Rydym yn adolygu fframwaith deddfwriaethol Anghenion Dysgu Ychwanegol i sicrhau ei fod yn glir ac yn cael ei ddeall yn gyson.
Cynnwys
Trosolwg
Ar hyn o bryd rydym yn adolygu fframwaith deddfwriaethol Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd yr adolygiad yn edrych ar eglurder a hygyrchedd y fframwaith deddfwriaethol. Bydd yn ystyried sut i wella'r canlynol:
- cysondeb deall y system ADY
- cyflawni'r system ADY ledled Cymru
Cynnydd yr adolygiad
Rydym wedi casglu gwybodaeth gan bartneriaid cyflenwi allweddol a rhanddeiliaid i ddeall:
- eu profiad o ddarparu'r system ADY
- pa heriau ymarferol y maent yn eu hwynebu
Rydym wedi gwahodd ystod o randdeiliaid i rannu eu profiad, yn cynnwys
- Tribiwnlys Addysg Cymru
- Awdurdodau lleol
- sefydliadau addysg bellach
- byrddau iechyd
- undebau addysgu
- Comisiynydd y Gymraeg
- Comisiynydd Plant Cymru
- Estyn
- Gyrfa Cymru
- Medr
- Darparwyr blynyddoedd cynnar
- sefydliadau'r trydydd sector
- cynrychiolwyr teuluoedd
Yn ogystal, mae arolwg o rieni a gofalwyr, ac arolwg o ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol wedi casglu barn fel rhan o'n gwerthusiad ehangach o'r system ADY.
Bydd yr wybodaeth a gasglwyd yn ystod yr adolygiad hwn yn helpu i lywio'r camau nesaf i sicrhau bod fframwaith deddfwriaethol ADY yn glir, ac yn cael ei ddeall a'i gymhwyso'n gyson.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i roi'r newyddion diweddaraf i'r Senedd yn gynnar ym mis Gorffennaf 2025. Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru yn dilyn cyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet.