Adolygiad cyflym o'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Adroddiad gan Steve Morris yn cyflwyno casgliadau ac argymhellion yr 'Adolygiad Cyflym o'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol'.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
1.1 Ar 24 Chwefror 2021, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg, Eluned Morgan, mewn datganiad ysgrifenedig, ei bod wedi comisiynu Adolygiad Cyflym o'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ("y Ganolfan" o hyn ymlaen). Gofynnwyd i mi, ynghyd â thîm o arbenigwyr, arwain yr adolygiad a chyflwyno adroddiad erbyn diwedd Gorffennaf 2021.
1.2 Y dasg a roddwyd i ni oedd ystyried saith mater penodol a gwneud argymhellion er mwyn llywio darpariaeth y Ganolfan o 1 Awst 2022 ymlaen.
1.3 Yn ystod yr adolygiad, rydym wedi cynnal cyfarfodydd ag amrywiaeth o randdeiliaid er mwyn ceisio eu barn, gan gynnwys defnyddwyr, darparwyr a rheolwyr darpariaeth Dysgu Cymraeg yn ogystal â Llywodraeth Cymru ac Estyn. Mae'r adroddiad yn cynrychioli ein canfyddiadau a'n hargymhellion annibynnol yn seiliedig ar y cyfarfodydd a'r trafodaethau hyn.
1.4 Dylid nodi cyd-destun yr adolygiad, a gafodd ei gynnal yn ystod pandemig parhaus Covid ac ar adeg yn syth wedi i'r Ganolfan gael ei harolygu gan Estyn. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi rhoi o'u hamser yn hael i gymryd rhan yn y cyfarfodydd gyda'r tîm a minnau. Hoffwn ddiolch hefyd i aelodau'r tîm am eu cefnogaeth a'u cyngor.
Cyflwyniad
2.1 Sefydlwyd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn dilyn adolygiad cynhwysfawr o'r ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion - adroddiad o'r enw "Codi Golygon" - a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2013.
2.2 Yn dilyn proses gystadleuol, dyfarnodd Llywodraeth Cymru'r contract i sefydlu a datblygu'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae'r grant a'r contract yn para o 1 Ebrill 2015 i 31 Gorffennaf 2022. Ymgorfforwyd y Ganolfan fel Cwmni Cyfyngedig ar 6 Ionawr 2016.
2.3 Y mater cyntaf y gofynnwyd i'r adolygiad cyflym ei ystyried oedd y cynnydd a wnaed gan y Ganolfan wrth wireddu argymhellion adroddiad "Codi Golygon". Ymdrinnir â'r pwynt yn uniongyrchol o dan 4.1 isod.
2.4 Mae'r adolygiad cyflym hwn wedi cael ei gynnal i lywio'r penderfyniad am ddarpariaeth y Ganolfan o 1 Awst 2022 ymlaen. Wrth wneud hynny, bwriedir i'r canfyddiadau a'r argymhellion helpu i ddarparu cyfeiriad a chwmpasu gweledigaeth ar gyfer gwaith y Ganolfan, wrth iddi gychwyn ar ei cham nesaf.
2.5 Dyma'r allbynnau craidd y cytunwyd arnynt rhwng Llywodraeth Cymru a'r Ganolfan ar gyfer cyfnod presennol y grant:
- bod yn sefydliad gweledol sy’n gosod cyfeiriad strategol cenedlaethol i’r sector Dysgu Cymraeg a gweithredu o leoliadau, a gyda phartneriaid, ar draws Cymru gyfan
- rhoi arweiniad a chyfeiriad strategol i bob darparwr Dysgu Cymraeg
- codi safonau yn y sector Dysgu Cymraeg a chynyddu'r niferoedd sy'n gallu siarad a defnyddio'r Gymraeg
- datblygu cwricwlwm cenedlaethol priodol, diddorol o ansawdd uchel, a llunio adnoddau sy'n addas i ddysgwyr
2.6 Roedd consensws cyffredinol ymhlith y rhanddeiliaid yn y cyfarfodydd a gynhaliwyd fod y Ganolfan wedi gwneud cynnydd cadarn drwy gydol y cyfnod cychwynnol o saith mlynedd ("Cam 1"). Gwnaed cyflawniadau nodedig ym mhob un o'r allbynnau craidd ac mae corff wedi'i sefydlu bellach sy'n rhoi cyfeiriad strategol cenedlaethol ar gyfer darpariaeth Dysgu Cymraeg.
2.7 Mae cwricwlwm cenedlaethol newydd wedi'i lunio ynghyd ag adnoddau cysylltiedig a deunyddiau cwrs. Drwy broses ffafriol o ddatblygu a defnyddio adnoddau ar-lein rhyngweithiol, arloesol, bu modd cynyddu'r nifer o oriau o gyswllt â'r iaith yn ogystal â sicrhau - yn hanfodol - y gallai'r ddarpariaeth barhau ym mis Mawrth 2020 gan drosglwyddo i amgylchedd rhithiol. Erbyn hyn, mae porth digidol ar gael i ddysgwyr yn 'dysgucymraeg.cymru' sy'n eu galluogi i ddod o hyd i gwrs ar y lefel gywir, cofrestru, monitro cynnydd dysgu a chael mynediad at yr adnoddau a fydd yn gwella eu dysgu.
2.8 Mae nifer y darparwyr a oedd yn cynnig darpariaeth yn y sector Dysgu Cymraeg cyn sefydlu'r Ganolfan wedi lleihau o ddau ddeg saith i un ar ddeg erbyn hyn. Ac eithrio mewn un sir a chanolfan breswyl Nant Gwrtheyrn, mae'r rhain yn cyfateb i rannau daearyddol penodol o Gymru. Ceir tystiolaeth o berthynas weithio dda a chyfathrebu clir rhwng y Ganolfan a'r darparwyr sy'n eu galluogi i wireddu'r strategaeth genedlaethol yn effeithiol ar lefel leol.
2.9 Mae data cymaradwy am nifer y dysgwyr ar gael ar gyfer y flwyddyn 2017 i 2018. Bu cynnydd yn nifer y dysgwyr unigol, o 12,680 yn 2017 i 2018 i 17,505 (yn cynnwys Cymraeg Gwaith) yn 2019 i 2020. Roedd carfan 2019 i 2020 wedi'i dosbarthu ar draws y lefelau fel a ganlyn:
- Mynediad (A1) - 70%
- Sylfaen (A2) - 11%
- Canolradd (B1) - 8%
- Uwch (B2) - 8%
- Hyfedredd (C1/C2) - 3%
2.10 Yn 2019 daeth y Ganolfan yn gyhoeddwr ystadegau swyddogol. Bydd cynllun rheoli data'r Ganolfan yn hwyluso'r broses o fonitro niferoedd dysgwyr, cyfraddau cadw/athreuliad, dwysedd y ddarpariaeth a chynnydd ar draws y lefelau. Bydd hyn yn amhrisiadwy wrth lywio strategaeth y Ganolfan yn y dyfodol a bydd yn ei gwneud yn bosibl i graffu'n fanylach ar ei chyflawniadau yn erbyn ei chynlluniau strategol.
2.11 Mae gwaith y Ganolfan yn cyd-fynd â nifer o feysydd polisi Llywodraeth Cymru ac yn cyfrannu atynt. Mae'r rhain yn cynnwys, yn benodol, Cymraeg 2050, gyda rôl glir i'w chwarae wrth hwyluso cynnydd yn niferoedd y rhai sy'n siarad yr iaith (ac yn ei defnyddio) yn ogystal ag ymyriadau wedi'u targedu ym maes trosglwyddo'r iaith mewn teuluoedd/rhwng cenedlaethau a'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle. Yn ogystal, mae agweddau ar ddarpariaeth y Ganolfan wedi chwarae rhan mewn polisïau economaidd, addysgol, lles a chydraddoldeb.
2.12 Mae'r cyllid ar gyfer y Ganolfan a'i darpariaeth wedi'i leoli y tu allan i'r sector addysg statudol. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu'r cyllid hwn drwy'r cytundeb grant â'r Ganolfan. Yn 2020 i 2021, dyrannwyd y cyllid rhwng tair ffrwd:
- Grant prif ffrwd - £8,660,000: dosbarthwyd gan y Ganolfan i'r un ar ddeg o ddarparwyr er mwyn ariannu darpariaeth
- Grant craidd - £1,783,900: mae hyn yn cwmpasu costau cynnal y Ganolfan ei hun a'i gwaith datblygu (a gafodd ei leihau yn ystod y pandemig yn 2020 i 2021 ond a fydd yn cynyddu i £1,850,000 yn 2021 i 2022)
Grant Cymraeg Gwaith - £1,355,000 (a gafodd ei leihau yn ystod y pandemig yn 2020 i 2021 ond a fydd yn cynyddu i £2,500,00 yn 2021 i 2022): mae hyn wedi'i glustnodi ar gyfer darpariaeth Cymraeg Gwaith ac mae ar wahân i'r grant ar gyfer darpariaeth prif ffrwd
Cyd-destun
3.1 Cytunwyd y byddai'r adolygiad cyflym hwn yn cael ei gynnal a'i gwblhau dros gyfnod o bedwar mis. Prif nod yr adolygiad oedd ystyried a gwneud argymhellion ar set o faterion y cytunwyd arnynt â'r Gweinidog a llywio darpariaeth Dysgu Cymraeg wrth iddi symud i "Gam 2" y Ganolfan o 1 Awst 2022 ymlaen.
3.2 Cefais fy nghefnogi yn y gwaith hwn gan dîm ymgynghorol o bedwar cydweithiwr a gwnaethom gyfarfod bob mis rhwng mis Chwefror a mis Mehefin 2021 i gynllunio cynnydd a'i adolygu. Aelodau'r tîm yw:
- Yr Athro Tess Fitzpatrick, Pennaeth yr Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol a Chyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Iaith ym Mhrifysgol Abertawe
- Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin
- Yr Athro Enlli Thomas, Athro Ymchwil Addysg a Dirprwy Is-ganghellor Cyswllt (Y Gymraeg) Prifysgol Bangor
- Rhian Huws Williams, cyn Brif Weithredwr Cyngor Gofal Cymru, un o aelodau Cyngor Partneriaeth y Gymraeg y Gweinidog ar hyn o bryd ac aelod o'r grŵp adolygu gwreiddiol a luniodd "Codi Golygon"
Estyn
3.3 Roedd amseriad yr adolygiad cyflym hwn yn dilyn arolygiad o'r Ganolfan gan Estyn rhwng 25 a 28 Ionawr 2021. Cytunwyd, cyn belled ag y bo'n bosibl, na fyddai materion a ystyriwyd yn ystod yr arolygiad yn cael eu dyblygu yn ein hadolygiad ni. I'r perwyl hwn, cafodd cynrychiolwyr Estyn eu gwahodd i gyflwyno eu prif ganfyddiadau gerbron un o gyfarfodydd y tîm ymgynghorol cyn penderfynu'n derfynol ar y prif bwyntiau trafod a fyddai'n sail i'r grwpiau ffocws y byddem yn eu cynnal gyda rhanddeiliaid Dysgu Cymraeg.
