Adolygiad o’r cymorth i bobl agored i niwed nad ydynt ar restr warchod yn ystod COVID-19: crynodeb
Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau arolwg ar-lein a weinyddir gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol a chynghorau gwirfoddol sirol ym mis Awst 2020.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Cefndir
Nod yr arolwg oedd casglu gwybodaeth am sut roedd awdurdodau lleol a chynghorau gwirfoddol sirol yn darparu gwasanaethau i bobl agored i niwed nad ydynt ar rest warchod, gan gynnwys eu defnydd o wirfoddolwyr, a'u gallu i ehangu'r gwasanaethau pe bai'r galw'n cynyddu.
Cyflwynodd pob un o'r 22 awdurdod lleol ledled Cymru ymatebion i'r arolwg ac roedd 10 o'r rheini wedi paratoi eu hymatebion ar y cyd â'r cynghorau gwirfoddol sirol sy'n gweithredu yn eu hardal hwy. At hynny, cyflwynodd dau gyngor gwirfoddol sirol ymatebion unigol. Dadansoddwyd yr ymatebion i'r arolwg yn fewnol gan ymchwilwyr cymdeithasol yng Ngwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru i nodi themâu allweddol a phrofiadau.
Mae gweddill y papur hwn yn cyflwyno canfyddiadau allweddol o dan y pynciau a ganlyn:
- gwaith a gweithgareddau i gefnogi pobl agored i niwed nad ydynt ar restr warchod
- effeithiau cadarnhaol Covid-19
- gwersi ehangach a blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol
2. Gwaith a gweithgareddau i gefnogi pobl agored i niwed nad ydynt ar restr warchod
Ymatebodd awdurdodau lleol a sefydliadau cymdeithas sifil yn gyflym i ddarparu cymorth i'r bobl fwyaf agored i niwed ac ynysig
Roedd pob awdurdod lleol yn gweithio gyda sefydliadau cymunedol a sefydliadau'r trydydd sector i ddarparu ystod o gymorth. Pwysleisiodd llawer fod sicrhau bod y gwaith cydgysylltu'n briodol yn fater yr oedd angen rhoi sylw iddo ar fyrder yn ystod camau cynnar y pandemig er mwyn sicrhau nad oedd pobl agored i niwed yn cwympo drwy fylchau yn y rhwyd ddiogelwch.
Parhaodd gwasanaethau gofal i oedolion sydd angen cymorth neu sydd angen eu diogelu ond newidiwyd eu ffocws i ddarparu cymorth o bell, ar-lein a thros y ffôn.
Rhoddodd awdurdodau lleol a sefydliadau mawr yn y trydydd sector flaenoriaeth i les plant sy'n agored i niwed ond gan newid y model darparu yn unol â chyfyngiadau'r llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol a chyswllt.
Mabwysiadodd llawer o awdurdodau lleol ddull rhagweithiol ac 'allgymorth pendant' i adnabod preswylwyr ar restr warchod a phobl nad oeddent ar restr warchod ond a oedd dros 70 oed
Cysylltwyd ag unigolion a'u hasesu dros y ffôn a chynigiwyd pecynnau cymorth pwrpasol iddynt a ddarperir gan ystod o sefydliadau partner o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr.
Sefydlwyd timau ardal lleol yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol i ddarparu cymorth i grwpiau nad ydynt ar restr warchod ac unigolion a oedd yn hunanynysu fel rhan o'r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu. Yn sgil hyn, roedd modd brysbennu ac atgyfeirio pobl yn effeithiol at wasanaethau priodol, ac roedd yn haws i breswylwyr adnabod ble roedd angen iddynt fynd i gael gafael ar gymorth yn gyflym.
Dywedodd bron pob awdurdod lleol fod y cyfyngiadau symud wedi atgyfnerthu pwysigrwydd cynhwysiant digidol
Nododd llawer o awdurdodau lleol nad oedd rhannau helaeth o'u poblogaethau yn gallu cael mynediad at wasanaethau hanfodol ar-lein, megis dod o hyd i wybodaeth gywir a chyfoes, cael gafael ar gyngor a gwasanaethau iechyd lleol, a phrynu hanfodion ar-lein, neu gysylltu â theulu, ffrindiau a rhwydweithiau cymorth.
