Neidio i'r prif gynnwy

Mae'n ofynnol i’r holl wartheg gael eu nodi a'u cofrestru gyda Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS) o fewn 27 diwrnod i'r enedigaeth neu pan fydd yr anifail yn dod i Brydain Fawr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fodd bynnag, nid yw hyn yn berthnasol os bydd yr anifail yn mynd i'r lladd-dy o fewn 15 diwrnod i’r adeg y cyrhaeddodd y wlad.

Symudiadau gwartheg

Rhaid rhoi gwybod am bob symudiad o fewn tri diwrnod trwy Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS).

BCMS sy'n cynnal y System Olrhain Gwartheg (CTS) ar ran:

  • Llywodraeth Cymru
  • Llywodraeth yr Alban
  • Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA).

Gallwch ddefnyddio CTS Ar-lein i roi gwybod inni pan fydd gwartheg wedi'u geni a phan fydd gwartheg yn cael eu symud i'ch daliad ac oddi arno. Mae angen ichi wneud hynny er mwyn sicrhau bod y cofnod sydd gennym am eich gwartheg yn gywir.

Llinellau cymorth BCMS ar gyfer deiliaid gwartheg yng Nghymru: 0345 050 3456.

Pasbortau gwartheg

Ers mis Awst 2011, mae eich pasbort gwartheg wedi bod yn basbort un dudalen (CPP52), ac nid yw'n cynnwys cardiau symud talu ymlaen llaw.

Mae'r pasbort wedi ei ddylunio i gynnwys nodwedd diogelwch sy'n sensitif i wres yn y gornel isaf ar y dde (siâp diemwnt). Gwneir hyn er mwyn sicrhau y bydd y lliw yn pylu pan fydd gwres yn cael ei roi ar y siâp. I brofi hyn, pwyswch y siâp rhwng eich bawd a'ch bys; mae hyn yn fodd o sicrhau bod y pasbort yn ddogfen wreiddiol.

Mae'r pasbort hefyd wedi cael ei ddylunio i gynnwys mannau i chi ysgrifennu manylion am brofion TB, sticeri sicrwydd fferm neu rifau lotiau arwerthiannau/ marchnadoedd.

Yn ogystal, mae rhan lle gallwch wneud tyllau yn y pasbort, ac mae hyn yn ei gwneud yn bosibl i chi ei storio mewn ffolder/ffeil. Gallwch hefyd blygu'r pasbort yn dair rhan fel y gellir ei ffeilio ynghyd ag unrhyw basbort maint llyfr siec.

Terfynau amser pasbort gwartheg

Os na fyddwch yn gwneud cais am basbort mewn pryd i Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain, ni fydd yn cyhoeddi pasbort. Ni all yr anifail hwnnw adael ei ddaliad. Yr unig eithriad i hyn yw os bydd y gwartheg yn cael eu gwaredu. Fodd bynnag, nid yw hyn yn cynnwys mynd i mewn i'r gadwyn fwyd.

Os nad ydych chi’n ymgeisio mewn pryd, bydd Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain yn gwrthod rhoi pasbort. Ni all anifail heb basbort adael y daliad, ac eithrio i fynd i'w waredu (ni all fynd i mewn i'r gadwyn fwyd).

Os ydych chi'n poeni nad ydych wedi gadael digon o amser i wneud cais am basbort, gallwch gysylltu â Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain am gyngor.

Manylion ymgeisio

I wneud cais am basbort gwartheg mae angen y canlynol arnoch:

  • dyddiad geni
  • brîd
  • rhif tag clust (nod y fuches, digid gwirio a rhif yr anifail)
  • hyw
  • rhif tag clust y fam eni
  • rhif tag clust genetig y fam (os yw'n wahanol i rif y fam eni)
  • rhif tag clust y tad (os yw'n hysbys)

Gallwch ymgeisio naill ai drwy lenwi ffurflen ar-lein y System Olrhain Gwartheg sydd o wefan BCMS neu drwy ffonio llinell hunanwasanaeth y System Olrhain Gwartheg:

  • Cymraeg 0345 011 1213
  • Saesneg 0345 011 1212

Mae'r ddwy linell ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos

Problemau gyda'r post

Pan fyddwch chi’n gwneud cais am basbort, dylech ei gael o fewn 14 diwrnod. Os na fydd wedi cyrraedd erbyn hynny, bydd y pasbort yn cael ei drin fel un a gollwyd a dylech gysylltu â Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain i roi gwybod am hyn.

Os yw Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain wedi cyhoeddi'r pasbort ac nad ydych wedi ei gael, bydd yn cynnal gwiriadau a gall anfon pasbort newydd atoch yn rhad ac am ddim os ydych rhoi gwybod i'r Gwasanaeth o fewn 6 wythnos.

Os na fyddwch yn rhoi gwybod i’r Gwasanaeth o fewn 6 wythnos, o'r dyddiad y cynhyrchwyd y pasbort, bydd yn rhaid i chi dalu ffi o £20 fesul anifail pan fyddwch yn gwneud cais am y pasbort newydd.

Dylech hefyd ddweud wrth y Gwasanaeth os ydych chi wedi anfon pasbort am unrhyw reswm ac nad ydych wedi ei gael yn ôl o fewn 14 diwrnod.

Cyfrifoldeb y ceidwad yw cadw pob dogfen adnabod yn ddiogel - mae hyn yn cynnwys pasbortau. Rhaid trosglwyddo dogfennau adnabod i'r ceidwad newydd pan werthir gwartheg i berchnogion newydd.