Neidio i'r prif gynnwy

Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

Mae Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (‘Y Mesur’) yn amlinellu'r fframwaith cyfreithiol sy'n ymwneud yn benodol â darpariaethau teithio a chludiant teithwyr sy'n teithio o'r cartref i'r ysgol yng Nghymru, ac mae'n galluogi Gweinidogion Cymru i lunio rheoliadau ynghylch teithio gan ddysgwyr yng Nghymru.

Ar hyn o bryd mae hyn yn cynnwys llunio rheoliadau sy'n rhagnodi'r amgylchiadau a'r amodau lle y caiff plant o oedran ysgol gorfodol gludiant am ddim i fan dysgu. Mae hefyd yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru lunio rheoliadau ynghylch trefniadau teithio dysgwyr ôl-16 sy'n byw yng Nghymru ac sy'n mynychu cyrsiau yng Nghymru a thu hwnt lle caiff yr addysg neu'r hyfforddiant ei ariannu gan Weinidogion Cymru.

Mae'r Mesur hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth drwy reoliadau ynghylch trefniadau teithio plant oed meithrin. Ym mhob achos, byddai angen i'r rheoliadau gael eu gwneud gan ddefnyddio'r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol a byddent yn destun craffu gan y Senedd.

Mae'r Mesur yn amlinellu'r dyletswyddau sydd ar awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a phenaethiaid i ddarparu cludiant diogel i ddysgwyr, plant a phobl ifanc i gyrraedd eu man dysgu.  Rhaid i awdurdodau lleol wneud trefniadau cludo yn seiliedig ar feini prawf oedran, pellter, doniau a diogelwch ar gyfer dysgwyr o oedran ysgol statudol. Hefyd, mae gan awdurdodau lleol y pŵer i wneud trefniadau cludo ychwanegol, a elwir fel arall yn drefniadau cludo dewisol.

O dan y ddeddfwriaeth bresennol, rhaid i Weinidogion Cymru:

  • lunio Cod Ymddygiad Wrth Deithio i Gymru Gyfan. (Nid yw'r elfen hon o'r ddeddfwriaeth yn rhan o'r adolygiad hwn);
  • hybu mynediad i Addysg lle Siaredir Cymraeg; a
  • hybu mathau cynaliadwy o deithio.

Rhaid i awdurdodau lleol:

  • asesu anghenion teithio dysgwyr yn eu hardal;
  • darparu cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol i ddysgwyr o oedran ysgol gorfodol sy'n mynychu'r ysgol gynradd sy'n byw 2 filltir neu fwy o'u hysgol addas agosaf;
  • darparu cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol i ddysgwyr o oedran ysgol gorfodol sy'n mynychu'r ysgol uwchradd sy'n byw 3 milltir neu fwy o'u hysgol addas agosaf;
  • asesu a diwallu anghenion plant “sy'n derbyn gofal” yn eu hardal;
  • hybu mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg; a
  • hybu dulliau cynaliadwy o deithio.

O dan y darpariaethau presennol, nid oes rhaid i awdurdodau lleol ddarparu cludiant am ddim i ddysgwyr nad ydynt o oedran ysgol gorfodol. Mae hyn yn cynnwys dysgwyr dros 16 oed, a phlant o dan 5 oed. Fodd bynnag, mae sawl awdurdod yn defnyddio pwerau dewisol i ddarparu cludiant am ddim i'r grwpiau oedran hyn.

Cwmpas yr Adolygiad

Yn sgil gohebiaeth gan Aelodau Cynulliad a phryderon a godwyd gan aelodau o'r cyhoedd, Comisiynydd y Gymraeg a'r Comisiynydd Plant, cafodd yr Adolygiad o Deithio gan Ddysgwyr ei ehangu ym mis Awst 2020 i gynnwys:

  • dysgwyr yn y grŵp oedran statudol 5 i 16;
  • dysgwyr yn y grŵp oedran 4 a 5;
  • ystyried y trothwy pellter o 2 filltir i ddysgwyr cynradd a 3 milltir i ddysgwyr uwchradd;
  • cludiant i ddysgwyr ôl-16; a
  • cludiant i ddysgwyr sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion ffydd

Felly, prif nod yr adolygiad oedd ailedrych ar ddarpariaethau 2-10 o’r Mesur, sef:

  1. dyletswydd i asesu anghenion teithio dysgwyr;
  2. dyletswydd awdurdod lleol i wneud trefniadau cludo;
  3. dyletswydd awdurdod lleol i wneud trefniadau teithio eraill;
  4. terfynau dyletswyddau sy'n ymwneud â theithio gan ddysgwyr;
  5. pŵer awdurdodau lleol i wneud trefniadau teithio i ddysgwyr;
  6. trefniadau teithio i ddysgwyr mewn addysg neu hyfforddiant ôl-16;
  7. trefniadau teithio i fan lle y darperir addysg feithrin ac oddi yno;
  8. trefniadau teithio i ddysgwyr a'r rheini'n drefniadau nad ydynt i ffafrio mathau penodol o addysg neu hyfforddiant; a
  9. hybu mynediad i addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg.

Wrth adolygu'r uchod rydym wedi casglu tystiolaeth a barn gan randdeiliaid er mwyn ystyried y newidiadau posibl canlynol i'r Mesur:

  • lleihau'r trothwyon pellter ar gyfer teithio am ddim i'r ysgol, sef 3 milltir i ddisgyblion uwchradd a 2 filltir i ddisgyblion cynradd;
  • cyflwyno gofyniad statudol i ddarparu teithio am ddim i ddysgwyr ôl-16 a phlant o oed meithrin;
  • cyflwyno gofyniad statudol i ddarparu teithio am ddim i ddysgwyr sy'n mynychu eu hysgol cyfrwng Cymraeg a'u hysgol ffydd agosaf; a
  • diwygio'r canllawiau y darperir ar eu cyfer yn y Mesur.

Nid yw'r adolygiad hwn wedi dod i gasgliad ynghylch faint yn llai y dylai'r trothwyon pellter fod.

Wrth adolygu'r Mesur ac awgrymu newidiadau mae hefyd angen rhoi sylw dyledus i Ddeddf Cydraddoldeb 2010, y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Crynodeb

Mae anghenion cludiant dysgwyr yn gymhleth, ac mae hynny hefyd yn wir am y rhwydweithiau a'r adnoddau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau effeithiol ar gyfer cludiant o'r cartref i'r ysgol. Mae cryn dipyn o'r fframwaith ar gyfer hyn yn y Mesur, sydd dan sylw yn yr adolygiad hwn.

Mae llawer wedi newid ers i'r Mesur ddod i rym 13 blynedd yn ôl. Mae angen ystyried darnau mawr o ddeddfwriaeth megis y Ddeddf Cydraddoldeb (2010), Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (a rheoliadau dilynol), Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae'r maes polisi wedi symud ymlaen hefyd, gyda ffocws ar fwy o gyfranogi mewn addysg ôl-16 a fersiwn newydd o Strategaeth Drafnidiaeth Cymru sy'n ceisio integreiddio egwyddorion tegwch a chydraddoldeb er mwyn mynd i'r afael ag effeithiau amddifadedd.

Yn wreiddiol bwriadwyd i'r adolygiad anffurfiol hwn ystyried

  • dysgwyr yn y grŵp oedran statudol 5 i 16;
  • dysgwyr yn y grŵp oedran 4 a 5;
  • ystyried y trothwy pellter o 2 filltir i ddysgwyr cynradd a 3 milltir i ddysgwyr uwchradd;
  • cludiant i ddysgwyr ôl-16; a
  • cludiant i ddysgwyr sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion ffydd.

Yn sgil trafod ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, mae wedi dod yn amlwg bod materion eraill ynghlwm wrth ddarpariaethau presennol y Mesur. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • bod angen i'r ddogfennaeth ganllaw ac ategol gael ei diweddaru er mwyn sicrhau mwy o gysondeb;
  • mae angen ailedrych ar y Cod Ymddygiad Wrth Deithio; a
  • mae angen mwy o eglurder ynghylch cyfrifoldeb rhieni, darpariaeth ar draws ffiniau a phreswyliad deuol.

Mae'r adolygiad hefyd wedi nodi bod materion ehangach i'w hystyried sy'n mynd y tu hwnt i gwmpas y ddeddfwriaeth megis:

  • ar hyn o bryd ni chaiff anghenion disgyblion Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) hŷn eu diwallu gan y mesur presennol, oherwydd mae disgyblion ADY yn aml yn mynychu addysg bellach y tu hwnt i 19 oed;
  • mae Colegau Addysg Bellach y tu hwnt i awdurdodaeth Awdurdodau Lleol, felly weithiau ceir anghysondeb rhwng y ddarpariaeth chweched dosbarth mewn ysgolion a'r sefydliadau hyn; ac
  • ar hyn o bryd nid yw'r holl rwydweithiau, darpariaeth na seilwaith ysgol mewn sefyllfa i ymdopi â chynnydd mewn darpariaeth orfodol.

