Heddiw (ddydd Mercher, 16 Tachwedd), mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi cadarnhau'r cap ar gyfer rhenti cymdeithasol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ynghyd â phecyn cymorth i denantiaid.
Amlinellodd y Gweinidog gyfres o ymrwymiadau yr oedd hi wedi'u sicrhau gyda landlordiaid cymdeithasol, gan gynnwys ‘na fydd unrhyw droi allan oherwydd caledi ariannol ar gyfer cyfnod y setliad rhent yn 2023-24’ lle mae tenantiaid yn trafod â'u landlordiaid.
Esboniodd y Gweinidog hefyd y penderfyniadau y tu ôl i osod y cap rhent cymdeithasol ar 6.5%.
Rwyf wedi bod yn glir na fydd unrhyw denant cymdeithasol yn profi unrhyw newid yn eu rhent tan fis Ebrill 2023. Fodd bynnag, mae angen i mi osod y rhenti ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf nawr i roi amser i'r sector gynllunio.
O fis Ebrill 2023, bydd y terfyn uchaf y gall rhenti cymdeithasol godi yn 6.5% - cynnydd sy'n llawer is na chyfradd chwyddiant. Dyma'r uchafswm y gall unrhyw landlord ei godi ar draws eu holl eiddo.
Nid yw’n ofynnol i unrhyw landlord godi’r uchafswm, ac rwy'n gwybod y bydd pob landlord yn ystyried fforddiadwyedd yn ofalus ac yn gosod rhenti yn ôl yr hyn sy’n briodol ar draws eu stoc dai.
O fewn y setliad cyffredinol, gall landlordiaid rewi, gostwng neu godi rhenti unigol yn seiliedig ar nifer o ffactorau lleol y mae fforddiadwyedd yn ystyriaeth allweddol iddynt. Mae'r gyfradd yn uchafswm, ac nid yw'n ofyniad nac yn darged.
Rydym yn gwybod y gall unrhyw gynnydd mewn rhent cymdeithasol effeithio ar y tenantiaid cymdeithasol hynny sy'n talu’r holl rent neu ran o'u rhent eu hunain. Mae angen gwarchod y tenantiaid hyn, yn enwedig, rhag cael eu rhoi mewn sefyllfa o galedi ariannol drwy geisio talu costau cadw to dros eu pennau.
Bydd ein cytundeb gyda'n landlordiaid cymdeithasol yn helpu i wneud hynny, gan ddiogelu a gwella'r ddarpariaeth o dai o ansawdd da a gwasanaethau cymorth hanfodol i denantiaid.
Yn olaf, mae ein cytundeb gyda landlordiaid cymdeithasol yn adeiladu ar drafodaethau sy'n bodoli eisoes â thenantiaid o ran penderfyniadau sy'n ymwneud â gosod rhent. Mae hynny’n cynnwys egluro sut mae incwm o rent yn cael ei fuddsoddi a'i wario.
Gan weithio mewn partneriaeth â thenantiaid, bydd Llywodraeth Cymru, cyllidwyr a phartneriaid eraill yn datblygu dull cyson o asesu fforddiadwyedd ar draws y sector tai cymdeithasol yng Nghymru.
Hoffwn ddiolch i'r holl sefydliadau a roddodd dystiolaeth i'm swyddogion, i'n helpu ni i lunio’r cytundeb hwn.
Yng Nghymru, mae oddeutu tri chwarter o denantiaid cymdeithasol yn cael eu holl rent neu ran o'u rhenti wedi’u talu gan fudd-daliadau. Felly, i lawer o denantiaid bydd unrhyw gynnydd mewn rhent yn dod o fudd-daliadau y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn eu talu.
Bydd ymgyrch ar y cyd, er mwyn annog tenantiaid i siarad â'u landlord os ydynt yn wynebu trafferthion ariannol a chael gafael ar y cymorth sydd ar gael, yn cael ei lansio ledled Cymru y flwyddyn nesaf.