Adolygiad o’r polisi ynghylch Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod: adroddiad
Sut mae’r polisi wedi perfformio a sut gellir ei ddatblygu i’r dyfodol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagair
Rwy’n croesawu cyhoeddi’r adroddiad hwn ar yr adolygiad o bolisi Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (ACE) Llywodraeth Cymru. Mae’r adroddiad yn dwyn ynghyd brif ganfyddiadau a chasgliadau’r adolygiad ac mae’n darparu adnodd amhrisiadwy a fydd yn helpu i lywio polisi ACE Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at yr adolygiad, yn enwedig y rhai a gymerodd ran yn y drafodaeth. Mae eu parodrwydd i rannu eu barn am ACE, polisi ACE Llywodraeth Cymru, a sut y dylid datblygu’r polisi yn y dyfodol, wedi gwella’r adolygiad ac rwy’n ddiolchgar am eu harbenigedd. Hefyd, carwn ddiolch i Re:cognition am eu cymorth i ganfod barn rhanddeiliaid.
Mae’r llywodraeth hon wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y dechrau gorau mewn bywyd a’r cyfle i gyflawni ei botensial. Mae hyn yn golygu gweithio i fynd i’r afael â’r rhwystrau a allai atal hyn, gan gynnwys trallod yn ystod plentyndod yn ei holl ffurfiau. Mae’r term Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (ACE) wedi bod yn cael ei ddefnyddio ers dros 20 o flynyddoedd i ddisgrifio cyfres o ddeg o ddigwyddiadau ac amgylchiadau penodol. Mae astudiaethau o bob cwr o’r byd wedi dangos yn gyson bod cysylltiad cryf rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a chanlyniadau gwaeth mewn bywyd. Mae hyn yn cynnwys yr astudiaethau yng Nghymru gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a oedd wedi dylanwadu ar benderfyniad Llywodraeth Cymru i roi blaenoriaeth i weithredu ar ACE yn ystod tymor y Cynulliad hwn.
Mae’r adolygiad wedi dangos bod corff cadarn o dystiolaeth gyson yn sail i ACE a chefnogaeth gref i benderfyniad Llywodraeth Cymru i roi blaenoriaeth i weithredu ar ACE. Mae hefyd wedi dangos cefnogaeth gref ymysg rhanddeiliaid i gael Canolfan Cymorth ACE ar gyfer Cymru. Mae’r adolygiad wedi dangos sut mae cydnabyddiaeth o ACE wedi’i gwreiddio’n dda ym mholisïau Llywodraeth Cymru ac, yn galonogol, sut mae’r ffordd mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu ACE wedi dylanwadu ar ddatblygu polisi Llywodraeth y DU mewn rhai o’r meysydd nad ydynt wedi’u datganoli.
Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran cyflawni ein hymrwymiad i greu gwasanaethau cyhoeddus sy’n ymwybodol o ACE yng Nghymru. Gallwn weld yn barod rai o fanteision y gwaith a wnaed i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ACE mewn meysydd fel addysg, cyfiawnder ieuenctid a thai.
Er ein bod wedi gwneud cynnydd da, mae angen i ni wneud mwy. Mae angen i ni sicrhau bod y cynnydd mewn ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o drallod yn ystod plentyndod yn cael ei drosi’n gamau gweithredu sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Mae angen i ni ddod o hyd i’r ffyrdd gorau o gefnogi rhieni, amddiffyn plant rhag niwed, rhoi’r dechrau gorau iddynt mewn bywyd a gwella canlyniadau. Mae hyn yn cynnwys camau i atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a lliniaru eu heffaith.
Nid dim ond am ein gwasanaethau cyhoeddus mae hyn. Mae gan bob un ohonom rôl i’w chwarae, fel unigolion ac aelodau o’n cymunedau, i atal trallod yn ystod plentyndod a lliniaru ei effaith. Mae hyn yn dechrau gyda dealltwriaeth o’r effaith y gall trallod yn ystod plentyndod ei chael yn yr hirdymor ac ymateb yn unol â hynny. Mae hefyd yn golygu helpu plant a phobl ifanc, teuluoedd a chymunedau, i ddatblygu eu gwytnwch a’u gallu i oresgyn trallod.
Mae’r rhan fwyaf o wasanaethau a gweithwyr proffesiynol wedi cydnabod bod angen gweithredu yng nghyswllt ACE. Fodd bynnag, rwy’n ymwybodol bod rhai yn parhau i gwestiynu ACE ac mae’n bwysig ein bod ni’n cydnabod y pryderon hyn. Mae un o’r prif bryderon yn ymwneud â’r posibilrwydd o gamddefnyddio sgôr ACE a’i cham-gymhwyso gydag unigolion i benderfynu pryd a sut i ymyrryd. Mae’r rhain yn bryderon dilys a dealladwy y mae’n rhaid i ni eu hystyried wrth ddatblygu ein polisi ACE yn y dyfodol.
Mae’r adolygiad wedi tynnu sylw at feysydd lle mae angen i ni wneud gwelliannau, yn enwedig o ran defnyddio’r cynnydd mewn ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ACE i newid y ffordd rydym yn ffurfweddu ein gwasanaethau cynnal a’r ymyriadau sy’n cael eu darparu. Mae wedi nodi’n glir nifer o feysydd lle mae rhanddeiliaid yn disgwyl i Lywodraeth Cymru ddarparu cyfeiriad polisi clir.
Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion gynnull grŵp gorchwyl a gorffen i ystyried canfyddiadau’r adolygiad a gwneud argymhellion i weinidogion ynghylch sut y dylid mynd ati i ddatblygu polisi ACE Llywodraeth Cymru. Rwy’n dymuno gweld y grŵp yn cynnwys rhanddeiliaid allanol a swyddogion Llywodraeth Cymru o amrywiaeth o feysydd polisi. Hoffwn i waith y grŵp gael ei arwain gan yr egwyddorion canlynol, sydd, yn fy marn i, yn bwysig iawn:
- Nid yw Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod yn anochel. Pan fo’n bosibl, dylai gwaith ACE ganolbwyntio ar atal trallod yn ystod plentyndod rhag digwydd yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, ni allwn anwybyddu’r angen i ddarparu ymatebion sympathetig a chymorth sy’n deall trawma i’r rheini mae ACE eisoes wedi effeithio arnyn nhw, na phwysigrwydd mabwysiadu dull seiliedig ar gryfderau a meithrin gwytnwch.
- Dylai ein dull o godi ymwybyddiaeth o drallod yn ystod plentyndod gefnogi rhieni ac osgoi canlyniadau anfwriadol, fel stigmateiddio neu gynyddu ymyriadau statudol y gellir eu hatal. Dylid hefyd osgoi canolbwyntio ar ymddygiad rhieni yn unig. Er mwyn atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod mae’n rhaid talu sylw i gyd-destunau cymdeithasol ac economaidd ehangach y bywyd teuluol.
- Mae angen i ni fod yn ofalus wrth ddefnyddio’r term ‘Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (ACE)’, yn ogystal â’r iaith rydym yn ei defnyddio i ddisgrifio trallod, a bod yn ystyriol o’i effaith. Ni ddylid byth ystyried ACE yn rhywbeth penderfynedig.
- Ni ddylid defnyddio’r ‘sgôr ACE’ gydag unigolion i bennu risg nac i benderfynu a ddylid cynnig ymyriad ai peidio na’r math o ymyriad y dylid ei gynnig.
- Dylai gwaith ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod adlewyrchu’r ffaith bod ACE yn uwch mewn ardaloedd o amddifadedd. Mae angen iddo gydnabod bod tlodi ac amddifadedd lluosog yn ffactorau sy’n achosi o leiaf rhai o’r trallodion hyn.
- Dylem gydnabod, cefnogi a hyrwyddo’r cyfraniad y gall dulliau hunan-gymorth a chefnogaeth gan gymheiriaid yn y gymuned ei wneud i atal trallod yn ystod plentyndod a lliniaru ei effaith.
Rwyf hefyd wedi gofyn i Ganolfan Cymorth ACE, a gaiff ei hariannu am flwyddyn arall, i gael ei harwain gan yr egwyddorion hyn yn ei gwaith.
Mae’n bwysicach nag erioed i ni gymryd camau ar drallod yn ystod plentyndod. Mae pandemig y coronafeirws wedi tynnu sylw unwaith eto at yr anghydraddoldebau sylweddol sy’n bodoli yn ein cymdeithas a sut mae hynny’n effeithio’n anghymesur ar rai plant a theuluoedd. Mae tystiolaeth eisoes yn awgrymu bod trallod yn ystod plentyndod wedi cynyddu o ganlyniad i COVID-19, yn enwedig yn rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig ac agored i niwed. Mae tystiolaeth ACE eisoes yn dweud wrthym beth fyddai goblygiadau hyn yn yr hirdymor os na fyddwn yn cymryd camau. Rwy’n siŵr y bydd effaith COVID-19 ar ein plant a’n pobl ifanc, ein teuluoedd a’n cymunedau wrth galon ystyriaethau’r grŵp gorchwyl a gorffen. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at weld canlyniadau gwaith y grŵp gorchwyl a gorffen.
Julie Morgan AS
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithaso
Crynodeb Gweithredol o adolygiad ACE
Cefndir
Mae Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (ACE) yn cyfeirio at ddigwyddiadau neu amgylchiadau trawmatig sy’n digwydd yn ystod plentyndod sy’n gallu arwain at ganlyniadau gwaeth mewn bywyd. Mae ACE yn cynnwys cam-drin plant (camdriniaeth ac esgeulustod corfforol ac emosiynol) a phrofiadau ehangach o gamweithrediad yr aelwyd (trais domestig, rhieni’n gwahanu, camddefnyddio sylweddau, salwch meddwl neu rieni’n cael eu carcharu). Gall y profiadau hyn arwain at les corfforol a meddyliol, canlyniadau addysgol, perthnasoedd gydag eraill a ffyniant economaidd gwaeth. Gallant hefyd gynyddu’r tebygolrwydd o ddod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol.
