Neidio i'r prif gynnwy

Comisiynwyd yr adolygiad hwn gennym gan Raglen Monitro a Modelu Materion Gwledig a'r Amgylchedd (ERAMMP).

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ebrill 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n darparu tystiolaeth allweddol o fanteision ac anfanteision posibl:

  • creu coetiroedd
  • ehangu coetiroedd, a
  • rheoli coetiroedd sydd wedi'u tanreoli

Mae'r adroddiad yn darparu sylfaen dystiolaeth annibynnol. Defnyddir hwn i lywio datblygiad Coedwig Genedlaethol i Gymru a Pholisi Coedwigaeth ehangach. Daeth â 41 o arbenigwyr uchel eu parch o 8 sefydliad ymchwil at ei gilydd. Mae'n archwilio 6 maes allweddol:

  • bioamrywiaeth
  • rheoli coetiroedd sydd wedi'u tanreoli
  • diogelu ein coetir yn y dyfodol
  • lliniaru newid yn yr hinsawdd
  • gwasanaethau ecosystem
  • economeg a chyfrifyddu cyfalaf naturiol

Daw Pecyn Tystiolaeth Coedwigoedd Cenedlaethol ERAMMP i ben gydag asesiad integredig. Mae hyn yn darparu synthesis o themâu a dibyniaethau trawsbynciol rhwng y meysydd ffocws. Mae hefyd yn dangos y manteision allweddol o greu coetiroedd.

Bydd ERAMMP yn cynhyrchu atodiad ar gyfer yr adolygiad hwn, a fydd yn cael ei gyhoeddi dros yr haf.

I ddarllen yr adroddiadau llawn ewch i wefan Rhaglen Monitro a Modelu Materion Gwledig a’r Amgylchedd.