Adroddiad y Tasglu Chwalu Rhwystrau
Adroddiad gan y Tasglu Chwalu Rhwystrau sy’n cyflwyno argymhellion ynghylch rhwystrau ac atebion o ran cyflwyno seilwaith digidol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Cyhoeddodd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru adroddiad ar seilwaith digidol yng Nghymru ar seilwaith digidol yng Nghymru ym mis Rhagfyr 2020. Gwnaeth yr adroddiad sawl argymhelliad i gefnogi gwella darpariaeth band eang a symudol a mynediad at seilwaith digidol. Un o’r prif argymhellion oedd bod Llywodraeth Cymru yn sefydlu tasglu chwalu rhwystrau dan arweiniad uwch swyddog.
Roedd Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr ystod o broblemau a rhwystrau posibl i gyflwyno seilwaith digidol, a sefydlodd dasglu a oedd yn cynnwys trawstoriad o’r diwydiant telathrebu, y llywodraeth, a chynrychiolwyr o’r sector cyhoeddus ehangach.
Mae’r tasglu’n canolbwyntio ar rwystrau a phroblemau posibl neu hysbys yn y prif bwyntiau cyswllt rhwng diwydiant a gwasanaethau cyhoeddus, megis gwaith stryd, mynediad at asedau cyhoeddus, cynllunio, rheoleiddio, a chyfathrebu.
Nod y tasglu yw datrys neu leihau rhwystrau o’r fath er mwyn creu’r amgylchedd iawn i ddarparu seilwaith digidol yn gyflym er mwyn darparu cysylltedd ffonau symudol a band eang sefydlog i gartrefi a busnesau. Mae’r tasglu’n cydweithio ar draws y sector cyhoeddus, y diwydiant telathrebu, a’r rheoleiddiwr telathrebu i wneud y canlynol:
- archwilio’r rhwystrau i gyflwyno seilwaith digidol yng Nghymru i ddeall eu hachosion a’u heffeithiau.
- nodi ffyrdd o fynd i’r afael â’r rhwystrau hynny.
- rhoi cyngor ar ymyriadau posibl i ddatrys neu leihau’r rhwystrau hynny.
- dod â gwybodaeth a phrofiad i helpu i ganfod arferion gorau ac ehangu “sut mae da yn edrych”; a,
- lle bo’n bosibl, helpu i gefnogi a hyrwyddo arloesedd ac atebion arloesol i gefnogi’r gwaith hwn.
Mae’r adroddiad hwn yn ymateb i’r ddau nod cyntaf, gyda’r tri olaf i gael sylw wrth i atebion gael eu mireinio a’u datblygu ymhellach.
Aelodaeth
Mae’r aelodau’n cynnwys cynrychiolwyr o’r canlynol:
- Llywodraeth Cymru
- Awdurdodau Lleol
- Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
- Bargeinion Dinesig a Bargeinion Twf
- Asiantau Cefnffyrdd Cymru
- CLlLC
- Openreach
- Mobile UK
- Virgin Media
- DMSL
- Cornerstone
- MBNL
- Ogi
- Voneus
- Ofcom
Gweithgorau
Sefydlwyd pum gweithgor i ystyried rhwystrau cyflwyno ac atebion i fynd i’r afael â’r rheini, gan gyfarfod yn rheolaidd dros gyfnod y tasglu:
- Rheoleiddio
- Cyfathrebu
- Gwaith stryd
- Asedau cyhoeddus
- Cynllunio
Grŵp Goruchwylio
Yn ogystal â’r gweithgorau, sefydlwyd grŵp goruchwylio i gydlynu gweithgarwch ar draws y gweithgorau gan gynnwys nodi rhwystrau ac atebion trawsbynciol.
Bwrdd y Tasglu
Cafodd bwrdd y tasglu ei greu i oruchwylio cyfeiriad cyffredinol y tasglu ac i gasglu a chyflwyno’r camau gweithredu a argymhellir ar gyfer newid. Bydd gwaith i ddatblygu a chyflawni’r argymhellion yn parhau i gael ei gydlynu gan Is-adran y Seilwaith Digidol Llywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â’r timau a’r sefydliadau perthnasol sy’n dod o dan gwmpas pob argymhelliad.
Rhwystrau ac atebion
Nodir isod y rhwystrau a’r atebion a nodwyd gan y grŵp goruchwylio a’r gweithgorau cysylltiedig ynghyd â chamau i leihau neu ddileu’r rhwystrau hyn. Mae rhestr lawn o’r camau gweithredu i’w gweld yn atodiad a.
Materion trawsbynciol
Y Rhwystrau
Nododd y grŵp goruchwylio ddau fater trawsbynciol allweddol. Y cyntaf oedd adnoddau, yn enwedig i gefnogi prosesau neu wasanaethau penodol o fewn awdurdodau lleol, a’r ail oedd cyfathrebu o fewn cyrff cyhoeddus.
Atebion
Cafodd adnoddau eu cydnabod gan y tasglu fel mater allweddol sy’n effeithio ar allu’r diwydiant telathrebu i ddarparu seilwaith digidol yn gyflym. Roedd pryder ynghylch gallu cyrff cyhoeddus lleol i brosesu hysbysiadau gwaith stryd a cheisiadau cynllunio. Roedd tystiolaeth anecdotaidd bod nifer yr hysbysiadau gwaith stryd a dderbyniwyd gan awdurdodau lleol yn gysylltiedig â seilwaith digidol eisoes yn cael effaith ar adnoddau. Hefyd, tynnodd y diwydiant sylw at ddiffyg adnoddau ym maes peirianneg sifil, gyda llawer yn y diwydiant yn ei chael yn anodd recriwtio pobl â’r sgiliau angenrheidiol.
Cytunodd y grŵp goruchwylio fod y cwestiwn ynghylch adnoddau y tu hwnt i gwmpas y tasglu, ac er y gallai’r tasglu nodi adnoddau fel pryder, mae ffocws y tasglu’n ymwneud i raddau helaeth â gwneud i’r system fel y mae ar hyn o bryd weithio mor effeithlon â phosibl.
O ran cyfathrebu, nododd y grŵp fod angen eglurder ynghylch pwysigrwydd seilwaith digidol ar bob lefel mewn sefydliadau cyhoeddus, a dealltwriaeth ar bob lefel ynghylch sut mae gweithredoedd gweithwyr/swyddogion unigol yn cyfrannu at yr agenda ddigidol. Nododd y grŵp yr angen am hyrwyddwyr digidol mewn Awdurdodau Lleol i wella dealltwriaeth o fanteision cysylltedd digidol mewn cyrff cyhoeddus fel blaenoriaeth.
Cam gweithredu
- Sefydlu hyrwyddwyr digidol yn y sector cyhoeddus i wella dealltwriaeth o fanteision cysylltedd digidol mewn cyrff cyhoeddus.
Communications working group
Y Rhwystrau
Canolbwyntiodd y gweithgor cyfathrebu ar y lefel amrywiol o wybodaeth ymhlith trigolion a busnesau am gysylltedd band eang a symudol a’r effaith y gallai’r amrywioldeb hwn o ran dealltwriaeth ei chael ar y nifer sy’n defnyddio gwasanaethau. Roedd y grŵp yn pryderu efallai na fyddai trigolion a busnesau’n gwerthfawrogi’n llawn pa gysylltedd a allai fod ar gael iddynt eisoes ac y gallent fod â diffyg hyder ynghylch rhinweddau cymharol yr atebion technegol neu gynigion y farchnad y maent yn dod ar eu traws.
Yn yr un modd, nododd y grŵp nad yw trigolion a busnesau o reidrwydd yn cydnabod manteision cysylltedd digidol, a allai gyfrannu at lai o ddefnydd o wasanaethau. Gall hyn hefyd arwain at amheuaeth a gwrthwynebiad i gyflwyno seilwaith digidol, yn enwedig cyflwyno mastiau symudol. Ar ben hynny, mae trigolion a busnesau’n anghyfarwydd â’r broses gymhleth o gyflwyno seilwaith cysylltedd digidol, er enghraifft, yr angen i gau ffyrdd, sy’n achosi anhwylustod ac yn rhoi hwb i wrthwynebiad lleol i gyflwyno seilwaith newydd neu well, cynyddu’r gost a chyflymu’r ddarpariaeth.
Mynegwyd pryder hefyd ynghylch amharodrwydd rhai landlordiaid unedau anheddau lluosog i ymgysylltu â darparwyr telathrebu gan arwain at oedi wrth gyflwyno neu at drigolion unedau o’r fath yn colli allan ar gysylltedd gwell yn gyfan gwbl.
Atebion
Nododd y grŵp nifer o atebion. Roeddent yn cytuno y dylid cynnal gwaith ymchwil ar ddealltwriaeth trigolion a busnesau o’r cysylltedd digidol o’u cwmpas:
- i nodi lefel y ddealltwriaeth o’r opsiynau sydd ar gael i gael band eang cyflymach ymysg y rheini nad ydynt yn gallu cael gafael ar ffeibr.
- i asesu ymwybyddiaeth breswyl a busnes o’r sefydliadau a’r sianeli gwybodaeth a all roi rhagor o gymorth a chyngor; ac
- i nodi lefel y ddealltwriaeth ynghylch sut mae seilwaith symudol a band eang yn cael ei ddefnyddio.
Byddai’r ymchwil wedyn yn cyfrannu at ymgyrch gyfathrebu i roi gwybod i drigolion a busnesau am fanteision cysylltedd digidol ac i roi gwybod i gymunedau am weithgarwch cyflwyno. Fel rhan o’r gwaith i gefnogi a chyflwyno’r ymgyrch, gallai hyrwyddwyr digidol cymunedol (mewn awdurdodau lleol o bosibl) helpu cymunedau i ddeall yr atebion technolegol sydd ar gael iddynt.
