Neidio i'r prif gynnwy

Bob blwyddyn ar 10 Rhagfyr, mae Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig yn dathlu'r diwrnod y mabwysiadodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r Datganiad hwnnw yn cydnabod yr hawliau absoliwt a ddylai fod gan bob bod dynol, beth bynnag ei hil, lliw, crefydd, rhywedd, iaith, barn wleidyddol neu farn arall, man geni, statws geni neu statws arall.

Mae thema eleni yn canolbwyntio ar yr angen i ailgodi’n gryfach yn dilyn pandemig COVID-19, drwy roi hawliau dynol wrth wraidd gwaith adfer.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt:

Dros yr wythnosau diwethaf, mae llawer o sylw wedi’i roi i'r newyddion cadarnhaol ynglŷn â datblygu nifer o frechlynnau COVID-19. Fodd bynnag, nid yw'r pandemig ar ben a rhaid inni baratoi ar gyfer y gaeaf sydd i ddod, gaeaf a allai fod yn un anodd.

Mae rhaid inni hefyd ddechrau edrych y tu hwnt i'r pandemig er mwyn mynd i’r afael â rhywfaint o'r anghydraddoldeb yr ydym yn gwybod sy'n bodoli yn ein cymdeithas ac sydd wedi cael ei amlygu ymhellach yn ystod y misoedd diwethaf.

Rydym am ddefnyddio'r argyfwng byd-eang hwn fel adeg i greu newid sylfaenol yng Nghymru fel y gallwn ailgodi’n gryfach a sicrhau bod ein dyfodol yn decach, yn fwy cynhwysol ac yn fwy cynaliadwy na'n gorffennol.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n galed er mwyn cefnogi cydlyniant cymunedol yng nghymunedau Cymru ar ôl i'r DU ymadael â’r UE, ac mae wedi ymrwymo i ddatblygu polisïau a gwasanaethau sy'n helpu mudwyr i ymgartrefu yn eu cymunedau yng Nghymru.

Mae’r adroddiad 'Dinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru: Integreiddio cymunedol, cyfle cyfartal a chydraddoldeb o ran canlyniadau', a luniwyd ar ran Llywodraeth Cymru ac a gyhoeddwyd heddiw, yn edrych ar ffyrdd y gellir cefnogi dinasyddion i barhau i wneud Cymru yn gartref iddynt.

Mae'r adroddiad hwn yn rhan o brosiect Hawliau Dinasyddion yr UE Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi tua 80,000 o ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru. Bydd yn helpu i wneud yn siŵr eu bod yn gallu defnyddio gwasanaethau cynghori priodol, eu bod yn cael eu gwarchod rhag cael eu hecsbloetio a'u hallgáu, a'u bod yn cael eu hannog i barhau i fyw yng Nghymru a gwireddu eu potensial.

Er mwyn parhau i fyw yn y DU ar ôl 30 Mehefin 2021, lansiodd y Swyddfa Gartref y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. O dan y cynllun hwn gall dinasyddion yr UE wneud cais i gael statws preswylydd sefydlog, sy'n caniatáu iddynt gadw eu hawliau.

Aeth Jane Hutt yn ei blaen:

Rydym bob amser wedi dweud yn glir bod croeso yma i ddinasyddion yr UE sydd wedi gwneud Cymru yn gartref iddynt. Eich cartref chi yw hwn, rydych yn cyfrannu at eich cymunedau, ac rydym am ichi aros.

Os ydych yn meddwl bod angen ichi wneud cais am Statws Preswylydd Sefydlog yr UE, neu’n adnabod rhywun arall a allai fod angen gwneud hynny, mae cyngor a chefnogaeth ar gael i helpu. Rydym am ichi barhau i wneud Cymru yn gartref ichi.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n ddiflino i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, tlodi a gwahaniaethu strwythurol. Bydd y Llywodraeth hefyd yn cefnogi hawliau dynol pawb sy'n dewis byw yng Nghymru.