Mae astudiaethau o bob cwr o’r byd, gan gynnwys Cymru, yn cysylltu profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn gyson â mwy o debygolrwydd o ddatblygu amrywiaeth o glefydau cronig, fel afiechydon resbiradol, clefyd cardiofasgwlaidd neu ganser, a lles meddyliol gwaeth. Maen nhw’n dangos bod y risg yn cynyddu’n gyflymach, felly wrth i nifer y profiadau niweidiol yn ystod plentyndod gynyddu, felly hefyd y tebygolrwydd o ganlyniadau gwaeth. Fodd bynnag, cysylltiad ydy hyn yn hytrach na rhywbeth penderfynedig. Ni fydd y rheini sy’n cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, hyd yn oed mwy nag un profiad, o reidrwydd yn mynd ymlaen i gael canlyniadau gwaeth. Mae hyn oherwydd bod llawer o ffactorau eraill sy’n gallu dylanwadu ar ganlyniadau rhywun mewn bywyd. Er na ellir defnyddio profiadau niweidiol yn ystod plentyndod i ragweld pwy fydd, neu na fydd, yn mynd ymlaen i gael canlyniadau gwaeth, gellir eu defnyddio i nodi pa mor gyffredin yw canlyniadau gwaeth ar lefel y boblogaeth.
ACE yng Nghymru
Cafodd penderfyniad Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu mynd i’r afael ag ACE ei lywio gan ganfyddiadau astudiaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2015 i ‘Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod a’u heffaith ar ymddygiad sy'n niweidio iechyd ymhlith oedolion Cymru[1]’. Mae astudiaeth ddilynol yn 2017 ynghyd ag amrywiaeth o adroddiadau eraill a gyhoeddwyd wedi hynny wedi helpu i lywio datblygiad parhaus polisi ACE Llywodraeth Cymru.
Roedd astudiaeth 2015 yn dangos bod profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn weddol gyffredin, gydag oddeutu hanner yr holl oedolion yng Nghymru wedi cael o leiaf un profiad o’r fath yn ystod eu plentyndod. Erbyn 49 oed, roedd 24.9% o unigolion a oedd wedi cael pedwar neu fwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn dweud eu bod wedi cael diagnosis o un neu fwy o glefydau cronig. 6.9% oedd y ffigur ar gyfer pobl a oedd heb gael profiad niweidiol yn ystod eu plentyndod. Roedd y lefelau o glefydau cronig a gafodd ddiagnosis mewn pobl a oedd wedi cael pedwar neu fwy o brofiadau niweidiol yn ystod eu plentyndod yn debyg i unigolion tua deg mlynedd yn hŷn heb unrhyw brofiadau niweidiol yn ystod eu plentyndod. O’u cymharu â’r rheini heb unrhyw brofiadau niweidiol yn ystod eu plentyndod, roedd y rhai a oedd wedi cael pedwar neu fwy o brofiadau niweidiol o’r fath yn: bedair gwaith yn fwy tebygol o fod yn yfwyr risg uchel; chwe gwaith yn fwy tebygol o fod wedi cael rhyw dan 16 oed, o fod wedi cael neu fod wedi achosi beichiogrwydd anfwriadol ymysg pobl ifanc yn eu harddegau, ac o ysmygu; ac roedden nhw 16 gwaith yn fwy tebygol o fod wedi defnyddio crac cocên neu heroin. O’i gymharu â’r rheini heb unrhyw brofiadau niweidiol yn ystod eu plentyndod, roedd y rhai a oedd wedi cael pedwar neu fwy o brofiadau o’r fath bymtheg gwaith yn fwy tebygol o fod wedi cyflawni trais yn erbyn rhywun arall yn ystod y 12 mis diwethaf ac ugain gwaith yn fwy tebygol o fod wedi cael eu carcharu ryw dro yn ystod eu bywydau.
Mae cyhoeddi astudiaeth ACE Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ysgogi Cymru Well Wales (CWW), sef grŵp o sefydliadau sector cyhoeddus a thrydydd sector, ac eraill, gan gynnwys Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, i alw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Yn anad dim, mae CWW wedi galw am weithredu er mwyn:
- lleihau nifer yr ACE yng Nghymru;
- sicrhau bod pob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru yn gallu ymateb yn effeithiol i atal a lliniaru niwed yn sgil profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ar sail gwybodaeth am ACE); a
- datblygu ffactorau amddiffynnol a gwytnwch yn y boblogaeth i ymdopi â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod na ellid eu hatal.
Ar ben hynny, roedd CWW wedi galw am sefydlu Canolfan Cymorth ACE ar gyfer Cymru (Canolfan) fel canolfan wybodaeth, tystiolaeth ac arbenigedd ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Polisi ACE Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i fynd i’r afael ag ACE yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Mae wedi nodi ei hymrwymiad i fynd i’r afael ag ACE yn ei rhaglen lywodraethu, ‘Symud Cymru Ymlaen[2]’, a sut roedd yn bwriadu gwneud hynny yn ‘Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol[3]’. Mae Symud Cymru Ymlaen yn cydnabod bod profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn rhwystro plant rhag cael y dechrau gorau posib mewn bywyd ac mae’n cydnabod bod angen cefnogi teuluoedd i leihau’r profiadau niweidiol hynny. Roedd Ffyniant i Bawb yn cynnwys camau i atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a lliniaru eu heffaith drwy greu gwasanaethau cyhoeddus sy’n ‘ymwybodol o ACE’, meithrin gwytnwch plant a phobl ifanc, a threialu Rhoi Plant yn Gyntaf sef dull dan arweiniad y gymuned o leihau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a gwella cadernid. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cytuno i gefnogi’r gwaith o sefydlu Canolfan Cymorth ACE ar gyfer Cymru.
Mae datblygiad parhaus polisi ACE Llywodraeth Cymru wedi cael ei lywio gan ail astudiaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru o ACE yng Nghymru (2017) ac amrywiaeth o adroddiadau eraill sy’n edrych ar agweddau penodol ar ACE. Roedd hyn yn cynnwys effaith gwytnwch fel ffactor amddiffynnol a lles meddyliol (2018)[4], a pha mor gyffredin ydy profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ymysg poblogaethau mwy agored i niwed, gan gynnwys pobl ddigartref, carcharorion sy'n ddynion a ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Dylanwadwyd ar y polisi hefyd gan waith y Ganolfan a’r Rhaglen Camau Cynnar Gyda’n Gilydd[5], a thrwy ddysgu o amrywiaeth o gynlluniau peilot hyfforddiant, gan gynnwys ar gyfer y sector tai a digartrefedd, ysgolion, cyfiawnder ieuenctid a gwasanaethau ieuenctid.
Mae cynnydd da wedi’i wneud tuag at sefydlu gwasanaethau cyhoeddus sy’n ymwybodol o ACE yng Nghymru, ac mae cynllun peilot Rhoi Plant yn Gyntaf yn weithredol mewn wyth cymuned yng Nghymru. Mae’r Ganolfan wedi chwarae rhan allweddol o ran codi ymwybyddiaeth o ACE, yn bennaf drwy ddatblygu a chefnogi’r gwaith o gyflwyno rhaglenni hyfforddiant ymwybyddiaeth. Mae wedi cyflwyno rhaglen hyfforddi gynhwysfawr i dros 600 o ysgolion ac i fwy na 1,100 o swyddogion tai. Rhoddwyd hyfforddiant i dros 300 o Lysgenhadon ACE, 140 o arolygwyr Estyn a chynghorwyr herio, 120 o weithwyr ieuenctid a 95 o ‘hyfforddi’r hyfforddwyr’. Mae’r Ganolfan hefyd wedi cefnogi gwasanaethau i fynd y tu hwnt i hyn drwy weithio i ddeall trawma. Erbyn diwedd y Rhaglen Camau Cynnar Gyda’n Gilydd ym mis Mawrth 2020, roedd bron i 6,500 o swyddogion heddlu a staff sy’n gweithio mewn sefydliadau eraill wedi derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth ACE drwy raglen ‘Hyfforddiant Amser ACE’ y Rhaglen Camau Cynnar Gyda’n Gilydd.
Mae nifer o wasanaethau cyhoeddus wedi bod yn barod iawn i ddefnyddio lens ACE ar gyfer eu gwasanaethau, ac maen nhw wedi sicrhau bod hyfforddiant ymwybyddiaeth ACE ar gael i’w staff. Fodd bynnag, mae rhai gwasanaethau wedi bod yn fwy amharod i wneud hynny, ac wedi cwestiynu dilysrwydd y dull ACE. Gyda hyn mewn golwg, ac wrth i’r rhaglen lywodraethu a’i hymrwymiadau presennol ddod i ben, gofynnodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am adolygiad o bolisi ACE presennol Llywodraeth Cymru er mwyn helpu i lywio ei gyfeiriad yn y dyfodol.
Yr Adolygiad o Bolisi ACE Llywodraeth Cymru
Prif nodau’r adolygiad oedd edrych ar sut roedd y polisi’n cyfrannu at gyflawni nod cyffredinol Llywodraeth Cymru o sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y dechrau gorau mewn bywyd a’r cyfle i gyflawni ei botensial, a sut y dylai’r polisi ddatblygu yn y dyfodol. Cwmpas yr adolygiad oedd ystyried y canlynol:
- polisi ACE presennol Llywodraeth Cymru a sut mae’n cyfrannu at atal ACE a rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn
- y sylfaen dystiolaeth bresennol, yn enwedig unrhyw dystiolaeth newydd a gyhoeddwyd yn ystod tymor y Cynulliad presennol
- iaith bresennol ACE a’i heffaith ar waith i atal ACE a lliniaru ei effaith
- ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gyfredol o ACE ymysg gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd a
- rôl Canolfan Cymorth ACE ar gyfer Cymru.
Cynhaliwyd yr adolygiad mewn dau gam. Roedd y cam cyntaf yn cynnwys adolygiad desg o’r dogfennau a’r dystiolaeth a oedd yn sail i bolisi ACE Llywodraeth Cymru ar lefel maes polisi unigol a chyffredinol.
Roedd Cam 2 yn cynnwys ‘trafodaeth’ gyda rhanddeiliaid am eu barn ar bolisi ACE Llywodraeth Cymru a sut y dylid ei ddatblygu yn y dyfodol. Cynhaliwyd y drafodaeth gyda rhanddeiliaid allanol gan ymgynghorwyr annibynnol, Re:cognition, tra bo'r trafodaethau gydag arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru wedi cael eu cynnal gan swyddogion o’r Is-adran Plant a Theuluoedd.
Canfyddiadau Cam 1
Roedd rhai o brif ganfyddiadau’r adolygiad o dystiolaeth a dogfennau’n cynnwys:
- Roedd corff sylweddol a chyson o dystiolaeth yn dangos bod cysylltiad cryf rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac iechyd corfforol a meddyliol gwaeth, a chanlyniadau eraill, ar hyd cwrs bywyd.
- Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn gyffredin. Bydd tua hanner yr holl oedolion wedi cael o leiaf un profiad niweidiol yn ystod eu plentyndod.
- Po fwyaf o brofiadau niweidiol a geir yn ystod plentyndod, y mwyaf yw’r tebygolrwydd o gael canlyniadau gwaeth.
- Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn fwy cyffredin mewn poblogaethau agored i niwed. Er enghraifft, bydd tua 14% o oedolion yn y boblogaeth wedi cael pedwar neu fwy o brofiadau niweidiol yn ystod eu plentyndod, ond mae hyn yn codi i bron i 50% o fewn y boblogaeth o ddynion yn y carchar ac ymysg y rheini sydd â phrofiad personol o fod yn ddigartref.
- Gall camau i atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a lliniaru eu heffaith arwain at fanteision sylweddol i unigolion, eu teuluoedd, cymunedau a’r gymdeithas yn gyffredinol. Gall cymryd camau helpu i leihau’r galw ar wasanaethau cyhoeddus nawr ac yn y dyfodol.
- Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn rhwystro plant rhag cael y dechrau gorau mewn bywyd a’r cyfle i gyflawni eu potensial. Felly, mae cael polisi ACE yn gyson â nodau cyffredinol y rhaglen lywodraethu a’r strategaeth genedlaethol, ac yn cefnogi’r nodau hynny.
- Mae camau wedi’u cymryd i fynd i’r afael ag ACE ar draws ystod eang o feysydd polisi. Gwnaed buddsoddiad sylweddol yn barod mewn amser ac adnoddau, gan gynnwys gan Lywodraeth Cymru, i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn ymwybodol o ACE ac yn deall trawma.
- Mae nifer sylweddol o bolisïau, strategaethau, cynlluniau cyflawni a rhaglenni Llywodraeth Cymru eisoes wedi defnyddio ‘lens ACE’ wrth eu datblygu, gan gynnwys ym meysydd camddefnyddio sylweddau, addysg, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, tai, a throseddu a chyfiawnder. Mae rhai o’r polisïau hyn wedi cael eu cymeradwyo ar lefel y cabinet o fewn Llywodraeth Cymru ac mewn cyrff allanol, fel awdurdodau lleol.
Roedd Cam 1 yn dangos yn glir sut mae ymwybyddiaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a’u heffaith wedi cael ei wreiddio mewn nifer o feysydd polisi a gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r gwaith hwn wedi cynyddu yn sgil ymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd[6]. Roedd Cam 1 yn dangos sut mae’r sylfaen dystiolaeth, codi ymwybyddiaeth, mabwysiadu iaith gyffredin, a dealltwriaeth o fanteision datblygu gwasanaethau sy’n ymwybodol o ACE ac sy’n deall trawma, wedi dylanwadu ar y dirwedd polisi yng Nghymru a’i newid. Cafodd hyn ei yrru nid yn unig gan y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu’r fframwaith ACE yn ganolog, ond hefyd gan waith eraill y tu allan i’r llywodraeth. Mae’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu ACE hyd yn oed wedi dylanwadu ar ddatblygiad a chyfeiriad rhai o bolisïau llywodraeth y DU ar feysydd nad ydynt wedi’u datganoli.
Yr hyn nad yw’n glir eto yw pa effaith y mae polisi ACE wedi’i chael ar wella canlyniadau a pha gamau a chymorth sy’n gallu gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Wrth i ni edrych ar yr effaith ar draws cwrs bywyd, gallai fod yn flynyddoedd lawer, hyd yn oed ddegawdau, cyn y bydd effaith lawn y penderfyniad i fabwysiadu’r fframwaith ACE yn hysbys.
Dim ond y cam cyntaf yw codi ymwybyddiaeth o ACE mewn gwasanaethau cyhoeddus ac, ynddo’i hun, nid yw’n debygol o sicrhau’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant na’r cyfle i gyflawni eu potensial. Mae’n bwysig inni ddeall yn glir pa ymyriadau sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol a phwy ddylai eu derbyn a phryd. Fodd bynnag, mae rhai arwyddion cynnar addawol yn barod o ran sut y gall dim ond ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod wneud gwahaniaeth go iawn. Er enghraifft, mae gwaith i godi ymwybyddiaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod mewn ysgolion eisoes wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ymddygiad, presenoldeb a chanlyniadau addysgol disgyblion.
Yn ogystal ag edrych ar gryfderau’r sylfaen dystiolaeth bresennol ar gyfer ACE, roedd Cam 1 yn ystyried ei chyfyngiadau. Roedd yn ymchwilio i’r rhesymau pam mae rhai yn mynegi pryderon ynghylch mabwysiadu’r fframwaith ACE neu’n gwrthwynebu hynny. Nid oedd y pryderon hyn wedi’u cyfeirio’n benodol at bolisi Llywodraeth Cymru.
Roedd y pryderon yn cynnwys:
- Ymchwil epidemiolegol yw’r astudiaethau ACE a dim ond ceisio canfod patrymau a thebygolrwydd afiechydon ar lefel y boblogaeth maen nhw, yn ogystal â’u hachosion sylfaenol a sut i’w hatal. Mynegwyd pryderon ynghylch y posibilrwydd o gamddefnyddio’r ‘sgôr ACE’. Datblygwyd hwn at ddibenion ymchwil. Ni chafodd ei gynllunio i gael ei ddefnyddio gydag unigolion i bennu risg, i benderfynu a ddylid cynnig ymyriad ai peidio, na’r math o ymyriad y dylid ei gynnig.
- Mae ACE yn patholegu problemau cymdeithasol ac yn ceisio cymhwyso atebion clinigol iddynt. Mae’r dull yn tueddu i unigoleiddio’r problemau a rhoi’r cyfrifoldeb yn bennaf ar ymddygiad y rhieni. Mae’n rhoi’r cyfrifoldeb dros wella canlyniadau ar rieni am faterion lle nad oes ganddynt lawer o reolaeth na dylanwad na'r gallu i fynd i’r afael â nhw.
- Mae’r fframwaith ACE yn anwybyddu ffynonellau a mathau eraill o drallod, fel salwch yn ystod plentyndod, anabledd, bwlio neu brofedigaeth; neu effaith ffactorau eraill fel anghydraddoldebau strwythurol a chymdeithasol, gan gynnwys tlodi.
- Mae’n trin pob un o’r deg ACE yn union yr un fath ac nid yw’n rhoi cyfrif am effaith ffactorau fel pryd digwyddodd yr ACE, difrifoldeb, amlder neu hyd, na nodweddion personol yr unigolyn na’r gefnogaeth a oedd ar gael iddynt, a allai gynyddu neu leihau’r effaith.
- Mae perygl i arferion gwael ddeillio o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ee cyfrif profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn hytrach na chanolbwyntio ar eu heffaith er mwyn penderfynu pryd a sut i ymyrryd a chyda phwy.
- Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn ffordd syml o egluro natur gymhleth y berthynas, y rhyngddibyniaethau a’r llwybrau rhwng trallod a thrawma yn ystod plentyndod a chanlyniadau mewn bywyd. Nid yw profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn rhywbeth penderfynedig, ac ni fydd llawer o bobl sydd wedi cael profiadau o’r fath yn cael canlyniadau gwaeth. Mae perygl y bydd yn gorsymleiddio ac yn cyffredinoli ein dealltwriaeth o brofiadau unigol ac unigryw pob plentyn a’i lwybrau bywyd, a allai arwain at lunwyr polisi yn labelu segmentau o gymdeithas yn anghywir fel rhai diffygiol mewn rhyw ffordd ac yn datblygu eu polisïau yn unol â hynny.
- Cryfder y cysylltiad rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a chanlyniadau gwaeth, ac effaith ffactorau eraill sy’n gallu dylanwadu ar yr un canlyniadau. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod y cysylltiad rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac iechyd meddwl a lles gwaeth yn gryfach nag ar gyfer rhai cyflyrau iechyd corfforol.
- Mae rhai yn ystyried bod y dull ACE yn seiliedig ar ddiffygion yn hytrach na chryfderau a bod ganddo’r potensial i gael ei ddefnyddio i feio, labelu a stigmateiddio’r rhai y mae’n honni ei fod yn eu helpu.
Mae angen cadw'r pryderon dilys hyn mewn cof wrth ddatblygu polisi ACE Llywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod mathau eraill o drallod a thrawma yn ystod plentyndod sy’n gallu dylanwadu ar ganlyniadau a chyfleoedd rhywun mewn bywyd. Mae’n cydnabod bod cydberthynas gymhleth rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a ffynonellau eraill o drallod a thrawma yn ystod plentyndod, ac mae angen gwneud rhagor o waith i ddeall y cysylltiadau hyn. Mae hyn yn arbennig o wir yn y berthynas rhwng tlodi plant ac ACE.
Roedd Cam 1 o’r adolygiad yn nodi cyfres o gwestiynau i’w gofyn i randdeiliaid yn ystod Cam 2:
- A yw’r dystiolaeth bresennol ynghylch profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn ddigon i bennu dull gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella canlyniadau i blant, gan gynnwys rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn a’r cyfle i gyflawni ei botensial? Os nad yw, pa dystiolaeth arall y mae ei hangen arnom?
- Ai defnyddio dull iechyd y cyhoedd i fynd i’r afael ag ACE a lliniaru ei effaith yw’r dull cywir a pham? Os nad yw, beth ddylai’r dull fod?
- Sut y gellir defnyddio’r dystiolaeth o astudiaethau ACE ar lefel poblogaeth epidemiolegol fel sail i ddatblygu polisïau, rhaglenni, gwasanaethau ac ymyriadau a gyflwynir ar lefel yr unigolyn?
- Beth yw’r berthynas rhwng polisi ACE presennol Llywodraeth Cymru a’i pholisïau i fynd i’r afael â thrallod ac anghydraddoldebau ehangach sydd hefyd yn effeithio ar gyfleoedd a chanlyniadau bywyd?
- Pa mor effeithiol fu’r Ganolfan Cymorth ACE o ran cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a meithrin cadernid mewn gwasanaethau cyhoeddus, cymunedau a theuluoedd?
- Pa rôl, os o gwbl, ddylai Canolfan Cymorth ACE ei chwarae o ran cyflawni polisi Llywodraeth Cymru yn y dyfodol?
