Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, gwnaeth y llong fordeithio fwyaf erioed fwrw angor yn harbwr Abergwaun.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r AIDAVita, sef llong fordeithio o'r Almaen, yn 202 o fetrau o hyd, yn pwyso 42,290 o dunelli ac yn cario 1,260 o deithwyr. Bu modd i'r llong ddocio yn Abergwaun yn dilyn gwelliannau i'r seilwaith a ariannwyd drwy Gynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth Llywodraeth Cymru. 

Cafodd y prosiect £147,598 i adeiladu pontŵn er mwyn galluogi teithwyr i fyrddio a dod oddi ar longau mordeithio pan fyddant wedi angori ym Mhorthladd Abergwaun. 

Mae'r farchnad ar gyfer llongau mordeithio yn fusnes mawr i Gymru – ac mae Cruise Wales a phartneriaid yn gweithio i dyfu'r farchnad. Mae nifer cynyddol o ymwelwyr o'r Almaen yn dod i dde-orllewin Cymru wrth i longau mordeithio ddocio ym Mhorthladd Aberdaugleddau, Penfro ac Abergwaun. 

Bydd 59 o longau yn docio yng Nghymru eleni, sy'n gynnydd o 20% ar y llynedd. Mae'r diwydiant llongau mordeithio werth £2.9 miliwn i economi Cymru. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates: 

"Mae'r farchnad llongau mordeithio wedi'i hamlygu yn y strategaeth dwristiaeth i Gymru fel un o'r ffyrdd o ddatblygu'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru o 10% erbyn 2020. Mae marchnad dramor yr Almaen hefyd wedi'i hamlygu fel un o'n marchnadoedd tramor allweddol. Rwy'n falch iawn bod Abergwaun bellach yn gallu croesawu llongau mwy ac rwy'n gobeithio gweld twf pellach yn nifer y llongau sy'n dod i Gymru i fwynhau'r hyn sydd gan y wlad i'w chynnig." 

Dywedodd Rheolwr Porthladd Stena Line Harbwr Aberdaugleddau, Carl Milne: 

"Mae Stena Line yn falch iawn o fod yn rhan o groesawu AIDAVita, sef y llong fordeithio o'r Almaen, i Abergwaun ddydd Gwener. 

Yn amlwg, bydd y gwelliannau i seilwaith y Porthladd yn helpu i dyfu'r farchnad llongau mordeithio yn sylweddol yn ardal brydferth de-orllewin Cymru. 

Bydd y teithwyr hyn o'r llongau mordeithio yn helpu i roi hwb i'n heconomi leol, sy'n newyddion i'w groesawu'n fawr. Mae Stena Line yn edrych ymlaen at groesawu teithwyr AIDAVita i'n Porthladd a'r cyffiniau." 

Cyrhaeddodd yr AIDAVita Abergwaun am 8.00am i groeso yn y porthladd a oedd yn cynnwys cyfarchiad gan bwysigion lleol; adloniant cerddorol – gan gynnwys côr meibion ar gyfer y gwesteion wrth iddynt adael ar eu gwibdeithiau a chyrraedd yn ôl; pabell fawr gyda stondinau o grefftau lleol ac arddangosfeydd a gwasanaeth bws wennol rheolaidd am ddim i gludo'r teithwyr ar deithiau o'r gymuned leol drwy gydol y dydd. 

Mae gwibdeithiau'r llongau mordeithio yn cynnwys ymweld ag Ynys Bŷr, Gwarchodfa Natur Skomer, Tyddewi a Phenfro, Castell Caeriw a Dinbych-y-pysgod. 

Mae Croeso Cymru hefyd wedi gweithio gyda darparwyr hyfforddiant a chwmnïau llongau mordeithio o'r Almaen ar y cynllun llysgenhadon Almaeneg lle mae tywyswyr o ogledd a de-orllewin Cymru sy'n siarad Almaeneg yn cael eu hyfforddi i groesawu ymwelwyr o'r Almaen. Mae'r cynllun hwn eisoes wedi cynhyrchu gwerth £1 miliwn o fusnes llongau mordeithio ychwanegol i Gymru, gan fod cwmnïau'r llongau hyn yn gwerthfawrogi'r ymdrechion i gyfoethogi profiad eu teithwyr o Gymru.