Neidio i'r prif gynnwy

Mae prifysgolion yng Nghymru yn cael eu hysbysu gan staff a myfyrwyr os ydyn nhw'n profi'n bositif am COVID-19, mae'r ystadegau yma yn dangos y duedd gyfartalog ar gyfer 5 Medi 2021 i 3 Ebrill 2022.

Mae'r rhan fwyaf o sefydliadau addysg uwch (SAU) wedi gweld cynnydd mewn achosion ers Rhagfyr 2021. Dros yr wythnos diwethaf, mae'r cyfartaledd treigl 7 diwrnod wedi bod yn llai na 22 achos COVID-19 positif ym mhob SAU.

Image
Ar y cyfan, mae nifer yr achosion y rhoddwyd gwybod amdanynt i sefydliadau addysg uwch yn isel,ond mae'r rhan fwyaf o SAU wedi gweld cynnydd mewn achosion ers Rhagfyr 2021.

Dechreuwyd y casgliad ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22 ar 30 Awst 2021 gyda chyfartaledd treigl 7 diwrnod o 5 Medi 2021 i gofnodi manylion semester yr hydref ac yng ngoleuni’r ffaith bod myfyrwyr yn dychwelyd i’w lleoliadau astudio.

Cafwyd toriad mewn adrodd dros gyfnod y Nadolig (13 Rhagfyr 2021 i 9 Ionawr 2022). Ailddechreuodd y gyfres amser gyda chyfartaledd treigl o 7 diwrnod o 16 Ionawr 2022.

Mae data hanesyddol o’r cyfnod rhwng 27 Medi 2020 a 25 Gorffennaf 2021 ar gael yn y tablau atodol.

Dim ond yr achosion y rhoddwyd gwybod i’r sefydliadau addysg uwch amdanynt sydd wedi’u cynnwys yn y ffigurau, ac felly mae'n debygol bod y data yn cofnodi nifer is na’r ffigurau go iawn. Mae’r arferion cofnodi hefyd yn debygol o amrywio rhwng un sefydliad a’r llall, ac felly dylid bod yn ofalus wrth gymharu. Gweler yr adran 'Ansawdd' am ragor o wybodaeth.

Ansawdd

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn casglu data ar achosion COVID-19 positif gan sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ers dechrau blwyddyn academaidd 2020/21. Casglwyd yr wybodaeth hon i roi manylion i Weinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru am y lefelau heintio yn sefydliadau addysg uwch Cymru, er mwyn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus ac amserol ar bolisi addysg uwch.

Mae'r ffigurau yn cynnwys staff a myfyrwyr, fel ei gilydd, ac ond yn cyfeirio at achosion a wnaed yn hysbys i’r sefydliadau addysg uwch. Felly, gallai nifer yr achosion positif ymhlith staff a myfyrwyr prifysgolion fod yn uwch na'r ffigurau a gofnodir yma. Mae’r arferion cofnodi yn debygol o amrywio rhwng un sefydliad a’r llall, ac felly dylid bod yn ofalus wrth gymharu.

Mae'r diweddariad hwn yn diwygio'r holl ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol yma ar achosion COVID-19 positif mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.

Gwybodaeth reoli a gesglir gan Lywodraeth Cymru yn wythnosol gan sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yw’r data hwn. Er mwyn caniatáu i'r data gael ei ryddhau'n brydlon, nid yw'r ystadegau hyn wedi bod drwy'r un prosesau sicrhau ansawdd trylwyr ag ystadegau eraill Llywodraeth Cymru, ond rydym wedi gwneud pob ymdrech i ddilysu’r ffigurau gyda’r sefydliadau addysg uwch cyn eu cyhoeddi. Bob wythnos, mae sefydliadau addysg uwch yn cael cyfle i adolygu’r data a gyflwynwyd ar gyfer wythnosau blaenorol. O'r herwydd, ystyrir y ffigurau yn rhai dros dro ac yn rhai a all newid.

Mae sefydliadau addysg uwch yn cofnodi pob achos COVID-19 positif newydd sy’n hysbys iddynt i Lywodraeth Cymru bob wythnos.  Achosion positif y rhoddir gwybod amdanynt i'r sefydliad addysg uwch gan fyfyrwyr neu staff yw’r rhain, ac nid ydynt yn deillio o systemau gweinyddol profi neu olrhain cysylltiadau.

Y dyddiad hysbysu yw'r dyddiad yr hysbyswyd y sefydliad addysg uwch am yr achos positif, ac nid o reidrwydd y dyddiad y cymerwyd y prawf neu y cafwyd y canlyniad.

Nid yw'r ffigurau wedi'u cyfyngu i fyfyrwyr ar y campws, ac felly gallant hefyd gynnwys myfyrwyr sy'n astudio o bell o'u cartrefi.

Oherwydd bod yn rhaid cael prawf PCR yn dilyn prawf llif unffordd positif, mae yna bosibilrwydd bod y ddau brawf wedi cael eu cyfrif yn ystod cyfnod y peilot profi torfol yn 2020. Mae'r wybodaeth gan sefydliadau yn amrywio. Roedd gan rai sefydliadau systemau sy’n esbonio’r dyblygu hyn, ond nid pob un. Mae’n bosibl hefyd bod yna oedi weithiau cyn cofnodi achosion gan fod rhai sefydliadau yn dewis aros am ganlyniad y prawf PCR cyn rhoi gwybod beth yw’r ffigurau. Lle bo modd, bydd cafeat yn cael ei gofnodi yn achos unrhyw gyfrif dwbl a bylchau amser o ran cofnodi.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am achosion o’r Coronafeirws yng Nghymru ar ddangosfwrdd data Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid Ystadegau Gwladol yw'r rhain ac maent wedi’u cynhyrchu’n gyflym mewn ymateb i ddigwyddiadau cenedlaethol a lleol sy’n datblygu.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth ar y dangosyddion, ynghyd â disgrifiad o bob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol a gellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llunio asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Dyma’r adroddiad terfynol yn y gyfres hon.

Rydym eisiau eich adborth

Rydym yn croesawu adborth ar unrhyw agwedd o’r ystadegau hyn. Gallwch anfon adborth dros e-bost i addysguwchachyllidmyfyrwyr.yst@llyw.cymru.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Achosion cadarnhaol o coronafeirws cafodd eu hadrodd i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru: 27 Medi 2020 i 3 Ebrill 2022 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 23 KB

ODS
23 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.