- A yw’r term Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (ACE) yn cefnogi neu’n tanseilio nodau ehangach Llywodraeth Cymru? Beth yw manteision ac anfanteision unrhyw opsiynau eraill y gellid eu defnyddio?
- Beth a olygir wrth ymarfer sy'n deall trawma?
- Beth ddylai polisi Llywodraeth Cymru fod o ran ymchwiliad ACE arferol?
- Cyfeiriwyd at y gwaith a wnaed yng Nghymru ar ACE fel enghraifft o arfer da yn y DU ac yn rhyngwladol. Sut gellid datblygu hyn ymhellach?
- Sut dylai polisi Llywodraeth Cymru ar ACE adlewyrchu effaith debygol pandemig COVID-19?
Cam 2 o Adolygiad Polisi ACE
Prif ganfyddiadau’r drafodaeth gyda rhanddeiliaid allanol
Rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2020, siaradodd Re:cognition â 33 o unigolion a oedd yn cynrychioli croestoriad amrywiol o wasanaethau a phroffesiynau. Roedd hyn yn cynnwys gweithwyr proffesiynol a oedd yn gweithio yng Nghymru a’r tu allan i Gymru yn ogystal â’r rheini a oedd yn cefnogi ACE a’r rheini a oedd yn ei erbyn. Ar ben hynny, cynhaliwyd tri sesiwn grŵp a oedd yn cynnwys 27 o randdeiliaid eraill. Er nad oedd y sampl yn groestoriad cynrychioliadol o randdeiliaid, roedd yn cynrychioli ystod eang o wasanaethau, gweithwyr proffesiynol ac academyddion â barn berthnasol ynghylch ACE.
Yn gyffredinol, roedd llawer iawn o gefnogaeth ar gyfer mabwysiadu’r fframwaith ACE yng Nghymru ac am y gwaith sydd wedi cael ei wneud gan Ganolfan Cymorth ACE i godi ymwybyddiaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Ni chanfu’r trafodaethau fawr o dystiolaeth a oedd yn cefnogi pryderon ynghylch camddefnyddio ACE. Er bod rhai rhanddeiliaid yn dweud eu bod wedi clywed am enghreifftiau o hynny’n digwydd, nid oeddent yn gallu nodi enghreifftiau penodol. Y pedwar prif faes sy’n peri pryder yw:
- Nid yw'r fframwaith ACE yn cydnabod, nac yn ceisio mynd i’r afael â chymhlethdodau achosion cymdeithasol, economaidd a strwythurol trawma, fel tlodi, tai, anghydraddoldeb a ffactorau economaidd-gymdeithasol eraill;
- Mae diffyg eglurder ynghylch yr iaith a’r diffiniadau a ddefnyddir yn y fframwaith ACE, megis ymwybodol o ACE, deall trawma ac amrywiadau eraill sy’n cael eu defnyddio’n gyfnewidiol ac sydd ag ystyron gwahanol ymysg darparwyr gwasanaeth;
- Y potensial i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod gael eu hystyried yn rhywbeth penderfynedig, sy’n labelu ac yn stigmateiddio; ac
- Roedd y rheini a gynigiodd drosolwg mwy strategol o’r berthynas rhwng polisi ACE a pholisïau i fynd i’r afael â thrallod ac anghydraddoldeb ehangach, wedi mynegi pryderon ynghylch yr hyn roeddent yn ei ystyried yn ‘ddull tameidiog’, gyda ‘diffyg gweledigaeth wleidyddol’ ac sy’n ‘parhau i ddioddef o ganlyniad i adrannau’n meddwl mewn seilos’.
Mewn perthynas â’r cwestiynau penodol a nodwyd yn ystod Cam 1, canfu’r drafodaeth:
- Bod bron pob un o’r rhanddeiliaid yn cydnabod bod corff sylweddol a chyson o dystiolaeth yn bodoli sy’n cysylltu trallod yn ystod plentyndod â risg uwch o ganlyniadau gwaeth ar draws cwrs bywyd. Teimlent fod digon o dystiolaeth eisoes i gefnogi’r angen i weithredu ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
- Roedd sylfaen dystiolaeth gref yn cael ei hystyried yn hanfodol, yn ogystal â’r angen i barhau i gasglu tystiolaeth. Er y cydnabuwyd bod ymchwil ar raddfa fawr yn ddrud, tynnwyd sylw at y diffyg data monitro/gwerthuso cadarn o ansawdd da ar hyn o bryd ar gyfer y rhaglenni, y prosiectau neu’r cynlluniau peilot sy’n cael eu cynnal ledled Cymru.
- Barnwyd bod polisi cyfredol Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i godi ymwybyddiaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yng Nghymru. Fodd bynnag, cydnabuwyd bod angen symud i’r cam nesaf, sy’n gofyn am ffocws ar ‘beth sy’n gweithio’ a chefnogaeth ar gyfer ‘datblygu ymarfer effeithiol’.
- Roedd cefnogaeth i gymryd agwedd iechyd cyhoeddus tuag at brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
- Oni bai eu bod yn gweithio ym maes ymchwil, roedd y rhan fwyaf o’r rhanddeiliaid yn teimlo na allent roi sylwadau ar ddefnyddio astudiaethau epidemiolegol i lywio’r datblygiad o bolisïau. Roedd y rheini a oedd yn gweithio ym maes ymchwil yn cytuno bod defnyddio astudiaethau epidemiolegol yn ffordd bwysig ac effeithiol o lywio cyfeiriad polisi ACE yng Nghymru; ond roeddent yn cydnabod bod cyfyngiadau ar dystiolaeth o’r fath.
- Roedd nifer o randdeiliaid o’r farn bod y berthynas rhwng polisi ACE cyfredol Llywodraeth Cymru a’i pholisïau i fynd i’r afael â thrallod ehangach, yn dda iawn ar y cyfan.
- Er bod rhanddeiliaid yn gadarnhaol iawn ynghylch rôl Canolfan Cymorth ACE Cymru, roeddent yn teimlo bod angen symud ei sylw o godi ymwybyddiaeth i ‘beth sy’n gweithio’.
- O ran mabwysiadu’r term ‘profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE)’, roedd llawer o randdeiliaid yn ansicr ynghylch a oedd yn cefnogi neu’n tanseilio agenda Llywodraeth Cymru a nodau polisi ehangach.
- Roedd rhai rhanddeiliaid yn cwestiynu a oedd y rhestr bresennol o ddeg profiad niweidiol yn ystod plentyndod yn ddigonol i ddeall hyd a lled y trawma a brofir gan blant ac oedolion a pham fod materion systemig eraill wedi’u heithrio.
- Roedd diffyg pryder cyffredinol ynghylch defnyddio’r term Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, oherwydd ystyriwyd bod angen canolbwyntio ar faterion eraill. Roedd hyn yn cynnwys yr angen i fynd i’r afael â thrawsnewid systemau, prosesau ac arferion sy’n rhwystro ymyriadau cynnar, atal a lliniaru effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn effeithiol. Credai llawer y dylai Llywodraeth Cymru fod yn canolbwyntio ar drawsnewid systemau, yn hytrach nag a ddylid parhau i ddefnyddio’r term Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod.
- Mewn ymateb i’r cwestiwn am yr hyn a olygir wrth ‘ymarfer sy’n deall trawma’, roedd diffyg consensws. Nododd rhanddeiliaid fod ystod eang o amrywiadau’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd ac roeddent yn disgwyl i Lywodraeth Cymru ddarparu arweiniad clir.
- Nid oedd y rhan fwyaf o’r rhanddeiliaid yn teimlo eu bod yn gallu rhoi sylwadau ynghylch a oedd ymchwiliad ACE arferol yn briodol. Roedd rhanddeiliaid yn disgwyl i Lywodraeth Cymru ddarparu’r arweiniad, ond roeddent yn awgrymu y gallai fod angen rhagor o ymchwil. Roedd y rheini a oedd yn teimlo eu bod yn gallu rhoi sylwadau yn cefnogi ymchwiliad ACE arferol yn bennaf, ond roeddent yn glir bod angen eu targedu’n briodol, eu bod yn wybodus ac yn berthnasol. Roedd nifer fechan o randdeiliaid wedi mynegi gwrthwynebiad cryf i ddefnyddio unrhyw fath o ymchwiliad ACE.
- Roedd y rhan fwyaf o’r rhanddeiliaid yn credu bod Cymru’n cael ei gweld fel gwlad sy’n arwain ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ond roeddent hefyd yn teimlo y byddai’n llithro’n ôl yn fuan pe na bai profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru mwyach.
- Mynegodd nifer o randdeiliaid bryderon am effaith pandemig COVID ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Cyfeiriodd llawer at hyn fel enghraifft, sef y cynnydd yn nifer yr achosion o drais domestig sy’n cael eu hadrodd yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol. Yr oeddent o blaid gweithredu ar frys i amddiffyn plant a phobl ifanc.
Opsiynau a nodwyd gan Re:cognition i’w hystyried
Nododd Re:cognition bedwar opsiwn i Lywodraeth Cymru eu hystyried. Sef:
Opsiwn 1
Bod Llywodraeth Cymru yn dod â’i hymrwymiadau polisi ACE i ben ar ddiwedd y rhaglen lywodraethu gyfredol.
Roedd y manteision a nodwyd yn cynnwys:
- Arbedion cost o’r cyllid a ddarperir ar hyn o bryd ar gyfer Canolfan Cymorth ACE.
- Yr opsiwn i ddisodli’r fframwaith ACE â fframwaith arall.
- Byddai’n cael gwared ar ddull gweithredu a ystyrir gan rai yn broblemus.
Roedd yr anawsterau a oedd yn gysylltiedig â'r opsiwn hwn yn cynnwys:
- Dyma’r un a gafodd y gefnogaeth leiaf gan randdeiliaid. Roedd y cyfan bron o blaid parhau i ddefnyddio’r fframwaith ACE.
- Gallai rhoi’r gorau i’r fframwaith ACE niweidio enw da Llywodraeth Cymru oherwydd y ffocws a roddir iddo yn rhaglen y llywodraeth a’r amser a’r adnoddau sydd eisoes wedi’u buddsoddi ganddi hi, ac eraill, i hyrwyddo profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Roedd hyn yn cynnwys Canolfan Cymorth ACE.
- Mae’r fframwaith ACE wedi’i wreiddio ym mholisïau Llywodraeth Cymru.
