Neidio i'r prif gynnwy

Data ar nwyddau a allforiwyd i gyrchfannau y tu allan i'r DU ar gyfer Gorffennaf 2019 i Fehefin 2020.

Mae'r data dros dro yn yr adroddiad hwn ar gyfer Ebrill i Fehefin 2020. Mae'r data ar gyfer y cyfnod hwn yn dangos gostyngiadau sylweddol yng ngwerth allforion nwyddau i Gymru. Mae CThEM wedi adrodd bod masnach yn y misoedd diwethaf wedi gweld gwerthoedd annormal o isel o ganlyniad i'r pandemig coronafeirws (COVID-19).

Mae'r data'n cwmpasu allforio nwyddau ac yn cynnwys gwybodaeth yn ôl cyrchfan a sector y cynnyrch.

Prif bwyntiau

Ebrill i Fehefin 2020 (dros dro)

Gall newidiadau tymor byr a chwarterol fod yn gyfnewidiol, ond fe’u cyflwynir yma oherwydd arwyddocâd y gostyngiadau a welwyd ledled y DU rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2020 o gymharu â dechrau'r flwyddyn.

  • Rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2020, roedd gwerth allforion nwyddau yng Nghymru ar ei isaf ers cyhoeddi data cymaradwy am y tro cyntaf yn 2013 ar £2.7 biliwn. Mae hyn yn ostyngiad o 34.8% o'i gymharu â'r chwarter blaenorol, y gostyngiad chwarterol mwyaf o bell ffordd ers i gofnodion ddechrau. Dros yr un cyfnod, y gostyngiad ledled y DU oedd 26.1%.
  • O'i gymharu â'r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol (Ebrill i Fehefin 2019), y gostyngiad yng Nghymru oedd 39.2% a 30.7% ledled y DU.
  • Y gostyngiad yng Nghymru o'i gymharu â'r chwarter blaenorol oedd y mwyaf allan o'r pedair gwlad. Gwelodd yr Alban y gostyngiad lleiaf, er ei fod yn dal yn sylweddol, ar 21.2%.
  • Wrth gymharu Cymru â rhanbarthau Lloegr, dim ond 2 ranbarth a gafodd ostyngiadau mwy; y Gogledd Ddwyrain (39.4%) a Gorllewin Canolbarth Lloegr (47.2%).

Gorffennaf 2019 i Fehefin 2020 (dros dro)

  • Gwerth allforion nwyddau Cymreig oedd £15.5 biliwn yn y flwyddyn yn gorffen Mehefin 2020, i lawr £2.2 biliwn (12.5%) o'i gymharu â'r flwyddyn yn gorffen Mehefin 2019.
  • Am y tro cyntaf ers i gofnodion ddechrau yn 2013, gostyngodd gwerth allforion nwyddau ym mhob un o 12 gwlad y DU a rhanbarthau Lloegr o'i gymharu â'r flwyddyn yn gorffen Mehefin 2019. Llundain welodd y gostyngiad lleiaf (i lawr 2.6%), tra mai Gorllewin Canolbarth Lloegr welodd y gostyngiad mwyaf (i lawr 14.4%). Gwelodd Cymru y trydydd gostyngiad mwyaf.
  • Y gostyngiad yng Nghymru yw’r mwyaf ers canol 2015, a’r gostyngiad uchaf yn y DU ers i gofnodion tebyg ddechrau.
  • Gwelwyd gostyngiad o £1.6 biliwn (14.8%) yn yr allforion i wledydd yr Undeb Ewropeaidd (UE) a gostyngiad o £0.6 biliwn (9.1%) i wledydd y tu allan i’r UE, o'i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Roedd allforion i wledydd yr UE yn cynrychioli 59.2% o allforion Cymreig o’i gymharu â 47.4% ar gyfer y DU.
  • Hwn yw’r gostyngiad mwyaf mewn allforion i wledydd yr UE ers canol 2015 a’r gostyngiad mwyaf mewn allforion i wledydd y tu allan i’r UE ers diwedd 2015. Dyma’r tro cyntaf i allforion i wledydd tu allan i’r UE ostwng ers 2016 a’r ail waith (y cyntaf oedd y flwyddyn yn gorffen Mawrth 2020) i allforion i’r UE ostwng ers 2015.
  • Mae Ffrainc yn parhau fel y gyrchfan allforio uchaf (disodlodd yr Almaen yn y cyfnod yn gorffen Mawrth 2020). Roedd allforion nwyddau i Ffrainc yn cyfrif am 15.3% o allforion. Mae’r gyfran hon i lawr o’r 15.6% o allforion yn y flwyddyn flaenorol.
  • Parhaodd allforion Cymreig i gael eu dominyddu gan ‘Beiriannau a Chyfarpar Trafnidiaeth’ sy’n cyfrif am 48.1% o allforion.
  • Gwelodd 8 o’r 10 grwp cynnyrch ostyngiadau yng ngwerth allforion o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Cafwyd yr unig gynnydd yn y grwp ‘Bwyd ac Anifeiliaid Byw” (i fyny 1.6%) a ‘Cemegau a Chynhyrchion Cysylltiedig” (i fyny 0.6%).

Gwybodaeth bellach

Mae'r ffigurau yn amcangyfrifon sydd wedi'u modelu ac a gynhyrchwyd gan Adran Gyllid a Thollau EM. Maent yn ymwneud â nwyddau a allforir i gyrchfannau y tu allan i'r DU. Dyrennir allforion nwyddau i wledydd a rhanbarthau'r DU yn seiliedig ar gyfran y cyflogeion yn yr ardal honno. Nid yw'r ffigurau'n cynnwys allforion gwasanaeth.

Mae’r ystadegau arbrofol a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod allforion gwasanaethau yn cynrychioli tua 30% o'r cyfanswm allforion yng Nghymru.

Cyhoeddir y canlyniadau allweddol a chiwbiau data StatsCymru yn chwarterol a chyhoedddir adroddiad bob 12 mis.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.