Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth ynglŷn â myfyrwyr sy’n hyfforddi i fod yn athrawon ar gyrsiau addysg gychwynnol i athrawon (AGA) sy’n arwain at statws athro cymwysedig ar gyfer Medi 2020 i Awst 2021.

Mae data ar gyfer 2020/21 wedi'i ddiwygio oherwydd gwallau a nodwyd yn y data sy'n ymwneud â dyraniadau, a nifer y myfyrwyr sy'n dysgu i addysgu yn y Gymraeg. Mae ffigurau diwygiedig wedi'u cynnwys yn y datganiad 'Addysg gychwynnol i athrawon: Medi 2021 i Awst 2022' a thablau cysylltiedig StatsCymru. Sylwch nad yw'r ffigurau yn y datganiad 'Addysg gychwynnol i athrawon: Medi 2020 i Awst 2021' wedi'u diweddaru.

Ar gyfer 2020/21, Cyngor y Gweithlu Addysg bennodd y dyraniadau ar gyfer cyrsiau Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru. Mae hyn yn seiliedig ar a ydynt yn cael eu hyfforddi i fod yn athrawon cynradd neu athrawon uwchradd, ac a ydynt yn dilyn cyrsiau ôl-radd neu gyrsiau gradd.

Prif bwyntiau

Image
Siart yn dangos nifer y dyraniadau a'r ymgeiswyr dros amser ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd rhwng 2007/08 a 2020/21.
  • Roedd nifer yr athrawon ysgol uwchradd newydd o dan hyfforddiant yn is na’r ffigur dyrannu am y seithfed blwyddyn (24% yn is yn 2020/21). Roedd nifer yr athrawon ysgol gynradd newydd o dan hyfforddiant yn is na’r ffigur dyrannu am y tro cyntaf mewn chwe blwyddyn (27%(r) yn uwch yn 2020/21).
  • Dechreuodd 1,680 o fyfyrwyr ar gyrsiau AGA yn 2020/21; 920 ar gyrsiau ysgol gynradd a 760 ar gyrsiau ysgol uwchradd.
  • Bu cynnydd yn nifer y myfyrwyr AGA blwyddyn gyntaf yng Nghymru sy’n gallu addysgu yn y Gymraeg am yr ail flwyddyn yn olynol; 455 oedd y ffigur yn 2020/21. Mae hyn yn cyfrif am 27% o gyfanswm nifer y myfyrwyr AGA blwyddyn gyntaf yng Nghymru.
  • Gwyddoniaeth, Saesneg a Mathemateg yw’r pynciau mwyaf cyffredin i fyfyrwyr sy’n dechrau ar gyrsiau AGA ysgol uwchradd.
  • Roedd 86% o fyfyrwyr AGA newydd a oedd yn hyfforddi yng Nghymru yn byw yng Nghymru cyn dechrau ar eu gradd.

(r) Diwygiedig ar 22 Gorffennaf 2022.

Adroddiadau

Addysg Gychwynnol i Athrawon, Medi 2020 i Awst 2021 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.