Argymhelliad

Nid oes amser o fewn y weinyddiaeth bresennol i ddechrau proses ffurfiol i newid y Mesur cyn i'r cyfnod cyn yr etholiad ddechrau. Felly byddai angen ystyried yr opsiynau ar gyfer y camau nesaf yn Nhymor nesaf y Senedd.  O ystyried ymrwymiad y Gweinidogion i adolygu teithio gan ddysgwyr, nid ystyrir bod yr opsiwn o 'wneud dim' yn briodol.  Byddai’r ddau opsiwn isod yn galw am gynnwys ymgynghoriad cyhoeddus, dadansoddiad cost a budd trylwyr ac ystyried goblygiadau cyllidebol (roedd yr adolygiad hwn yn cynnwys amcangyfrifon lefel uchel o gostau, ond ni ddylid dibynnu ar y rhain heb ddadansoddi a phrofi mwy manwl).

Mae cydweithwyr addysg wedi ein cynghori mai cludiant o'r cartref i'r ysgol yw'r gost sy'n tyfu gyflymaf yn y gyllideb addysg a bydd angen i Weinidogion fodloni eu hunain y gellir darparu ar gyfer costau sy'n ymwneud â newidiadau arfaethedig i'r Mesur.

  • opsiwn 1. Datblygu newidiadau i'r Mesur yn y Rhaglen Ddeddfwriaethol nesaf fel y'i hamlinellir yng nghwmpas gwreiddiol yr adolygiad.
  • opsiwn 2. Datblygu rhaglen ehangach o waith sy'n cynnwys ystyried diwygiad llwyr o'r Mesur ynghyd â gwaith i;
    • gwella darpariaeth gweithredwyr a'r amgylchedd lle gellir darparu mwy o dan y Mesur; ac
    • ystyried gwell integreiddio â pholisïau cysylltiedig, megis anghenion disgyblion ADY a darpariaeth i sefydliadau Addysg Bellach.

Argymhellir opsiwn 2: gan swyddogion. Gallai rhaglen waith gyfyngedig fel y'i hamlinellir yn opsiwn 1, beri'r risg o ddatrys rhai materion yn unig, gan adael meysydd eraill yn agored i feirniadaeth bellach a'r angen i wneud mwy o waith yn y dyfodol i fynd i'r afael â hyn.

Hwyrach y bydd Gweinidogion am ystyried sut y gallai'r gwaith hwn gael ei becynnu a'i gydgysylltu â gwaith arall a ddatblygir ym maes polisi Trafnidiaeth Gyhoeddus. Gwneir darnau cysylltiedig o waith ar gonsesiynau a chymorthdaliadau ar gyfer tocynnau teithio a strwythurau tocynnau teithio safonol neu gost isel lle gallai dull gweithredu integredig fod o fudd.

Bydd goblygiadau cost sylweddol i Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru yn sgil newidiadau i'r Mesur. Nid ariennir y rhain ar hyn o bryd.

Sut bynnag y datblygir newidiadau sy'n deillio o'r Adolygiad o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr, nid oes unrhyw amheuaeth bod angen i Deithio gan Ddysgwyr, am nifer o resymau, fod yn destun proses newid ffurfiol. Byddai peidio â bwrw ati yn peri'r risg o fwy o anghydraddoldeb, darpariaeth anghyson a chodau a chanllawiau pellach sydd wedi dyddio.

Gyda'r naill opsiwn a'r llall mae angen datblygu sail dystiolaeth er mwyn nodi:

  • niferoedd/demograffeg disgyblion
  • lleoliad dysgwyr a darpariaeth bresennol gwasanaethau
  • dalgylchoedd
  • darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg
  • nodi'r mannau lle darperir addysg ôl-16 arbenigol (byddai hyn yn cynnwys ysgolion arbenigol sy'n cynnig addysg ôl-16, unedau arbenigol mewn ysgolion a gynhelir sy'n darparu addysg ôl-16 a cholegau arbenigol ôl-16),
  • argaeledd cludiant amgen
  • argaeledd trafnidiaeth gyhoeddus
  • hyfforddiant teithio
  • effeithiau ariannol unrhyw gynigion
  • rhwystrau ymarferol sy'n gysylltiedig ag unrhyw gynigion

Crynodeb o'r materion a godwyd

Mae swyddogion wedi ystyried y materion a godwyd, a geir yn bennaf mewn gohebiaeth â Llywodraeth Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Gwelir themâu sy'n codi dro ar ôl tro, sef:

  • roedd bron 60% o'r ohebiaeth yn ymwneud â materion ynghylch y pellter o 3 a 2 filltir, a nodwyd pryderon am les plant, (diogelwch a phroblemau cyhyrysgerbydol yn arbennig ar gyfer plant ysgol uwchradd);
  • diffyg cludiant ysgol dynodedig ar gyfer dysgwyr Ôl-16 (mae hyn yn amrywio ledled Cymru, fe'i darperir mewn sawl awdurdod lleol);
  • roedd bron 1 o bob 5 yn ymwneud â goblygiadau Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus 2000 (PSVAR) ond mae'n bwysig nodi mai'r mater sylfaenol yma oedd effaith economaidd-gymdeithasol dysgwyr yn gorfod talu am eu cludiant a oedd unwaith eto yn gysylltiedig â'r polisi pellter a geir yn y Mesur presennol;
  • roedd bron 10% yn ymwneud â'r meini prawf cymhwysedd, yn bennaf yn nhermau plant yn trosglwyddo i ysgol arall; ac
  • roedd y 10% a oedd yn weddill yn ymwneud â cheisio eglurder o ran cyllid, ac yn mynegi pryderon am ymddygiad gyrwyr a'r pellter i'r man agosaf i ddal y bws.

Mae'r adborth gan Awdurdodau Lleol yn dangos bod anghysondeb o ran darpariaeth sawl agwedd ar deithio dewisol ledled Cymru, gan gynnwys o ran:

  • y trothwyon milltiroedd a ddefnyddir: mae sawl awdurdod eisoes wedi lleihau trothwyon;
  • y graddau y darperir teithio dewisol i unigolion sy'n byw o fewn trothwy milltiroedd: ymddengys fod rhai awdurdodau yn fwy hael nag eraill o ran eu prosesau apelio a'r meini prawf ar gyfer darparu teithio dewisol;
  • y graddau y darperir teithio i blant oed meithrin: mae rhai awdurdodau lleol yn darparu hyn ar sail ddewisol ond nid yw llawer yn gwneud hynny; ac
  • y graddau y darperir teithio ôl-16: mae rhai yn codi am hyn, ond nid yw pawb. Mae rhai yn cynnwys lleoliadau Addysg Bellach (colegau) mewn darpariaeth teithio ôl-16, ond nid yw pawb.

Mae'r pryderon uchod a godwyd, oedran y ddeddfwriaeth, agweddau newidiol y cyhoedd a'r newid mewn ymddygiad wrth deithio sy'n debygol iawn yn sgil COVID-19 yn cyfiawnhau adolygiad cynhwysfawr o'r Mesur.

Hefyd, gofynnodd y Comisiynydd Plant i'r adolygiad ystyried teithio i ysgolion ffydd a rhoi sylw penodol i ddisgyblion ADY. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi gofyn am i'r adolygiad ystyried teithio i ysgolion cyfrwng Cymraeg ar gyfer pob oed yn y Mesur.

Cododd gohebiaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg faterion ynghylch trefniadau cludo dysgwyr sydd y tu hwnt i ddyletswyddau statudol awdurdodau lleol ar gyfer dysgwyr sy'n mynychu addysg cyfrwng Cymraeg. 

Cododd gohebiaeth flaenorol ac Adroddiad Blynyddol 2018-19 y Comisiynydd Plant faterion ynghylch trefniadau cludo dysgwyr sydd y tu hwnt i ddyletswyddau statudol awdurdodau lleol ar gyfer dysgwyr ag anghenion ychwanegol, yn arbennig dysgwyr ôl-16. Galwodd yr adroddiad am i Lywodraeth Cymru adolygu'r Mesur.

Cydnabu'r Gweinidogion fod y pryderon a godwyd gan y ddau Gomisiynydd yn rhesymol ac i ddechrau gofynnwyd i swyddogion gynnal adolygiad wedi'i dargedu o ddarpariaeth ddewisol y Mesur, yn arbennig darpariaeth ôl-16 er mwyn sicrhau mynediad cyfartal i bob dysgwr hyd at 19 oed.

Effeithiodd pandemig y coronafeirws ar hynt yr adolygiad, ond gwnaeth hefyd gynnig cyfle i fyfyrio ymhellach ar y materion a godwyd gan Gomisiynwyr, Aelodau Cynulliad ac aelodau o'r cyhoedd, yn ogystal â darparu amser i gasglu mwy o dystiolaeth er mwyn ystyried a oedd cwmpas cychwynnol yr adolygiad yn ddigonol.

Cafodd y materion a godwyd, a hynny yn bennaf mewn gohebiaeth â Llywodraeth Cymru, eu hadolygu a nodwyd bod materion a godwyd am y Mesur y tu hwnt i gwmpas cychwynnol darpariaeth ddewisol. Codwyd rhai materion dro ar ôl tro.

Roedd Comisiynydd y Gymraeg a'r Comisiynydd Plant yn cefnogi'r adolygiad ôl-16 ond gofynnwyd hefyd am i'r Mesur gael ei adolygu yn ei gyfanrwydd.

Ystadegau ar gludiant i'r ysgol

Casglwyd y data canlynol yn dilyn ymarfer mapio a gynhaliwyd gyda phob un o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2020:

  • caiff tua 108,445 o ddisgyblion eu cludo i'r ysgol bob dydd yng Nghymru
  • o blith y rhain mae tua 70,203 (64.73%) o ddysgwyr yn gymwys i gael cludiant ysgol yn unol â’r Mesur a theithio ar gludiant dynodedig o'r cartref i'r ysgol
  • mae tua 10,278 (9.48%) o ddysgwyr nad ydynt yn gymwys i gael cludiant ysgol yn teithio ar gludiant dynodedig o'r cartref i'r ysgol bob dydd
  • o'r rhai sy'n gymwys yn statudol mae tua 6,022 yn teithio ar wasanaethau bws lleol: 5.55% o'r holl ddysgwyr ac 8.58% o'r rhai sy'n gymwys i gael cludiant dynodedig o'r cartref i'r ysgol
  • mae tua 9,288 yn y categori ADY (AAA gynt): 8.56% o'r holl ddysgwyr.  Fodd bynnag, mae darparu cludiant ysgol i ddisgyblion ADY yn cyfrif am gyfran fwy o wariant awdurdodau lleol
  • ceir tua 3,500 o gerbydau dynodedig sy'n darparu cludiant o'r cartref i'r ysgol ledled Cymru; ac
  • fel rheol mae gyrwyr cerbydau dynodedig sy'n darparu cludiant o'r cartref i'r ysgol o oed ymddeol am fod y gwaith yn rhan-amser - oni fydd ar y cyd â gwaith arall a wneir ar adegau tawel, ac ar adegau arferol (cyn COVID-19) megis cytundebau cludo plant ysgol i'r pwll nofio neu fathau eraill o waith hurio preifat.

Y costau ariannol presennol i Lywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i awdurdodau lleol ar gyfer darpariaeth cyn-16 mewn ysgolion yn bennaf drwy'r Setliad Refeniw Llywodraeth Leol, a hynny ar ffurf y Grant Cynnal Refeniw. Mae oddeutu £106m y flwyddyn ar gyfer teithio gan ddysgwyr. 

Nid yw'r Grant Cynnal Refeniw wedi'i glustnodi; mae'r cyllid a roddir i bob awdurdod ar gael iddo ei wario fel y gwêl yn briodol ar yr amrywiaeth o wasanaethau y mae'n gyfrifol amdanynt, gan gynnwys cludiant ysgol ac ADY. Mae hyn yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru mai awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i nodi anghenion ac amgylchiadau lleol, ac ariannu ysgolion yn briodol. Mae awdurdodau lleol yn atebol i'w hetholwyr am y penderfyniadau y maent yn eu gwneud.

Mae awdurdodau lleol yn adrodd ar yr elfennau a gaiff eu gwario ym maes addysg yn eu ffurflenni adran 52. Mae cyllidebau awdurdodau lleol ar gyfer cludiant ysgol o dan bwysau parhaus i ddarparu gwasanaethau ysgol dan gontract sy'n fwy na'u cyllideb er mwyn cyflawni eu dyletswyddau statudol.

Nid ydym wedi llwyddo i amcangyfrif costau ar gyfer teithio am ddim ôl-16 oherwydd diffyg data ar deithio i Golegau Addysg Bellach. Hwyrach y bydd hyn yn elfen bwysig o ymrwymiadau ariannol yn y dyfodol, ond nid yw'n hysbys. Mae'r ychydig bach o ddata a gawsom yn awgrymu y gallai fod yn llawer drutach fesul disgybl na theithio chweched dosbarth presennol (gan fod disgyblion chweched dosbarth yn rhannu bysiau â disgyblion ysgol uwchradd)

Mae cydweithwyr addysg wedi nodi mai cludiant o'r cartref i'r ysgol yw'r gost sy'n tyfu gyflymaf yn eu cyllideb flynyddol. Nodir mai cludiant ysgol yw'r pwysau cyllidebol mwyaf o ran gwariant ysgolion, ac mae wedi cynyddu 7% dros y 5 mlynedd diwethaf.

Codir mater cludiant ysgol yn yr Adolygiad o wariant ysgolion yng Nghymru. Noda fod cludiant o'r cartref i'r ysgol yn cyfrif am chwarter gwariant uniongyrchol awdurdodau lleol ar addysg, sef tua £250 fesul dysgwr. Mae hyn yn amrywio fesul awdurdod, gyda rhai awdurdodau gwledig yn nodi eu bod yn gwario dros £400 fesul dysgwr ar gyfartaledd. Ceir gwahaniaethau hefyd oherwydd penderfyniadau strategol lleol megis nifer yr ysgolion, yn ogystal â chyfyngiadau cyflenwi.

Dywed yr adroddiad “mae’n bwysig adolygu gwariant ar gludiant i’r ysgol a’r modd y gellir rheoli’r costau”.

Ar ddiwedd yr adroddiad ceir nifer o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru sy'n cwmpasu nifer o feysydd. Mae argymhelliad 9 yn cyfeirio'n benodol at gludiant ysgol.

Dylai Llywodraeth Cymru ddysgu gwersi trwy gymharu gwariant, modelau gwariant a chanlyniadau ar draws awdurdodau lleol, yn enwedig o ran anghenion dysgu ychwanegol a chludiant i’r ysgol. Dim ond trwy gael data manylach a mwy cyson y bydd hyn yn bosibl, ond mae yna nifer o gyfleoedd i’w cael.  Mae awdurdodau lleol yn amrywio’n sylweddol o ran faint o ddarpariaeth a gwariant anghenion dysgu ychwanegol a ddirprwyir i ysgolion a faint a gedwir yn ganolog. Dylai Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol geisio dysgu mwy o wersi ynghylch yr effaith ar ddeilliannau yn sgil y dulliau gwahanol hyn.

Ymhellach, gellid dysgu mwy o wersi ynghylch ffyrdd o reoli’r costau cynyddol sydd ynghlwm wrth gludiant i’r ysgol.  

Hefyd mae argymhellion ynghylch darparu disgwyliadau clir ynghylch costau’r dyfodol drwy’r system gyfan.

Canfyddiadau allweddol yr adolygiad

​​​​Themâu trawsbynciol

Mae a wnelo neges gyson gan yr awdurdodau lleol â gwendidau rhwydweithiau a seilwaith presennol, sy'n ei gwneud hi'n anodd ehangu'r ddarpariaeth. Yn fwyaf cyffredin mae'r ffaith ei bod hi'n anodd sicrhau bod digon o le i fysiau ar safle ysgolion a'r tebygolrwydd na fydd digon o gerbydau addas na gyrwyr ar gyfer y cynnydd gofynnol mewn disgyblion sy'n gymwys i gael cludiant ysgol am ddim. Nododd llawer o awdurdodau lleol fod llawer o weithredwyr wedi cyrraedd y pen o ran trwyddedau a chapasiti depos, ac mae rhai wedi mynd i'r wal yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Ni all y materion hyn gael eu datrys â chyllideb yn unig, ac ni ddylai newidiadau i ddarpariaethau statudol gael eu gwneud heb gyflwyno mesurau i liniaru'r risgiau hynny.

Mae rhai awdurdodau lleol, hyd yn oed mewn ardaloedd cymharol ddifreintiedig, yn cynnig gwasanaeth rhagorol ar sail ddewisol. Wrth wneud newidiadau i'r ddeddfwriaeth ni ddylai awdurdodau sydd wedi gwneud darpariaeth ychwanegol yn eu cyllidebau llai gael eu cosbi. Mae hyn yn golygu ei bod hi'n debygol y bydd awdurdodau lleol sydd â pholisi lleol hael yn barod ac sy'n ariannu hyn o'u cyllidebau eu hunain yn gofyn i Lywodraeth Cymru am gyllid ar gyfer y costau ‘cudd’ presennol hyn os gwneir newidiadau i'r Mesur.

O ganlyniad i'r heriau ymarferol sy'n gysylltiedig â'r newidiadau a ystyrir, gwnaeth llawer o awdurdodau lleol argymell yn gryf y dylid cymryd un cam ar y tro os gwneir sawl newid i'r Mesur.

Mae'r anghysondeb ymhlith awdurdodau lleol yn thema gyffredin mewn perthynas â sawl agwedd ar ddarpariaeth teithio gan ddysgwyr, yn cynnwys:

  • y trothwyon milltiroedd a ddefnyddir: mae sawl awdurdod eisoes wedi lleihau trothwyon,
  • y graddau y darperir teithio dewisol i unigolion sy'n byw o fewn trothwy milltiroedd: ymddengys fod rhai awdurdodau yn fwy hael nag eraill o ran eu prosesau apelio a'r meini prawf ar gyfer darparu teithio dewisol
  • y graddau y darperir teithio i blant oed meithrin: mae rhai ALlau yn darparu hyn ar sail ddewisol ond nid yw llawer yn gwneud hynny
  • y graddau y darperir teithio ôl-16: mae rhai yn codi am hyn, ond nid yw pawb. Mae rhai yn cynnwys lleoliadau Addysg Bellach (colegau) mewn darpariaeth teithio ôl-16, ond nid yw pawb
  • ymhlith y buddiannau posibl y gellid eu gwireddu drwy gynyddu darpariaeth teithio fel y'i hamlinellir yn y newidiadau uchod mae effeithiau cadarnhaol ar dlodi a llesiant plant, arbedion carbon posibl a llai o dagfeydd, cefnogi Cymraeg 2050, mwy o gydraddoldeb, dileu'r rhwystrau i gael addysg i ddysgwyr ôl-16 a chreu swyddi yn y diwydiant cludiant ysgol a diwydiannau cefnogol (e.e. cynnal a chadw). Bydd angen gwneud rhagor o waith i fesur y buddiannau posibl hyn yn llawn.