Dylid cynnal gweithgareddau cyfathrebu â pherchnogion eiddo unedau anheddau lluosog, o bosibl drwy gyrff masnach neu grwpiau cynrychioliadol eraill, i egluro manteision cysylltedd i'w tenantiaid ac iddyn nhw fel landlordiaid, ac i egluro'r broses gyflwyno.
Camau gweithredu
- Cynnal gwaith ymchwil ar ddealltwriaeth trigolion a busnesau o’r cysylltedd digidol sydd ar gael iddynt.
- Cynnal ymgyrch gyfathrebu:
- Gwella gwybodaeth trigolion a busnesau ynghylch yr opsiynau cysylltedd sydd ar gael iddynt.
- Amlinellu manteision cysylltedd digidol i drigolion a busnesau.
- Rhoi gwybod i gymunedau am yr hyn y mae gwaith cyflwyno yn ei olygu.
- Cyfathrebu â landlordiaid unedau anheddau lluosog.
- Cyfeirio trigolion a busnesau at ymgyrchoedd sy’n bodoli’n barod, fel #5GCheckTheFacts.
- Creu rhwydwaith o hyrwyddwyr digidol cymunedol sy’n dysgu o waith sydd eisoes yn mynd rhagddo yn Ninas-Ranbarth Bae Abertawe.
Gweithgor Asedau Cyhoeddus
Y Rhwystrau
Canfu’r gweithgor asedau cyhoeddus y gallai fod yn heriol i ddarparwyr rhwydwaith symudol a band eang nodi tir sy’n eiddo cyhoeddus.
Tynnodd y grŵp sylw hefyd at ddiffyg dogfennau safonol ar draws cyrff cyhoeddus ar gyfer sicrhau mynediad at asedau cyhoeddus. Yn yr un modd, nodwyd bod diffyg dull cyffredin o ymdrin â thaliadau, o ran cysondeb canllawiau prisio a dogfennau, yn rhwystr.
Cydnabuwyd bod angen gwella cyfathrebu rhwng y diwydiant a gweithwyr proffesiynol ym maes rheoli ystadau oherwydd camddealltwriaeth ynghylch cyflwyno seilwaith digidol.
Thema gyffredin ar draws gweithgorau eraill, ac fel y nodwyd uchod, yw nad yw gweithwyr proffesiynol asedau a staff eraill o fewn awdurdodau lleol yn deall yn glir manteision economaidd-gymdeithasol a manteision eraill cysylltedd digidol da, neu os ydynt yn eu deall, nid ydynt yn cael eu hystyried yn berthnasol.
Cafodd y grŵp dystiolaeth gan Infralink, sy’n cael ei arwain gan arbenigwyr seilwaith yn Scottish Futures Trust, ac yn cael ei ariannu gan y Scotland 5G Centre. Fe’i sefydlwyd i wella’r ymgysylltiad rhwng landlordiaid posibl yn y sector cyhoeddus a thenantiaid y diwydiant symudol. Er mwyn helpu’r partïon hyn, mae Infralink wedi sefydlu offer sy’n gytbwys, yn dryloyw ac yn gweithio ar draws gwahanol rannau o’r Alban, gan gynnwys dogfennau safonol a chanllawiau talu.
Atebion
Cynigiodd y grŵp y byddai mwy o ymwybyddiaeth, gwybodaeth a defnydd o’r adnodd MapData Cymru yn ateb effeithiol i’r heriau a wynebir wrth ganfod asedau cyhoeddus. Croesawodd rheolwyr asedau’r grŵp gynigion ar gyfer safoni dogfennau a manylebau, a’r prosesau a’r canllawiau ar daliadau. Tynnwyd sylw hefyd at hyrwyddwyr digidol mewn cyrff cyhoeddus fel ateb posibl i wella cyfathrebu â’r diwydiant ac i wella dealltwriaeth o fanteision cysylltedd digidol mewn cyrff cyhoeddus.
Camau gweithredu
- Ystyried defnyddio MapData Cymru i ganfod a mapio asedau cyhoeddus a dysgu o ddulliau eraill fel Infralink yn yr Alban.
- Creu dogfennau safonol ar gyfer trafodiadau tir.
- Creu canllawiau talu safonol ar gyfer trafodiadau tir.
- Creu hyrwyddwyr digidol o fewn cyrff yn y sector cyhoeddus a’r diwydiant i weithredu fel ‘drws ffrynt’ y sefydliadau hynny, gan gynnwys adolygu pa gyrff cyhoeddus sydd eisoes â hyrwyddwyr digidol priodol ar waith.
Gweithgor gwaith stryd
Y Rhwystrau
Tynnodd cynrychiolwyr y diwydiant sylw at y ffaith bod adfer ardaloedd sydd ag arwynebau slabiau yn heriol o ran cyflwyno band eang sefydlog. Mae’r diwydiant yn tueddu i beidio â gosod seilwaith o dan y ddaear mewn ardaloedd lle mae slabiau oherwydd y cymhlethdodau sy’n gysylltiedig ag adfer. Mae problem debyg wrth adfer arwynebau arbenigol lle byddai’n rhaid adfer cerbytffordd gyfan pan mai dim ond ffos gul sydd wedi cael ei defnyddio ar gyfer cyflwyno telathrebu.
