Gwybodaeth am ddysgwyr sydd wedi cofrestru a'u gweithgareddau yn ôl oedran, rhyw, dull astudio, y math o raglen a lefel astudio ar gyfer Awst 2020 i Orffennaf 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol
Yn ystod y cyfnod hwn, parhaodd pandemig y coronafeirws (COVID-19) i amharu ar y ddarpariaeth addysg.
Prif bwyntiau
- Yn ystod 2020/21, roedd yna 142,735 o ddysgwyr mewn sefydliadau addysg bellach (SAB), darparwyr dysgu oedolion neu ddarparwyr dysgu seiliedig ar Waith.
- Roedd 108,520 dysgwr unigryw mewn SAB, gostyngiad o tua 3% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
- Roedd y gostyngiad hwn yn ymwneud yn llwyr â dysgwyr rhan-amser mewn SAB (i lawr 11%).
- Roedd nifer y dysgwyr llawn-amser mewn SAB wedi cynyddu 3%, a’r dysgwyr ar raglenni dysgu seiliedig ar waith mewn SAB wedi cynyddu 1%.
- Roedd 5,555 o ddysgwyr unigryw mewn dysgu oedolion.
- Roedd cyfanswm nifer y dysgwyr ar raglenni dysgu seiliedig ar waith (gan gynnwys y rheini a oedd gyda darparwyr hyfforddiant eraill) wedi gostwng 1% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
- Dechreuwyd tua 7% yn llai o raglenni dysgu prentisiaethau.
Nodyn
Mae’r datganiad ystadegol cyntaf hwn yn crynhoi data ar nifer y dysgwyr mewn addysg a hyfforddiant ôl-16, heb gynnwys y rheini mewn sefydliadau addysg uwch neu ysgolion ond gan gynnwys sefydliadau addysg bellach, darparwyr eraill dysgu seiliedig ar waith a darpariaeth dysgu oedolion a gasglwyd drwy Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru Llywodraeth Cymru.
Adroddiadau
Addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol, Awst 2020 i Orffennaf 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 747 KB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Tueddiadau o ran Niferoedd Myfyrwyr Addysg Bellach ym mis Rhagfyr mewn sefydliadau addysg bellach a sefydliadau addysg uwch , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 25 KB
Nifer y dysgwyr yn ôl darparwr sydd wedi'u haddysgu mewn sefydliadau addysg bellach , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 32 KB
Llwyth y myfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau cyfwerth ag amser llawn ar gyfer dysgwyr addysg bellach ac addysg uwch , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 22 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.