3.4 Mae'n ddefnyddiol cael crynodeb o brif feysydd a chasgliadau arolygiad Estyn ac mae'r rhain wedi'u rhestru isod.
3.5 Crynodeb a dadansoddiad o'r prif gasgliadau o arolygiadau darparwyr Dysgu Cymraeg (pedwar hyd yma).
3.6 Cynllunio darpariaeth: "Mae anghenion dysgwyr yn greiddiol i’r holl weithgarwch gyda’r amcan strategol o ‘ddatblygu rhaglen arloesol o gyrsiau atyniadol ac addas i ddysgwyr gan wneud defnydd llawn o’r dechnoleg ddiweddaraf’, yn cael ei wireddu’n llwyddiannus." Canmolwyd y gwaith a wnaed i greu'r cwricwlwm cenedlaethol a llyfrau'r cyrsiau a theimlwyd bod cwmpas eang y ddarpariaeth a gynigir yn diwallu anghenion dysgwyr yn dda. Mae datblygu'r llwyfan digidol wedi atgyfnerthu ymhellach y syniad bod anghenion dysgwyr 'wrth wraidd y gweithgarwch' (2.7). Tybir bod strategaethau marchnata a chyfathrebu'n llwyddo i gynyddu'r niferoedd a gaiff eu recriwtio, yn yr un modd â'r gwaith ymgysylltu â phartneriaid a grwpiau allanol. Tybir bod mentrau fel y cynllun Siarad yn ychwanegiadau defnyddiol wrth hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg y tu allan i'r ystafell ddosbarth ffurfiol.
3.7 Ansawdd ac effeithiolrwydd arweinwyr a rheolwyr: "Mae uwch-reolwyr y Ganolfan yn cynnig arweiniad ysbrydoledig i’r sector sy’n darparu arweiniad strategol clir ac effeithiol." Tynnir sylw at y gefnogaeth a gafwyd gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (a manteision hynny), yn ogystal ag eglurder gweledigaeth a chynllunio strategol y Ganolfan yn gyffredinol. Mae cydberthynas gadarnhaol a chadarn wedi'i meithrin â'r un ar ddeg o ddarparwyr ac mae'r pwyllgorau sy'n ei gwneud yn bosibl i wireddu'r strategaeth wedi'u hymsefydlu'n dda yn strwythurau'r Ganolfan. Caiff ymateb y Ganolfan i'r pandemig yn 2020 ei drafod yma yn ogystal â'i rôl wrth gasglu, dadansoddi a chyhoeddi data. Cyfeirir yn gyflym at lywodraethu yma hefyd.
3.8 Prosesau hunanarfarnu a chynllunio ar gyfer gwella: "O ganlyniad i brosesau hunanarfarnu, monitro a sicrhau ansawdd grymus mae gan arweinwyr a rheolwyr ymwybyddiaeth lawn o ansawdd y ddarpariaeth yn y sector." Trafodir datblygiad y Fframwaith Ansawdd Cenedlaethol yn ogystal â phrosesau i alluogi hunanwerthuso a llywio meysydd i'w gwella (lle mae llais y dysgwr yn elfen greiddiol). Caiff cynlluniau gweithredu ac ariannol eu llunio fel rhan o waith cynllunio strategol y Ganolfan.
3.9 Dysgu proffesiynol: "Llwydda’r arweinwyr i greu diwylliant ac ethos cynhaliol i gefnogi dysgu proffesiynol pob un o staff y sector." Mae hyfforddiant wedi'i ategu drwy gyflwyno Academi, sef llwyfan cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol i ymarferwyr Dysgu Cymraeg. Caiff darparwyr eu hannog yn weithredol i rannu arferion da. Dywedir bod cydberthynas agos rhwng swyddogion y Ganolfan a'i darparwyr. Nodir y cymhwyster newydd ar lefel 4 a lefel 6 (bydd rhai o'r unedau ar gael drwy Academi ar-lein) ond oherwydd cyfyngiadau ariannol, nid yw ar gael i'w gyflwyno eto.
3.10 Defnyddio adnoddau: "Mae’r Ganolfan a rheolwyr darparwyr yn cynllunio’n fwriadus a thrwyadl wrth ddefnyddio grantiau i ddarparu cyrsiau ar gyfer dysgwyr ar bob lefel." Mae creu'r Ganolfan wedi sicrhau tegwch o ran y ffioedd a godir gan ddarparwyr am y tro cyntaf erioed. Ceir cyfleoedd rheolaidd i fonitro, lle gall y Ganolfan graffu ar gostau, gwariant a gweithgareddau darparwyr, a mesur perfformiad yn erbyn targedau.
3.11 Gwnaed tri argymhelliad o ganlyniad i arolygiad Estyn:
- A1: rhannu methodoleg addysgu a chaffael ail iaith lwyddiannus gyda sectorau perthnasol eraill i gefnogi nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg gweithredol erbyn 2050
- A2: parhau i weithio gyda darparwyr Dysgu Cymraeg i ddatblygu modelau o ddarpariaeth ar sail argaeledd dysgwyr
- A3: gwireddu’r Cynllun Datblygu Gweithlu drwy gyfrwng Academi fel ffocws i hyfforddiant a datblygiad proffesiynol yn y sector
Yn ogystal, cafodd y Ganolfan ei gwahodd i lunio dwy astudiaeth achos: (i) Troi dysgwyr yn ddefnyddwyr y Gymraeg a (ii) Creu platfform digidol ar gyfer y sector Cymraeg i Oedolion
Methodoleg
3.12 Ymdriniwyd â'r saith prif ystyriaeth y gofynnwyd i ni eu hadolygu naill ai drwy grwpiau ffocws, ymchwil ddesg neu gyfuniad o'r ddau. Cytunwyd ar yr ystyriaethau ymlaen llaw â swyddogion Llywodraeth Cymru, y Ganolfan ei hun, a Phwyllgor Craffu annibynnol Llywodraeth Cymru a'r Gweinidog.
3.13 Roedd sail dystiolaeth yr adolygiad yn cynnwys y canlynol:
- cyfarfod â phrif weithredwr y Ganolfan a chyfarfodydd y tîm adolygu cyn cynnal yr adolygiad
- craffu ar ddogfennaeth a data perthnasol a ddarparwyd gan y Ganolfan a Llywodraeth Cymru, gan gynnwys adroddiad gwreiddiol "Codi Golygon"
- grwpiau ffocws a ddewiswyd ar hap (gan gynnwys un person o ardal pob darparwr) yn cynrychioli'r rhanddeiliaid canlynol: (i) staff llawn amser (ii) tiwtoriaid rhan amser (iii) dysgwyr lefel Canolradd (B1) sy'n parhau i astudio y tu hwnt i lefel B1 (iv) dysgwyr sydd wedi cyrraedd lefel Canolradd (B1) ond wedi rhoi'r gorau i'w hastudiaethau (v) dysgwyr Cymraeg Gwaith (lefel Mynediad (A1) at ei gilydd) a (vi) dysgwyr Cymraeg yn y Cartref. Dosbarthwyd taflen eglurhaol ymlaen llaw i'r rhai a gytunodd i gymryd rhan yn y grwpiau ffocws yn rhoi mwy o wybodaeth ynghylch pam y mae'r adolygiad yn cael ei gynnal a'r meysydd a fyddai'n cael eu trafod yn ystod y cyfarfodydd
- cyfarfodydd â swyddogion perthnasol Llywodraeth Cymru, a swyddogion y Ganolfan
3.14 Ymunodd o leiaf un aelod o'r tîm ymgynghorol â mi ym mhob un o'r grwpiau ffocws. Ym mhob cyfarfod, roedd cyfle i'r rhai a oedd yn bresennol ychwanegu unrhyw bwyntiau perthnasol roeddent yn dymuno tynnu sylw'r tîm atynt, ac fe'u gwahoddwyd hefyd i gyflwyno tystiolaeth bellach drwy e-bost erbyn dyddiad y cytunwyd arno. Manteisiodd llawer o ddysgwyr ar y cyfle hwn.
3.15 Cyn cyhoeddi'r adroddiad hwn, adolygwyd y canfyddiadau ag aelodau'r tîm ymgynghorol a gwahoddwyd y Ganolfan i gadarnhau bod yr adroddiad yn ffeithiol gywir.
Canfyddiadau
4.1 Mae ein canfyddiadau wedi'u cyflwyno isod, gan ddilyn pob un o'r saith maes y gofynnwyd i'r adolygiad cyflym hwn ei ystyried. Yn ogystal â thrafodaethau'r tîm, rydym hefyd yn cynnwys sylwadau yma a wnaed gan y rhanddeiliaid a amlinellir yn 3.13 yn ystod ein cyfarfodydd â nhw.
Maes 1
Ystyried a yw'r Ganolfan wedi llwyddo i wneud cynnydd yn erbyn argymhellion "Codi Golygon".
4.2 Gwnaed 24 o argymhellion gwreiddiol. Yn ddiweddar (mis Ebrill 2021) aeth y Ganolfan ei hun ati i asesu ei chynnydd yn erbyn yr argymhellion gwreiddiol a rhannwyd yr asesiad hwn â'r tîm. Mae pob un o'r argymhellion gwreiddiol wedi'u nodi isod ynghyd â gwerthusiad beirniadol y tîm o'r cynnydd a wnaed hyd yma a sylwadau pellach lle y bo'n briodol, gan ystyried asesiad y Ganolfan ei hun.
4.3 A1: Llywodraeth Cymru i osod polisi clir ar gyfer y maes Cymraeg i Oedolion a:
- sefydlu Endid Cenedlaethol i fod yn gyfrifol am roi arweiniad strategol i’r Darparwyr ac i ymgymryd â̂ dyletswyddau datblygol ar lefel genedlaethol o ran y cwricwlwm, hyfforddiant tiwtoriaid, ymchwil, marchnata ac e-ddysgu ymhlith pethau eraill
- sefydlu proses glir ac effeithiol ar gyfer symud cyfrifoldebau a chyllid i’r Endid Cenedlaethol newydd er mwyn cyllido datblygiadau ar lefel genedlaethol a fydd yn osgoi dyblygu ac yn sicrhau arweiniad cryf a chadarn a chysondeb i’r maes
4.4 Y Ganolfan yw'r Endid Cenedlaethol bellach, yn rhan o grŵp Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn dilyn proses dendro gystadleuol. Mae'n ymgymryd â phob dyletswydd a amlinellir yn 4.3 A1 ac mae ei gontract presennol yn para tan 31 Gorffennaf 2022. Cydnabyddir y Ganolfan yn genedlaethol fel y corff sy'n gyfrifol am gynllunio a datblygu'r rhaglen Cymraeg i Oedolion ac mae'r rhanddeiliaid yn cytuno ei bod wedi'i rheoli a'i harwain yn effeithiol ganddi.
4.5 A2: Llywodraeth Cymru i:
- weithio gyda’r Endid Cenedlaethol a’r darparwyr cyfredol i resymoli, gan anelu at leihau nifer y Darparwyr o 27 presennol i 10 i 14
- chyllido’r Darparwyr
4.6 Cafodd yr argymhelliad hwn ei dderbyn yn rhannol gan Lywodraeth Cymru a ddadleuodd y byddai'n fwy priodol i'r Ganolfan ddosbarthu'r cyllid i ddarparwyr yn hytrach na bod Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny. Roedd y broses o leihau nifer y darparwyr o 27 i 11 yn un hir a llafurus, a fynnodd lawer o amser ac egni gan y Ganolfan yn ystod ei chyfnod gweithredu cychwynnol. Un o fanteision lleihau nifer y darparwyr yw bod mwy o'r cyllid bellach yn cyrraedd gwasanaethau craidd Dysgu Cymraeg. Mae gorbenion sefydliadol wedi'u lleihau i hyd at 15% drwyddi draw. Y broses resymoli ac aildargedu adnoddau hon oedd un o brif nodau "Codi Golygon". Mae'r dyraniad cyllid ar gyfer 2020 i 2021 wedi'i nodi yn adran 2.12 yr adroddiad hwn.
