Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Ardrethi Annomestig (a elwir hefyd yn ardrethi busnes) yn daliadau a godir ar eiddo annomestig neu eiddo busnes sy'n helpu i dalu am wasanaethau lleol. Ers mis Ebrill 2019, gall darparwyr gofal plant cofrestredig yng Nghymru cael rhyddhad ardrethi o 100%. Mae'r cynllun hwn wedi'i gadarnhau hyd at 31 Mawrth 2022. Yn ystod y cyfnod hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi casglu gwybodaeth fonitro a thystiolaeth ehangach er mwyn gwerthuso ei effaith. Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys adolygiad o'r dystiolaeth hon.

Mae mwy na 3,500 o leoliadau gofal plant a chwarae cofrestredig yng Nghymru ac mae ychydig dros hanner y rhain yn lleoliadau gofal dydd (tua 1,800). O'r lleoliadau gofal dydd hyn, mae tua 22% yn berchen ar eu heiddo cofrestredig eu hunain (tua 400 o leoliadau)[1] ac, felly, byddent yn gallu cael budd uniongyrchol o ryddhad ardrethi. Gall landlordiaid hawlio rhyddhad ardrethi ar gyfer eiddo sydd wedi'i osod i leoliadau gofal plant cofrestredig a gallent ddewis trosglwyddo eu harbedion i ddarparwyr gofal plant drwy leihau'r ffioedd a godir ganddynt.

Fel rhan o'r adolygiad mewnol hwn rydym wedi ystyried ystod eang o dystiolaeth, gan gynnwys:

  • data bilio ardrethi annomestig awdurdodau lleol
  • tystiolaeth o'n harolwg ‘archwiliad iechyd’ o'r sector
  • canfyddiad arolwg gweithlu Cymdeithas Genedlaethol y Meithrinfeydd Dydd (NDNA)
  • adolygiad gan Lywodraeth yr Alban
  • yr adolygiad o system ardrethi busnes Lloegr
  • tystiolaeth eilaidd ehangach am ryddhad ardrethi busnes

Mae adran nesaf y ddogfen hon yn amlinellu cefndir yr adolygiad hwn. Wedyn, rhoddir trosolwg o'r dystiolaeth yn adrannau canlynol yr adroddiad hwn.

[1] Data cofrestriadau a Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth Arolygiaeth Gofal Cymru 2020. Heb eu cyhoeddi. Mae'r ffigurau hyn yn amcangyfrifon gan nad ymatebodd pob lleoliad i'r Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (gallai'r rhai nad ymatebodd fod yn fwy neu'n llai tebygol o fod yn berchen ar eu heiddo) ac mae'n bosibl bod y darlun wedi newid ers i'r data hyn gael eu casglu.

Cefndir

Gelwir Ardrethi Annomestig yn ardrethi busnes hefyd ac maent yn drethi sy'n helpu i dalu am wasanaethau lleol. Taliadau yw'r rhain a godir ar y rhan fwyaf o eiddo annomestig (Gwefan Busnes Cymru: Rhyddhad Ardrethi Busnes yng Nghymru). Caiff y cynllun ei weinyddu gan awdurdodau lleol ac fe'i cymhwysir yn awtomatig at filiau talwyr ardrethi cymwys.

Er mwyn sicrhau bod y ffordd y caiff biliau ardrethi eu dosbarthu yn adlewyrchu gwerthoedd rhentu eiddo sy'n newid dros amser, caiff y sylfaen drethu ei hailbrisio o bryd i'w gilydd. Daeth yr ailbrisiad mwyaf diweddar i rym ar 1 Ebrill 2017. Bwriedir i ailbrisiadau ailddosbarthu'r sylfaen drethu er mwyn adlewyrchu newidiadau mewn gwerthoedd ar y farchnad sydd wedi digwydd ers yr ailbrisiad diwethaf ac ni fwriedir iddynt gynyddu'r baich treth cyffredinol. (Llywodraeth Cymru (2021) Rhyddhad ardrethi i fusnesau bach: dadansoddiad o arolwg)

Cyhoeddodd Mark Drakeford a Huw Irranca-Davies, yr Ysgrifennydd Cyllid a'r Gweinidog Plant ar y pryd, ar 27 Medi 2018, y byddai Llywodraeth Cymru yn rhoi rhyddhad ardrethi o 100% i bob eiddo gofal plant cofrestredig o fis Ebrill 2019 ymlaen hyd at fis Mawrth 2022. Rhoddodd y cynllun ryddhad ardrethi o 100% i bob eiddo gofal plant cofrestredig am gost amcangyfrifedig o £2.5m y flwyddyn a chymorth ychwanegol gwerth tua £7.5m i ddarparwyr gofal plant dros dair blynedd. (Datganiad Llywodraeth Cymru i'r wasg: 100% rhyddhad ardrethi i bob darparwr gofal plant yng Nghymru)

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru gynllun rhyddhad ardrethi busnes bach parhaol newydd er mwyn helpu busnesau bach i dalu eu biliau ardrethi annomestig yn 2018; roedd hyn yn cynnwys cynyddu'r rhyddhad sydd ar gael i ddarparwyr gofal plant cofrestredig. Mae'r esemptiad newydd ar gyfer eiddo sy'n darparu gofal plant o fis Ebrill 2019 ymlaen, sy'n lleihau biliau ardrethi ar gyfer darparwyr gofal plant i sero, yn adeiladu ar y cynllun rhyddhad ardrethi busnes parhaol.

