Mae’r adroddiad yn amlinellu’r ymarferion a’r modelau sy’n cael eu defnyddio i gomisiynu a sicrhau ansawdd darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol ar draws awdurdodau lleol Cymru.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Darganfu’r ymchwil nad oes diffiniad clir a dealladwy o Addysg Heblaw yn yr Ysgol, er bod gwybodaeth a chanllawiau wedi’u nodi gan Lywodraeth Cymru.
Mae comisiynu, rheoli a monitro arferion ac adnoddau yn amrywio o un awdurdod lleol i’r llall. Mae ysgolion yn comisiynu darpariaeth allanol yn uniongyrchol yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol.
Mae’r adroddiad yn argymell atgyfnerthu diffiniadau ar gyfer Addysg Heblaw yn yr Ysgol a darpariaeth amgen, a pharatoi canllawiau sy’n canolbwyntio ar:
- feini prawf priodol ar gyfer atgyfeirio
- comisiynu ymarfer
- monitro darpariaeth
- annog camau atal mewn ysgolion
- disgwyliadau clir ynglŷn ag ailintegreiddio disgyblion i’r ysgol
Adroddiadau
Adolygiad o drefniadau comisiynu awdurdodau lleol ar gyfer darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB
Adolygiad o drefniadau comisiynu awdurdodau lleol ar gyfer darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 783 KB
Cyswllt
Sara James
Rhif ffôn: 0300 025 6812
E-bost: ymchwilysgolion@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.