Archwilio'r galw, capasiti a chynllun gwasanaethau i blant, pobl ifanc ac oedolion yng Nghymru.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae'r galw am asesu diagnostig ar gyfer cyflyrau niwroddatblygiadol wedi mynd y tu hwnt i gapasiti gwasanaethau dros flynyddoedd lawer. Cynhaliwyd adolygiad o'r galw, capasiti a chynllun gwasanaethau niwroddatblygiadol i blant, pobl ifanc ac oedolion yng Nghymru. Canolbwyntiodd yn bennaf ar ddau gyflwr, sef awtistiaeth ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), a dau wasanaeth niwroddatblygiadol, sef Gwasanaethau Niwroddatblygiadol Plant a'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig. Y nod oedd datblygu argymhellion ac opsiynau ar sail tystiolaeth ar gyfer gwella gwasanaethau.
Mae'r adroddiad yn nodi mai'r broblem sylfaenol sy'n sail i'r bwlch o ran galw-capasiti ar gyfer asesu diagnostig yw maint bach gwasanaethau o'u cymharu â'r galw, yn hytrach na materion yn ymwneud â chynllun gwasanaethau. Mae'r adroddiad hefyd yn trafod anghenion heb eu diwallu am gymorth cyn-ddiagnostig ac ôl-ddiagnostig, ac mae'n nodi grwpiau sy'n wynebu anawsterau penodol o ran cael gafael ar asesu diagnostig a chymorth.
Mae'r adroddiad yn awgrymu nad yw dim newid yn opsiwn. Mae'n gwneud argymhellion ar gyfer mesurau tymor byr i ganolig i wella profiadau a chanlyniadau, ac i leihau'r pwysau ar wasanaethau presennol. Mae hefyd yn trafod opsiynau ar gyfer datblygu modelau gwasanaeth newydd yn y tymor hwy.
Adroddiadau

Adolygiad o'r galw, capasiti a chynllun gwasanaethau niwroddatblygiadol: adroddiad cryno , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 502 KB
Cyswllt
Eleri Jones
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.