Mae Llywodraeth yr Alban yn gweithredu cynllun tebyg ar gyfer rhyddhad ardrethi gofal plant ac, yn Lloegr, mae canllawiau i awdurdodau lleol ar weinyddu'r gostyngiad mewn ardrethi busnes i feithrinfeydd mewn ymateb i COVID-19. (Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol: Business rates: nursery (childcare) discount 2020 to 2021: coronavirus response – local authority guidance)

Nod Cynllun Gweithlu Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar 10 mlynedd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2017 yw proffesiynoli'r sector ac mae'n cydnabod ei rôl fel galluogydd economaidd allweddol drwy helpu rhieni a gofalwyr i gael gwaith a pharhau i weithio. Amcangyfrifir bod y sector gofal plant yn cynhyrchu £1.2 biliwn i economi Cymru. (Alma Economics (2018) Adolygiad o'r Sector Gofal Plant yng Nghymru. Llywodraeth Cymru)

Bwriedir i ryddhad ardrethi ar gyfer y sector helpu darparwyr gofal plant i ddod yn fwy sefydledig, gan helpu'r sector i weithredu a thyfu. Disgwylir iddo helpu i greu swyddi newydd ym maes gofal plant a chreu lleoedd gofal plant newydd a chynnal y rhai sy'n bodoli eisoes ledled Cymru.

Fodd bynnag, mae'r pandemig wedi creu heriau newydd. Mae'r pwysau cynyddol ar y sector oherwydd COVID-19 a'r goblygiadau ehangach wedi'u dogfennu'n helaeth gan gyrff cynrychioliadol yn y sector (er enghraifft, gweler arolwg PACEY o warchodwyr plant a darparwyr gofal plant eraill ac academyddion (gweler, er enghraifft, esboniad Ysgol Economeg Llundain o'r rhesymau pam mae meithrinfeydd yn parhau i wynebu anawsterau arianno). Cyflwynir tystiolaeth a gasglwyd gan Lywodraeth Cymru am y pwysau ar fusnesau gofal plant yn adran Arolwg archwiliad iechyd

Y mater

Mae cyrff cynrychioliadol yn y sector wedi dadlau y dylai busnesau gofal plant gael eu heithrio rhag talu ardrethi busnes am eu bod yn darparu gwasanaeth hanfodol i rieni a phlant, ac maent wedi'u heithrio rhag talu TAW am fod CThEM yn ystyried bod y sector yn darparu gwasanaethau lles i blant ac, felly, nad ydynt yn gweithredu yn y farchnad nwyddau a gwasanaethau arferol.

Mae gan y sector gofal plant fodel gweithredu busnes unigryw ac mae'n rhaid iddo gydymffurfio â Safonau Gofynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Rheoleiddio Gofal Plant.  Mae'r safonau rheoleiddiol hyn, er eu bod yn bwysig iawn i ddiogelu plant, yn gosod nifer o gyfyngiadau ariannol ar ddarparwyr gofal plant sy'n golygu y gall eu hardrethi annomestig gyfrif am gyfran uwch o'r costau i'r sector o gymharu â busnesau bach eraill.   

 Ar hyn o bryd, mae Awdurdodau Lleol yn cyflogi darparwyr gofal plant preifat i gyflwyno rhaglenni'r Cyfnod Sylfaen a Dechrau'n Deg (ac mewn rhai ardaloedd maent yn darparu meithrinfeydd mewn ysgolion). Yn wahanol i ysgolion ac adeiladau awdurdodau lleol, cyn cyflwyno rhyddhad ardrethi, bu'n rhaid i ddarparwyr gofal plant dalu ardrethi busnes er eu bod yn cynnig darpariaeth plant yn yr un ffordd â lleoliadau a gynhelir. Mae ardrethi busnes yn aml yn cael eu hystyried yn bolisi treth annheg ac yn faich ychwanegol ar ddarparwyr nad yw lleoliadau a gynhelir yn ei wynebu. Hefyd, nid yw ysgolion yn talu cost bresennol rheoleiddio am eu bod yn cael eu categoreiddio'n wasanaethau cyhoeddus.

Mae costau staff cynyddol (yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, y Cyflog Byw Cenedlaethol a chyfraniadau pensiwn cyflogwyr) yn ychwanegu at yr heriau ariannol y mae'r sector yn eu hwynebu er mwyn iddo weithredu a thyfu'n gynaliadwy. Ac mae'r cyfraniadau y mae'n ofynnol i gyflogwyr eu gwneud at y rhain wedi cynyddu. Mae gallu'r sector i gynhyrchu incwm yn gyfyngedig gan mai rhieni yw ei brif ffynhonnell o incwm.  Mae incwm, o'i gydbwyso yn erbyn y gofynion rheoleiddiol sydd ar waith a chostau gweithredu cynyddol, yn dangos bod rhan helaeth o'r sector yn gweithredu ar golled ar hyn o bryd. 

Ategwyd y dystiolaeth hon gan y Adolygiad o'r Sector Gofal Plant yng Nghymru, a gyhoeddwyd gan Alma Economics ym mis Ionawr 2018.  Nododd Alma Economics y canlynol.

  • Cymharol fach yw'r elw a wneir gan y rhan fwyaf o ddarparwyr gofal plant.  Mae'r arolwg yn amcangyfrif bod tua 75% o ddarparwyr gofal plant wedi cofnodi colledion yn y flwyddyn ariannol flaenorol (2015-16). 
  • Amcangyfrifir bod y sector yn cynhyrchu £1.2 biliwn i economi Cymru.
  • Yn 2015-16, gwariodd y sector tua £190m ar gostau gweithredu (safleoedd, rhent, cyfleustodau a staff), gyda darparwyr gofal dydd yn cyfrif am ddwy ran o dair o'r swm hwnnw.

Gellid ystyried bod ardrethi busnes yn atal darparwyr rhag ehangu eiddo sy'n cynnwys meithrinfa neu fuddsoddi ynddo am fod mwy o le a mwy o fuddsoddiad yn yr eiddo yn cynyddu ei werth ac, felly, mae'r gwerth ardrethol yn debygol o gynyddu, sy'n golygu ardrethi busnes uwch.

