Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogaeth ac adnoddau i ddinasyddion Prydeinig a rhai nad ydynt yn Brydeinig sydd wedi eu heffeithio gan y sefyllfa yn Affganistan o fis Awst 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cymru yn genedl lloches ac mae'n rhaid i ni wneud y cwbl allwn ni i sicrhau bod cyfieithwyr, ffoaduriaid a'u teuluoedd yn gallu bod yn ddiogel a chael croeso yma.

Mae nifer o'r rheiny sy'n ffoi Affganistan sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog mewn nifer o ffyrdd ac wedi gweithio i'n cadw ni'n ddiogel, mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud y cwbl allwn ni i'w diogelu nawr.

Llinellau cymorth a chefnogaeth

Mae Llywodraeth y DU wedi creu llinellau cymorth ar gyfer dinasyddion Prydeinig a rhai nad ydynt yn Brydeinig (ar GOV.UK) sydd angen cymorth.

Gall y sefyllfa yn Affganistan fod yn drawmatig i gyn-filwyr, ffoaduriaid ac Affganiaid sy'n byw yng Nghymru. Mae Llinell gymorth Iechyd Meddwl CALL (Llinell Gyngor a Gwrando'r Gymuned) ar gael 24 awr y dydd i wrando a rhoi cefnogaeth. Ffoniwch 0800 132 737 neu decstiwch 'Help' i 81066.

Cynlluniau adleoli ac adsefydlu

Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi cynnig eiddo, ac yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod Cymru yn chwarae ei rhan yn y cynlluniau presennol: Polisi Adleoli a Chynorthwyo Affganiaid a Chynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan.

Bwriad cynllun Polisi Adleoli a Chynorthwyo Affganiaid yw adsefydlu cyfieithwyr o Affganistan (a'u teuluoedd) ac eraill sydd 2wedi cefnogi'r genhadaeth Brydeinig yn Affganistan. Mae'r cynllun hwn ar waith ac mae Cymru eisoes wedi adsefydlu dwsinau o unigolion gyda mwy o ddilyn. Mae mwy o wybodaeth ar daflen ffeithiau cynllun Polisi Adleoli a Chynorthwyo Affganiaid (blog.gov.uk).

Bydd Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan yn cefnogi ffoaduriaid i adsefydlu yn y DU. Nid yw'r cynllun wedi dechrau eto. Rydym yn aros am fwy o fanylion ynghylch sut bydd y cynllun yn gweithredu. Mae mwy o wybodaeth ar daflen ffeithiau llwybrau adsefydlu ar gyfer dinasyddion Affganistan (blog.gov.uk).

Sut allwch chi helpu

Mae Cymru wedi cael llawer o gefnogaeth gan ein cymunedau, awdurdodau lleol a sefydliadau sy'n cefnogi. Rydym wedi derbyn nifer o gynigion o roddion a gwirfoddoli, ac rydym yn chwilio am ffyrdd o wneud y gorau o'r cynigion hael hyn o bob cwr o'r wlad. Ein ffocws ar hyn o bryd yw nodi eiddo 3 ystafell wely (neu fwy) y gellid eu defnyddio i'w rhentu ar gyfer y naill gynllun neu'r llall.

Os oes gyda chi eiddo y gellid ei ystyried, cysylltwch â'r awdurdod lleol perthnasol neu e-bostiwch ffoaduriaid@llyw.cymru.

Diweddariadau

Cadwch lygad ar y dudalen hon gan y bydd yn cael ei diweddaru pan fydd mwy o fanylion.