Nododd y grŵp y gall cyflwyno ffeibr ar draws strwythurau megis pontydd arwain at oedi hir lle mae angen rhagor o gytundebau neu indemniadau cyn cyflwyno.
Nodwyd dau rwystr mewn perthynas â deunydd wedi’i ailgylchu. Yn gyntaf, byddai mwy o ail-ddefnyddio deunydd a gloddiwyd o’r gwaith peirianneg sifil ar y safle fel deunydd mewnlenwi yn helpu i ddefnyddio seilwaith digidol yn gyflymach. Yn ail, ystyriwyd bod diffyg a chapasiti safleoedd priodol i waredu deunyddiau gwastraff o weithgarwch adeiladu rhwydwaith yng Nghymru yn rhwystr i gyflwyno seilwaith digidol yn effeithlon. Mae darparwyr rhwydwaith yn gorfod edrych ymhellach i ffwrdd am safleoedd gwaredu, sy’n effeithio ar gostau ac amserlenni.
Gall cyfnodau rhybudd cyn cyflawni gwaith stryd achosi oedi a tharfu pan fydd anghytundeb ynghylch hyd a lled y gwaith ac a yw’r gwaith yn fach neu’n fawr ei natur. Mae angen blaengynllunio ac ymgysylltu gwell rhwng awdurdodau gwaith stryd a darparwyr rhwydwaith. Dywedodd awdurdodau priffyrdd eu bod yn cael nifer fawr o hysbysiadau, weithiau ar gyfer yr un defnydd, gan effeithio ar adnoddau awdurdodau lleol a allai arafu’r broses o’u cymeradwyo.
Nodwyd rhwystr gan gynrychiolwyr awdurdodau lleol mewn rhai rhannau o Gymru lle mae darparwyr rhwydwaith yn rhoi gwybod i’r awdurdod lleol am eu cynlluniau i ddefnyddio atebion Mynediad Seilwaith Ffisegol (PIA) Openreach (lle maent yn defnyddio rhwydwaith Openreach yn hytrach na chreu rhwydwaith eu hunain) ond yn gwneud eu gwaith peirianneg sifil eu hunain. Gall hyn wedyn arwain at yr angen am ragor o hysbysiadau gwaith stryd, sy’n arafu’r ddarpariaeth. Mae hyn yn deillio o gymhlethdod tybiedig wrth ddefnyddio PIA.
Mae awdurdodau lleol yn dadlau nad yw amserlenni cyflym ar gyfer cyflwyno band eang sy’n cael ei yrru gan ystyriaethau masnachol a chyllido bob amser yn caniatáu amser ar gyfer cydlynu ac ystyried ceisiadau am hysbysiadau gwaith stryd yn briodol, sy’n gallu arwain at awdurdodau lleol yn cael eu hystyried yn rhwystr. Nododd darparwyr rhwydwaith eu bod yn gyndyn o roi rhybudd ymlaen llaw o’u bwriad i wneud gwaith stryd yn rhy gynnar cyn ei gyflawni, gan ofni y gallai rhybudd o’r fath roi mantais fasnachol i gystadleuwyr posibl yn yr ardal.
Tynnodd y grŵp sylw hefyd at y ffaith bod gwahanol ddehongliad o’r codau arferion gorau ar waith stryd yn gallu arwain at ddulliau gweithredu gwahanol iawn mewn gwahanol ardaloedd awdurdod lleol. Gall hyn, yn ei dro, olygu bod darparwyr yn treulio gormod o amser yn delio â materion sy’n deillio o’r anghysondebau hyn.
Atebion
Ymdrinnir â nifer o’r rhwystrau a nodwyd yn y codau arferion gorau cyfredol ar waith stryd gan gynnwys cyfnodau rhybudd ar gyfer gwaith a dehongli’r codau ac adfer. Cytunwyd mai cyfrifoldeb Pwyllgor Awdurdodau Priffyrdd a Chyfleustodau Cymru yw mynd i’r afael â’r codau yn hytrach na’r tasglu chwalu rhwystrau.
Cytunodd y grŵp y dylid adolygu’r ddeddfwriaeth bresennol o ran indemniadau er mwyn canfod a oedd proses eisoes ar waith i gyflymu’r broses o gyflwyno ar draws strwythurau.
Dywedodd y grŵp fod angen mwy o eglurder ynghylch pa ddeunyddiau gwastraff y gellir eu defnyddio i fewnlenwi a beth sydd angen cael ei anfon i safle gwastraff. Mae’n bosibl y bydd angen adolygu’r codau arferion gorau sy’n ymwneud â defnyddio a gwaredu deunyddiau gwastraff, ond maent yn ymwneud ag amrywiaeth o weithgareddau peirianneg sifil yn hytrach na thelathrebu yn unig. Mae angen trafodaeth bellach yn Llywodraeth Cymru ynghylch gwaredu ac ailddefnyddio gwastraff.
