi'r gorau i wneud gwarediadau trethadwy wneud cais ysgrifenedig neu drwy e-bost i ganslo eu cofrestriad dim mwy na 30 diwrnod ar ôl i’r gwarediadau trethadwy ddod i ben yn barhaol. Mae'r cyfnod o 30 diwrnod yn cael ei gyfrifo o ba bynnag un o'r canlynol sy'n ddiweddarach:

  • pan fo'r gweithredwr safle tirlenwi wedi gwneud cais i amrywio eu trwydded gwaredu amgylcheddol yn drwydded adfer, neu
  • pan fyddant yn cymryd eu gwarediad trethadwy olaf, gan gynnwys deunydd ar gyfer adfer y safle

Gallwn gytuno ar ddyddiad i ymestyn y dyddiad cau pan fydd angen i weithredwr safle tirlenwi wneud cais am ganslo cofrestriad. Dylai cais am estyniad gael ei wneud yn ysgrifenedig neu drwy e-bost.

Os yw gweithredwr safle tirlenwi am ganslo eu cofrestriad, dylent gysylltu â'u Rheolwr Cysylltiadau Cwsmeriaid drwy e-bost posttgt@acc.llyw.cymru. Fe fyddan nhw'n eu cynghori ar y broses.

Wrth wneud cais am ganslo cofrestriad, dylai gweithredwr safle tirlenwi gyflwyno'r wybodaeth ganlynol:

  1. Eu henw a'u cyfeiriad.
  2. Enw a chyfeiriad y safleoedd tirlenwi y mae’r gweithredwr yn eu cau yn barhaol.
  3. Rhif cofrestriad tŷ’r cwmnïau y gweithredwr safle tirleniwi. 
  4. Rhif cofrestru ACC y gweithredwr safle tirlenwi.
  5. Rhifau trwyddedau amgylcheddol y gweithredwr safle tirlenwi.
  6. Cadarnhad bod y gweithredwr wedi rhoi’r gorau i gymryd gwarediadau trethadwy, gan gynnwys unrhyw ddeunydd adfer safle (DTGT/4000) a'r dyddiad y digwyddodd y gwarediad trethadwy olaf.
  7. Unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth sy'n ymwneud â'u cais i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) am amrywio eu trwydded gwarediadau amgylcheddol i drwydded adfer, gan gynnwys adroddiad arolygiad terfynol CNC ac unrhyw wybodaeth am statws presennol y cais.

Dim ond ar ôl i'r holl warediadau trethadwy ddod i ben, gan gynnwys gwaredu deunydd adfer safle ac mae’r holl dreth sy’n daladwy wedi ei thalu y byddwn yn canslo cofrestriad. Wrth ddefnyddio’r gair treth, nid ydym yn golygu unrhyw gosbau na llog.

Efallai y byddwn yn gwneud ymholiadau i wirio nad oes angen unrhyw warediadau pellach yn benodol ar gyfer adfer y safle ac nad oes mwy o dreth yn daladwy. Tra’n bod yn cyflawni'r rhain, byddwn yn oedi’r cais am ganslo’r cofrestriad.

Efallai y byddwn yn canslo cofrestriad gweithredwr safle tirlenwi ein hunain os ydym yn fodlon nad ydynt wedi cyflawni gwarediadau trethadwy ac nad ydynt yn bwriadu gwneud hynny.

Pan fyddwn yn penderfynu bod y gofynion ar gyfer canslo cofrestriad wedi'u cwrdd, byddwn yn rhoi hysbysiad yn cadarnhau canslo ac yn dileu'r gweithredwr safle tirlenwi oddi ar y gofrestr gyhoeddus.

DTGT/3140 Cosbau'n ymwneud â chofrestru

Mae'n bosib y byddwn yn rhoi cosb o hyd at £300 os yw gweithredwr safle tirlenwi'n gwneud gwarediadau trethadwy heb iddynt fod wedi eu cofrestru.