4.7 A3: Yr Endid Cenedlaethol a’r Darparwyr i gynllunio darpariaeth gyda’r nod o gynyddu niferoedd a diwallu anghenion dysgwyr gan:
- ddefnyddio a mireinio prosesau casglu a dadansoddi data Cymraeg i Oedolion i fesur a thracio dilyniant dysgwyr o un lefel / blwyddyn i’r llall
- defnyddio ymchwil i’r farchnad i ddeall pam nad yw 2.1 miliwn o’r boblogaeth ôl-16 nad yw’n siarad Cymraeg yn dewis dysgu Cymraeg, er mwyn adnabod a thargedu darpar ddysgwyr
- defnyddio gwybodaeth a gasglwyd yng Nghyfrifiad 2011 i dargedu dysgwyr newydd
- ymateb i anghenion dysgwyr a datblygu darpariaeth hyblyg
- chynyddu’r ddarpariaeth o gyrsiau dwys drwy ddatblygu rhaglen o ddysgu dwys a’i threialu i ddechrau mewn nifer bach o leoliadau ar draws Cymru.
4.8 Cydnabuwyd bod y gallu i ddadansoddi a defnyddio data at ddibenion cynllunio strategol yn gyfyngedig cyn i'r Ganolfan gael ei sefydlu. Mae'r Ganolfan yn gyhoeddwr ystadegau swyddogol erbyn hyn a gellir cymharu data o 2017 i 2018 ymlaen. Mae'r prinder data er mwyn gallu olrhain llwybrau cynnydd dysgwyr wedi golygu mai dim ond yn ddiweddar y bu modd craffu'n effeithiol ar yr agweddau hyn ar waith y Ganolfan. Fodd bynnag, mae bellach yn bosibl cynnal dadansoddiadau data manwl a thrylwyr. Bu'r Ganolfan yn rhagweithiol wrth gomisiynu ymchwil farchnad i dargedu carfannau gwahanol o ddysgwyr yn ogystal ag ymchwil i gymhelliant a hybu hyder dysgwyr.
Drwy ei strwythurau pwyllgorau, caiff canfyddiadau ymchwil eu rhaeadru i ddarparwyr a all wedyn gynllunio'n unol â hynny. Tynnodd adroddiad Estyn sylw at natur hynod hyblyg y ddarpariaeth sydd bellach ar gael drwy'r Ganolfan a'r amrywiaeth helaeth o adnoddau cwricwlwm a ddatblygwyd. Disgwylir i bob darparwr ddarparu rhaglen o gyrsiau dwys ar gyfer ei ardal benodol. Teimlir, fodd bynnag, fod angen mwy o ymchwil farchnad sy'n canolbwyntio ar ddadansoddi bylchau ymhlith y rhai nad ydynt yn dysgu Cymraeg ar hyn o bryd
4.9 A4: Yr Endid Cenedlaethol i gydweithio â’r Darparwyr i ddatblygu a gweithredu cynllun marchnata a chyfathrebu cynhwysfawr, newydd a chyffrous sy’n seiliedig ar ddata, ymchwil i’r farchnad a phrofiad ymgyrchoedd blaenorol, a defnyddio dulliau effeithiol gan gynnwys rhwydweithiau cymdeithasol i hyrwyddo’r maes.
4.10 Mae strategaeth farchnata genedlaethol a adolygir bob blwyddyn bellach ar waith. Y Bwrdd Ymgynghorol sy’n cymeradwyo’r strategaeth farchnata genedlaethol, ac fe’i gweithredir gyda chymorth y Pwyllgor Marchnata Cenedlaethol. Roedd tystiolaeth yn y cyfarfodydd â rhanddeiliaid fod ymwybyddiaeth dda o'r brand cenedlaethol, er bod hynny yn aml yn fwy cysylltiedig â'r darparwr lleol na'r Ganolfan ei hun. Defnyddir ymgyrchoedd marchnata penodol (drwy sianeli digidol yn aml) i dargedu grwpiau penodol o ddysgwyr neu hybu themâu marchnata penodol a gytunwyd ar lefel genedlaethol.
4.11 A5: yr Endid Cenedlaethol i gydweithio â’r Darparwyr i ddatblygu gwasanaeth hygyrch i ddysgwyr a darpar ddysgwyr er mwyn darparu gwybodaeth gyflawn am y ddarpariaeth ar draws Cymru, a sicrhau gwybodaeth a throsolwg o ddarpariaeth ddysgu Cymraeg y tu hwnt i Gymru, gan gynnig arweiniad a chefnogaeth yn ôl yr angen.
4.12 Ystyriwyd bod hon yn elfen hanfodol wrth i Lywodraeth Cymru sefydlu'r Ganolfan. Ers sefydlu'r llwyfan digidol dysgucymraeg.cymru mae gan ddysgwyr un adnodd y gallant droi ato i gael gwybodaeth genedlaethol am gyrsiau gan gynnwys lefelau a dwyster, hynny am y tro cyntaf. Mae'r Ganolfan wedi datblygu'r llwyfan i gynnig adnoddau digidol ychwanegol (sydd ar gael am ddim) i gefnogi dysgwyr yn ogystal â newyddion, gwybodaeth a digwyddiadau. Roedd ymwybyddiaeth o'r adnodd hwn yn amlwg yng nghyfarfodydd ein grwpiau ffocws, a dywedwyd iddo fod yn arbennig o ddefnyddiol yn ystod pandemig Covid.
4.13 A6: yr Endid Cenedlaethol i gydweithio â Llywodraeth Cymru a phartneriaid i ddatblygu a gweithredu strategaeth Cymraeg yn y Gweithle a fydd:
- yn seiliedig ar ymchwil drwyadl a pharhaus i anghenion gwahanol sectorau o ran Cymraeg yn y Gweithle
- yn cydnabod ac yn efelychu arfer da ar lefel ryngwladol, cenedlaethol a lleol
- yn sicrhau bod modelau darparu ac asesu ac adnoddau addas a hyblyg, sydd wedi’u teilwra, yn cael eu datblygu
- yn galluogi cydweithio ar lefel genedlaethol a lleol
- yn datblygu darpariaeth Cymraeg yn y Gweithle i fod yn frand cryf sy’n cael ei gydnabod gan gyflogwyr
4.14 Ers 2017, mae'r Ganolfan wedi cael cyllid ychwanegol i roi ei chynllun Cymraeg Gwaith ar waith ac yn 2020 i 2021, gwelwyd cynnydd o 25% mewn gweithgareddau dysgu. Drwy ei hadnodd gwirio lefelau a'i chyfarfodydd gyda chyflogwyr, mae’r Ganolfan yn eu cynorthwyo i adnabod lefelau iaith eu gweithleoedd ac yn teilwra darpariaeth yn briodol. Mae'r dysgwyr sy'n rhan o'r cynllun Cymraeg Gwaith yn gwerthfawrogi ei hyblygrwydd a'r gefnogaeth gan gyflogwyr. Her barhaus yn y sector hwn yw taro cydbwysedd rhwng yr angen i greu amser a lle i ddysgu a galwadau a blaenoriaethau newidiol y gweithle. Mae amrywiaeth y gweithgareddau dysgu sydd ar gael yn ymateb cadarnhaol i'r her hon.
4.15 A7: Llywodraeth Cymru i gydweithio â’r Comisiynydd Iaith i:
- sicrhau bod y Safonau arfaethedig yn pwysleisio cyfraniad hyfforddiant iaith Gymraeg yn y gweithle ac yn adlewyrchu’r angen am hyfforddiant Cymraeg yn y Gweithle dwys a phwrpasol
- galluogi sefydliadau ymbarél a chyflogwyr blaengar i rwydweithio a rhannu arfer da o ran Cymraeg yn y Gweithle
- galluogi cyflogwyr a sefydliadau sydd â dylanwad dros gyflogwyr i gymryd cyfrifoldeb strategol am ddatblygu sgiliau Cymraeg eu staff a datblygu a hybu Cymraeg yn y Gweithle
4.16 Noda'r Ganolfan ei bod wedi gweithio gyda'r Comisiynydd yng nghyd-destun y cynllun Cymraeg Gwaith ac wedi cyfrannu’n briodol i godau ymarfer. Mae'r broses o rannu arferion da yn y cynllun wedi'i hategu gan ddigwyddiad rhwydweithio blynyddol gyda chyflogwyr. Mae gallu’r Ganolfan i ddarparu cymorth i gyflogwyr asesu sgiliau iaith eu gweithlu yn ased yn y cyd-destun hwn a dylid parhau i’w ddatbygu .
4.17 A8: Llywodraeth Cymru a’r Endid Cenedlaethol i hybu Cymraeg i’r Teulu mewn partneriaeth â’r Darparwyr a sefydliadau eraill drwy:
- adeiladu ar y cynllun Cymraeg i’r Teulu a datblygu a chynyddu’r ddarpariaeth hon
- annog awdurdodau lleol ac ysgolion i gydweithio â Darparwyr Cymraeg i Oedolion er mwyn cefnogi rhieni i ddysgu Cymraeg
- sicrhau bod Cymraeg i’r Teulu yn rhan o gynlluniau a pholisïau ehangach yn ymwneud â phlant a theuluoedd a dysgu teuluol
4.18 Mae'r Ganolfan wedi datblygu ar y Cynllun Cymraeg i'r Teulu, ac wedi sefydlu Cynllun Cymraeg yn y Cartref. Mae grŵp llywio wedi ei sefydlu i arwain y gwaith, gyda Mudiad Meithrin yn aelod craidd ohono. Mae’n cydweithio’n agos gyda Mudiad Meithrin i ddarparu y rhaglen arloesol Clwb Cwtsh, gyda’r nod o annog rhieni i fanteisio ar ddarpariaeth prif ffrwd y Ganolfan. Mae cyrsiau newydd Cymraeg yn y Cartref wedi eu creu er mwyn hwyluso dilyniant, a chynhelir ymgyrchoedd marchnata wedi eu teilwra i dargedu rhieni. Mae rôl y Ganolfan yn allweddol er mwyn sicrhau bod gan rieni plant sy'n mynychu addysg cyfrwng Cymraeg gyfle i gaffael yr iaith, gyda'r potensial i gyfrannu at gynnydd yn y defnydd o'r iaith rhwng y cenedlaethau, ac felly, bolisi Cymraeg 2050.