Amlygwyd cyfyngiadau mewn cysylltedd band eang a signal cellog symudol a diffyg sgiliau digidol a hyder gyda thechnoleg ddigidol, yn enwedig ymhlith y boblogaeth hŷn fwy agored i niwed ac ynysig, fel problem benodol mewn ardaloedd gwledig. Roedd y materion hyn, ynghyd â'r diffyg mynediad at gyfarpar digidol priodol wedi golygu bod llawer o bobl agored i niwed wedi methu â manteisio ar y cymorth a oedd ar gael ar-lein neu wedi dewis peidio â gwneud hynny.
Roedd awdurdodau lleol a chynghorau gwirfoddol sirol wedi datblygu mentrau ymarferol gyda'r nod o leihau allgau digidol. Roedd hyn yn cynnwys gwella mynediad i'r rhyngrwyd, cynyddu argaeledd technolegau cynorthwyol mewn cymunedau, a darparu cymorth wedi'i bersonoli er mwyn helpu pobl agored i niwed i ddatblygu sgiliau digidol.
Ymddengys fod y pandemig wedi cynyddu lefelau gwirfoddoli yn lleol
Nododd yr arolwg fod gwirfoddolwyr yn cynnig eu hamser yn anffurfiol, yn ogystal â thrwy sefydliadau'r trydydd sector a grwpiau cymorth cymunedol, gan chwarae rhan hanfodol o ran estyn allan at bobl agored i niwed.
Roedd y pandemig wedi arwain at fwy o wirfoddoli a mathau newydd o wirfoddoli. Roedd rhai grwpiau cymorth wedi'u sefydlu mewn ymateb i'r argyfwng, tra bod eraill yn bodoli cyn y pandemig ond wedi esblygu eu hamcanion allweddol er mwyn trefnu cymorth cymunedol.
Wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio, adroddwyd bod cwymp mewn ceisiadau am gymorth gan wasanaethau fel gwasanaethau cyfeillio, galwadau cadw mewn cysylltiad a dosbarthu bocsys bwyd a phresgripsiynau
Nododd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol eu bod yn cyfeirio preswylwyr agored i niwed at wasanaethau cymorth yn eu hardaloedd ac yn annog mwy o ddibyniaeth ar deulu a ffrindiau a chymorth gan y gymdogaeth i'w helpu i ddychwelyd i fyw yn annibynnol.
Dywedodd cynghorau gwirfoddol sirol fod cynnydd yn y galw am gymorth iechyd meddwl, yn enwedig ymhlith plant, pobl ifanc a'r boblogaeth hŷn, a'r rhai a effeithir gan brofedigaeth, ynysigrwydd cymdeithasol ac unigrwydd. Roedd peth tystiolaeth hefyd o gynnydd yn y galw am wybodaeth a chyngor ynghylch cyllid a dyled, gwasanaethau cymorth yn gysylltiedig â thai a chymorth gan fanciau bwyd.
Roedd y pandemig a'i fesurau cysylltiedig wedi arwain at rai newidiadau cadarnhaol ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, yn ogystal â newidiadau cadarnhaol i ymddygiad y preswylwyr a'r cymunedau yr oeddent yn gweithio ynddynt
Nododd awdurdodau lleol a chynghorau gwirfoddol sirol bod gwell trefniadau gweithio mewn partneriaeth gyda chyrff cyhoeddus a chyrff y trydydd sector.
Roedd datblygiadau digidol yn galluogi awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol a thrydydd sector i gyrraedd ystod ehangach o unigolion, gan gynnwys y rhai nad oeddent yn defnyddio'r gwasanaethau o'r blaen a'r rhai nad oeddent yn ymwneud â gweithgareddau ar-lein. Adroddwyd hefyd bod datblygiadau mewn trefniadau gweithio ystwyth ac effeithlonrwydd gweithio gartref a'r defnydd effeithiol o TG, ynghyd â gwell defnydd o gyfryngau cymdeithasol, wedi arwain at greu cysylltiadau cryfach â lleoliadau gofal sylfaenol a'r gymuned iechyd a gofal ehangach.
Roedd profiad cyffredin ymhlith awdurdodau lleol a chynghorau gwirfoddol sirol o'r pandemig yn gatalydd ar gyfer mwy o gydlyniant cymunedol, gyda pobl yn cefnogi eu cymdogion drwy siopa am fwyd neu gasglu presgripsiynau, rhoi rhoddion i fanciau bwyd a helpu pobl hŷn gyda gwasanaethau digidol.