Os yw gweithredwr safle tirlenwi yn parhau i wneud gwarediadau trethadwy, heb gael eu cofrestru ar ôl 10 diwrnod (gan ddechrau gyda'r diwrnod y byddwn yn rhoi hysbysiad cosb gofrestru iddo), bydd y gweithredwr safle tirlenwi yn agored i gosb neu gosbau pellach nad yw'n fwy na £60 am bob diwrnod y maent yn parhau i wneud hynny.

Pe bai gweithredwr safle tirlenwi yn gwneud gwarediadau trethadwy heb gofrestru gyda ni a ffeilio ffurflenni TGT, gallant hefyd fod yn agored i gosb neu gosbau am beidio â gwneud ffurflen dreth a thalu treth.

Os bydd y gweithredwr safle tirlenwi sy'n gwneud gwarediadau trethadwy heb fod wedi'u cofrestru yn galllu darparu esgus rhesymol am dorri’r rheolau a’n bod ni neu dribiwnlys treth (o ganlyniad i apêl) yn fodlon ar hynny, yna ni fydd gweithredwr safle tirlenwi yn agored i gosb.

Mae'n bosib y byddwn yn rhoi cosb o hyd at £300 os yw gweithredwr safle tirlenwi'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un neu unrhyw rai o'r gofynion cofrestru a nodir uchod. Mae hyn yn cynnwys:

Wrth ystyried cosb sy’n ymwneud â chanslo cofrestriad, byddwn yn edrych ar lefel yr ymgysylltu yr ydym wedi'i gael gan weithredwr safle tirlenwi drwy gydol y broses. Rydym ni'n defnyddio'r egwyddorion 'dweud, helpu a rhoi mynediad' wrth benderfynu os a faint y byddwn ni'n lleihau cosb. Po fwyaf rydych chi'n ei ddweud wrthym, yn ein helpu ni, ac yn ei roi i ni, y mwyaf y mae’r gostyngiad mewn unrhyw gosb yn debygol o fod.

Pan fyddwn yn asesu cosb mewn perthynas â chofrestru gan gynnwys canslo, byddwn yn rhoi hysbysiad i’r gweithredwr safle tirlenwi sy'n nodi ein rhesymau dros ein penderfyniad.

DTGT/3150 Dynodi grwpiau corfforaethol

Fel rhan o'r broses gofrestru, gall cwmnïau (neu gyrff corfforaethol) wneud cais am gofrestru fel grŵp. Mae cofrestru fel grŵp yn caniatáu i gwmnïau unigol gyfrif am TGT fel rhan o grŵp, trwy un aelod cynrychiadol.

Yr hyn mae aelodaeth grŵp yn ei olygu yw y bydd yr aelod cynrychiadol grŵp yn cael ei drin at ddibenion TGT, fel gweithredwr safle tirlenwi pob safle tirlenwi awdurdodedig sy'n cael ei weithredu gan aelodau'r grŵp.

Mae’r broses a'r gofynion er mwyn i grŵp wneud cais am gofrestru (DTGT/3090) yr un fath â'r rhai ar gyfer unrhyw weithredwr safle tirlenwi arall. Ond yn ogystal mae'n rhaid iddynt enwebu un o aelodau'r grŵp i weithredu fel 'aelod cynrychiadol'. Rhaid gwneud cais am gofrestru yn ysgrifenedig neu drwy e-bost.

Rhaid i bob un o'r cwmnïau yn y darpar grŵp fod yn ymwybodol o'r cais ond gall unrhyw un o'r cwmnïau hynny (neu'r person sy'n eu rheoli) wneud y cais.

Os caiff y cais ei dderbyn gennym, bydd y cwmnïau’n cael eu trin fel grŵp o ddechrau cyfnod cyfrifyddu a bydd y cwmni a enwir yn y cais fel yr aelod cynrychiadol wedi hynny yn cael ei drin fel yr aelod cynrychioliadol, yn yr achos hwn, y gweithredwr safle tirlenwi.