Newidiadau i'r trothwy Milltiroedd

Yn seiliedig ar y dystiolaeth a gafwyd, amcangyfrifwn y bydd lleihau'r trothwy milltiroedd ledled Cymru o 3 milltir i 2 filltir ar gyfer teithio uwchradd a chweched dosbarth ôl-16 ac o 2 filltir i 1.5 milltir ar gyfer teithio cynradd ac oed meithrin yn arwain at wariant ychwanegol sydd oddeutu 20-40 miliwn y flwyddyn (gan dybio bod newidiadau i'r Mesur eisoes wedi cael eu gwneud sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddarparu teithio am ddim ar lefel ôl-16 ac oed meithrin, ond nid yw'r ffigur hwn yn cynnwys cost gwneud y newidiadau ychwanegol hyn [oherwydd dim ond cynrychioli cost lleihau trothwyon milltiroedd yw'r bwriad].

Fodd bynnag, oherwydd ansawdd amrywiol y data ac ymatebion anghyflawn ALlau, mae cryn ansicrwydd o ran y ffigur hwn. Hefyd nid yw'r ffigur hwn yn cwmpasu newidiadau i drothwyon milltiroedd sy'n gysylltiedig â darpariaeth bosibl ar gyfer cydweithwyr addysg bellach, am y rhesymau a amlinellir isod prin oedd y data oedd ar gael yn y maes hwn, ond mae'r wybodaeth gyfyngedig sydd ar gael yn awgrymu y gallai'r gost hon fod yn sylweddol.

Fel yr amlinellir uchod mae rhwystrau ymarferol yn ogystal â rhwystrau cost sylweddol sy'n gysylltiedig â lleihau'r trothwyon milltiroedd, gan gynnwys argaeledd cerbydau a gyrwyr, ac argaeledd llefydd parcio mewn ysgolion. Os bydd Gweinidogion yn penderfynu lleihau trothwyon bydd angen gwneud mwy o waith gyda'r awdurdodau lleol er mwyn gwerthuso'r materion hyn yn llawn a datblygu cynllun i fynd i'r afael â nhw.

Dywed pob awdurdod lleol, gan gynnwys y rhai sydd eisoes yn gweithredu trothwyon milltiroedd is, y byddai unrhyw leihad pellach i drothwyon milltiroedd islaw 2 filltir ac 1.5 milltir yn anymarferol, o ystyried graddau'r heriau ymarferol pan fo trothwyon is.

Diwygio canllawiau

Ymddengys fod anghysondeb wrth ddarparu teithio dewisol o fewn trothwyon milltiroedd presennol. Ymddengys fod rhai awdurdodau lleol yn fwy hael nag eraill o ran eu proses apelio, ac nid oes gan rai awdurdodau broses apelio o gwbl. Hefyd ymddengys fod peth anghysondeb o ran meini prawf cymhwysedd teithio dewisol (e.e. mae rhai yn cyfeirio at gynhwysiant cymdeithasol).

Mae awdurdodau lleol hefyd yn awgrymu nifer o welliannau posibl eraill i ganllawiau, ac ymhlith y themâu cyffredin mae:

Atgyfnerthu'r “Cod Ymddygiad Wrth Deithio” er mwyn cynorthwyo awdurdodau lleol i wneud penderfyniadau ynghylch rhoi'r gorau i gludiant, ac yn arbennig pan fo digwyddiadau difrifol ar gludiant ysgol.

  • cynyddu’r pwyslais ar gyfrifoldeb rhieni
  • eglurder ynghylch preswyliad deuol
  • eglurder pellach ynghylch yr asesiad o lwybrau cerdded
  • y posibilrwydd o gynnal asesiad blynyddol o ‘rwydwaith llwybrau cerdded’ yn lle asesiadau unigol
  • eglurder ynghylch darpariaeth ar draws ffiniau

Darparu teithio i ddysgwyr oed meithrin

Mae dysgwyr ifanc iawn yn peri amrywiaeth benodol o heriau

  • mae darpariaeth hanner diwrnod yn newid logisteg ac yn lleihau arbedion maint
  • nododd rhai awdurdodau fod y defnydd o'r gwasanaeth hwn yn isel. Hwyrach na fydd digon o le ar gyfer cerbydau ychwanegol ar safleoedd ysgol.
  • mae materion diogelu ac mae angen hebryngwr.
  • ni all disgyblion iau wisgo eu gwregys diogelwch eu hunain, mae angen clustog hybu arnynt, ni allant fynd i mewn i gerbydau heb gymorth, ac nid yw rhai yn gallu defnyddio'r toiled eto.