4.19 A9: yr Endid Cenedlaethol i ddatblygu strategaeth e-ddysgu arloesol a fydd yn sicrhau bod e-ddysgu yn rhan allweddol o brofiad y dysgwr ar bob lefel ac yn ganolog i’r holl faes. Bydd angen i’r strategaeth:
- fod yn seiliedig ar ymchwil drwyadl i ddatblygu dealltwriaeth o anghenion technegol dysgwyr a thiwtoriaid
- ystyried agweddau pedagogaidd e-ddysgu ar gyfer Cymraeg i Oedolion
- fod yn seiliedig ar ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf
- arwain at ddatblygu un safle rhithiol sy’n hygyrch ar wahanol blatfformau
4.20 Mewn ymgynghoriad â phanel arbenigol, sefydlwyd Fframwaith Digidol i ddatblygu darpariaeth yn y maes hwn, a oedd yn ddefnyddiol iawn pan fu'n rhaid newid yn gyflym iawn i ddysgu ar-lein ar ddechrau pandemig Covid. Cyfeiriwyd eisoes at y llwyfan digidol sydd bellach ar waith, sy'n 'siop un stop' digidol i ddysgwyr. Gan ei bod yn debygol y bydd e-ddysgu yn parhau'n elfen o'r ddarpariaeth yn y dyfodol agos o leiaf, byddai mwy o ymchwil yn ddefnyddiol er mwyn gwerthuso llwyddiant dulliau fel dysgu cyfunol, ystafell ddosbarth rithwir neu hunanastudio.
4.21 A10: Llywodraeth Cymru a’r Endid Cenedlaethol i gydweithio â phartneriaid i ddatblygu fframwaith cwricwlwm ar gyfer diffinio a mesur sgiliau iaith Gymraeg a chynnal trafodaeth genedlaethol ar ddiffinio rhuglder fel rhan o’r fframwaith.
4.22 Bu llunio cwricwlwm newydd yn ddarn pwysig o waith ers cychwyn cyntaf gweithrediad y Ganolfan. Mae'r cwricwlwm cenedlaethol newydd bellach ar waith ac mae deunyddiau cyrsiau wedi'u datblygu, gan gynnig sail gadarn ar gyfer cynhyrchu adnoddau eraill. Gellir ystyried y Ganolfan yn ganolfan ragoriaeth yn y maes hwn a cheir potensial cryf i elfennau eraill o ddysgu ieithoedd yng Nghymru elwa ar gysylltiadau agosach â hi. Honnir bod cwblhau lefel B1 (Canolradd) gyfystyr â bod yn siaradwr, ond nid oedd pawb yn cytuno â hyn. O ystyried pa mor bwysig y mae'r diffiniad hwn o ran meintioli nifer yr oedolion sy'n siaradwyr Cymraeg newydd, ac o ran polisi, mae angen gwneud mwy o waith ymchwil i gadarnhau'r diffiniad hwn.
4.23 A11: yr Endid Cenedlaethol ar y cyd â Llywodraeth Cymru i wireddu argymhellion ymchwil Prifysgol Caerdydd ar fethodoleg Cymraeg i Oedolion, gan gynnwys:
- datblygu cwricwlwm cenedlaethol gan sicrhau fersiwn electronig y gall tiwtoriaid ei addasu
- trafod datblygu corpws geirfa mewn cydweithrediad â’r Comisiynydd Iaith ac adrannau Cymraeg y Prifysgolion
- sicrhau bod gweithgareddau dysgu lled-ffurfiol yn cael eu cynnwys fel rhan o’r cyrsiau
- ailedrych ar nifer yr oriau disgwyliedig ar lwybr dysgu Cymraeg ac ail-ddiffinio’r oriau a’r lefelau yn ôl yr angen
- ystyried modelau amgen ar gyfer dysgu dwys
4.24 Wrth ddatblygu’r cwricwlwm cenedlaethol newydd sy'n seiliedig ar ymchwil, aed i'r afael â phob un o'r elfennau hyn o ymchwil ar fethodoleg Cymraeg i Oedolion. Mae swyddogion y Ganolfan yn gweithio gyda thîm CorCenCC i gymhwyso'r corpws cenedlaethol i anghenion darpariaeth Dysgu Cymraeg, er enghraifft wrth lunio rhestrau amlder ar gyfer y Gymraeg. Mae'r cyrsiau newydd yn ymgorffori unedau o ddeunyddiau cyfoes a ddosberthir gan y Ganolfan ac a werthfawrogir gan ddysgwyr a ddywedodd fod hyn wedi sicrhau bod eu dysgu'n teimlo'n gyfoes, yn berthnasol i'r byd sydd ohoni ac yn galluogi iddynt gymhwyso'u sgiliau iaith i faterion cyfoes. Cafwyd tystiolaeth fod hyn yn cymell rhai i feithrin cysylltiadau â chyrff iaith Gymraeg allanol (er enghraifft y Mentrau Iaith) neu o leiaf ymchwilio i bynciau penodol yn ddyfnach yn eu hamser eu hunain.
4.25 A12: yr Endid Cenedlaethol i fod yn gyfrifol am ddatblygu’r cwricwlwm yn ganolog a sicrhau bod adnoddau’n cael eu paratoi i gyd-fynd â’r cwricwlwm sydd:
- yn ddeniadol, yn arloesol ac yn amrywiol er mwyn denu gwahanol fathau o ddysgwyr ac annog y dysgwyr i ymarfer gwahanol sgiliau
- yn cael eu hawduro gan dîm profiadol sy’n cael hyfforddiant, cefnogaeth a chydnabyddiaeth
4.26 Trafodir y cwricwlwm yn 4.22 a 4.24 uchod. Cafodd llyfrau cyrsiau eu peilota i ddechrau ac yna eu cyflwyno'n ehangach i diwtoriaid dros y wlad gyda hyfforddiant penodol i sicrhau eu bod yn hyderus wrth gyflwyno'r cyrsiau newydd. Bu tîm profiadol o ymarferwyr y Ganolfan yn cydweithio i greu'r llyfrau cyrsiau newydd hyn ac adnoddau cysylltiedig.
4.27 A13: yr Endid Cenedlaethol a’r Darparwyr i ymgynghori â sefydliadau eraill i adolygu’r ddarpariaeth ar lefel Hyfedredd gyda’r nod o sicrhau bod y ddarpariaeth wedi’i thargedu’n briodol.
4.28 Mae darpariaeth ar y lefel hon yn denu dysgwyr ar y continwwm A1 i C2 yn ogystal â siaradwyr Cymraeg sydd am fagu hyder mewn agweddau ar eu defnydd o'r Gymraeg. Nid yw anghenion y ddwy garfan ar y lefel hon bob amser yn debyg nac yn gymaradwy (er eu bod yn aml yn elwa ar fynychu dosbarthiadau gyda'i gilydd, er enghraifft mwy o gyswllt â siaradwyr iaith Gyntaf i'r grŵp cyntaf). Mae'r Ganolfan wedi datblygu Cwrs Gwella Cymraeg ar-lein yng nghyd-destun Cymraeg Gwaith; fodd bynnag, cydnabyddir bod deunyddiau a all dargedu anghenion penodol dysgwyr unigol yn fwy priodol yn hyn o beth na llyfr cwrs ar lefel benodol.
4.29 A14: yr Endid Cenedlaethol i gydweithio â darparwyr cyrsiau iaith Gymraeg yn y sector addysg bellach ac addysg uwch, yn unol â̂ chanllawiau Llywodraeth Cymru, i osgoi dyblygu a sicrhau gwerth am arian cyhoeddus; ac i sefydlu fforwm gyda chwmnïau preifat sy’n darparu cyrsiau iaith Gymraeg a’u cynnwys mewn trafodaethau cenedlaethol.
4.30 Ers ei sefydlu, mae'r Ganolfan, wrth atgyfnerthu ei sefyllfa fel y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yng Nghymru, wedi gwella cydlyniad ac yn cael ei gweld yn bartner pwysig i ddarparwyr Cymraeg eraill ei gynnwys yn eu trafodaethau a'u cynlluniau. Sefydlwyd partneriaethau ffurfiol â darparwyr preifat fel SSiW (Say Something in Welsh) a Duolingo a fydd yn llesol i ddysgwyr sy'n astudio gyda nhw wrth hwyluso llwybrau cynnydd a defnyddio rhwydwaith Dysgu Cymraeg.
4.31 A15: Llywodraeth Cymru a’r Endid Cenedlaethol i ailedrych ar gymwysterau Cymraeg i Oedolion gan:
- symud y pwyslais oddi ar achredu ac i asesu ar gyfer dysgu a sicrhau bod trefniadau cenedlaethol yn eu lle i gymedroli’r asesu, er mwyn sicrhau cysondeb cenedlaethol
- darparu hyfforddiant i diwtoriaid ar asesu ar gyfer dysgu
- lleihau nifer yr arholiadau er mwyn rhoi statws i’r cymwysterau a sicrhau gwerth am arian
- ymgynghori â chyrff dyfarnu fel y bo’n briodol
4.32 Mae'r Ganolfan yn gweithio'n agos ac yn effeithiol gyda CBAC i gynnal a hyrwyddo'r gyfres o arholiadau Dysgu Cymraeg. Er ein bod yn cydnabod nad yw pob dysgwr yn awyddus i ymgysylltu â chymwysterau ffurfiol, maent, serch hynny, yn nod i lawer a bu cynnydd o 16% yn nifer yr ymgeiswyr yn ystod cam cyntaf y Ganolfan. Ni allwn weld unrhyw fantais i leihau nifer yr arholiadau – yn wir, o ystyried y cynnydd yn y nifer sy'n manteisio ar ddarpariaeth Cymraeg Gwaith ynghyd â'r broses o feintioli siaradwyr ar gwblhau cam B1, mae'r cynnydd yn nifer yr ymgeiswyr a fydd yn eu sefyll yn debygol o barhau. Gall dysgwyr hunanwerthuso eu sgiliau gan ddefnyddio cyfleusterau rhyngweithiol y Ganolfan.
4.33 A16: yr Endid Cenedlaethol mewn cydweithrediad â’r Darparwyr i ddatblygu strategaeth hyfforddiant ar gyfer tiwtoriaid a fydd yn cynnwys:
- datblygu fframwaith Datblygu Proffesiynol Parhaus
- darparu hyfforddiant mewn swydd i fodloni anghenion datblygu tiwtoriaid
- darparu’r Cymhwyster Cenedlaethol i diwtoriaid newydd neu’r rheiny sydd heb gymhwyster
4.34 'Academi' y Ganolfan yw'r prif ganolbwynt ar gyfer ei rhaglenni hyfforddiant. Caiff hyfforddiant ei gydgysylltu a'i gyflwyno ar lefel genedlaethol a rhanbarthol, gyda'r Ganolfan yn nodi bod 500 o diwtoriaid wedi cael hyfforddant yn ystod blwyddyn academaidd 2018 i 2019. Mae cymwysterau newydd i diwtoriaid yn cael eu comisiynu ar hyn o bryd a fydd yn gwella eu datblygiad proffesiynol ymhellach.
4.35 A17: Darparwyr Cymraeg i Oedolion i:
- wella ansawdd gan sicrhau eu bod yn rhannu ac yn gweithredu arfer da er mwyn cysoni ansawdd er lles dysgwyr
- gynllunio gweithlu’r dyfodol gan wneud pob ymdrech i sicrhau mwy o swyddi llawn-amser a chyfleoedd i diwtoriaid ddatblygu gyrfa yn y maes
4.36 Mae'r arolygiad a gynhaliwyd gan Estyn yn 2021 yn cadarnhau bod gan y Ganolfan strwythurau gwella ansawdd cadarn ar waith. Mae'n hanfodol cynllunio bod llwybrau gyrfa amser llawn ar gael i greu más critigol o ymarferwyr Cymraeg i Oedolion profiadol (a gweinyddwyr) er mwyn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor a phroffesiynoldeb y sector.