Casgliad Re:cognition ar Opsiwn 1
Yr opsiwn hwn oedd y lleiaf derbyniol i randdeiliaid a dim ond nifer fach iawn a’i cefnogodd.
Opsiwn 2
Cael gwared ar y ddarpariaeth ariannol ar gyfer Canolfan Cymorth ACE. Gan fod cyllid ar gyfer 2021-22 wedi cael ei gytuno’n barod, awgrymodd Re:cognition y dylid gofyn i’r Ganolfan ganolbwyntio ar rai meysydd gwaith penodol a oedd wedi cael eu nodi yn ystod y trafodaethau. Byddai hyn yn cynnwys:
- cynnal ymarfer mapio systemau cynhwysfawr o holl dirwedd ACE yng Nghymru;
- creu ‘cymuned ymarfer system gyfan’ i helpu i greu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer cyfeiriad y gwaith yn y dyfodol yng nghyswllt profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Dylai hyn gynnwys arweinyddiaeth gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys elfennau o annibyniaeth ar yr un pryd; ac
- ailwampio deunyddiau hyfforddi, gan gynnwys fideo Iechyd Cyhoeddus Cymru ‘Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) (Cymru)’.
Casgliad Re:cognition ar Opsiwn 2:
Dim ond nifer fach o randdeiliaid a gefnogodd yr opsiwn hwn. Roedd y rhan fwyaf yn gweld manteision cael Canolfan Cymorth ACE annibynnol ac yn cefnogi ei pharhad – er eu bod yn gweld bod angen newid ei rôl. Heb y Ganolfan, mynegodd llawer eu hofnau y byddai’r cynnydd a wnaed hyd yma, yn ogystal â’r sylfaen wybodaeth, yn cael eu colli, ac na fyddai neb i fwrw’r agenda yn ei blaen.
Opsiwn 3
Mabwysiadu cynllun busnes y Ganolfan Cymorth ACE. Awgrymodd Re:cognition y byddai dau brif ddewis:
- Darparu cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn ychwanegol (2021-2022), a fyddai’n rhoi amser i gyflawni rhai o’r camau gweithredu a nodir yn y cynllun; neu
- Y cytundeb i barhau i ddarparu cyllid dros ddwy flynedd (2021-2023), gyda'r cyllid yn lleihau yn raddol ym mlwyddyn dau (2022-2023). Byddai hyn yn rhoi amser i’r Ganolfan ddatblygu, sefydlu a gwerthuso nifer o raglenni, yn ogystal â’i galluogi i gynnal gwerthusiad ‘diwedd rhaglen’ gyda dadansoddiad cost a budd.
Casgliad Re:cognition ar Opsiwn 3
Ni fyddai’r opsiwn hwn yn gwireddu’r rhan fwyaf o ddyheadau’r rhanddeiliaid, a oedd yn cynnwys yr awydd i weld Llywodraeth Cymru yn datblygu gweledigaeth a chyfeiriad hirdymor ar gyfer ei hagenda ACE, gyda chefnogaeth Canolfan Cymorth ACE gryfach, gyda ffocws ar newid systemig ac ar ‘beth sy’n gweithio’ yn ymarferol.
Opsiwn 4
Mae Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu ‘dull system’ i ddatblygu a chyflwyno ei pholisi ACE. Byddai hyn yn cynnwys yr angen i:
- Ddatblygu map systemau ar gyfer holl dirwedd ACE
- Darparu arweiniad a chefnogaeth glir i ddatblygu gweledigaeth gyffredin gydlynol, gyda chyd-ddealltwriaeth yn gefn iddi
- Creu ‘cymuned ymarfer’ system gyfan
- Mynd i’r afael â thrallod ehangach drwy lygaid ACE
- Cefnogi gwaith ymchwil a gwerthuso pellach ar yr hyn sy’n gweithio; ac
- Adolygu’r deunyddiau hyfforddi presennol a’r defnydd o iaith.
Casgliad Re:cognition ar Opsiwn 4
Opsiwn 4 oedd y dull mwyaf ffafriol ymysg rhanddeiliaid. Teimlent y dylai Llywodraeth Cymru dderbyn, yn ddigamsyniol, bod yr achos dros fabwysiadu’r fframwaith ACE wedi’i gyflwyno ac y dylai’n awr ganolbwyntio ar beth sy’n gweithio. Roedd rhanddeiliaid am i Lywodraeth Cymru nodi ei pholisi yn glir, a phrif nodau ac amcanion y polisi. Roedd rhanddeiliaid o’r farn y dylai’r polisi adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud, tuag at ‘ddull systemau’ mwy cydlynol a chydgysylltiedig. Galwodd rhai ar Lywodraeth Cymru i ystyried sut y gellir gwreiddio hawliau plant ymhellach yng nghanol y polisi ACE.
Roedd rhai rhanddeiliaid yn teimlo nad oedd y system bresennol yn ddigon ‘cydgysylltiedig’ ac nad oedd ganddi’r weledigaeth a’r ddealltwriaeth gyffredin angenrheidiol. Roeddent am weld arweinyddiaeth wleidyddol gref a chlir gan Lywodraeth Cymru a phenderfyniadau beiddgar. Roeddent yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd yr awenau o ran datblygu iaith gyffredin a chyson, gan gynnwys yr hyn a olygir gan ddull ‘sy’n deall trawma’.
Roedd rhanddeiliaid yn galw am well aliniad rhwng pobl allweddol yn y system ACE, gan gynnwys rhwng Canolfan Cymorth ACE, yr Uned Atal Trais a’r Rhaglen Camau Cynnar Gyda’n Gilydd.
Roedd rhanddeiliaid yn teimlo y gellid cefnogi datblygiad y system a’r aliniad rhwng y bobl allweddol drwy sefydlu cymuned ymarfer. Teimlent y gallai hyn helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu gweledigaeth gyffredin, a allai fod yn sbardun ar gyfer gwaith ACE yn y dyfodol. Teimlent fod angen i’r weledigaeth hon ystyried trallod ehangach, nid dim ond profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Roedd y rhan fwyaf o’r rhanddeiliaid yn teimlo y dylai Canolfan Cymorth ACE gael rôl barhaus yn cefnogi Llywodraeth Cymru ac eraill i ddatblygu a chyflawni’r polisi ACE.
Prif ganfyddiadau’r ‘drafodaeth’ gydag arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru
Cyfrannodd yr arweinwyr polisi o 13 maes polisi gwahanol at drafodaeth y rhanddeiliaid mewnol (Gweler Atodiad 1). Gofynnwyd iddynt am eu barn ar bolisi cyfredol ACE Llywodraeth Cymru, ei effaith ar eu meysydd polisi a’u barn ar ddatblygu unrhyw bolisi ACE yn y dyfodol.
Prif ganfyddiadau
- Roedd yr holl arweinwyr polisi yn ymwybodol o bolisi ACE Llywodraeth Cymru ac yn dangos dealltwriaeth dda o ACE, eu heffaith a’u cysylltiad â chanlyniadau gwaeth ar draws cwrs bywyd. Roeddent yn cydnabod bod y berthynas rhwng ACE a chanlyniadau gwaeth yn gysylltiedig â’i gilydd yn hytrach nag yn benderfynedig.
- Roedd arweinwyr polisi yn hyderus ynghylch cryfder y sylfaen dystiolaeth ac yn gyfarwydd iawn â chanfyddiadau astudiaethau ACE Iechyd Cyhoeddus Cymru. Er bod tystiolaeth ACE, i’r mwyafrif, yn cefnogi’r cyfeiriad y mae eu polisi eisoes yn ei gymryd, i rai, roedd yn rhywbeth ychwanegol i’w ystyried wrth ddatblygu eu polisïau.
- Ystyriwyd y dystiolaeth epidemiolegol ar ACE yn ddefnyddiol ar gyfer datblygu polisi ar lefel y boblogaeth, ond yn llai felly ar lefel yr unigolyn o ran helpu i ganfod ‘beth sy’n gweithio’, neu beth sy’n cael ei ystyried yn ymyriadau effeithiol.
- Cyfeiriodd y rhan fwyaf yn benodol at rôl cadernid wrth amddiffyn pobl rhag profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a gallent nodi rhai o’r prif ffynonellau o gadernid. Gallai pob un gyfeirio at bwysigrwydd cael ‘oedolyn sydd ar gael drwy’r amser’ wrth ddatblygu cadernid.
- Roedd arweinwyr polisi’n deall sut roedd polisi canolog Llywodraeth Cymru ar ACE wedi dylanwadu ar eu polisïau nhw, ond roedd rhai yn teimlo nad oedd wedi mynd mor bell ag y gallai i fod yn sbardun polisi allweddol. Soniodd y rhan fwyaf hefyd am sut roedd y polisi canolog wedi dylanwadu ar ddatblygu polisi a darparu gwasanaethau y tu allan i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys mewn rhai meysydd polisi gan Lywodraeth y DU sydd heb ddatganoli.
- Roedd cydnabyddiaeth mai dim ond un ystyriaeth yw ACE ac mae angen gweithredu i fynd i’r afael â ffynonellau eraill o drallod sy’n gysylltiedig â’r un canlyniadau gwael. Roedd yn cael ei ystyried yn ‘ACE a’r ffynonellau eraill hyn o drallod’ yn hytrach na ‘ACE neu’r ffactorau eraill hyn’.
- Roedd y rhan fwyaf o arweinwyr polisi yn teimlo bod profiadau niweidiol yn ystod plentyndod wedi helpu i ddarparu iaith a dealltwriaeth gyffredin ynghylch sut y gall dod i gysylltiad â thrallod plentyndod effeithio ar ganlyniadau diweddarach, ac roedd hyn wedi helpu wrth gydweithio rhwng ardaloedd a gwasanaethau. Roedd newid y term profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn cael ei weld fel rhywbeth a allai fod yn broblemus ac yn niweidiol wrth fynd i’r afael â thrawma a thrallod yn ystod plentyndod.
- Teimlai’r rhan fwyaf ei bod yn rhy gynnar yn y broses o ddatblygu’r polisi i bennu ei effaith. Roeddent yn nodi, fodd bynnag, bod llawer iawn o amser ac adnoddau wedi cael eu buddsoddi eisoes ac roeddent yn bryderus iawn am yr effaith bosibl y gallai symud oddi wrth y polisi ACE presennol ei chael. Roedd hyn yn cynnwys penderfyniadau am bolisïau Llywodraeth y DU a oedd wedi cael eu dylanwadu gan bolisi Llywodraeth Cymru ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod.