Nid ydym wedi llwyddo i nodi'r galw am gludiant ysgol am ddim ar gyfer plant oed meithrin yn effeithiol eto ac mae angen gwneud rhagor o waith cyn llunio argymhelliad polisi.

Darparu teithio ôl-16

Mae eithaf tipyn o ALlau yn cynnig teithio am ddim i'r chweched dosbarth, ond nid ar gyfer Colegau Addysg Bellach am nad ydynt yn cael eu rheoli gan lywodraeth leol. Fel y nodir uchod ni cheir dull gweithredu cyson, ond mae hyn i'w ddisgwyl am fod darpariaeth addysg ôl-16 yn amrywio'n fawr iawn mewn ardaloedd ALl. Er enghraifft, nid oes unrhyw ddarpariaeth chweched dosbarth ym Mlaenau Gwent.

Ni chredwn fod darpariaeth teithio AB yn dod o dan gwmpas y Mesur a hwyrach y bydd angen ystyried ffyrdd eraill o wella cysondeb gyda chyngor cyfreithiol a mewnbwn gan gydweithwyr adrannau AB ac Addysg.

O ran tegwch, hoffem ystyried demograffeg a statws economaidd-gymdeithasol dysgwyr sy'n mynychu lleoliad AB yn hytrach na chweched dosbarth. Er enghraifft, mae ystadegau'r DU yn dynodi bod cyfran uwch o fyfyrwyr du yn mynychu Addysg Bellach. (UK statistics indicate a higher proportion of black students attend Further Education). Credwn fod hyn yn galw am ystyriaeth bellach os bydd diffyg cludiant ysgol am ddim i leoliadau AB yn effeithio ar fyfyrwyr ADY, grwpiau sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig neu gartrefi incwm isel.

Hefyd ceir materion lle mae awdurdodau yn codi tâl am seddi consesiynol neu ôl-16 ar fysiau a'r incwm y bydd yr awdurdodau yn ei golli os bydd hyn am ddim.

Dim ond 15 o golegau AB a geir yng Nghymru. O ystyried maint a lledaeniad daearyddol y gwasanaeth cludo gofynnol, ynghyd â'r gwahaniaethau o ran amseroedd dechrau a gorffen cyrsiau, mae nifer y gweithredwyr a allai ddarparu'r gwasanaeth hwn yn debygol o fod yn gyfyngedig. Felly, mae'n debygol iawn y byddai angen i ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus gamu i'r adwy.

Mae wedi dod yn amlwg bod materion penodol yn wynebu pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) na ddarperir ar eu cyfer yng nghwmpas y Mesur presennol.  Mae llawer o ddisgyblion ysgolion arbennig yn trosglwyddo i'r coleg yn 19 oed a byddant yn mynychu rhaglenni am ryw ddwy flynedd, felly gallant fod yn hŷn pan fyddant yn mynychu coleg AB.Mae'r ffaith na chaiff y bobl ifanc hyn eu cefnogi i deithio i'r coleg yn debygol o barhau i greu problemau sylweddol i rieni a phobl ifanc a gall olygu na all rai ohonynt fynychu eu coleg lleol. Mae hyn hefyd yn arwain at wneud mwy o geisiadau i sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol (colegau arbenigol) oherwydd fel rheol nid oes angen i rieni ystyried cludiant oherwydd yr opsiwn preswyl a geir yn y lleoliadau hyn.

Os bydd Gweinidogion yn cytuno, gall roi ystyriaeth i anghenion penodol disgyblion ADY hŷn gael ei gynnwys yn y gwaith ehangach ar ddarpariaeth Teithio gan Ddysgwyr.

Darparu teithio i ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion ffydd

Mae ALlau ar y cyfan yn darparu cludiant am ddim i ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion ffydd drwy eu polisi lleol eu hunain pan fydd dysgwyr yn bodloni meini prawf oedran, milltiroedd a dalgylch.

Mae nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion ffydd yn amrywio'n sylweddol ledled Cymru o argaeledd trefol i wledig sy'n effeithio ar logisteg a chostau. Wynebir mwy o heriau mewn ardaloedd gwledig lle ceir argaeledd isel o ran pellter, cost ac amser teithio, e.e. dywed Gwynedd mai dim ond un ysgol ffydd a geir i'r gogledd o sir fawr. Mae amcangyfrifon cost yn amrywio'n sylweddol ledled Cymru

Cydnabyddiaethau

Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at yr adolygiad hwn; yn arbennig cydweithwyr mewn awdurdodau lleol, a'r Comisiynwyr sydd wedi rhoi o'u hamser i ddarparu tystiolaeth a rhannu eu profiadau.