4.37 A18: Llywodraeth Cymru i glustnodi cyllid rheolaidd Cymraeg i Oedolion yn y gyllideb ar gyfer addysg ôl-16 gan sicrhau:
- bod y dull cyllido rheolaidd newydd yn gydnaws â’r egwyddorion a amlinellwyd yn yr adroddiad hwn
- bod cyllido dysgu lled-ffurfiol yn cael ei brif ffrydio er mwyn sicrhau ei fod yn rhan annatod o unrhyw gyrsiau
- bod y lefelau brigdorri ym maes Cymraeg i Oedolion yn gyson, yn deg ac yn dryloyw ac yn sicrhau gwerth am arian ar draws Cymru
4.38 Ymdrinnir â mater 'gwerth am arian' mewn adran ar wahân o'r adroddiad hwn (gweler pwyntiau 4.83 - 4.88). Mae'r Ganolfan yn mynd ati'n barhaus i fonitro gwariant cyllid grant gan ddarparwyr ac, fel y soniwyd yn 4.6, mae brigdorri wedi'i resymoli, ei safoni a'i leihau drwyddi draw.
4.39 A19: yr Endid Cenedlaethol mewn cydweithrediad â’r Darparwyr i:
- greu model o drefn lywodraethu gryf a chyson
- pharhau ag ymdrechion i gysoni ffioedd ar draws Cymru er mwyn sicrhau’r ffi isaf posibl a thegwch i ddysgwyr
4.40 Mae'r Ganolfan yn gweithredu o fewn strwythur llywodraethu sy'n cynnwys (i) Bwrdd Cwmni fel y prif gyswllt rhwng y Ganolfan a'i sefydliad lletyol (ii) Bwrdd Ymgynghorol fel y brif ffordd o gadarnhau bod y Ganolfan yn gwireddu ei hamcanion strategol a (iii) Pwyllgor Craffu Cymraeg i Oedolion Llywodraeth Cymru sy'n craffu ar waith y Ganolfan ar ran y Llywodraeth. Mae'r Ganolfan yn cynnal polisi o ffioedd a disgowntiau wedi'u safoni ar draws ei holl ddarparwyr ac ar gyfer pob cwrs, gan sicrhau bod darpariaeth ddwys yn fwy deniadol a bod ffioedd yn llai o rwystr.
4.41 A20: yr Endid Cenedlaethol ynghyd â’r Darparwyr Cymraeg i Oedolion i ddatblygu dulliau amrywiol o ddod â siaradwyr Cymraeg a dysgwyr ynghyd, gan gynnwys:
- trefnu gweithgareddau dysgu anffurfiol difyr a rheolaidd ar draws Cymru
- adeiladu rhwydwaith genedlaethol o wirfoddolwyr
- cydweithio’n agos â’r Mentrau Iaith a chymdeithasau a chlybiau o bob math i’w helpu i groesawu dysgwyr
- defnyddio technoleg fodern i’r eithaf
- rhannu arfer da
- ystyried manteision bathodynnau i adnabod siaradwyr Cymraeg a dysgwyr
- chydweithio â phwyllgorau lleol yr Eisteddfod Genedlaethol i sicrhau bod parhad i’r bwrlwm ar ôl i’r Eisteddfod Genedlaethol adael yr ardal
4.42 Yn y grwpiau ffocws ac yn sylwadau dysgwyr unigol, nodwyd bod y cynllun Siarad yn llwyddiannus wrth baru dysgwyr a siaradwyr Cymraeg hyderus. Ceir trafodaeth bellach ar y cynllun a chydweithredu ehangach â'r mentrau iaith yn adrannau 4.55 - 4.57. Soniodd rhai o'r dysgwyr am ddefnyddio bathodyn neu ffurf arall o nodi'r rhai sy'n gallu siarad Cymraeg, a dylid rhoi rhagor o sylw i hyn trwy drafodaeth gyda Llywodraeth Cymru a Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg. At ei gilydd, y darparwr lleol sy'n ymgysylltu â phwyllgorau lleol yr Eisteddfod Genedlaethol ac sy'n gyfrifol am unrhyw weithgarwch dilynol, ac mae hyn yn gwbl briodol.
4.43 A21: Partneriaid allweddol fel y Mentrau Iaith a’r papurau bro i ymestyn y gefnogaeth i ddysgwyr mewn ffyrdd creadigol a difyr.
4.44 Mae'n amlwg bod y Ganolfan yn gweithio'n adeiladol gyda'r Mentrau Iaith a chyrff perthnasol eraill i gynnig cymorth i ddysgwyr. Nid yw'r dystiolaeth o ran annog siaradwyr newydd / dysgwyr i gyfrannu at y Papurau Bro mor glir ac mae potensial i feithrin cyfleoedd defnyddiol i gydweithredu yn y maes hwn.
4.45 A22: yr Eisteddfod Genedlaethol i gydweithio â’r Endid Cenedlaethol i sicrhau rôl hyrwyddo i Ddysgwr y Flwyddyn a chydnabod llwyddiant siaradwyr Cymraeg sy’n helpu dysgwyr.
4.46 Mae'r gwaith hwn yn parhau ac roedd yn amlwg iawn y llynedd (2020) pan fu'r Ganolfan yn gweithio gyda'r Eisteddfod Genedlaethol i ddatblygu Gŵyl AmGen a sicrhau bod cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei chynnal yn ystod pandemig Covid.
4.47 A23: S4C a BBC Cymru Wales i gydweithio’n agos â’r Endid Cenedlaethol a dysgwyr i ddatblygu a gweithredu strategaeth a fydd yn sicrhau bod eu darpariaeth yn denu dysgwyr Cymraeg newydd, yn cefnogi dysgwyr presennol ac yn helpu i ddatblygu’r berthynas rhwng siaradwyr Cymraeg a dysgwyr.
4.48 Mae'r Ganolfan yn parhau i gydweithio ag S4C a BBC Cymru Wales i sicrhau bod y profiad gwylio/gwrando cystal â phosibl i ddysgwyr, er enghraifft drwy isdeitlau, rhaglennu wedi'i dargedu a chreu sianel ar-lein i ddysgwyr yn S4C Clic. Ceir potensial ar gyfer cydweithredu pellach â'r cyfryngau yng Nghymru, yn enwedig defnyddio'r cyfryngau Saesneg eu hiaith (er enghraifft radio masnachol) fel adnodd marchnata a chodi ymwybyddiaeth.
4.49 A24: Siaradwyr Cymraeg i ymfalchïo yn eu hiaith a chydnabod rôl allweddol dysgwyr yn y Gymru fodern gan gymryd eu cyfrifoldeb am groesawu a chefnogi’r dysgwyr o ddifrif, yn unigol ac mewn cymdeithasau a chlybiau.
4.50 Gall y Ganolfan chwarae rhan yn hyn o beth ond mae hefyd yn gyfrifoldeb ar y gymuned Gymraeg ehangach. Mae gan y Ganolfan rôl i'w chwarae i hwyluso'r drafodaeth a nodi enghreifftiau o arferion da sydd wedi arwain at gymhathu siaradwyr newydd. Mae ei chydberthynas gadarnhaol â'i phartneriaid, fel y Mentrau Iaith a sefydliadau Cymraeg eraill yn gyfrwng i ddatblygu'r drafodaeth genedlaethol hon.
Sylwadau ychwanegol
4.51 Gair a ddefnyddiwyd gan lawer o'r rhanddeiliaid i ddisgrifio'r Ganolfan yw 'pwerdy'. Yn ystod cam cyntaf ei bodolaeth, llwyddodd i wireddu uchelgeisiau ac argymhellion "Codi Golygon" a chaiff ei chydnabod fel corff sy'n cydgysylltu, cynllunio, darparu a datblygu darpariaeth Dysgu Cymraeg ar lefel genedlaethol. Mae'r broses o resymoli a safoni'r ddarpariaeth wedi mynd rhagddi'n effeithiol ac roedd yn briodol i'r Ganolfan ganolbwyntio ar y meysydd hyn yn ystod ei chyfnod gweithredu cychwynnol.
4.52 Yn ystod ail gam ei bodolaeth, bydd angen i'r rôl hon, fel sefydliad allweddol a strategol sy'n ganolog i'r broses o gaffael y Gymraeg, gael ei datblygu a'i chryfhau. Bydd bellach yn bosibl i strategaethau gael eu seilio ar ddata'r Ganolfan ei hun a bydd hyn yn atgyfnerthu ei gallu i ysgogi blaenoriaethau polisi fel creu mwy o siaradwyr Cymraeg a defnyddwyr y Gymraeg. Yn ogystal â defnyddio data mwy cadarn, mae ganddi rôl hefyd mewn perthynas â nodi a broceru arferion gorau ynghyd ag arferion yn seiliedig ar ymchwil.
4.53 Wrth ystyried Cam 2 y Ganolfan, byddai'n amserol ystyried a yw'r model llywodraethu presennol yn briodol.
Maes 2
Ystyried a yw gweithgareddau'r Ganolfan yn cyfrannu at ymdrechion i gyflawni targedau perthnasol "Cymraeg 2050".
4.54 Holl raison d'être y Ganolfan yw creu siaradwyr Cymraeg newydd a chyfrannu at "Cymraeg 2050". Mae angen i dermau fel 'siaradwr newydd', 'dysgwr', 'defnyddiwr y Gymraeg', 'siaradwr Cymraeg' gael eu diffinio'n glir a'u deall ar hyd y sbectrwm o ddarpariaeth, o Lywodraeth Cymru a'r Ganolfan i diwtoriaid a'r dysgwyr eu hunain. Bydd hyn yn ei dro yn gwella ac yn hwyluso'r gallu i sicrhau bod y targedau hyn yn cael eu cyflawni.
4.55 Roedd integreiddio dysgwyr Cymraeg neu siaradwyr Cymraeg newydd i rwydweithiau lleol Cymraeg eu hiaith yn thema gyson yn y grwpiau ffocws. Yng nghyd-destun "Cymraeg 2050" a'r defnydd o'r Gymraeg yn y gymuned, mae hyn yn hollbwysig. Yn yr ardaloedd hynny o Gymru lle mae'r Gymraeg yn dal i fod yn iaith gymunedol, gellid dadlau bod integreiddio yn llai o her (er gwaethaf 4.50 uchod). Serch hynny, hyd yn oed yn yr ardaloedd hyn, mae angen ei gynllunio a'i gyflawni mewn cydweithrediad ag asiantaethau lleol. Fodd bynnag, mae mwy o her yn yr ardaloedd mwy seisnigedig o Gymru, lle nad yw'r rhwydweithiau Cymraeg eu hiaith mor amlwg. Yn nhermau "Cymraeg 2050" mae hon yn her, nid yn unig i oedolion sy'n dysgu Cymraeg, ond i'r rhai sydd wedi cael addysg cyfrwng Cymraeg ac i siaradwyr Cymraeg sy'n symud i'r ardaloedd hyn.