Roedd galw am ragor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru ynghylch lle mae darparwyr rhwydweithiau symudol a band eang yn lleoli.
O ran defnyddio PIA Openreach, cytunwyd mai’r ateb oedd cyfathrebu gwell rhwng y darparwr a’r awdurdod priffyrdd pan fydd pethau’n newid, a sicrhau bod codau ymarfer yn cael eu dilyn.
Cytunwyd bod angen i drafodaethau rhwng darparwyr ac awdurdodau lleol ynghylch hysbysiadau mawr ddigwydd ymhell ymlaen llaw er mwyn gallu cydlynu gweithgarwch gwaith stryd yn well. Byddai hyn yn mynd i’r afael â niferoedd mawr posibl o hysbysiadau llai y byddai’n rhaid i awdurdodau lleol ymdrin â nhw. Fodd bynnag, mae angen ystyried ateb sy’n diogelu sensitifrwydd masnachol ynghylch cyflwyno.
Camau gweithredu
- Argymell i Bwyllgor Awdurdodau Priffyrdd a Chyfleustodau Cymru bod y safonau diweddaraf ar waith stryd yn cael eu mabwysiadu.
- Cynnal adolygiad o indemniadau i ganfod a oedd proses eisoes ar waith i gyflymu’r broses gyflwyno ar draws strwythurau.
- Llywodraeth Cymru i edrych ar adolygu codau arferion gorau gwaith stryd ar gyfer ailddefnyddio deunyddiau cloddio.
- Llywodraeth Cymru i weithio gyda’r diwydiant gwastraff a’r rheoleiddiwr i archwilio capasiti safleoedd i waredu deunydd gwastraff.
- Awdurdodau lleol a darparwyr rhwydwaith band eang a symudol i gydweithio i bennu ffyrdd o rannu gwybodaeth am gyflwyno seilwaith digidol yn gyfrinachol er mwyn caniatáu trafodaethau cynharach.
Gweithgor cynllunio
Y Rhwystrau
Nododd y gweithgor fod cyfathrebu rhwng darparwyr rhwydwaith ac awdurdodau lleol yn rhwystr. Mae angen sicrhau bod darparwyr rhwydweithiau symudol a band eang yn gallu siarad â swyddogion awdurdodau lleol sy’n gallu delio â’r materion dan sylw. Hefyd, mae angen cysoni penderfyniadau swyddogion awdurdodau lleol unigol â nodau digidol cyffredinol eu hawdurdod. Mae angen i drafodaethau agored parhaus ddechrau ar lefelau uwch o fewn awdurdodau lleol a threiddio i lawr drwy’r sefydliad.
Roedd awdurdodau lleol wedi tynnu sylw at ddiffyg data cynhwysfawr am ddarpariaeth symudol fel rhwystr i ddeall cynlluniau’r gweithredwyr symudol.
Roedd cynrychiolwyr y diwydiant symudol yn dadlau bod y rheoliadau cynllunio, yn enwedig yng nghyswllt hawliau datblygu a ganiateir yng Nghymru, yn llai caniataol na rhai Lloegr a’r Alban.
Atebion
Byddai un pwynt cyswllt mewn cyrff cyhoeddus ar gyfer ‘popeth digidol’ yn fuddiol. Cydnabuwyd bod gan rai awdurdodau bwyntiau cyswllt yn barod. Dylid cael uwch hyrwyddwr digidol mewn awdurdodau lleol sy’n gallu cydlynu ar draws adrannau, nid dim ond cynllunio’n unig. Mae lefel swydd yr hyrwyddwyr digidol yn bwysig, yn ogystal â’r angen am grŵp o uwch gynrychiolwyr o adrannau perthnasol i gefnogi’r hyrwyddwr digidol wrth ddelio ag ymholiadau gan ddarparwyr seilwaith digidol.
O ran atebion, cytunodd y grŵp bod angen adolygiad i ddeall pa awdurdodau lleol sydd eisoes â hyrwyddwyr digidol a sut maent yn gweithio yn eu hawdurdodau lleol perthnasol i lywio arferion da.
Awgrymodd y diwydiant symudol newidiadau i reoliadau cynllunio:
- Cymeradwyaeth ymlaen llaw ar gyfer mastiau hyd at 30 metr mewn ardaloedd nad ydynt yn warchodedig a chynnydd cyfatebol i 25 metr mewn ardaloedd gwarchodedig.
- Dylai cynnydd mewn lled mast fod yn seiliedig ar y pwynt lletaf a fyddai’n helpu i hwyluso mastiau mwy i gefnogi rhannu a chael cynnydd o hyd at 50% neu ddau fetr, pa un bynnag yw’r mwyaf.
- Mae angen edrych eto ar y cynnydd mewn uchder mastiau presennol yng ngoleuni rheolau mwy caniataol yn Lloegr a’r Alban.
