Archwilio'r galw, capasiti a chynllun gwasanaethau i blant, pobl ifanc ac oedolion yng Nghymru.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae'r galw am asesu diagnostig ar gyfer cyflyrau niwroddatblygiadol wedi mynd y tu hwnt i gapasiti gwasanaethau dros flynyddoedd lawer. Cynhaliwyd adolygiad o'r galw, capasiti a chynllun gwasanaethau niwroddatblygiadol i blant, pobl ifanc ac oedolion yng Nghymru. Canolbwyntiodd yn bennaf ar ddau gyflwr, sef awtistiaeth ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), a dau wasanaeth niwroddatblygiadol, sef Gwasanaethau Niwroddatblygiadol Plant a'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig. Y nod oedd datblygu argymhellion ac opsiynau ar sail tystiolaeth ar gyfer gwella gwasanaethau.
Mae'r adroddiad yn nodi mai'r broblem sylfaenol sy'n sail i'r bwlch o ran galw-capasiti ar gyfer asesu diagnostig yw maint bach gwasanaethau o'u cymharu â'r galw, yn hytrach na materion yn ymwneud â chynllun gwasanaethau. Mae'r adroddiad hefyd yn trafod anghenion heb eu diwallu am gymorth cyn-ddiagnostig ac ôl-ddiagnostig, ac mae'n nodi grwpiau sy'n wynebu anawsterau penodol o ran cael gafael ar asesu diagnostig a chymorth.
Mae'r adroddiad yn awgrymu nad yw dim newid yn opsiwn. Mae'n gwneud argymhellion ar gyfer mesurau tymor byr i ganolig i wella profiadau a chanlyniadau, ac i leihau'r pwysau ar wasanaethau presennol. Mae hefyd yn trafod opsiynau ar gyfer datblygu modelau gwasanaeth newydd yn y tymor hwy.
Mae papur atodol i'r adroddiad hefyd yn ystyried camau gweithredu er mwyn datblygu'r gweithlu i gefnogi argymhellion ar gyfer gwasanaethau niwroddatblygiadol. Mae'r papur yn tynnu at ei gilydd materion allweddol a nodwyd gan yr adolygiad; camau gweithredu yn y Strategaeth Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Chynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy'n arbennig o berthnasol i'r materion hyn; a chamau ychwanegol a nodwyd gan yr adolygiad i fynd i'r afael â'r materion hyn.
Adroddiadau
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/statistics-and-research-thumbs/Adolygiad_o_r_galw__capasiti_a_chynllun_gwasanaethau_niwroddatblygiadol.jpg?itok=C7Ro6U7G)
Adolygiad o'r galw, capasiti a chynllun gwasanaethau niwroddatblygiadol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/statistics-and-research-thumbs/Adolygiad_o_r_galw__capasiti_a_chynllun_gwasanaethau_niwroddatblygiadol__dogfennau_atodol_i___r_adroddiad_llawn.jpg?itok=tcxmrrgT)
Adolygiad o'r galw, capasiti a chynllun gwasanaethau niwroddatblygiadol: dogfennau atodol i’r adroddiad llawn , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 747 KB
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/statistics-and-research-thumbs/Adolygiad_o_r_galw__capasiti_a_chynllun_gwasanaethau_niwroddatblygiadol__adroddiad_cryno.jpg?itok=XVshyO5W)
Adolygiad o'r galw, capasiti a chynllun gwasanaethau niwroddatblygiadol: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 502 KB
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/statistics-and-research-thumbs/Adolygiad_o_r_galw__capasiti_a_chynllun_gwasanaethau_niwroddatblygiadol__crynodeb__hawdd_ei_ddarllen_.jpg?itok=rsloR9iV)
Adolygiad o'r galw, capasiti a chynllun gwasanaethau niwroddatblygiadol: crynodeb (hawdd ei ddarllen) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/statistics-and-research-thumbs/Adolygiad_o_r_galw__capasiti_a_chynllun_gwasanaethau_niwroddatblygiadol__papur_datblygu___r_gweithlu.jpg?itok=L-87HYYe)
Adolygiad o'r galw, capasiti a chynllun gwasanaethau niwroddatblygiadol: papur datblygu’r gweithlu , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 494 KB
Cyswllt
Eleri Jones
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.