Neidio i'r prif gynnwy

Mae cylch newydd gwerth £3.5m o Gronfa’r Economi Gylchol er mwyn cefnogi cyrff cyhoeddus i ymateb ar ôl COVID a chefnogi adferiad gwyrdd yng Nghymru yn agor heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn dau gylch blaenorol llwyddiannus, bydd yr arian ychwanegol yn helpu cyrff a ariennir yn gyhoeddus i gyflawni prosiectau cyfalaf er mwyn cefnogi adferiad gwyrdd ac yn helpu Cymru i ddatblygu’n economi gylchol- drwy sicrhau bod deunyddiau yn cael eu defnyddio cyhyd â phosibl ac osgoi gwastraff.

Mae Cymru eisoes ar flaen y gad o ran ailgylchu ac mae gan economi gylchol rôl allweddol o ran sicrhau bod Cymru'n wlad ddiwastraff a di-garbon.

Bydd y cylch ariannu diweddaraf gwerth £3.5m yn derbyn ceisiadau hyd 1 Rhagfyr.

Daw hyn ochr yn ochr â chylch gyntaf y gronfa £13m i gefnogi gweithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio yng nghanol ein trefi.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

Rydym yn hynod falch o'n llwyddiant wrth ailgylchu yng Nghymru ac yn uchelgeisiol o ran yr awydd i adeiladu ar y llwyddiant hwn. Mae'r cyllid hwn yn bwysig o ran lleihau gwastraff ac allyriadau wrth i ni ddatblygu’n Economi Gylchol, Carbon Isel.

Mae pandemig COVID-19 wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cynyddol ailgylchu i'n heconomi a rôl yr economi gylchol fel agwedd allweddol ar adferiad gwyrdd. Trwy leihau cadwyni cyflenwi, gallwn hybu cydnerthedd economaidd, a thrwy sicrhau bod adnoddau'n parhau i gael eu defnyddio, gallwn fanteisio ar gyfleoedd economaidd newydd. Bydd hyn yn sbarduno manteision economaidd a hefyd yn creu manteision i'n hamgylchedd a'n cymunedau.

Bydd y cyllid ychwanegol hwn sydd werth £3.5m, y mae modd ymgeisio amdano o heddiw ymlaen, yn helpu i gefnogi cyrff a ariennir yn gyhoeddus i roi'r adferiad gwyrdd ar waith. Heb unrhyw amheuaeth mae lansio’r cylch hwn o gyllid, ochr yn ochr â lansio’r cyllid ar gyfer atgyweirio ac ailddefnyddio yng nghanol ein trefi a’n cymunedau, yn tystio i bwysigrwydd y gwaith hwn o ran ein hymrwymiad i ddatgarboneidido a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.