Nododd awdurdodau lleol a chynghorau gwirfoddol sirol eu bod wedi datblygu gwasanaethau ac ymatebion yn ystod y chwe mis diwethaf y gellid eu hehangu ar fyr rybudd pe bai angen. Roedd awdurdodau lleol yn paratoi cynlluniau adfer mewn partneriaeth agos â phartneriaid allweddol ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a chymunedol a'r trydydd sector yn eu hardaloedd.
Bu gweithlu'r awdurdodau lleol yn hynod o hyblyg a chadarn dros y misoedd diwethaf, ond roedd pryderon bod rhai grwpiau staff yn llosgi'r gannwyll y ddau ben oherwydd y pwysau a roddir ar adrannau a thimau sy'n darparu gwasanaethau critigol.
3. Gwersi ehangach a blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol
Mae angen ymgysylltu'n gynnar ag awdurdodau lleol ar ganllawiau a threfniadau gwarchod
Galwodd yr ymatebwyr am ganllawiau clir ar unrhyw newidiadau i'r ymateb cenedlaethol i COVID-19 a chymorth i awdurdodau lleol ar ddatblygu negeseuon clir, cyfoes a phriodol i breswylwyr gan ddefnyddio ystod o ddulliau cyfathrebu.
Roedd iechyd meddwl yn fater cyffredin a godwyd mewn perthynas â'r blaenoriaethau tymor byr, tymor canolig a thymor hir
Roedd meysydd pryder penodol yn cynnwys:
- yr effaith ar y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl presennol, yn enwedig pobl ifanc
- gwasanaethau cymorth a chwnsela wyneb yn wyneb cyfyngedig
- llai o gyfleoedd cyflogaeth, a oedd yn effeithio ar hyder
- unigrwydd ac ynysigrwydd
- a phryder ymhlith preswylwyr agored i niwed wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio.
Galwodd cynghorau gwirfoddol sirol am gydnabyddiaeth ehangach o alluoedd y gymuned a'r trydydd sector i ddarparu gwasanaethau cymorth wedi'u teilwra i anghenion lleol
Ymhlith rhai o'r materion a godwyd gan awdurdodau lleol a chynghorau gwirfoddol sirol roedd:
- nerfusrwydd ynghylch toriadau yn y dyfodol
- effaith y lleihad mewn gwasanaethau ar gymunedau
- y cyfuniad o gynnydd yn y galw a gostyngiad mewn cyllid
- angen am ffyrdd newydd o feddwl a gweithio i ymateb i anghenion sy'n newid
Mae angen rhagor o gymorth i wella sgiliau digidol a mynediad i dechnoleg ddigidol ymhlith grwpiau agored i niwed a difreintiedig
Pwysleisiwyd bod cyllid i gefnogi gwaith cynhwysiant digidol wedi bod yn ddefnyddiol ac yn effeithiol iawn yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, nododd y cyfranogwyr fod angen rhagor o gyllid i gefnogi uwchsgilio a gweithgaredd hyfforddi, yn enwedig ymhlith grwpiau bregus a difreintiedig, i sicrhau y gallant fanteisio ar fuddion ariannol, iechyd a chymdeithasol mynd ar-lein.
Mae angen cynnal y momentwm sydd wedi datblygu yn y maes gwirfoddoli
Yn sgil argyfwng COVID-19 gwelwyd cynnydd mawr yn nifer y gwirfoddolwyr a oedd yn cynnig cymorth ymarferol a chymdeithasol i bobl agored i niwed ac ynysig. Mae gan lawer o'r grwpiau cymorth sydd wedi'u hunandrefnu a grwpiau cydfuddiannol a sefydlwyd mewn ymateb i'r pandemig y potensial i gynyddu ymhellach lefelau cysylltiad cymdeithasol ar lefel y gymuned leol.
Awgrymwyd bod angen i’r sector cyhoeddus a sefydliadau a grwpiau'r trydydd sector a oedd yn recriwtio gwirfoddolwyr barhau â’r gwaith hwn er mwyn cynnal y momentwn.
4. Manylion cyswllt
Awduron: Nerys Owens, Siân Williams a Hannah Browne Gott
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru
Adroddiad Ymchwil Llawn: Owens, N.; Williams, S. a Browne Gott, H. (2020) Adolygiad o’r cymorth i bobl agored i niwed nad ydynt ar restr warchod yn ystod COVID-19. Caerdydd: Llywodraeth Cymru, Rhif adroddiad GSR 78/2020.
Safbwyntiau’r ymchwilydd ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r:
Nerys Owens
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ffôn: 0300 0258586
E-bost: nerys.owens@llyw.cymru
ISBN Digidol 978-1-80082-620-5