- Eglurhad ynghylch beth sy’n cael ei ystyried yn fast yn hytrach na pholyn ar ben toeau.
- Archwilio faint o offer y gellir ei roi mewn compownd gyda’r bwriad o gael gwared ar gapiau cyfaint.
- Newid y rheoliadau ynghylch nifer y cabinetau gyda’r bwriad o adlewyrchu’r cyfreithiau yn yr Alban a Lloegr lle mae hyd at 2.5 metr ciwbig yn cael ei ganiatáu.
- Diweddaru canllawiau, er enghraifft TAN 19.
Camau gweithredu
- Llywodraeth Cymru i barhau i edrych gydag Ofcom ar fynediad y diwydiant at ddata symudol cynhwysfawr.
- Adolygu rheoliadau cynllunio sy’n ymwneud â hawliau datblygu a ganiateir yn benodol.
- Adolygu a diweddaru canllawiau TAN 19.
Gweithgor rheoleiddio
Y Rhwystrau
Er bod ffocws dealladwy ar adeiladau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol mewn ardaloedd gwledig, canfu’r grŵp bod gan ddinasoedd adeiladau nad ydynt wedi’u cysylltu â band eang cyflym a dibynadwy o hyd. Er enghraifft, mae tua 2,000 eiddo yng Nghaerdydd sy’n cael gwasanaeth band eang ar gyflymder o 10Mbps neu lai ond nid ydynt o reidrwydd yn gymwys i gael arian cyhoeddus o dan Gynllun Talebau Band Eang Gigabit (GBVS) Llywodraeth y DU.
Nodwyd nifer o rwystrau yn ymwneud â gallu darparwyr rhwydwaith amgen llai (Altnets) i gyflwyno band eang gigabit. Gallai maint y lotiau ar gyfer prosiect Gigabit y DU fod yn rhwystr i ddarparwyr llai wneud cais am ddarpariaeth os ydynt yn rhy fawr. Hefyd, mae economeg, topograffi a dwysedd poblogaeth yn golygu nad oes digon o adeiladau gwledig yn cael eu cynnwys wrth gyflwyno band eang masnachol, sy’n gadael adeiladau i gael eu gwasanaethu drwy ymyriadau sy’n cael eu hariannu’n gyhoeddus neu ddim o gwbl. Nodwyd bod goradeiladu rhwydweithiau altnet gan ddarparwyr mwy sy’n defnyddio talebau GBVS yn rhwystr i gystadleuaeth y cyflenwad.
Roedd y drafodaeth ar gysylltedd symudol yn canolbwyntio ar fandiau sbectrwm. Er y cydnabuwyd bod gan fandiau sbectrwm a ddefnyddir mewn ardaloedd gwledig rinweddau ymledu da, maent yn llai addas ar gyfer band eang symudol neu i fynd i’r afael â phroblemau capasiti tymhorol ffonau symudol. Mae hyn yn rhwystr i fand eang symudol dibynadwy y gellir ei ddefnyddio.
Atebion
Cytunodd y grŵp y dylai ardaloedd heb wasanaeth digonol mewn dinasoedd fod yn rhan o’r adolygiad o’r cynllun ABC. Cydnabuwyd efallai na fydd swm y cyllid presennol ar gyfer ABC yn ddigon i sicrhau cysylltiad ffeibr mewn ardaloedd dinesig.
Dylid cynnal trafodaethau gyda’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ynghylch newid rheolau’r GBVS i olygu bod ardaloedd mewn dinasoedd nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol yn gymwys i gael talebau er gwaethaf eu statws ardal marchnad dynodedig Ofcom.
Cytunodd y grŵp y dylid cynnwys mwy o adeiladau mewn ardaloedd gwledig wrth gyflwyno band eang, er y byddai angen gweithio drwy’r mecanwaith ar gyfer sicrhau cysylltedd gwledig fel rhan o’r gwaith o ddatblygu’r atebion. Gallai hyn fod naill ai i gysylltu canran benodol mewn ardal wledig i gynnwys adeiladau anoddach eu cyrraedd neu i ddarparu asgwrn cefn ffeibr fel bod adeiladau yn dod yn fwy cymwys neu’n fwy hyfyw ar gyfer talebau’r llywodraeth neu’r Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol. Cydnabyddir bod yna agwedd fasnachol, ac nad yw ymyrryd mewn ardaloedd llai economaidd yn ymarferol heb ymyrraeth gan y Llywodraeth.
Mae angen trafodaeth gyda’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ynghylch sut mae’r GBVS yn gweithio’n ymarferol mewn ardaloedd gwledig, a’r problemau y mae’n eu hachosi drwy oradeiladu a’r effaith y mae’n ei chael ar gyflenwyr llai. Awgrymwyd y dylid rhoi terfyn amser ar ymrwymiad Adolygiad o’r Farchnad Agored gan ddarparwr i fynd i’r afael ag unrhyw un ardal fel nad yw darparwyr eraill yn cael eu heithrio rhag defnyddio talebau pan na fydd ymrwymiad cyflwyno yn cael ei wireddu.