Data bilio ardrethi annomestig awdurdodau lleol

Mae'r adran hon yn rhoi amcangyfrifon yn seiliedig ar ddata bilio ardrethi annomestig awdurdodau lleol. Mae'n cynnwys data 2020/2021 o'u cymharu â'r flwyddyn ariannol flaenorol, sef 2019/2020.

Amcangyfrifir bod cyfanswm o 370 o eiddo sy'n darparu gofal plant yn cael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach o 100% (280 y llynedd). Amcangyfrifir bod cost ychwanegol darparu hyn, ar ben y cynllun rhyddhad ardrethi cyffredinol i fusnesau bach, rhwng £1.9m a £2.6m. Noder mai cost ychwanegol y cynllun gofal plant yw hwn. Nid yw'n cynnwys cost darparu rhyddhad i eiddo sy'n darparu gofal plant â gwerth ardrethol sy'n llai na £6,000, am y byddent eisoes yn cael eu cwmpasu gan y cynllun rhyddhad ardrethi cyffredinol i fusnesau bach.

Gan ystyried bod yr holl eiddo a ddosberthir yn ‘Feithrinfa Ddydd a Mangre’ gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn ddarparwyr gofal plant ar gyfer 2020-21, o'r rhain:

  • Mae gan 165 o eiddo werth ardrethol o fwy na £12k (115 y llynedd). Mae hyn yn golygu, heb y cynllun gofal plant, na fyddent yn cael unrhyw ryddhad ardrethi i fusnesau bach. Cyfanswm y rhyddhad ar gyfer y mathau hyn o eiddo yw £1.9m (£1.3m y llynedd).
  • Mae gan 135 o eiddo werth ardrethol o £6k - £12k (110 y llynedd). Cyfanswm y rhyddhad sy'n cael ei ddarparu yw £0.7m. Ond byddai pob un o'r rhain yn cael rhywfaint o ryddhad o dan y cynllun rhyddhad ardrethi cyffredinol i fusnesau bach, ond nid 100%. Felly, mae'r arian ychwanegol rhwng £0 - £0.7m (£0 - £0.5m y llynedd).
  • Mae gan 70 o eiddo werth ardrethol o lai na £6k (60 y llynedd). Byddai'r rhain eisoes yn cael rhyddhad o 100% o dan y cynllun rhyddhad ardrethi cyffredinol i fusnesau bach ac, felly, nid ydynt ar eu hennill o'r cynllun gofal plant.

Noder bod y ffigurau hyn wedi'u talgrynnu i'r pum eiddo a'r £0.1m agosaf

Gwnaethom geisio paru data cofrestriadau Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) â gwybodaeth am y rhai sy'n cael rhyddhad ardrethi fel ‘Meithrinfa Ddydd a Mangre’ ac ni allem baru'r rhan fwyaf o fuddiolwyr. Gall hyn olygu bod lleoliadau anghofrestredig yn cael budd o'r cynllun hwn, neu fod y lleoliad sy'n cael y budd hwn yn cael ei ddefnyddio at sawl diben gan gynnwys gofal plant ond bod y rhyddhad wedi'i hawlio o dan enw busnes gwahanol i'r hyn sydd wedi'i gofnodi ar gronfa ddata cofrestriadau AGC.

Nid yw'r adolygiad hwn wedi ystyried prosesau awdurdodau lleol. Felly, nid yw'n glir a allai darpariaeth gofal plant anghofrestredig fod yn cael budd hefyd. Mae rhai mathau o ddarpariaeth gofal plant wedi'u heithrio rhag gorfod cofrestru fel darpariaeth o'r fath, megis sesiynau sy'n para llai na 2 awr y dydd a gweithgareddau arbenigol.

Mae cyfanswm y rhyddhad ardrethi a hawliwyd hyd yma yn gyfraniad ariannol bach iawn o gymharu â gwerth amcangyfrifedig y sector gofal plant i'r economi (fel y nodwyd uchod, amcangyfrifodd ymgynghorwyr annibynnol fod y sector yn cyfrannu £1.2 biliwn i economi Cymru. Alma Economics (2018) Adolygiad o'r Sector Gofal Plant yng Nghymru. Llywodraeth Cymru).

Arolwg archwiliad iechyd

Comisiynodd Llywodraeth Cymru Arad Research i gynnal arolwg er mwyn deall ‘iechyd’ y sector gofal plant a chwarae cofrestredig. Dechreuodd cam diweddaraf yr arolwg ar 4 Chwefror a daeth i ben ar 18 Chwefror 2021. Fe'i hanfonwyd drwy e-bost yn uniongyrchol i leoliadau a oedd wedi'u cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru ac a oedd wedi rhoi caniatâd i'w manylion cyswllt gael eu rhannu (dros 80% o'r lleoliadau cofrestredig). Cwblhaodd 387 o leoliadau yr arolwg yn llawn a chasglwyd 131 o ymatebion rhannol hefyd.  

Mae'r arolwg yn cynnwys ymatebion o bob categori o wasanaethau gofal plant a chwarae cofrestredig (sy'n adlewyrchu'r sector, ar y cyfan; daeth bron 50% o'r ymatebion oddi wrth warchodwyr plant) ac mae'n cynnwys lleoliadau o bob un o'r 22 o awdurdodau lleol.

Nodir isod y canfyddiadau sydd fwyaf perthnasol i'r adolygiad hwn:

  • Mae COVID-19 wedi tarfu ar fusnesau gofal plant: Mae mwy na dau o bob tri (71%) o'r lleoliadau a ymatebodd wedi cau rywbryd yn ystod y pandemig ac mae dros hanner y lleoliadau (55%) a oedd wedi cau ar ryw adeg, wedi cau am fwy na 13 o wythnosau i gyd
  • Mae lleoliadau yn ei chael hi'n anodd ymdopi yn ariannol; nododd chwarter yr ymatebwyr eu bod wedi cau oedd am nad oedd yn ariannol gynaliadwy aros ar agor mwyach. Dywedodd bron 1 o bob 10 (9%) nad ydynt yn ariannol gynaliadwy yn y byrdymor
  • Mae lleoliadau yn dibynnu ar ryddhad ardrethi busnes: Mae mwy nag un o bob 10 (12%) wedi cael Grant Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach.