Ar ôl i’r cais gael ei dderbyn:

  • mae unrhyw atebolrwydd aelod o'r grŵp am dalu treth, llog neu gosbau’n cael ei ystyried yn atebolrwydd yr aelod cynrychiadol
  • cymerir y bydd yr aelod cynrychiadol yn cyflawni unrhyw weithgareddau trethadwy y byddai aelod o'r grŵp yn eu cynnal. Rhaid cyfri am bob gwarediad trethadwy sy'n cael ei wneud rhwng aelodau'r grŵp a rhaid talu unrhyw dreth, ac
  • yna bydd holl aelodau'r grŵp yn atebol ar y cyd ac yn unigol am unrhyw dreth, llog neu gosbau sy'n ddyledus gan yr aelod cynrychiadol, ond sy'n parhau i fod heb eu talu ar ôl y dyddiad perthnasol

Mae gennym yr hawl i wrthod cais grŵp, ond os byddwn yn gwneud hynny, rhaid i ni gyhoeddi hysbysiad o'n penderfyniad i'r corff neu i'r cyrff a wnaeth y cais.

DTGT/3160 Amrywio a chanslo dynodiad grwpiau corfforaethol

Unwaith y bydd grŵp wedi'i gofrestru, gellir gwneud newidiadau i naill ai aelodaeth y grŵp (ychwanegu neu dynnu aelod) neu newid yr aelod cynrychiadol.

Os fyddwn yn cytuno i ddiwygio dynodiad grŵp, byddwn yn rhoi hysbysiad i holl aelodau'r grŵp yn nodi, manylion yr amrywiad a phryd bydd yn dod i rym. Byddwn hefyd yn diweddaru unrhyw wybodaeth berthnasol am y gofrestr gyhoeddus o weithredwyr safleoedd tirlenwi.

I ganslo cofrestriad grŵp, mae gennym y pŵer i ganslo cofrestriad ein hunain neu ar gais y grŵp. Mae’r broses a'r gofynion i grŵp ddiddymu eu cofrestriad (DTGT/3130) yr un fath â'r rhai ar gyfer unrhyw weithredwr safle tirlenwi arall. Fodd bynnag, ar gyfer grŵp, yn ychwanegol at yr wybodaeth ofynnol a nodir uchod, dylent roi cadarnhad ysgrifenedig i ni o gais i ganslo cofrestriad gan bob aelod o'r grŵp.

Os yw grŵp yn dymuno amrywio eu dynodiad neu ganslo eu cofrestriad, dylent gysylltu â'u Rheolwr Cysylltiadau Cwsmeriaid drwy e-bost posttgt@acc.llyw.cymru. Fe fyddan nhw'n eu cynghori ar y broses.

Dim ond ar ôl i'r holl warediadau trethadwy ddod i ben, gan gynnwys gwaredu deunydd adfer safle ac mae’r holl dreth sy’n daladwy wedi ei thalu y byddwn yn canslo cofrestriad. Wrth ddefnyddio’r gair treth, nid ydym yn golygu unrhyw gosbau na llog.

Pan fyddwn yn penderfynu bod y gofynion ar gyfer canslo cofrestriad wedi'u caniatáu, byddwn yn rhoi hysbysiad i aelod cynrychiadol y grŵp, yn cadarnhau’r canslo ac yn dileu'r grŵp o'r gofrestr gyhoeddus.

DTGT/3170 Adolygiadau ac apeliadau mewn perthynas â chofrestru a dynodi grwpiau corfforaethol

Gall ein holl benderfyniadau sy'n ymwneud â chofrestru a chanslo cofrestriad gweithredwyr safleoedd tirlenwi gael eu hadolygu neu eu hapelio os ydych yn anghytuno.