4.56 Un awgrym a gafwyd oedd hyrwyddo'r syniad o greu cymunedau ymarfer mewn meysydd diddordeb i grwpiau o siaradwyr Cymraeg yn yr ardaloedd hyn. Mae'r cynllun Siarad wedi llwyddo i gysylltu dysgwyr â siaradwyr Cymraeg yn eu hardaloedd ond gallai fod hyd yn oed yn fwy llwyddiannus pe bai'n canolbwyntio ar gymunedau ymarfer cyffredin, gan ddod ag unigolion â diddordebau tebyg (er enghraifft chwaraeon, hobïau, gweithgareddau diwylliannol) at ei gilydd. Byddai'r cysylltiadau hyn yn fwy tebygol o barhau yn y dyfodol gyda photensial i ddatblygu'n gymuned ymarfer Gymraeg, a thrwy hynny, gyflwyno'r iaith i barthau newydd.
4.57 Mae angen cwmpasu / peilota trefniadau arloesol i symud yr iaith o'r ystafell ddosbarth i'r gymuned. Mae rôl i'r Ganolfan yn hyn o beth wrth werthuso'r hyn sy'n gweithio orau yn ogystal â pha bartneriaid sydd fwyaf effeithiol wrth integreiddio dysgwyr i'r gymuned. Gellid dadlau mai'r Mentrau Iaith sydd yn y sefyllfa orau i nodi cydweithredwyr posibl Cymraeg eu hiaith mewn unrhyw gynlluniau newydd. Mae profiad y Gatalaneg - Voluntariat per la Llengua - yn fodel llwyddiannus a gaiff ei weinyddu gan y Consortiwm dros Normaleiddio Iaith. Mae angen i gynlluniau o'r fath fuddsoddi mewn amser staff ac adnoddau eraill (er enghraifft sicrhau nifer digonol o wirfoddolwyr) er mwyn bod ar eu mwyaf effeithiol.
4.58 Bydd defnyddio'r data sydd bellach ar gael i'r Ganolfan yn helpu i roi dealltwriaeth well ynghylch pwy sy'n ymgysylltu â Dysgu Cymraeg a sut y mae hyn yn cydweddu â thargedau "Cymraeg 2050". Gallai'r broses o recriwtio grwpiau penodol yr ystyrir eu bod yn bwysig yng nghyd-destun "Cymraeg 2050" gael ei monitro a'i thargedu pe bai angen.
4.59 Yn 4.22 trafodwyd defnyddio cyflawni lefel B1 fel diffiniad ar gyfer siaradwr Cymraeg newydd. Mae'r dystiolaeth o'n trafodaethau yn y grwpiau ffocws yn cefnogi'r awgrym bod angen gwneud mwy o ymchwil er mwyn cadarnhau'r diffiniad B1.
4.60 Carfan bwysig arall sydd â'r potensial i gyfrannu at gyflawni "Cymraeg 2050" yw pobl ifanc dan 25 oed sydd wedi astudio Cymraeg fel pwnc yn y sector ysgolion cyfrwng Saesneg. Nid yw'r bwlch rhwng yr hyn y gallent fod wedi'i gyflawni yn yr ysgol a lefel B1 yn debygol o fod cymaint ag y byddai i ddysgwr llwyr, a bydd eu cymhelliant yn debygol o gynyddu ar ôl iddynt ymuno â'r farchnad swyddi. Gallai targedu ac annog y grŵp penodol hwn fod yn gyfraniad cost-effeithlon i dargedau "Cymraeg 2050".
4.61 Yn yr un modd, gallai fod yn fuddiol iawn ystyried darpariaeth sy'n cynyddu hyder siaradwyr sydd wedi derbyn addysg iaith gyntaf (yn enwedig y rhai mewn ardaloedd mwy seisnigedig a gafodd eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg) fel eu bod yn fwy tueddol o ddefnyddio'u Cymraeg yn eu cymunedau.
Maes 3
Ystyried ymateb y Ganolfan i Covid, ac a yw'r datblygiadau sy'n deillio ohono yn cynnig cyfleoedd i wneud newidiadau hirdymor i'r ffordd y mae'r Ganolfan yn gweithredu neu'r ffordd y caiff darpariaeth Dysgu Cymraeg ei chyflwyno.
4.62 Ceir consensws cyffredinol y bu'r ymateb yn wych. O fewn tair wythnos, roedd yr holl ddarpariaeth wedi cael ei rhoi ar-lein. Roedd datblygiadau digidol wedi bod ar y gweill ers peth amser a chafodd y gwaith hwn ei gyflymu oherwydd Covid. Mae hyn wedi newid y tirlun, gan gynnig ffyrdd newydd o ddysgu: wyneb yn wyneb, rhithiol, cyfunol, hunanastudio.
4.63 Roedd y rhan fwyaf o'r dysgwyr ar bob rhaglen yn croesawu'r hyblygrwydd ychwanegol a gynigiwyd a llwyddwyd i gyrraedd myfyrwyr newydd. Ceir awydd i ddychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb yn y dyfodol, ond byddai llawer yn galw am i rywfaint o'r ddarpariaeth barhau ar-lein, fel bod y dull dysgu yn gallu cydweddu ag amgylchiadau unigol. Mae ategu addysgu wyneb yn wyneb â deunyddiau a gweithgareddau ar-lein, mewn model dysgu cyfunol, yn opsiwn da ar gyfer sicrhau hyblygrwydd a dwysedd y ddarpariaeth.
4.64 Mae'r rhan fwyaf o ddarparwyr wedi'u lleoli mewn sefydliadau sydd â chymorth TG cadarn a rhaglenni hyfforddiant.
4.65 Mae presenoldeb mewn gweithgareddau fel Sadyrnau Siarad wedi cynyddu hefyd.
4.66 Teimlai tiwtoriaid bod Zoom / Teams wedi eu galluogi i gadw eu rhwydweithiau a'u grwpiau cymorth eu hunain yn ystod y pandemig. Mae adnoddau ar-lein y Ganolfan yn dda ac mae'r wefan yn llawn gwybodaeth. Roedd yr ymateb i Covid hefyd wedi gwneud i'r rhai sy'n gweithio yn yr holl ddarparwyr deimlo eu bod yn un 'tîm'.
4.67 Mae'r Ganolfan wedi bod yn cydweithio'n agosach â Duolingo a SSiW. Mae llawer o gyfleoedd ar gyfer cwricwlwm sy'n canolbwyntio ar ddysgwyr yn hyn o beth. Mae angen monitro a dysgu o brofiad dysgwyr o ddefnyddio llawer o lwyfannau er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw rwystrau posibl, er enghraifft gwahanol amrywiadau o Gymraeg yn cael eu defnyddio. Nid yw hyn yn broblem ynddi'i hun (yn wir, gall fod yn llesol hyd yn oed) ond gallai sgaffaldio a strategaethau i ddysgwyr fod o gymorth.
4.68 Mae defnydd uwch o gyrsiau ar-lein ar lefelau uwch lle bu niferoedd isel o safbwynt daearyddol wedi sicrhau eu bod yn parhau'n ddichonadwy. Mae dysgwyr wedi croesawu'r datblygiad hwn ac mae'n cefnogi cynnydd. Efallai y bydd y Ganolfan eisiau ystyried darpariaeth all-lein ategol ar y lefel hon hefyd, fel dosbarthiadau wedi'u recordio ymlaen llaw y gallai'r dysgwyr eu gwylio wrth eu pwysau.
Maes 4
Ystyried gweithgareddau a chyfrifoldebau presennol y Ganolfan ac a yw'r arbenigedd a enillwyd a'r adnoddau a grëwyd ers ei sefydlu yn cynnig cyfleoedd i ymestyn gweithgareddau'r Ganolfan i feysydd addysg statudol.
4.69 Mae argymhelliad cyntaf arolygiad Estyn yn galw ar y Ganolfan i rannu ei harbenigedd mewn addysgu llwyddiannus a chaffael ail iaith i sectorau perthnasol eraill. Caiff hyn ei gyflwyno yng nghyd-destun cyfrannu at gyflawni "Cymraeg 2050" ond rydym o'r farn bod hyn hefyd yn cadarnhau datblygiad posibl y Ganolfan yng 'Ngham 2' fel canolfan ragoriaeth - pwerdy - a dylanwad pwysig ar gaffael ail iaith yng nghyd-destun y Gymraeg. Er mwyn datblygu'r elfen hon, rydym o'r farn y byddai'n ddefnyddiol i'r Ganolfan adfyfyrio'n benodol ar y meysydd hynny o addysgeg a'r cwricwlwm y mae'n rhagori ynddynt.
4.70 Yn dilyn y drafodaeth yn 4.60 uchod, byddem yn ailadrodd bod angen ymchwilio ymhellach i'r galw am ddarpariaeth i'r rhai sy'n dymuno astudio'r Gymraeg fel pwnc ar ôl cwblhau [1]TGAU Cymraeg ail iaith. Mae cymhelliant ac agweddau'n newid o ganlyniad i lawer o ffactorau gan gynnwys oedran, cyd-destun addysgol ac uchelgeisiau o ran swyddi. Byddai symud y dysgwyr hyn ar hyd continwwm o tua A1 / A2 cynnar i B1 yn fwy cost-effeithiol na gweithio gyda dechreuwyr pur, ond nid yw'r adnoddau / darpariaeth bresennol yn debygol o fod yn briodol i'r garfan hon. Byddai symud i garfan sy'n dechrau yn 16 oed yn golygu newid cylch gwaith y Ganolfan, ond byddem yn cymeradwyo ymchwil bellach yn hyn o beth gydag adnoddau priodol yn cael eu darparu.
4.71 Gan ddilyn pwynt 4.69, mae'n bosibl gweld y Ganolfan yn datblygu'n hwb ar gyfer datblygu ac arloesi o ran methodoleg, addysgeg a chwricwlwm gyda deunyddiau ffynhonnell agored (gan gynnwys deunyddiau i athrawon). Gallai hyn fod yn gyfle i'r Ganolfan (mewn partneriaeth, er enghraifft, â sefydliadau addysg uwch/colegau addysg bellach a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol) ehangu i feysydd fel hyfforddi'r gweithlu addysg, gan rannu adnoddau ac arferion da â'r sector ail iaith mewn ysgolion a meithrin sgiliau iaith ar gyfer pynciau addysg bellach. Mae angen sgaffaldio darpariaeth a datblygiad hirdymor drwy dyfu cymunedau ymarfer proffesiynol, er enghraifft cynadleddau ar addysgu Cymraeg sy'n agored i bawb (ar bob lefel ac ym mhob cyd-destun), croesawu papurau ar ddatblygiadau arloesol ym maes addysgeg, astudiaethau achos dysgwyr, ymarfer a ysgogir gan ddamcaniaeth, astudiaethau empiraidd, alinio polisi ac ymarfer ac ati.
4.72 Ceir cydnabyddiaeth fod y Ganolfan yn annog arloesi a threialu syniadau newydd (Cymraeg Gwaith / Cymraeg yn y Cartref) ac mae hyn yn ei dro yn annog darparwyr i feddwl am syniadau newydd. Er mai'r Ganolfan yw 'wyneb cyhoeddus' Dysgu Cymraeg, mae llawer o ddysgwyr yn llawer mwy ymwybodol o'u darparwr lleol na'r Ganolfan ei hun. Er nad yw hyn yn bwysig iawn o safbwynt y 'defnyddiwr', o safbwynt gwleidyddol a strategol, mae'n ddymunol hyrwyddo proffil cyhoeddus y Ganolfan fel pwerdy ar gyfer pob agwedd ar Ddysgu Cymraeg.