Cyflwynir canfyddiadau manylach o'r arolwg hwn yn Atodiad A. Dangosir canfyddiadau o arolwg cynharach, a ofynnodd gwestiynau tebyg, yn Atodiad B.

Tystiolaeth Cymdeithas Genedlaethol y Meithrinfeydd Dydd

Gofynnodd adroddiad arolwg gweithlu diwethaf (2019) Cymdeithas Genedlaethol y Meithrinfeydd Dydd (NDNA) gwestiynau i'w haelodau am ryddhad ardrethi busnes, ond ni wyddom faint o aelodau sydd ganddi ac, felly, nid yw'n glir sawl un a atebodd y cwestiwn hwn. Am y rhesymau hyn, rhaid trin y wybodaeth hon yn ofalus.

Mae'r arolwg yn awgrymu bod rhyddhad ardrethi busnes wedi bod yn hanfodol i sicrhau hyfywedd meithrinfeydd gofal dydd ai fod wedi'u helpu i barhau i weithredu. Mae NDNA yn nodi bod  “dwy ran o dair (65%) o’r ymatebwyr, a oedd wedi derbyn y rhyddhad yn y gyfradd busnes, yn gallu darparu enghreifftiau cadarnhaol o’i effaith ar eu cynaliadwyedd”.

Er na roddir manylion y dull cyfrifo yn yr adroddiad (rydym wedi gofyn am y wybodaeth hon ond heb gael y manylion hyn eto), mae NDNA yn nodi mai'r arbedion cyfartalog a gofnodwyd oedd £8,204. Mae hyn yn ategu'r datganiadau bod y cynllun wedi cael effaith ar gynaliadwyedd busnesau gofal plant.

Mae arolygon gweithlu wedi tueddu i gael eu cynnal bob blwyddyn gan NDNA ond nid yw'r arolwg wedi'i gynnal ers 2019.

Adolygiad Llywodraeth yr Alban

Ers 1 Ebrill 2018, bu'n bosibl i bob busnes meithrinfa yn yr Alban wneud cais i gael rhyddhad ardrethi busnes llawn yn dilyn penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth yr Alban yn 2017 o ganlyniad i Adolygiad Barclay. Fel yng Nghymru, mae'r Cynllun Rhyddhad Ardrethi i Feithrinfeydd yn rhoi rhyddhad ardrethi annomestig o 100% ar gyfer safleoedd sydd ond yn cael eu defnyddio fel meithrinfa ddydd neu sy'n cael eu defnyddio'n bennaf fel meithrinfa ddydd.

Ar 4 Rhagfyr 2020, cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban y byddai'r Cynllun Rhyddhad Ardrethi i Feithrinfeydd yn cael ei ymestyn tan o leiaf fis Mehefin 2023. Deddfwyd y Cynllun yn wreiddiol i ddod i ben ar 31 Mawrth 2021 ond, ers hynny, mae wedi'i ymestyn er mwyn helpu i liniaru effaith COVID-19 ar leoliadau gofal plant. Bydd yr estyniad yn ei gwneud yn bosibl i werthusiad llawn o effaith y Cynllun ar ddarparwyr, rhieni a gofalwyr gael ei gynnal, a oedd yn un o argymhellion Adolygiad Barclay o ardrethi annomestig. (Gwefan Llywodraeth yr Alban: Coronavirus (COVID-19): support to the childcare sector)

Cyhoeddodd Adolygiad Barclay o ardrethi busnes ei adroddiad ar 22 Awst 2017, gan wneud 30 o argymhellion i Weinidogion. Un o'r rhain oedd y dylid creu'r rhyddhad 3 blynedd i feithrinfeydd am gost amcangyfrifedig o £7 miliwn y flwyddyn. Ategwyd yr adolygiad hwn gan dystiolaeth ddeiseb Llywodraeth yr Alban. Cyflwynodd rhieni, darparwyr gofal plant, cyrff cynrychioliadol yn y sector ac awdurdodau lleol dystiolaeth gymhellol bod angen rhyddhad ardrethi er mwyn sicrhau bod gofal plant yn parhau'n fforddiadwy i deuluoedd. (PE01648: Nursery business rates - Getting Involved : Llywodraeth yr Alban)

Wrth gyflwyno Rhaglen Lywodraethu 2017-18 i Senedd yr Alban ar 5 Medi 2017, derbyniodd y Prif Weinidog hyn a chadarnhaodd y byddai Llywodraeth yr Alban yn cyflwyno rhyddhad ardrethi ar gyfer meithrinfeydd dydd.

Yr adolygiad o system ardrethi busnes Lloegr

Mae ardrethi busnes yn aml wedi cael y bai am waethygu rhaniadau economaidd a rhoi busnesau a lleoedd sydd eisoes yn wynebu anawsterau dan ragor o anfantais. Ynghyd â'r dreth gyngor, ardrethi busnes yw un o'r trethi pwysicaf i awdurdodau lleol a dylid llunio system ardrethi busnes yn y fath fodd fel ei bod yn annog dinasoedd a threfi mawr i wella eu hamgylchedd busnes a, thrwy hynny, ddenu busnesau cynhyrchiol. Fodd bynnag, yn y system bresennol, nid yw'r cymhellion hyn bob amser ar gael.

Yn sgil hyn a beirniadaethau eraill, cyhoeddodd y Canghellor y byddai adolygiad sylfaenol o system ardrethi busnes Lloegr yn cael ei gynnal. Mae'r adolygiad yn dilyn yr ymchwiliad i effaith ardrethi busnes, a gynhaliwyd gan Bwyllgor Dethol y Drysorlys yn 2019, a ddadleuai fod system bresennol Lloegr wedi torri. Mae cylch gorchwyl adolygiad y Trysorlys yn nodi bod y Llywodraeth o'r farn y dylid parhau i godi refeniw drwy godi treth ar dir ac eiddo dibreswyl.

Ar 29 Hydref 2020, cyhoeddodd y Ganolfan Dinasoedd ‘A 10-point plan for ensuring that a reformed business rates system puts local economic growth at its heart. Mae'r cynllun hwn yn nodi pedwar mater allweddol sy'n ymwneud â'r system rhyddhad ardrethi busnes bresennol.

  1. Prydlondeb
  2. Cymhlethdod
  3. Mae'n anghymhelliad i fuddsoddiad
  4. Nid yw'n cymell twf lleol

Un o 10 argymhelliad yr adolygiad annibynnol yw y dylai'r llywodraeth ddiddymu rhyddhad ardrethi busnes, ond gyda rhai eithriadau pwysig. Mae'r adolygiad yn awgrymu y dylid cadw rhyddhad ardrethi busnes ar gyfer meithrinfeydd gofal plant, o bosibl. Mae hyn yn cydnabod y gall fod amcanion polisi cyhoeddus y mae'r Llywodraeth yn awyddus i'w cyflawni drwy ryddhadau, megis lleihau cost gofal plant.

Y rhesymau a roddir gan yr adroddiad dros ddiddymu ardrethi ar gyfer mathau eraill o fusnesau yw y dylai diwygio'r fethodoleg ardrethi a'i gwneud yn bosibl i ardrethi adlewyrchu'r sefyllfa economaidd wirioneddol ddileu'r angen am ryddhad. Er ei fod yn cydnabod, hyd yn oed os gwneir y newidiadau a argymhellir, ei bod yn debygol y bydd busnesau bach yn dal i wynebu heriau ac y gallai fod achos dros roi rhyddhad ardrethi i bob busnes bach o hyd. Busnesau bach yw'r mwyafrif helaeth o feithrinfeydd gofal plant yng Nghymru. 

Tystiolaeth ehangach

Ym mis Ionawr 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y ddogfen, ‘Rhyddhad ardrethi i fusnesau bach: dadansoddiad o arolwg[1], a oedd yn seiliedig ar 504 o gyfweliadau dros y ffôn a gynhaliwyd rhwng 7 a 25 Hydref 2019. Mae'n bosibl bod y cyfweliadau hyn wedi cynnwys busnesau gofal plant

Roedd y mwyafrif o'r busnesau a holwyd a oedd yn cael rhyddhad ardrethi busnes o'r farn bod cynlluniau rhyddhad ardrethi yn gwneud y canlynol:

  • helpu busnesau bach i oroesi;
  • galluogi busnesau bach i oroesi mewn cymunedau gwledig anghysbell; 
  • cynnig cymorth i fusnesau bach i'w helpu i oroesi mewn cymunedau difreintiedig

Mae tystiolaeth newydd o'r DU a'r Unol Daleithiau yn awgrymu bod llawer o fusnesau bach eisoes yn fregus yn ariannol ar ddechrau'r pandemig (Bartik, et al., 2020) a bod trosiant busnesau, yn fwy cyffredinol, wedi lleihau cyn iddynt ailagor (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2020). Felly, mae'n bosibl bod y canfyddiadau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn tanamcangyfrif y caledi ariannol y mae BBaChau yng Nghymru yn ei wynebu mewn gwirionedd ar hyn o bryd.

Mae'n bosibl y gallai'r canfyddiadau a aseswyd o b'un a yw rhyddhad ardrethi i fusnesau bach wedi helpu BBaChau yng Nghymru gynnig rhai gwersi perthnasol ar gyfer rhyddhad ardrethi i fusnesau gofal plant os bydd yn parhau. Yn gryno, efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru ystyried y canlynol.

Ymwybyddiaeth ymhlith busnesau yn y sector gofal plant

O'r tri chynllun rhyddhad ardrethi y cyfeiriwyd atynt yn yr arolwg, roedd busnesau yn fwyaf ymwybodol o ryddhad ardrethi i fusnesau bach. Fodd bynnag, nid oedd mwy na thraean o fusnesau wedi clywed am yr un o'r tri chynllun. Mae'n bosibl nad oedd y rhai a gyfwelwyd yn gymwys ond, ymhlith y busnesau a oedd yn cael rhyddhad ardrethi, ni wyddai'r mwyafrif ohonynt fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud y cynllun yn un parhaol. Gwyddom fod NDNA ac eraill wedi bod yn mynd ati i hyrwyddo rhyddhad ardrethi i'r sector gofal plant, ond efallai y byddai'n ddefnyddiol ystyried ymgyrch codi ymwybyddiaeth.

Hygyrchedd y cynllun

O ystyried cyfran y busnesau a oedd wedi clywed am y cynlluniau, nid oedd pob un o'r BBaChau yn cael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach; mae hyn yn awgrymu nad ymwybyddiaeth yw'r unig ffactor sy'n atal busnesau rhag cael rhyddhad ardrethi er ei bod yn bosibl, oherwydd y ffordd roedd yr arolwg hwn wedi'i lunio, nad oedd pob busnes yn y sampl yn gymwys. Nid oedd unrhyw gonsensws o ran pam nad yw busnesau yn cael cymorth drwy'r rhyddhad ardrethi bob amser a rhoddwyd nifer o resymau gan yr ymatebwyr. Yng Nghanolbarth Cymru y cofnodwyd y nifer mwyaf o fusnesau nad oeddent yn cael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, sy'n awgrymu y gallai ymgyrch farchnata wedi'i thargedu'n ddaearyddol fod yn fuddiol.

Ymchwil ansoddol i ddysgu mwy

Mae'r adroddiad yn argymell y dylid comisiynu ymchwil ansoddol gyda busnesau er mwyn ystyried y rhesymau dros rai o'r canfyddiadau hyn yn fanylach, o hynny oherwydd yr amrywiaeth o ganfyddiadau ar draws busnesau a'r achosion o danhawlio a nodwyd. 

Nodi: Mae'r ymchwil hon yn adeiladu ar dystiolaeth o werthusiad Llywodraeth Cymru o'r cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach 2010.

Casgliadau ac argymhellion

Mae'r adolygiad wedi ystyried y canlynol:

  • data bilio ardrethi annomestig awdurdodau lleol
  • tystiolaeth o'r ‘arolwg archwiliad iechyd’
  • canfyddiadau arolwg gweithlu NDNA a barn aelodau
  • adolygiad gan Lywodraeth yr Alban
  • yr adolygiad o system ardrethi busnes Lloegr
  • tystiolaeth elaidd ehangach am ryddhad ardrethi i fusnesau

Mae'r dystiolaeth yn dangos bod lleoliadau gofal plant cofrestredig:

  • yn wynebu anawsterau gweithredol ariannol sylweddol
  • eu bod yn dibynnu ar ryddhad ardrethi busnes i'w galluogi i barhau i weithredu, bodloni gofynion rheoleiddio a sicrhau bod ffioedd gofal plant yn parhau'n fforddiadwy i rieni

Mae'r wybodaeth hon yn darparu achos cymhellol dros barhau i ddarparu rhyddhad ardrethi busnes i feithrinfeydd gofal dydd cofrestredig, yn arbennig oherwydd y pwysau ychwanegol y mae'r adroddiad hwn wedi cyfeirio atynt, sydd wedi cael eu creu gan y pandemig.

Mae tystiolaeth o ymchwil a fu'n edrych ar gynlluniau tebyg, ac o ystyried faint o fusnesau sydd wedi manteisio ar y cynllun hyd yma, yn awgrymu y gallai fod yn fuddiol i Lywodraeth Cymru a/neu awdurdodau lleol ystyried sut y gallent wella ymwybyddiaeth, gwybodaeth a hygyrchedd y cynllun os bydd yn parhau. Efallai y bydd angen edrych ar brosesau gwneud cais er mwyn sicrhau mai ond dim safleoedd gofal plant cofrestredig sy'n cael budd o'r cynllun.

Byddai astudiaeth fanwl yn cynnwys gwerthusiad economaidd o gostau gweithredol busnesau gofal plant yn darparu sail dystiolaeth gadarn i ystyried cymorth gan y llywodraeth yn fwy cyffredinol (h.y. cyfraddau cyllido'r Llywodraeth ar gyfer addysg a gofal y blynyddoedd cynnar) yn yr hirdymor. Gallai hyn helpu i wella cynaliadwyedd a galluogi twf yn y sector gofal plant, o gofio pwysigrwydd strategol y sector o ran cyflogaeth, yr economi, datblygiad plant a chynllunio ar gyfer adfer ar ôl COVID-19.

Atodiad A: arolwg o leoliadau gofal plant a chwarae cofrestredig 2021

Comisiynodd Llywodraeth Cymru Arad Research i gynnal arolwg ‘archwiliad iechyd’ o'r sector gofal plant a chwarae cofrestredig. Dechreuodd yr arolwg ar 4 Chwefror a daeth i ben ar 18 Chwefror 2021.

Anfonwyd yr arolwg drwy e-bost yn uniongyrchol i leoliadau a oedd wedi'u cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru ac a oedd wedi rhoi caniatâd i'w manylion cyswllt gael eu rhannu (dros 80% o'r lleoliadau cofrestredig).  Mae'r arolwg yn fwy dibynadwy nag arolwg agored; gwyddom mai dim ond lleoliadau cofrestredig sydd wedi ymateb.

Cwblhaodd 387 o leoliadau yr arolwg yn llawn. Cawsom 131 o ymatebion rhannol hefyd ac, o'u dadansoddi, ystyriwyd mai dim ond 8 a oedd y briodol i'w cynnwys yn y set derfynol o ymatebion i'r arolwg (yn seiliedig ar faint o'r arolwg yr oeddent wedi'i gwblhau cyn gadael), gan ddod â chyfanswm yr ymatebion a gwblhawyd i 395. Mae hyn yn cynnwys ymatebion o bob categori o wasanaethau gofal plant a chwarae cofrestredig (sy'n adlewyrchu'r sector, ar y cyfan; daeth bron 50% o'r ymatebion oddi wrth warchodwyr plant) ac mae'n cynnwys lleoliadau o bob un o'r 22 o awdurdodau lleol.

Prif ganfyddiadau

Ar agor/ar gau

  • Nid yw bron i draean (29%) o'r lleoliadau a ymatebodd wedi cau ar unrhyw adeg yn ystod y pandemig
  • Mae dros hanner y lleoliadau (55%) a oedd wedi cau ar ryw adeg, wedi cau am fwy na 13 o wythnosau i gyd
  • Diffyg galw oedd y rheswm mwyaf cyffredin dros gau a nodwyd gan ychydig dros hanner yr ymatebwyr (53%). Mae'r canfyddiad hwn yn gyson ag adroddiadau hysbysu am gau Arolygiaeth Gofal Cymru.
  • Nododd chwarter yr ymatebwyr eu bod wedi cau oedd am nad oedd yn ariannol gynaliadwy aros ar agor mwyach, sy'n ymwneud, yn ôl pob tebyg, â'r diffyg galw a nodwyd. Roedd rhesymau eraill dros gau yn cynnwys cyfyngiadau a gyflwynwyd gan safleoedd (e.e. rheolau landlordiaid, canolfannau cymunedol neu safleoedd ysgolion) (16%) a'r cyngor roeddent wedi'i gael gan gorff aelodaeth neu gorff cynrychioliadol (16%)
  • Roedd ychydig dros draean o'r lleoliadau (34%) wedi newid eu hamseroedd agor (gan agor yn gynharach neu'n hwyrach):
    • Nododd tua dau o bob tri o'r lleoliadau hyn (65%) eu bod ar agor am lai o amser bellach. Y lleihad cyfartalog cymedrig yn nifer yr oriau oedd 11 awr yr wythnos
    • O'r rhai a oedd wedi newid eu horiau ac a nododd eu bod ar agor am fwy o amser (11%), y cynnydd cyfartalog cymedrig yn nifer yr oriau oedd .7 awr yr wythnos.