- Dywedodd rhai arweinwyr polisi eu bod wedi trafod iaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod gyda’u rhanddeiliaid ac roedd rhai ohonynt wedi mynegi pryderon ynghylch ei ffocws ar ddiffygion yn hytrach na chryfderau. Fodd bynnag, cyfeiriodd nifer at y ffaith bod polisi ACE Llywodraeth Cymru a'r iaith o amgylch ACE eisoes yn esblygu ac roedd llawer mwy o ffocws ar drallod a thrawma erbyn hyn. Roeddent yn cydnabod mai mwy o ymwybyddiaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod oedd wedi galluogi hyn i ddigwydd. Roedd y ddealltwriaeth gynyddol hon wedi galluogi datblygu polisïau a gwasanaethau cyhoeddus ymatebol sy’n deall trawma.
- Prin oedd yr awydd i roi’r gorau i ddefnyddio profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a defnyddio term arall. Teimlwyd y byddai newid yr iaith yn arwain at ddryswch ac yn tanseilio’r cynnydd a wnaed eisoes.
- Er bod y pryderon ynghylch datblygu arferion gwael wedi’u trafod a bod arweinwyr polisi’n ymwybodol ohonynt, nid oeddent yn gallu nodi unrhyw achosion lle’r oedd hyn wedi digwydd ac roeddent yn eglur nad oedd eu polisïau eu hunain yn cefnogi ymarfer o’r fath. Nid oedd y trafodaethau wedi’u mynegi mewn naws benderfynedig, ac nid oedd eu cleientiaid yn cael eu labelu o gwbl. Roedd y ffocws ar effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, yn hytrach na nifer y profiadau.
- Roedd arweinwyr polisi’n cydnabod bod ymateb i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn golygu bod angen amrywiaeth o ymyriadau, o ymyriadau cyffredinol i ymyriadau arbenigol.
- Roedd arweinwyr polisi yn fwy ymwybodol ac yn canolbwyntio ar oblygiadau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ar iechyd meddwl a lles, yn hytrach nag ar iechyd corfforol. Mae hyn yn awgrymu efallai y bydd angen ailedrych ar effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ar iechyd corfforol mewn unrhyw bolisi yn y dyfodol. Yn yr un modd, mae’n ymddangos bod mwy o ffocws wedi bod ar liniaru effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod mewn polisi, yn hytrach nag ar weithredu i’w hatal.
- Roedd arweinwyr polisi yn cydnabod bod angen i bolisi Llywodraeth Cymru fynd y tu hwnt i godi ymwybyddiaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, er mwyn cefnogi camau gweithredu a oedd yn atal ac yn lliniaru eu heffaith. Roedd hyn yn cynnwys cefnogi’r gwaith o ddatblygu offer ac ymyriadau a allai helpu gwasanaethau ac ymarferwyr i ddelio ag ACE. Credai llawer y dylai hyn fod yn rôl ganolog i Ganolfan Cymorth ACE yn y dyfodol.
- Er bod arweinwyr polisi yn gadarnhaol iawn am gyfraniad y Ganolfan Cymorth ACE i godi ymwybyddiaeth o ACE, roedd cytundeb cyffredinol y dylai ei rôl ganolbwyntio nawr ar gamau ataliol a chefnogaeth ar gyfer datblygu ymarfer a gwasanaethau sy’n deall trawma. Roeddent am weld ei gwaith yn canolbwyntio ar ganfod a datblygu offer ac adnoddau i gefnogi’r dull hwn.
Sylwadau Arweinwyr Polisi ar ddatblygu polisi ACE yn y dyfodol
Roedd gan arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru farn debyg i randdeiliaid allanol ynghylch pwysigrwydd eglurder o ran pwrpas polisi ACE Llywodraeth Cymru. Roedd y rhan fwyaf yn teimlo ei bod yn bwysig bod Llywodraeth Cymru yn ailddatgan ei pholisi ar ACE gyda negeseuon clir a chyson. Awgrymodd rhai y dylid newid y ffocws ar drallod plentyndod mewn ystyr ehangach, yn hytrach na chyfyngu polisi i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Nodwyd y byddai hyn yn debyg i’r dull sy’n cael ei ddefnyddio yn yr Alban. Roeddent yn gweld pwysigrwydd datblygu dull cyfannol traws-lywodraethol i wella canlyniadau bywyd plant, gydag ACE yn rhan ohono, ochr yn ochr â dulliau eraill o fynd i’r afael â mathau eraill o drallod mewn plentyndod. Awgrymwyd ar sawl achlysur bod angen datblygu cyfres gyffredin o ganlyniadau y dylai pawb weithio tuag atynt ac a allai fod yn gyfrwng i fesur gwelliannau mewn canlyniadau. Byddai hyn yn cynnwys unrhyw ganlyniadau sy’n gysylltiedig â phenderfyniadau gwasanaethau i symud tuag at weithredu mewn ffordd sy’n deall trawma.
Awgrymodd rhai yr angen i ystyried unrhyw bolisi ACE yn y dyfodol yng nghyd-destun cynllun adfer COVID a’i effaith ar ddatblygiad gwybyddol, corfforol ac emosiynol a chymdeithasol plant, y mae COVID a chyfyngiadau COVID wedi effeithio ar bob un ohonynt.
Soniodd nifer am sut y byddai angen i unrhyw bolisi yn y dyfodol gefnogi gweithredu’r tu allan i’r llywodraeth. Roeddent yn awgrymu bod angen mwy o hyfforddiant ar gyfer strwythurau sefydliadol i sicrhau bod dulliau cyfannol yn cael eu datblygu a bod mwy o ymgysylltu ag arweinwyr strategol er mwyn galluogi arweinyddiaeth gref o fewn eu sefydliadau.
Casgliad
Canfu Cam 1 o’r adolygiad fod corff sylweddol a chyson o dystiolaeth i gefnogi’r fframwaith ACE. Roedd hyn yn cynnwys astudiaethau Iechyd Cyhoeddus Cymru i nifer ac effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ym mhoblogaeth oedolion Cymru. Roedd y dystiolaeth yn dangos cryfder y cysylltiad rhwng trallod plentyndod ac iechyd a lles corfforol a meddyliol gwaeth ar draws cwrs bywyd. Roedd yn dangos bod profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn gallu cael effaith negyddol ar ddatblygiad ymennydd plant a phobl ifanc, sy’n gysylltiedig â mabwysiadu amrywiaeth o ymddygiadau sy’n niweidio iechyd mewn glaslencyndod, sy’n gallu effeithio ar iechyd a lles corfforol a meddyliol. Roedd yn dangos bod yna berthynas gynyddol – po fwyaf o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod rydych chi’n dod ar eu traws, y mwyaf yw’r risg o ganlyniadau gwaeth.
Mae’r dystiolaeth yn dangos bod y berthynas rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a chanlyniadau yn gysylltiedig â’i gilydd yn hytrach nag yn benderfynedig, felly hyd yn oed os bydd rhywun yn profi nifer o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, nid yw o reidrwydd yn golygu y bydd y canlyniadau’n waeth. Er bod y dystiolaeth o’r astudiaethau’n dangos bod profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn weddol gyffredin, gyda thua hanner y boblogaeth yn debygol o fod wedi cael o leiaf un profiad niweidiol yn ystod plentyndod, mae canlyniadau gwaeth yn llai cyffredin. Mae hyn oherwydd bod unigolion yn gallu wynebu trallod, ac yn wir yr un trallod, mewn gwahanol ffyrdd oherwydd eu hamgylchiadau unigol, nodweddion personoliaeth a’r ffynonellau o gadernid a chefnogaeth sydd ar gael iddynt. Mae ffactorau eraill sy’n gallu dylanwadu ar ganlyniadau yn cynnwys pryd digwyddodd y profiad, am ba mor hir y digwyddodd a pha mor ddwys ydoedd. Mae methiant fframwaith ACE i ystyried y ffactorau hyn yn un o’r beirniadaethau sy’n ei erbyn, yn ogystal â’i fethiant i ystyried ffynonellau eraill o drallod yn ystod plentyndod, gan gynnwys anghydraddoldebau strwythurol a chymdeithasol, sydd hefyd yn gysylltiedig â chanlyniadau gwaeth.
I’r rheini sy’n mynd ymlaen i brofi canlyniadau gwaeth o ganlyniad i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, mae’r dystiolaeth yn dangos y gall fod costau personol ac economaidd sylweddol i unigolion a’u teuluoedd. Gall fod costau cymdeithasol ac economaidd sylweddol i’r gymuned, i wasanaethau cyhoeddus ac i gymdeithas yn gyffredinol, oherwydd mae’r rheini sy’n cael canlyniadau gwaeth yn debygol o roi mwy o bwysau ar y gwasanaethau hyn. Mae tystiolaeth sy’n awgrymu y bydd llawer sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod wedi bod yn agored i ragor o drallod yn ystod plentyndod, gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud ag anghydraddoldeb a gwahaniaethu strwythurol a chymdeithasol.
Roedd Cam 1 yr adolygiad yn ceisio ystyried barn y rheini sy’n mynegi amheuon ynghylch fframwaith ACE a gwrthwynebiadau iddo. Mae hyn yn cynnwys amheuon ynghylch ein dealltwriaeth gyfredol o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, gan gynnwys gwyddor yr ymennydd; cryfder y cysylltiad rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a chanlyniadau; a’r dulliau sy’n arwain at ganlyniadau gwaeth mewn rhai, ond nid mewn eraill. Roedd yn cynnwys cwestiynau am ein dealltwriaeth gyfredol o sut i atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a lliniaru eu heffaith, gan gynnwys drwy ddefnyddio dulliau sy’n deall trawma.