4.73 Bydd data dibynadwy a chyflawn ar gael ar system reoli ganolog y Ganolfan a bydd hyn yn golygu y gellir cael gafael ar wybodaeth yn seiliedig ar dystiolaeth, er enghraifft er mwyn monitro ac olrhain cynnydd. Drwy gloddio data, sicrheir mwy o ffocws i'r strategaethau a'r gwaith cynllunio yng 'Ngham 2' o fodolaeth o Ganolfan.
4.74 Er bod 'ymchwil' wedi'i chynnwys yng nghylch gwaith gwreiddiol y Ganolfan, mae wedi bod yn faes nad yw wedi'i archwilio'n llawn hyd yma. Yn y dyfodol, dylai'r Ganolfan wella ei hygrededd fel 'pwerdy' cenedlaethol yn y sector drwy ei datblygu'i hun yn hwb ar gyfer arloesedd ymchwil. Dylai gofnodi arbenigedd a datblygu gwybodaeth, gan nodi meysydd lle gallai ymchwil bellach wella ymarfer, er enghraifft. Gellid cyflawni hyn drwy grantiau ymchwil cystadleuol â ffocws penodol. Byddai'r Ganolfan yn cydgysylltu'r dasg o nodi a phenderfynu ar flaenoriaethau ymchwil, gyda mewnbwn gan ddarparwyr ac arbenigwyr perthnasol a thrwy gynllunio ei hamcanion strategol.
4.75 Mae'r Ganolfan wedi llwyddo i ddatblygu nifer o bartneriaethau defnyddiol sydd wedi bod yn fuddiol i'r ddwy ochr, er enghraifft Theatr Genedlaethol Cymru a'r posibilrwydd o gyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Mae hyn yn ei dro wedi galluogi'r Ganolfan i ehangu ei chyrhaeddiad a'i dylanwad.
4.76 Mae'r gydberthynas a'r bartneriaeth â'r Mentrau Iaith yn hanfodol, oherwydd dyma lle y cyflawnir rhyngwyneb rhwng yr ystafell ddosbarth a'r gymuned. Mae angen i Lywodraeth Cymru gydnabod y rôl hon a chwaraeir gan y Mentrau Iaith a darparu ar ei chyfer yn eu cytundebau cyllido, gan fod canfyddiad mewn rhai ohonynt nad yw'r agwedd hon ar eu gwaith yn cael ei chyllido ar hyn o bryd.
Maes 5
Ystyried a yw'r ganolfan wedi rhoi digon o sylw i ddatblygu cyfleoedd Dysgu Cymraeg newydd a chynulleidfaoedd penodol, er enghraifft rheini di-Gymraeg, pobl groenliw a lleiafrifoedd ethnig gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
4.77 Rydym wedi cyfeirio at brosesau casglu data gwell mewn sawl adran o'r adroddiad, ac mae ei bwysigrwydd yn amlwg eto wrth bennu pa ddemograffeg o bobl sydd wedi'u tangynrychioli ymhlith y rhai sy'n manteisio ar Dysgu Cymraeg.
4.78 Gofynnwyd i'r grwpiau ffocws feddwl am eu cymunedau eu hunain a gwneud sylwadau ar unrhyw grwpiau penodol a ddylai gael eu targedu, yn eu barn nhw. Roedd y rhain yn cynnwys:
- rhieni y mae eu plant mewn ysgolion cyfrwng Saesneg ond sy'n astudio ar gyfer TGAU Cymraeg
- teuluoedd lle mae un rhiant yn siarad Cymraeg ond mae'r llall yn ddi-Gymraeg
- darpar rieni, h.y. y rhai sy'n cynllunio i gael teulu
- sectorau gwaith penodol, er enghraifft iechyd
4.79 Bydd cyfleoedd ar-lein a gynhelir ochr yn ochr â dosbarthiadau wyneb yn wyneb (ac ar wahân iddynt) yn debygol o apelio at bobl na allant deithio i ddosbarthiadau'n hawdd (er enghraifft cymunedau gwledig ynysig, rhieni sengl, unigolion sy'n brin o amser, pobl sydd â chyfyngiadau corfforol neu gymdeithasol o ran symudedd ac ati) - a bwrw bod band llydan dibynadwy ar gael.
4.80 Mae'r sector at ei gilydd yn barod ac yn awyddus i ddatblygu cyfleoedd i unrhyw gynulleidfa. Lle mae hyn wedi digwydd, er enghraifft yn achos ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ceir gwerthfawrogiad o'r cymorth a'r anogaeth a ddarperir gan y Ganolfan. Mae hefyd yn bwysig annog grwpiau i ymgysylltu â'r Ganolfan yn rhagweithiol. Mae'r Ganolfan wedi gwneud rhywfaint o waith ymchwil i'r rhwystrau sy'n atal rhai sy'n dymuno dysgu Cymraeg rhag gwneud hynny. Ymhlith meysydd eraill posibl i'w hymchwilio byddai, er enghraifft, pam nad yw rhai dysgwyr yn datblygu y tu hwnt i lefelau penodol fel B1 i B2.
4.81 Er nad oedd hyn o fewn arbenigedd y Ganolfan, byddai'n ddefnyddiol ystyried sut y gellid cynnig cyngor ar strategaethau ar gyfer newid yr iaith a ddefnyddir gyda pherson penodol, er enghraifft o fewn y teulu neu gyda phartner / plant. Byddai croeso hefyd i gyngor ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r ystafell ddosbarth yn fwy cyffredinol, er enghraifft fforwm defnyddwyr a gynhelir gan y Ganolfan yn rhestru manwerthwyr / darparwyr gwasanaeth Cymraeg eu hiaith.
4.82 Caiff effaith y cyfleoedd a ddatblygwyd gan y Ganolfan yn ystod ei cham cyntaf wedi'i chrynhoi yn y detholiad hwn o ohebiaeth gan ddosbarth a gafwyd gan y tîm yn ystod yr adolygiad: "Rydyn ni'n dod o leoedd gwahanol yn wreiddiol, (enwau nifer o wledydd o dri chyfandir). Ond Cymraeg yw'r iaith sydd yn uno pob un ohonon ni. Dim Saesneg. Dim iaith arall. Cymraeg yw'r iaith i ni. Rydyn ni i gyd yn byw yng Nghymru nawr ac rydym yn galw Cymru ein cartref ni.... Felly, bydd ein plant ni a phlant ein plant ni yn parhau i siarad a defnyddio Cymraeg."
Maes 6
Adolygu data'r Ganolfan ynghylch y niferoedd sy'n Dysgu Cymraeg, a'r costau bras fesul person, ac ystyried pa ffactorau y gellir eu defnyddio i ddiffinio gwerth am arian, er enghraifft cymharu â'r cymorth a ddarperir i fyfyrwyr Prifysgolion yng Nghymru, a pha ganlyniadau a gyflawnir gan ddulliau addysgu iaith eraill, a'r safonau a gyflawnir.
4.83 Nid oedd consensws clir am ddiffiniad o "werth am arian" yng nghyd-destun y sector Dysgu Cymraeg. Roedd y safbwyntiau'n amrywio o gredu y dylid rhannu'r grant a dderbynnir gan y Ganolfan yn ôl y niferoedd sy'n cyflawni lefel B1, i wneud cymariaethau â'r cymorth a ddarperir i fyfyrwyr prifysgol yng Nghymru er enghraifft, i honni y byddai unrhyw opsiynau o'r fath yn ddiystyr am nad ydynt yn cwmpasu'r amrywiaeth o 'werthoedd' y tu hwnt i lefel hyfedredd yn yr iaith (bod yn rhan o'r gymuned, empathi ac ati – gweler hefyd 4.88). Roedd dweud mai prif rôl y Ganolfan yw creu siaradwyr Cymraeg newydd, a gofyn sut y gellir mesur hyn o safbwynt gwerth am arian yn ymateb cyffredin.
4.84 Trafodir niferoedd y dysgwyr unigol yn y sector yn adran 2.9. Un farn a rennir oedd ei bod yn bwysig peidio â mesur effaith y Ganolfan a gwerth am arian ar sail "niferoedd yn y system" yn unig. Yn ogystal, mae'r rôl llywio a dylanwadu sydd ganddi yn anodd ei meintioli a'i mesur o safbwynt gwerth am arian.
4.85 O safbwynt safon yr addysgu/dysgu, y gwasanaeth sydd ar gael a'r pris a delir, roedd cytundeb cyffredinol bod y Ganolfan yn cynnig gwerth am arian.
4.86 Mae'r ffaith bod mwy o gyllid yn cyrraedd gwasanaethau rheng flaen a bod gorbenion sefydliadol wedi'u rhesymoli yn ystyriaeth bwysig.
4.87 Yng nghyfnod nesaf y Ganolfan, bydd yn bwysig gwerthuso ym mha ffordd y gall unrhyw newid i adnoddau digidol ac ar-lein ddylanwadu ar y model dysgu yn y dyfodol ac effeithio ar ffurf bresennol y ddarpariaeth a'r model ariannol cysylltiedig.
4.88 Mae sylw gan un dysgwr yn crynhoi'r anhawster a geir wrth bennu ystyr 'gwerth am arian' yng nghyd-destun Dysgu Cymraeg. "Mae gallu siarad Cymraeg yn amhrisiadwy". Mae'n bwysig cofnodi manteision y ddarpariaeth bresennol. Dim ond un agwedd ar 'werth' yw hyfedredd dysgwyr wrth adael y ddarpariaeth. Mae agweddau fel ymdeimlad o gymuned (yn y dosbarthiadau ac wrth gael eu croesawu i'r gymuned Gymraeg), empathi, parch ac ymgysylltiad deallusol, ymhlith eraill, yr un mor bwysig.
Maes 7
Argymell y ffordd orau i Weinidogion sicrhau darpariaeth ar ôl 31 Gorffennaf 2022 (h.y. drwy grant tebyg i'r trefniadau presennol neu drwy fabwysiadu trefn wahanol).
4.89 Ceir consensws bod y trefniadau presennol yn gweithio'n dda. Mae'r gydberthynas â'r sefydliad lletyol wedi sicrhau systemau adnoddau dynol, ariannol ac isadeiledd TGCh effeithiol nad oes angen i staff y Ganolfan dreulio amser arnynt. Wrth i Gam 1 ei bodolaeth ddirwyn i ben, ceir sail gadarn i'r Ganolfan adeiladu arni a'i hymestyn yn ystod Cam 2 er mwyn dod yn ddylanwadwr strategol a phwerdy sy'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y sector yn chwarae rhan lawn wrth wireddu polisi.
4.90 Cyn belled â phosibl, credwn y dylai cyllid gael ei ymrwymo'n hirdymor er mwyn gallu blaengynllunio, er enghraifft galluogi llwybrau gyrfa clir yn y sector a sicrhau bod tiwtoriaid profiadol yn cael eu cadw. Mae angen hyrwyddo'r broses o broffesiynoli'r sector addysgu Cymraeg – i'r rhan fwyaf o ddysgwyr, eu tiwtoriaid yw 'wyneb' y Ganolfan.