Galw

  • Mae bron i un o bob pum lleoliad (19%) a ymatebodd yn disgwyl i'r galw am ofal plant gynyddu eleni yn ei leoliad, ond roedd mwy na chwarter (26%) yn disgwyl i'r galw am ofal plant leihau yn eu lleoliad.
  • Roedd y rhai a oedd yn disgwyl gweld cynnydd yn llawer mwy tebygol o gredu y byddai'r newid yn barhaol (51% o gymharu â 12%). Roedd llai na 10% o'r rhai a oedd yn disgwyl gweld lleihad yn y galw yn credu y byddai'n barhaol (nododd bron i hanner nad oeddent yn gwybod).
  • Roedd bron i hanner (47%) y rhai a oedd yn credu y byddai'r galw yn cynyddu yn credu y byddai'r cynnydd hwn i'w briodoli i'r ffaith bod mwy o rieni yn dymuno i'w plant gael gofal plant ffurfiol (e.e. er mwyn lleihau cyswllt â neiniau a theidiau oherwydd y feirws). At hynny, roedd cau lleoliadau eraill yn lleol (29%) a newidiadau disgwyliedig yng nghyflogaeth rhieni (e.e. teithio ymhellach i'r gwaith neu oriau gwaith hirach) (34%) yn rhesymau a roddwyd yn aml dros gynnydd disgwyliedig (rhoddodd tua thraen o'r lleoliadau y rhesymau hyn)
  • Roedd mwy o leoliadau (86%) a oedd yn credu y byddai'r galw yn lleihau yn credu y byddai'r lleihad hwn i'w briodoli i newidiadau i waith rhieni (e.e. gweithio gartref felly angen llai o ofal). Nodwyd fforddiadwyedd a phryderon ynghylch cyswllt cymdeithasol hefyd fel rhesymau gan fwy na hanner y lleoliadau a oedd yn disgwyl gweld lleihad yn y galw (58% a 65% yn y drefn honno).

Cyflenwad

  • Mae bron i hanner y lleoliadau (48%) a ymatebodd i'r arolwg yn hyderus y byddant yn ariannol gynaliadwy i barhau am flwyddyn arall neu'n hirach
  • Dywedodd bron i 1 o bob 10 (9%) nad ydynt yn ariannol gynaliadwy yn y byrdymor ac nad ydynt yn hyderus y byddant yn gallu parhau i weithredu eu darpariaeth gofal plant. At hynny, dywedodd 15% nad oeddent yn gwybod
  • Ar y cyfan, nid yw cyfanswm y staff mewn lleoliadau wedi newid ers cyn pandemig COVID-19 ymhlith y rhai a ymatebodd i'r arolwg, ond mae mwy yn gweithio'n rhan amser bellach.
  • Mae lleoliadau wedi rhoi staff ar ffyrlo hefyd (gweler isod).

Cymorth gan y Llywodraeth

  • Ers y cyfyngiadau symud cenedlaethol cyntaf ym mis Mawrth 2020, mae 38% o leoliadau wedi rhoi staff ar ffyrlo ac mae 46% wedi cael cymorth o'r Cynllun Cymorth Incwm i'r Hunangyflogedig (bron yr holl warchodwyr plant a ymatebodd)
  • Roedd chwarter (25%) wedi cael cymorth ariannol gan Awdurdod Lleol ac roedd 7% wedi gwneud cais ond heb gael cymorth (eto).
  • Roedd bron i un o bob pump (18%) wedi cael Grant Darparwyr Gofal Plant gan Lywodraeth Cymru ac roedd 5% wedi gwneud cais ond heb gael cymorth (eto).
  • Roedd mwy nag un o bob 10 (12%) wedi cael Grant Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach.
  • Yr Awdurdod Lleol oedd y ffynhonnell o gyngor ar arweiniad a nodwyd amlaf o bell ffordd (68%). Nodwyd corff cynrychioliadol yn y sector (22%), Busnes Cymru (12%) a Gofal Cymdeithasol Cymru (9%) gan lawer llai o leoliadau. Nid oedd llai na 10% wedi cael unrhyw gyngor nac arweiniad o gwbl.

Safbwyntiau ehangach ar effaith COVID-19 a'r goblygiadau ehangach i blant yn eu lleoliadau

Cymysg oedd y safbwyntiau ar ddatblygiad plant. Fodd bynnag, dim ond rhoi rhyw syniad o bryderon darparwyr (os o gwbl) oedd bwriad y cwestiynau hyn. Dylid trin y canfyddiadau hyn yn ofalus am nad yw'r ymatebwyr wedi cael hyfforddiant, o reidrwydd, ar sut i asesu datblygiad plant:

  • Nododd mwy na thraean o'r lleoliadau (34%) fod datblygiad ymddygiadol wedi dirywio ac roedd mwy na chwarter (26%) o'r farn bod cymysgedd o welliannau a dirywiad wedi bod yn y plant y maent yn gofalu amdanynt
  • Nododd mwy na thraean o'r lleoliadau (35%) fod datblygiad cymdeithasol wedi dirywio, yn eu barn nhw, ac roedd bron i chwarter (24%) o'r farn bod cymysgedd o welliannau a dirywiad wedi bod yn y plant y maent yn gofalu amdanynt
  • Nododd bron i un o bob pump o'r lleoliadau (19%) fod datblygiad gwybyddol wedi dirywio mewn rhai plant ac roedd mwy na chwarter (27%) o'r farn bod cymysgedd o welliannau a dirywiad wedi bod mewn datblygiad gwybyddol
  • Dim ond gwelliannau yn natblygiad gwybyddol, cymdeithasol neu ymddygiadol rhai o'r plant yn eu lleoliad a nodwyd gan nifer bach o leoliadau (llai na 5%).

Atodiad B: arolwg o ddarparwyr gofal plant, Awst 2020

Cefndir

Yn ystod pythefnos olaf mis Awst, ar ran Llywodraeth Cymru, cynhaliodd Arad Research arolwg gyda lleoliadau gofal plant er mwyn asesu effaith COVID-19.

Anfonwyd y ddolen i'r arolwg yn uniongyrchol at y rhai a gofrestrodd i ddarparu'r cynnig gofal plant, sef y mwyafrif helaeth (dros 80%) o wasanaethau gofal plant a chwarae cofrestredig. 

Ymateb

Cafwyd cyfradd ymateb o tua 20%. Cyflwynodd 474 o ddarparwyr gofal plant naill ai ffurflen wedi'i chwblhau'n llawn neu roeddent wedi ateb digon o gwestiynau er mwyn iddynt gael eu cynnwys yn y dadansoddiad. Roedd dros hanner y darparwyr a ymatebodd yn warchodwyr plant ac roedd ychydig dros chwarter yn ddarparwyr gofal dydd llawn, sy'n cyfateb, fwy neu lai, i raniad y mathau o leoliadau yn y sector yn gyffredinol.

Nododd 76% o ddarparwyr gofal plant eu bod ar agor ar adeg cwblhau'r arolwg ac roedd 23% ar gau dros dro. Mae 1.5% o'r darparwyr gofal plant a ymatebodd i'r arolwg wedi cau'n barhaol ac nid ydynt yn cynnig darpariaeth gofal plant mwyach; cafodd y rhain eu hepgor o'r mwyafrif o gwestiynau'r arolwg.

Canfyddiadau

Mae'r sector yn dechrau adfer. Fodd bynnag, mae lleoliadau yn disgwyl gweld gostyngiad mewn presenoldeb ac incwm yn ystod tymor yr Hydref o gymharu â'r hyn y byddent yn ei ddisgwyl heb bandemig COVID-19. Mae lleoliadau hefyd ar agor am lai o oriau a gyda llai o aelodau o staff o gymharu â lefelau cyn COVID-19 ac mae ansicrwydd ymhlith rhai darparwyr ynglŷn â chynaliadwyedd eu busnes.

Gan gynnwys cymorth gan y Llywodraeth, cafodd darparwyr tua 40% yn llai mewn ffioedd gofal plant yr wythnos ar gyfartaledd yn ystod tymor yr Haf 2020 nag y byddent wedi disgwyl ei gael heb bandemig COVID-19.

Ar gyfartaledd, mae darparwyr gofal plant yn disgwyl tua 30% yn llai o blant yr wythnos yn ystod tymor yr Hydref 2020 nad y byddent yn disgwyl heb bandemig COVID-19, gyda lleihad disgwyliedig cyfatebol o 25% mewn incwm.

Roedd 90% o ddarparwyr gofal plant a oedd yn dal i fod ar agor yn cael cymorth gan o leiaf un o gynlluniau cymorth y Llywodraeth, gan gynnwys:

  • Llywodraeth Cymru yn parhau i dalu oriau a drefnwyd o dan y Cynnig Gofal Plant (59%)
  • Cynllun Cymorth Incwm i'r Hunangyflogedig Llywodraeth y DU (SEISS) (49%)
  • y Cynllun Cymorth Gofal Plant drwy gyfnod y Coronafeirws (C-CAS) (42%)
  • y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (41%)

Nododd darparwyr, ar gyfartaledd, eu bod ar agor ar hyn o bryd am lai o amser o gymharu â'r sefyllfa cyn COVID-19. Nid yw 46% o ddarparwyr wedi lleihau nifer eu horiau agor. Fodd bynnag, ar gyfartaledd ym mhob lleoliad, lleihaodd nifer y diwrnodau yr wythnos roedd lleoliadau ar agor tua hanner diwrnod o 4.8 diwrnod i 4.4 diwrnod. Mae oriau agor nodweddiadol y dydd wedi lleihau tua un awr y dydd, ar gyfartaledd, o 10 awr y dydd cyn pandemig COVID-19 i 9 awr ar hyn o bryd.

Y prif resymau dros leihau oriau agor oedd diffyg galw gan rieni a'r amser ychwanegol roedd ei angen i gyflwyno mesurau atal a rheoli COVID-19.

Roedd 38% o'r darparwyr yn weddol hyderus y byddai'n ariannol gynaliadwy iddynt barhau i gynnal eu darpariaeth am flwyddyn arall neu fwy, tra bod 25% ond yn hyderus y gallai eu darpariaeth barhau tan rywbryd yn ystod y flwyddyn. Nododd 37% na wyddent am ba hyd y byddai'n ariannol gynaliadwy iddynt barhau i gynnal eu darpariaeth.

Ar gyfartaledd, mae nifer y staff mewn lleoliadau gofal plant wedi lleihau tua 2 aelod o staff, o 13 i 11, o gymharu â'r sefyllfa cyn pandemig COVID-19. Nid yw hyn yn cynnwys gwarchodwyr plant am mai dim ond un aelod o staff sydd gan y mwyafrif helaeth ohonynt.

Manylion cyswllt

Awdur: Faye Gracey

Barn yr ymchwilydd a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r canlynol:
Faye Gracey
E-bost: trafodgofalplant@llyw.cymru

Rhif ymchwil gymdeithasol: 44/2021
ISBN digidol: 978-1-80195-590-4

Image
GSR logo