Mae beirniadaeth ar y fframwaith ACE yn cynnwys ei ddewis o'r deg profiad niweidiol yn ystod plentyndod, a’u bod wedi cyfyngu i hynny, a’i fethiant i gydnabod bodolaeth ac effaith amrywiaeth eang o ffynonellau eraill o drallod, yn ogystal ag anghydraddoldebau strwythurol a chymdeithasol. Fe’i beirniadir am drin pob un o’r deg profiad yn union yr un fath ac nad yw’n ystyried pryd digwyddodd y profiad niweidiol, pa mor ddifrifol ydoedd, pa mor aml y digwyddodd neu am ba hyd, y cyfeiriwyd ato eisoes uchod. Fe’i beirniadir am fethu ag ystyried bodolaeth unrhyw ffactorau amddiffynnol a lliniarol, gan gynnwys ffynonellau cadernid a phwysigrwydd hunan-benderfyniad. Fodd bynnag, un o’r meysydd pwysicaf sy’n cael ei feirniadu yw'r ‘sgôr ACE’ (cyfrif nifer yr ACE a brofwyd) i ragfynegi canlyniadau a phwy sydd angen cymorth arnynt, a phwy sydd ddim. Mae polisi ACE Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir erioed nad yw’n esgusodi nac yn ceisio annog yr arfer o gyfrif profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Roedd Cam 1 yr adolygiad yn edrych ar yr hyn y gellid ei ystyried yn faterion mwy athronyddol gyda phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, eu defnydd a’u potensial ar gyfer camddefnyddio. Roedd y rhain yn cynnwys defnyddio iaith a allai ganolbwyntio ar ddiffygion yn hytrach na chryfderau, sy’n labelu, yn beio ac yn stigmateiddio pobl ac sydd ag awgrym penderfynedig. Mae eraill wedi cwestiynu gorsymleiddio natur gymhleth y berthynas rhwng trallod a thrawma plant a chanlyniadau bywyd, ei photensial ar gyfer patholegu a cheisio defnyddio atebion clinigol gyda materion cymdeithasol a rhoi’r cyfrifoldeb dros eu datrys ar rieni. Awgrymodd rhai y bydd y fframwaith ACE yn arwain at agor y drws i fwy o bobl, a’u bod yn dod i gysylltiad diangen â gwasanaethau statudol.
Canfu’r adolygiad o’r dystiolaeth a’r dogfennau presennol fod y rhan fwyaf o’r pryderon a’r beirniadaethau wedi’u seilio’n bennaf ar farn bersonol, tybiaethau a damcaniaethau, yn hytrach na llawer o dystiolaeth gadarn o’r problemau hyn yn digwydd yn ymarferol yng Nghymru. Cafodd y pryderon a’r beirniadaethau eu trafod ymhellach gyda rhanddeiliaid yn ystod trafodaeth Cam 2 ond, unwaith eto, er bod awgrymiadau anecdotaidd ynghylch mabwysiadu arferion gwael – fel defnyddio sgôr ACE wrth ddelio ag unigolion – nid oedd llawer o dystiolaeth o hyn na’i fodolaeth mewn polisi. Mae hyn, fodd bynnag, yn tynnu sylw at bwysigrwydd cael polisi clir mewn meysydd o’r fath, cefnogi’r defnydd cyson ohono a herio unrhyw arferion gwael pan gânt eu canfod.
O’r diwedd, roedd Cam 1 yr adolygiad yn ystyried sut roedd polisïau unigol Llywodraeth Cymru wedi ymateb i fabwysiadu fframwaith ACE yn ganolog. Yn ei rhaglen lywodraethu ar gyfer tymor y Cynulliad hwn, roedd Llywodraeth Cymru yn cynnwys nifer o ymrwymiadau i fynd i’r afael ag ACE. Roeddent yn cynnwys cymorth i ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus sy’n ymwybodol o ACE a helpu i feithrin cadernid plant a phobl ifanc. Dangosodd Cam 1 fod nifer o feysydd polisi unigol, yn ystod tymor y Cynulliad hwn, wedi ystyried fframwaith ACE a thystiolaeth ar gyfer ACE wrth ddatblygu eu polisïau. Roedd llawer wedi mynd y tu hwnt i hyn, drwy gynnwys yr angen i ddatblygu ymwybyddiaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, er mwyn canolbwyntio ar weithredu mewn ffordd sy’n deall trawma. Roedd y dogfennau’n nodi nifer o achosion lle roedd Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu’r fframwaith ACE wedi dylanwadu ar bolisi llywodraeth y DU mewn meysydd heb eu datganoli, fel troseddu a chyfiawnder, cam-drin domestig, cyfraith teulu a ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Er mai’n gymharol ddiweddar y mabwysiadodd Llywodraeth Cymru’r fframwaith ACE, roedd Cam 1 wedi nodi gwerthusiadau gan Ganolfan Cymorth ACE, y Rhaglen Camau Cynnar Gyda’n Gilydd ac Estyn, a oedd yn dangos ei fod eisoes wedi cael effaith gadarnhaol. Fodd bynnag, mae dal angen rhagor o waith i werthuso effeithiolrwydd ac effaith polisi ACE Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys gwerthuso effaith y penderfyniad gan lawer o wasanaethau i ddeall trawma. Canfu Cam 1 mai ychydig o dystiolaeth oedd ar gael eto ynghylch effeithiolrwydd neu ddiffyg effeithiolrwydd dulliau o’r fath.
Roedd Cam 1 o’r adolygiad yn nodi nifer o gwestiynau i’w gofyn i randdeiliaid yn ystod ‘trafodaeth’ cam 2. Roedd y rhain yn cynnwys eu safbwyntiau ar gryfder y sylfaen dystiolaeth bresennol ar gyfer ACE, y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu’r fframwaith ACE a rôl bresennol Canolfan Cymorth ACE yng Nghymru ac yn y dyfodol. Penodwyd ymgynghorwyr allanol i arwain y drafodaeth gyda rhanddeiliaid allanol, ac arweiniodd swyddogion o Is-adran Plant a Theuluoedd Llywodraeth Cymru drafodaeth gyfochrog ag arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru. Er nad oedd y rheini a gymerodd ran yn y drafodaeth yn sampl gynrychiadol o randdeiliaid, roedd yn cynnwys amrywiaeth o randdeiliaid allweddol, gan gynnwys y rheini a oedd yn cwestiynu neu’n mynegi amheuon ynghylch ACE a mabwysiadu’r fframwaith ACE i ddatblygu polisi.
Mae’n glir iawn o’r drafodaeth gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol bod cefnogaeth gref i’r fframwaith ACE a phenderfyniad Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu camau gweithredu mewn perthynas ag ACE. Roedd y mwyafrif o blaid Llywodraeth Cymru yn parhau â’i pholisi ACE ac yn mynegi pryder ynghylch unrhyw bosibilrwydd o dynnu’n ôl neu newid sylweddol yn ei gyfeiriad polisi. Roedd hyn nid yn unig oherwydd eu cred yn y fframwaith ACE a’u cefnogaeth iddo, ond oherwydd y buddsoddiad sylweddol mewn amser ac adnoddau a wnaethpwyd ganddynt i’w weithredu yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru.
Cyfeiriodd rhanddeiliaid at y miloedd sy’n gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau trydydd sector a oedd wedi cael hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a dulliau sy’n deall trawma. Fe wnaethant nodi’r buddsoddiad yr oedd Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i sefydlu Canolfan Cymorth ACE i Gymru a’r rôl yr oedd y Ganolfan wedi’i chwarae, ac wedi parhau i’w chwarae, o ran gwreiddio’r fframwaith ACE mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Fodd bynnag, fe wnaeth rhanddeiliaid fynegi eu cefnogaeth i esblygiad y polisi ACE. Fe wnaethant gefnogi parhad y Ganolfan Cymorth ACE, gan nodi bod angen newid ei rôl i ganiatáu gwasanaethau i ddatblygu o fod yn ymwybodol ac yn deall ACE, i weithredu mewn ffyrdd ymatebol sy’n deall trawma.
Dangosodd y drafodaeth fod gan randdeiliaid allanol ac arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru wybodaeth a dealltwriaeth dda o dystiolaeth ACE. Roedd y rhan fwyaf yn gyfarwydd â’r prif ganfyddiadau a gallent gyfeirio at y wyddoniaeth am effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ar ymennydd y plentyn sy’n datblygu. Roedd yn amlwg eu bod yn deall y cysylltiad rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a chanlyniadau iechyd corfforol a meddyliol ar draws cwrs bywyd, er ei bod yn ymddangos bod mwy o ffocws ar iechyd meddwl a lles, nag ar iechyd corfforol. Gallai hyn esbonio pam y bu mwy o ganolbwyntio ar ymyriadau, drwy ddatblygu gwasanaethau sy’n deall trawma, nag ar waith ataliol. Roedd y trafodaethau’n dangos bod ymwybyddiaeth dda o effaith gadarnhaol cadernid a ffynonellau cadernid, yn enwedig rôl oedolyn oedd ar gael drwy’r amser. Mae hyn yn awgrymu bod y gwaith sydd wedi cael ei wneud i gefnogi datblygiad gwasanaethau cyhoeddus sy’n ymwybodol o ACE yng Nghymru wedi bod yn llwyddiannus i raddau helaeth.
Roedd nifer o randdeiliaid yn credu bod y fframwaith ACE yn darparu’r dystiolaeth ar gyfer yr hyn a deimlent a oedd eisoes yn hysbys ganddynt, am sut mae trallod mewn plentyndod yn gallu effeithio ar ganlyniadau pan oedden nhw’n oedolion. Darparodd fodel y gellid ei ddefnyddio i egluro hyn i eraill a dadlau’r achos dros yr angen i weithredu. Roedden nhw’n awgrymu bod Llywodraeth Cymru’n mabwysiadu’r fframwaith ACE wedi helpu i feithrin dealltwriaeth ac iaith gyffredin ynghylch trawma a thrallod yn ystod plentyndod, ac yn darparu ffocws ar gyfer pa wahanol feysydd polisi a gwasanaethau a allai weithio gyda’i gilydd.
Er bod rhai yn cydnabod bod cyfyngiadau mewn rhai agweddau ar y sylfaen dystiolaeth bresennol, ychydig a oedd yn cwestiynu cryfder yr achos dros weithredu. Er nad oedd rhai’n gwerthfawrogi’n llawn bod yr astudiaethau ACE yn astudiaethau epidemiolegol, roedden nhw’n deall bod y berthynas rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a chanlyniadau yn gysylltiad, yn hytrach nag yn rhywbeth achosol. Roedden nhw hefyd yn deall nad oedd ACE yn rhywbeth penderfynedig ac nid oedd y ffaith bod rhywun wedi cael profiad niweidiol yn ystod plentyndod yn golygu y byddai’n cael canlyniadau gwaeth yn nes ymlaen mewn bywyd.
