Mae Cafcass Cymru yn croesawu cyhoeddi adroddiad Panel Arbenigol y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar Niwed a'i argymhellion.
Mae Cafcass Cymru yn croesawu’n fawr gyhoeddi adroddiad Panel Arbenigol y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar Niwed a'i argymhellion. Mae'r adroddiad yn ddefnyddiol o ran nodi'r newidiadau sy'n ofynnol o fewn y system cyfiawnder teuluol er mwyn diogelu ac amddiffyn oedolion a phlant sydd wedi goroesi neu sy'n byw gyda cham-drin domestig yn well. Mae Cafcass Cymru wedi ymrwymo i gyfrannu at wella profiadau'r rhai sy'n defnyddio'r llysoedd teulu yng Nghymru ac, yn arbennig, y rhai sydd wedi goroesi cam-drin domestig.
Fel sefydliad, rydym wedi gweithio'n agos gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder er mwyn sicrhau bod lleisiau goroeswyr yng Nghymru a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y llysoedd teulu yng Nghymru yn cael eu clywed, a'u bod yn cael eu cynrychioli yng ngwaith y panel. Mae Cafcass Cymru yn aelod o'r Grŵp Gweithredu a sefydlwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder i fwrw ymlaen a gwireddu argymhellion yr adroddiad. Mae'r Grŵp Gweithredu’n atebol i'r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol. Byddwn yn parhau i weithio'n ddiwyd gyda'n holl bartneriaid i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r argymhellion yng Nghymru.