Mae angen ymgysylltu ar draws y diwydiant fel rhan o’r gwaith i ddatblygu strategaeth lotiau Cymru ar gyfer y Prosiect Gigabit. Rhagwelir y byddai’r gwaith o ddatblygu strategaeth lotiau yn dechrau ar ôl cynnal Adolygiad o’r Farchnad Agored a’r prosesau adolygu cyhoeddus ar gyfer y Prosiect Gigabit yng Nghymru.
Cydnabuwyd bod angen rhagor o drafodaethau ag Ofcom ynghylch argaeledd sbectrwm symudol er mwyn deall y rhwystrau hyn yn llawn a deall pa atebion a allai fod.
Camau gweithredu
- Ystyried canfyddiadau’r adolygiad ABC i ystyried sut i gynyddu’r ddarpariaeth mewn ardaloedd trefol ac maestrefol nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol.
- Llywodraeth Cymru i geisio gwneud newidiadau i gynllun GBVS Llywodraeth y DU i gynnwys ardaloedd trefol a maestrefol sydd heb wasanaeth.
- Llywodraeth Cymru a’r diwydiant i drafod cynnwys adeiladau gwledig wrth gyflwyno band eang.
- Llywodraeth Cymru i adolygu materion yn ymwneud â goradeiladu â’r cynllun GBVS gyda Llywodraeth y DU.
- Llywodraeth Cymru i ymgysylltu ag Ofcom ynghylch defnyddio sbectrwm a thrwy’r prosesau ymgynghori ar Strategaeth Symudol Ofcom.
- Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â’r diwydiant cyn datblygu strategaeth lotiau’r Prosiect Gigabit.
Casgliadau
Mae’r rhwystrau a nodwyd yn ystod y drafodaeth yn perthyn i sawl categori:
- Cyfathrebu rhwng ac o fewn sefydliadau, a rhwng sefydliadau a thrigolion neu fusnesau.
- Adnoddau o fewn cyrff cyhoeddus a’r diwydiant.
- Ymestyn darpariaeth drwy gynlluniau a ariennir gan arian cyhoeddus.
- Safonau a chodau arferion gorau ar gyfer cyflwyno seilwaith.
- Dulliau safonol o ymdrin ag asedau cyhoeddus.
- Newidiadau i reoliadau cynllunio.
- Gweithio gydag Ofcom.
Fel y nodir uchod, roedd y camau gweithredu a’r mesurau lliniaru posibl a oedd yn deillio o waith y gwahanol grwpiau yn amrywio o atebion diriaethol y gellid eu rhoi ar waith yn gymharol gyflym, er enghraifft cynnal gwaith ymchwil ar ddealltwriaeth trigolion a busnesau o’r cysylltedd digidol, i atebion eraill sydd wedi’u diffinio’n llai eglur ac atebion lefel uchel a fydd yn gofyn am ragor o waith ar draws Cymru gyfan i’w siapio a’u mireinio, fel adeiladu ar y gwaith sydd eisoes ar y gweill i gyflwyno hyrwyddwyr digidol i awdurdodau lleol.
Fel y nodwyd uchod, roedd cyfyngiadau o ran adnoddau y tu hwnt i gylch gwaith y tasglu.
Argymhellion
Mae’r camau gweithredu uchod yn rhan o chwe argymhelliad cyffredinol sy’n nodi’r ymateb strategol lefel uchel i’r rhwystrau a nodwyd, fel a ganlyn:
- Cymryd camau i wella cyfathrebu ar seilwaith digidol gyda thrigolion a busnesau.
- Hwyluso cyfathrebu agored a thryloyw rhwng y diwydiant telathrebu a chyrff cyhoeddus yng Nghymru.
- Gweithio ar draws cyrff cyhoeddus a’r diwydiant telathrebu i ymestyn darpariaeth band eang yng Nghymru drwy wneud newidiadau i gynlluniau sy’n cael eu hariannu gan arian cyhoeddus.
- Creu dull safonol o reoli asedau cyhoeddus ar gyfer seilwaith digidol.
- Diweddaru safonau a chodau arferion gorau fel sail ar gyfer darparu seilwaith digidol yng Nghymru.
- Defnyddio’r dulliau rheoli a gwybodaeth sydd ar gael yng Nghymru i sbarduno gwelliannau mewn seilwaith digidol a chreu’r amodau iawn ar gyfer buddsoddi.
Mae’r tasglu wedi nodi 22 o gamau gweithredu ar wahân. Mae’n afrealistig ceisio cyflawni’r holl gamau gweithredu’n gyffiniol ac felly mae angen blaenoriaethu. Cytunodd bwrdd y tasglu y dylid rhoi blaenoriaeth yn y tymor byr i gamau gweithredu sy’n sail i’r gwelliannau mewn cyfathrebu â thrigolion a busnesau ac sy’n hwyluso cyfathrebu agored a thryloyw rhwng y diwydiant telathrebu a chyrff cyhoeddus.