4.91 Yn ein barn ni, nid grant yn seiliedig ar gyfres o dargedau yw'r ffordd orau ymlaen. Yn aml, mae'n anodd nodi sail ar gyfer pennu targedau penodol ac yn y gorffennol, mae hyn wedi gwyro'r ddarpariaeth tuag at fodloni meini prawf y targedau hyn yn hytrach na diwallu anghenion dysgwyr. Ar y llaw arall, byddem yn ffafrio proses o 'dargedu strategol' a fyddai'n annog ac yn hyrwyddo blaenoriaethau polisïau, er enghraifft mwy o hyfforddiant iaith i rieni/darpar rieni; ymestyn Cymraeg Gwaith a gweithio gyda chyflogwyr i roi amser i ffwrdd o'r gweithle i weithwyr er mwyn mynychu cyrsiau; parhau i roi pwyslais ar ddarpariaeth ddwys. Mae angen rhoi proses glir ar waith ar gyfer hwyluso trafodaethau am 'dargedu strategol' rhwng y Ganolfan a Llywodraeth Cymru erbyn 'Cam 2' datblygiad y Ganolfan
[1] Mae hyn yn cyfeirio at y cymhwyster TGAU ail iaith a amlinellir yn TGAU Cymraeg Ail Iaith
Argymhellion
5.1 Ym marn y tîm, mae'r Ganolfan wedi cyflawni'r rhan fwyaf o argymhellion "Codi Golygon" yn ystod ei cham cyntaf. Mae wedi llwyddo i greu sail gadarn ar gyfer "Cam 2". Argymhellwn fod cytundeb newydd yn cael ei lunio gan Lywodraeth Cymru sy'n caniatáu i'r Ganolfan gynllunio am y tymor hir fel y gall barhau i gyflwyno darpariaeth Dysgu Cymraeg yn ystod "Cam 2" o 1 Awst 2022. Rydym o'r farn y bydd yr ail gam yn gyfnod i'r Ganolfan atgyfnerthu, cryfhau a datblygu ei rôl ac ehangu ei chyrhaeddiad yn unol â'r argymhellion a ganlyn. Dylai hyn fod yn sail i gontract nesaf Llywodraeth Cymru â'r Ganolfan.
Y Ganolfan fel dylanwadwr strategol
5.2 Argymhelliad 1: dylai "Cam 2" ganolbwyntio'n bennaf ar ddatblygu a chryfhau sefyllfa'r Ganolfan fel pwerdy a dylanwadwr strategol ym maes caffael y Gymraeg. Mae arolygiad Estyn yn galw am i'r Ganolfan rannu ei harbenigedd mewn addysgu llwyddiannus a chaffael ail iaith â sectorau perthnasol eraill. Dylid annog y Ganolfan i weithio gyda phartneriaid i nodi'r meysydd hynny o addysgeg a'r cwricwlwm y mae'n rhagori ynddynt gyda'r nod o ddod yn hwb cenedlaethol ar gyfer datblygu ac arloesi o ran methodoleg, addysgeg a'r cwricwlwm wrth ddysgu iaith.
5.3 Argymhelliad 2: dylai'r Ganolfan ddatblygu'n hwb ar gyfer arloesedd ymchwil ym maes caffael iaith. Bydd nodi ac ariannu meysydd sydd â'r potensial i lywio ei darpariaeth yn ddangosydd allweddol arall o ffocws y Ganolfan yn ystod "Cam 2".
5.4 Argymhelliad 3: bydd angen rhoi proses glir ar waith ar gyfer hwyluso trafodaethau rhwng y Ganolfan a Llywodraeth Cymru am 'dargedu strategol' mewn perthynas â'r ddarpariaeth erbyn "Cam 2" datblygiad y Ganolfan.
5.5 Argymhelliad 4: wrth ystyried yr argymhellion uchod, ac wrth i'r Ganolfan gychwyn ar "Gam 2", byddai'n amserol i'r Ganolfan a Llywodraeth Cymru ystyried a yw'r model llywodraethu presennol yn briodol.
Ehangu cylch gwaith y Ganolfan
5.6 Argymhelliad 5: dylai'r Ganolfan a Llywodraeth Cymru archwilio sut y gall ei chylch gwaith yn ystod "Cam 2" gael ei ehangu i feysydd fel hyfforddi'r gweithlu addysg, gan rannu adnoddau ac arferion da â'r sector ail iaith mewn ysgolion a meithrin sgiliau iaith ar gyfer pynciau addysg bellach.
5.7 Argymhelliad 6: dylai'r Ganolfan a Llywodraeth Cymru gwmpasu ehangu'r ddarpariaeth a'r cylch gwaith i gynnwys pobl 16 i 25 oed sydd wedi astudio'r Gymraeg fel pwnc yn y sector ysgolion cyfrwng Saesneg.
5.8 Argymhelliad 7: dylai'r Ganolfan fynd ati gydag asiantaethau cynllunio iaith a phartneriaid priodol i ystyried ffyrdd o roi cyngor ar strategaethau ar gyfer newid yr iaith a ddefnyddir gydag unigolyn penodol, er enghraifft o fewn y teulu neu gyda phartner / plant.
5.9 Argymhelliad 8: mae angen i rôl y Ganolfan wrth hwyluso taith y dysgwr o'r ystafell ddosbarth i'r gymuned gael ei diffinio'n gliriach. Dylid cydnabod y gall cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gymuned fod yn her, nid yn unig i oedolion sy'n dysgu Cymraeg, ond hefyd i'r rhai sydd wedi cael addysg cyfrwng Cymraeg ac i siaradwyr Cymraeg sy'n symud i'r ardaloedd hyn. Mae angen gwneud gwaith cynllunio cyfannol er mwyn gwireddu ac ehangu'r cyfleoedd hyn gyda phartneriaid priodol.
5.10 Argymhelliad 9: dylai'r Ganolfan ystyried ehangu'r cynllun Siarad i greu cymunedau ymarfer sy'n dod ag unigolion â diddordebau tebyg (er enghraifft chwaraeon, hobïau, gweithgareddau diwylliannol) at ei gilydd.
5.11 Argymhelliad 10: dylai'r Ganolfan a Llywodraeth Cymru werthuso faint o fuddsoddiad fyddai ei angen o ran amser staff ac adnoddau eraill er mwyn ehangu'r cynllun Siarad, a'u dyrannu'n unol â hynny.
Darpariaeth y Ganolfan
5.12 Argymhelliad 11: dylai'r ganolfan werthuso llwyddiant dulliau fel dysgu cyfunol, ystafell ddosbarth rithwir a hunanastudio i wneud y gorau o ddarpariaeth wrth i ni symud ymlaen o gyfnod y pandemig trwy ddefnyddio dulliau ymchwil priodol.
5.13 Argymhelliad 12: dylai'r Ganolfan ddatblygu adnoddau, darpariaeth a phartneriaethau i ehangu'r ddarpariaeth ar lefel C1+ Gloywi (Hyfedredd).
5.14 Argymhelliad 13: mae angen ymchwilio ymhellach i'r meincnod o gwblhau lefel B1 (Canolradd) fel arwydd o ruglder ac mae angen amlinellu'r meini prawf a ddefnyddiwyd.
5.15 Argymhelliad 14: dylai'r Ganolfan a Llywodraeth Cymru gynllunio er mwyn sicrhau bod llwybrau gyrfa amser llawn ar gael i greu más critigol o ymarferwyr (a gweinyddwyr) yn y sector Cymraeg i Oedolion.
Rheoli gwybodaeth gan y Ganolfan
5.16 Argymhelliad 15: dylai'r Ganolfan gysylltu strategaeth yn agosach â thystiolaeth o'i data ei hun a chanfyddiadau o ddadansoddi bylchau, gan atgyfnerthu ei gallu i ysgogi blaenoriaethau polisi fel creu mwy o siaradwyr a defnyddwyr y Gymraeg.
5.17 Argymhelliad 16: dylai'r Ganolfan ddefnyddio'r data sydd bellach ar gael iddi i gael dealltwriaeth well ynghylch pwy sy'n ymgysylltu â Dysgu Cymraeg a sut y mae hyn yn cydweddu â thargedau "Cymraeg 2050". Dylai hyn lywio'r gwaith o recriwtio, monitro a thargedu'r grwpiau penodol yr ystyrir eu bod yn bwysig yng nghyd-destun "Cymraeg 2050" ac mae'n gysylltiedig ag Argymhelliad 3.
Meithrin partneriaethau
5.18 Argymhelliad 17: dylid parhau partneriaethau’r Ganolfan â darparwyr preifat fel SSiW (Say Something in Welsh) a Duolingo. Byddai codi ymwybyddiaeth dysgwyr o'r mathau hyn o ddarpariaeth (SSiW, Duolingo a Learn Welsh) a hwyluso symudiad rhwng ac ar draws darparwyr dysgu yn fuddiol iddynt gan wneud llwybrau cynnydd yn gliriach.
5.19 Argymhelliad 18: dylid cynnal y bartneriaeth bresennol â CBAC i ddarparu arholiadau a chymwysterau i'r dysgwyr hynny sy'n dymuno eu sefyll. Dylid ymchwilio ymhellach i ffyrdd o gysylltu'r cymwysterau hyn â'r gofynion iaith ar gyfer gweithlu dwyieithog.
5.20 Argymhelliad 19: dylai'r Ganolfan barhau i weithio'n adeiladol gyda'r Mentrau Iaith a chyrff perthnasol eraill i gynnig cymorth i ddysgwyr. Yn benodol, dylid ystyried partneriaethau a fyddai'n rhoi cyfleoedd i ddysgwyr weithio gyda'r Papurau Bro.
5.21 Argymhelliad 20: dylai'r Ganolfan ystyried cydweithredu pellach â'r cyfryngau yng Nghymru, yn enwedig defnyddio'r cyfryngau Saesneg eu hiaith (er enghraifft radio masnachol) fel adnodd marchnata a chodi ymwybyddiaeth.
5.22 Argymhelliad 21: dylai'r Ganolfan hwyluso trafodaethau â sefydliadau/cyrff Cymraeg neu ryngwladol eraill i nodi enghreifftiau o bolisi / arferion da sydd wedi arwain at gymhathu siaradwyr newydd.
5.23 Argymhelliad 22: dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda'r Mentrau Iaith i drafod a diffinio'u rôl fel partner allweddol â'r Ganolfan wrth gymhathu dysgwyr i'w cymunedau Cymraeg lleol.
Sylwadau i gloi
Yng Ngham 1 ei bodolaeth, mae'r Ganolfan wedi llwyddo i ad-drefnu, ailstrwythuro ac arwain y ddarpariaeth Dysgu Cymraeg genedlaethol, gan wireddu gweledigaeth 'Codi Golygon'. Trwy'r adroddiad hwn ar ei hyd, rydym wedi amlygu sut rydym yn cynnig ei bod bellach yn adeiladu ar y llwyddiant a'r weledigaeth yma wrth iddi symud i'r cyfnod nesaf. Edrychwn ymlaen yng Ngham 2 i weld y Ganolfan yn datblygu ei photensial i fod yn bwerdy ar gyfer caffael iaith ar draws y continwwm cyfan ac i fod yn ddylanwadwr strategol wrth gymhwyso'r rôl ymestynedig yma at wireddu polisïau a chynllunio iaith Llywodraeth Cymru.