DTGT/3180 Cofrestru partneriaethau a chyrff anghorfforedig a newidiadau mewn aelodaeth

Fel rhan o'r broses gofrestru, gall 2 neu fwy o bobl sy'n cynnal busnes tirlenwi mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig wneud cais am gofrestru fel partneriaeth. Gallant gofrestru yn:

  • eu henwau eu hunain, neu
  • enw'r bartneriaeth neu'r corff

Os caiff y cofrestriad ei gwblhau yn enw'r bartneriaeth neu'r corff a bod yr aelodaeth yn newid, er mwyn i'r cofrestriad barhau i fod yn ddilys rhaid bod o leiaf un o'r aelodau yn aelod o'r bartneriaeth neu'r corff cyn y newid.

Rhaid rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i aelodaeth partneriaeth neu gorff anghorfforedig a bydd y person hwnnw'n cael ei drin fel un sy'n parhau i fod yn aelod o bartneriaeth neu gorff nes ein bod yn cael gwybod fel arall.

DTGT/3190 Dyletswyddau a rhwymedigaethau partneriaethau a chyrff anghorfforedig

Fel aelod o bartneriaeth neu gorff anghorfforedig, pan fo unrhyw beth yn ofynnol neu pan ganiateir gwneud unrhyw beth gan bersonau neu mewn perthynas â phersonau sydd mewn partneriaeth neu gorff anghorfforedig o dan DTGT neu Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 rhaid iddo gael ei wneud gan bob person neu mewn perthynas â phob person sy’n bartner ar yr adeg y’i gwneir neu y mae’n ofynnol ei wneud. Ond caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu y caniateir ei wneud gan bob partner gael ei wneud yn lle hynny gan unrhyw un neu ragor ohonynt.

Mae unrhyw rwymedigaeth i dalu treth, llog neu gosbau yn rhwymedigaeth unigol ac ar y cyd i bob aelod o'r bartneriaeth neu'r corff anghorfforedig ar y pryd mae'n ddyledus. Pan fo person sy'n rhedeg busnes tirlenwi mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig yn aelod o’r corff am ran o gyfnod cyfrifyddu yn unig, rhaid cyfrifo rhwymedigaeth bersonol yr unigolyn hwnnw am y dreth sydd i’w chodi ar sail cyfran deg a rhesymol.

Pan fo’n ofynnol i gorff anghorfforedig (ac eithrio partneriaeth) wneud unrhyw beth mewn perthynas â TGT, mae'n rhwymedigaeth unigol ac ar y cyd unrhyw un o'r personau canlynol i gydymffurfio â'r gofyniad:

  • pob aelod sy'n dal swydd llywydd, cadeirydd, trysorydd, ysgrifennydd neu unrhyw swydd debyg
  • os nad oes swydd o'r fath: pob aelod sy'n dal swydd aelod o bwyllgor sy’n rheoli materion y corff, neu
  • os nad oes swydd neu bwyllgor o'r fath: pob aelod

DTGT/3200 Marwolaeth, analluedd neu ansolfedd gweithredwr safle tirlenwi

Gall trydydd parti fynd ati i redeg safle tirlenwi pan fo un o'r canlynol yn digwydd i berson sy'n rhedeg busnes tirlenwi, os ydynt:

  • yn marw
  • yn dod yn analluog
  • yn dod yn destun gweithdrefnau ansolfedd, fel diddymiad, methdaliad a mynd i ddwylo’r gweinyddwr

Rhaid i drydydd parti ein hysbysu o ddyddiad y newid mewn amgylchiadau a'r rhesymau dros y newid o fewn 30 diwrnod i fynd ati i redeg y busnes tirlenwi

DTGT/3210 Addasu contractau

Os bydd newid yn y gyfradd dreth sy’n berthnasol i warediad trethadwy mewn safle tirlenwi awdurdodedig, bydd contract sy'n berthnasol i’r gwarediad hwnnw sy’n cyfeirio at y gyfradd dreth flaenorol, yn cael ei addasu’n awtomatig fel y deallir ei fod yn cyfeirio at y gyfradd dreth newydd. Gellir osgoi’r addasiad awtomatig hwn drwy gytundeb penodol rhwng y partïon i'r diben hwnnw.