Roedd y diffyg dealltwriaeth a welwyd ymysg rhai ynghylch natur yr astudiaethau ACE yn peri pryder i rai rhanddeiliaid. Roedden nhw’n teimlo nad oedd rhai’n deall bod yr astudiaethau’n canolbwyntio ar effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ar lefel y boblogaeth ac na ellid cymhwyso’r canfyddiadau’n uniongyrchol i unigolion. Roedd y posibilrwydd o gamddefnyddio’r sgôr ACE yn ganolog i’w pryderon. Fel y nodwyd uchod, mae unrhyw ddefnydd o sgôr ACE i nodi pa unigolion sydd angen cymorth, y math o gymorth sydd ei angen ac i sefydlu trothwyon ymyrryd, yn groes i bolisi ACE Llywodraeth Cymru. Er bod rhai rhanddeiliaid wedi cyfeirio at dystiolaeth anecdotaidd o arferion o’r fath, nid oedd yr adolygiad wedi canfod llawer o enghreifftiau o hyn yn digwydd. Fodd bynnag, mae hyn yn awgrymu bod angen bod yn effro i ddatblygiad arferion gwael yng Nghymru, ac mae’n tanlinellu’r angen am negeseuon clir, cyson a rheolaidd ynghylch yr hyn sy’n cael ei ystyried yn arfer gorau.
Roedd yr adolygiad yn dangos bod rhai’n cwestiynu dilysrwydd y fframwaith ACE. Er eu bod yn cynrychioli lleiafrif, yn enwedig yng Nghymru, mae’n bwysig ystyried eu barn wrth ddatblygu unrhyw bolisi ACE ar gyfer Cymru yn y dyfodol.
Y maes tystiolaeth yr oedd rhanddeiliaid yn bryderus amdano oedd y dystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio o ran atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a lliniaru eu heffaith. Roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw’n cefnogi mabwysiadu dulliau ac ymyriadau sy’n deall trawma, er gwaethaf diffyg dealltwriaeth gyffredin o’r hyn y mae’n ei olygu mewn gwirionedd. Mae’r rhan fwyaf o randdeiliaid yn disgwyl i Lywodraeth Cymru ddarparu arweiniad yn y maes hwn.
Roedd rhanddeiliaid yn cydnabod nad oedd bod yn ymwybodol o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn unig yn debygol o newid canlyniadau pobl. Roedden nhw’n teimlo bod angen i Lywodraeth Cymru gymryd yr awenau o ran gweithredu i leihau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a lliniaru eu heffaith ac roedden nhw’n dymuno gweld ei pholisi ACE yn canolbwyntio ar ganfod yr ymyriadau sydd wedi’u profi i wneud gwahaniaeth cadarnhaol, gan gynnwys y rheini sy’n hyrwyddo dulliau sy’n deall trawma. Dywedodd rhanddeiliaid y byddent hefyd yn croesawu datganiad clir gan Lywodraeth Cymru ynghylch ei safbwynt ar ACE a phrif bwrpas y polisi. Roedden nhw’n dymuno gweld polisi sy’n ystyried y berthynas rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a mathau eraill o drallod yn ystod plentyndod. Roedden nhw’n teimlo bod angen polisi traws-lywodraethol, gyda gweledigaeth glir ar y cyd i gefnogi cydweithio a herio ‘gweithio mewn seilos’ y tu mewn a’r tu allan i Lywodraeth Cymru.
Mae’r rhan fwyaf o randdeiliaid wedi mynegi cefnogaeth a gwerthfawrogiad am waith Canolfan Cymorth ACE ar gyfer Cymru. Er eu bod o blaid ei gweld yn parhau, roedden nhw'n teimlo bod angen newid ei ffocws o godi ymwybyddiaeth i’r ‘hyn sy’n gweithio’ er mwyn atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a lliniaru eu heffaith.
Er bod rhanddeiliaid yn ymwybodol o’r pryderon a fynegwyd am iaith ACE, ac wedi dod ar draws hyn yn eu gwaith, roedd y rhan fwyaf ohonynt yn cefnogi parhau i ddefnyddio’r term ACE. Roedd llawer yn erbyn gwneud unrhyw newid mawr i iaith ACE, gan ofni y byddai hynny’n achosi dryswch yn ddiangen. Roedden nhw’n nodi bod yr iaith o amgylch ACE wedi dechrau esblygu, gyda gwasanaethau ac ymarferwyr bellach yn trafod effaith trawma a thrallod yn ystod plentyndod, yn hytrach na phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Esblygiad naturiol oedd hyn yn hytrach na newid gorfodol. Fel y nodwyd yn flaenorol, galwodd nifer o randdeiliaid ar Lywodraeth Cymru i gymryd yr awenau o ran datblygu diffiniadau cyffredin ar gyfer yr hyn a olygir mewn gwirionedd gan dermau fel deall trawma.
Nid oedd barn gyson gan randdeiliaid ynghylch defnyddio ymchwiliad ACE arferol. Er bod rhai’n gwbl gefnogol o’r syniad o’i fabwysiadu, roedd eraill yn gwrthwynebu hynny’n gryf. Roedd yn ymddangos mai’r consensws oedd y dylai Llywodraeth Cymru roi arweiniad clir. Er bod corff cynyddol o dystiolaeth o effaith gadarnhaol bosibl ymchwiliad ACE arferol, gan gynnwys o Gymru, nid yw’n derfynol mewn unrhyw ffordd mai ymchwiliad arferol yw’r ffordd fwyaf priodol o gael sgwrs am drallod yn ystod plentyndod.
Roedd nifer o’r rhanddeiliaid, gan gynnwys y rheini sydd wedi’u lleoli y tu allan i Gymru, yn teimlo bod Cymru’n arwain y ffordd o ran mynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Roedd hyn yn benodol yn sgil gwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chanolfan Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi mewn Iechyd a Lles, y gwaith ymchwil roedd wedi’i wneud ar ACE, a’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu fframwaith ACE yn gynnar. Roedd pryderon petai Llywodraeth Cymru yn penderfynu peidio â pharhau â’i pholisi ACE y byddai Cymru yn disgyn yn ôl yn fuan ac yn colli ei henw da fel gwlad sy'n arwain.
Roedd y rhan fwyaf o randdeiliaid yn teimlo bod profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn debygol o fod wedi cynyddu o ganlyniad i bandemig COVID-19. Roedden nhw’n credu y dylai Llywodraeth Cymru ymateb i hyn fel rhan o’i pholisi ACE yn y dyfodol, ac adlewyrchu hynny yn ei chynllun adfer ar ôl COVID. Nodwyd bod y cysylltiad cynyddol â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a’r arwahanrwydd cymdeithasol sy’n gysylltiedig â’r cyfyngiadau symud yn debygol o fod wedi cael effaith negyddol ar ddatblygiad gwybyddol, corfforol, emosiynol a chymdeithasol plant. Mae COVID, a’r diffyg mynediad uniongyrchol at wasanaethau cymorth a chaledi ariannol a brofir gan lawer yn ystod y cyfyngiadau symud, yn debygol o fod wedi effeithio ar wytnwch y plentyn a’r teulu a’u gallu i ddelio ag adfyd. Nododd llawer fod tystiolaeth eisoes yn dod i’r amlwg sy’n awgrymu bod cynnydd mewn profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a chyfeirir yn aml at y cynnydd yn nifer y bobl sy'n adrodd am achosion o drais yn y cartref. Mae tystiolaeth o fwy o atgyfeiriadau at wasanaethau am gam-drin ac esgeuluso plant a chynnydd yn nifer y plant a phobl ifanc sy’n gofyn am help ar gyfer eu lles meddyliol. Mae cynnydd o ran dod i gysylltiad â thrallod, ar yr un pryd â lleihau mynediad at gymorth, o bosibl wedi creu storm berffaith. Mae hyn yn debygol o gael goblygiadau tymor hir ar iechyd a lles plant drwy gydol eu bywydau, rhywbeth sy’n cael ei ddangos yn glir gan y dystiolaeth bresennol ar ACE a lle gallai polisi clir a chyson gan Lywodraeth Cymru ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod helpu i’w hatal a’u lliniaru.
Atodiad 1
Roedd y rhestr o randdeiliaid a gymerodd ran yn y drafodaeth gyda rhanddeiliaid allanol yn cynnwys cynrychiolwyr o’r canlynol:
- Sector addysg
- Dechrau'n Deg
- Academyddion sy'n gweithio yn y maes
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Cyrff Anllywodraethol
- Elusennau a’r Trydydd Sector:
- Comisiynwyr y Gymraeg
- System cyfiawnder troseddol
- Gwasanaethau ieuenctid
- Cynrychiolwyr etholedig
- Sector iechyd
- Awdurdodau Lleol
- Grŵp Ymgynghorol ar Hawliau Plant (CRAG)
- Y Fforwm Anabledd Dysgu
- Rhwydwaith Arloeswyr Rhoi Plant yn Gyntaf
Roedd y rhestr o feysydd polisi a gymerodd ran yn y drafodaeth gyda rhanddeiliaid mewnol yn cynnwys y canlynol:
- Iechyd plant
- Tlodi plant
- Plant a theuluoedd
- Troseddu a chyfiawnder a diogelwch cymunedol
- Addysg
- Cydraddoldeb
- Cyfiawnder teuluol
- Tai a digartrefedd
- Plant sy’n derbyn gofal
- Iechyd meddwl
- Diogelu ac Eiriolaeth
- Camddefnyddio sylweddau
- Polisi ieuenctid
[1] http://www2.nphs.wales.nhs.uk:8080/PRIDDocs.nsf/7c21215d6d0c613e80256f490030c05a/d488a3852491bc1d80257f370038919e/$FILE/ACE%20Report%20FINAL%20%28E%29.pdf
[2] https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2017-10/160920-taking-wales-forward-cy_0.pdf
[3] https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2017-10/ffyniant-i-bawb-y-strategaeth-genedlaethol.pdf
[4] http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/888/ACE%20&%20Resilience%20Report%20(Eng_final2).pdf
[5] Mae’r Rhaglen Camau Cynnar Gyda’n Gilydd wedi treialu dull amlasiantaeth gyda’r pedwar heddlu, awdurdodau lleol, y trydydd sector ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan gydweithio i ddatblygu a chyflwyno dull iechyd cyhoeddus o blismona bregusrwydd drwy fabwysiadu dull gweithredu seiliedig ar ACE. https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/camau-cynnar-gydan-gilydd/