Atodiad a: camau gweithredu ac argymhellion
Cymryd camau i wella cyfathrebu ar seilwaith digidol gyda thrigolion a busnesau.
- Sefydlu hyrwyddwyr digidol yn y sector cyhoeddus i wella dealltwriaeth o fanteision cysylltedd digidol mewn cyrff cyhoeddus.
- Cynnal gwaith ymchwil ar ddealltwriaeth trigolion a busnesau o’r cysylltedd digidol sydd ar gael iddynt.
- Cynnal ymgyrch gyfathrebu:
- Gwella gwybodaeth trigolion a busnesau ynghylch yr opsiynau cysylltedd sydd ar gael iddynt.
- Amlinellu manteision cysylltedd digidol i drigolion a busnesau.
- Rhoi gwybod i gymunedau am yr hyn y mae gwaith cyflwyno yn ei olygu.
- Cyfathrebu â landlordiaid unedau anheddau lluosog.
- Cyfeirio trigolion a busnesau at ymgyrchoedd sy’n bodoli’n barod, fel #5GCheckTheFacts.
- Creu rhwydwaith o hyrwyddwyr digidol cymunedol sy’n dysgu o waith sydd eisoes yn mynd rhagddo yn Ninas-Ranbarth Bae Abertawe.
Hwyluso cyfathrebu agored a thryloyw rhwng y diwydiant telathrebu a chyrff cyhoeddus yng Nghymru.
- Creu hyrwyddwyr digidol o fewn cyrff yn y sector cyhoeddus a’r diwydiant i weithredu fel ‘drws ffrynt’ y sefydliadau hynny, gan gynnwys adolygu pa gyrff cyhoeddus sydd eisoes â hyrwyddwyr digidol priodol ar waith.
- Awdurdodau lleol a darparwyr rhwydwaith band eang a symudol i gydweithio i bennu ffyrdd o rannu gwybodaeth am gyflwyno seilwaith digidol yn gyfrinachol er mwyn caniatáu trafodaethau cynharach.
Gweithio ar draws cyrff cyhoeddus a’r diwydiant telathrebu i ymestyn darpariaeth band eang yng Nghymru drwy wneud newidiadau i gynlluniau sy’n cael eu hariannu gan arian cyhoeddus.
- Ystyried canfyddiadau’r adolygiad ABC i ystyried sut i gynyddu’r ddarpariaeth mewn ardaloedd trefol ac maestrefol nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol.
- Llywodraeth Cymru i geisio gwneud newidiadau i gynllun GBVS Llywodraeth y DU i gynnwys ardaloedd trefol a maestrefol sydd heb wasanaeth.
- Llywodraeth Cymru a’r diwydiant i drafod cynnwys adeiladau gwledig wrth gyflwyno band eang.
- Llywodraeth Cymru i adolygu materion yn ymwneud â goradeiladu â’r cynllun GBVS gyda Llywodraeth y DU.
- Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â’r diwydiant cyn datblygu strategaeth lotiau’r Prosiect Gigabit.
Creu dull safonol o reoli asedau cyhoeddus ar gyfer seilwaith digidol.
- Ystyried defnyddio MapData Cymru i ganfod a mapio asedau cyhoeddus a dysgu o ddulliau eraill fel Infralink yn yr Alban.
- Creu dogfennau safonol ar gyfer trafodiadau tir.
- Creu canllawiau talu safonol ar gyfer trafodiadau tir.
Diweddaru safonau a chodau arferion gorau fel sail ar gyfer darparu seilwaith digidol yng Nghymru.
- Argymell i Bwyllgor Awdurdodau Priffyrdd a Chyfleustodau Cymru bod y safonau diweddaraf ar waith stryd yn cael eu mabwysiadu.
- Cynnal adolygiad o indemniadau i ganfod a oedd proses eisoes ar waith i gyflymu’r broses gyflwyno ar draws strwythurau.
- Llywodraeth Cymru i edrych ar adolygu codau arferion gorau gwaith stryd ar gyfer ailddefnyddio deunyddiau cloddio.
- Llywodraeth Cymru i weithio gyda’r diwydiant gwastraff a’r rheoleiddiwr i archwilio capasiti safleoedd i waredu deunydd gwastraff.
Defnyddio’r dulliau rheoli a gwybodaeth sydd ar gael yng Nghymru i sbarduno gwelliannau mewn seilwaith digidol a chreu’r amodau iawn ar gyfer buddsoddi.
- Llywodraeth Cymru i barhau i edrych gydag Ofcom ar fynediad y diwydiant at ddata symudol cynhwysfawr.
- Adolygu rheoliadau cynllunio sy’n ymwneud â hawliau datblygu a ganiateir yn benodol.
- Adolygu a diweddaru canllawiau TAN 19.
- Llywodraeth Cymru i ymgysylltu ag Ofcom ynghylch defnyddio sbectrwm a thrwy’r prosesau ymgynghori ar Strategaeth Symudol Ofcom.