Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Dangosir gwybodaeth newydd ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Medi 2021. Mae data ar gyfer mis Ebrill i fis Mehefin 2021 wedi'i ddiwygio.

Mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws (COVID-19) presennol, mae gwybodaeth reoli ychwanegol a mwy amserol yn cael ei chasglu ar absenoldeb oherwydd salwch. Nid yw'n cael ei gasglu ar yr un sail ac nad yw wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd â'r hyn a gyhoeddwyd yn y datganiad chwarterol hwn, ac felly bydd y ffigurau'n wahanol. Dylai’r ystadegau swyddogol yn y datganiad hwn barhau i gael eu hystyried y ffynhonnell awdurdodol o ddata ar absenoldeb oherwydd salwch yn y GIG yng Nghymru.

Cyhoeddir gwybodaeth ar coronafeirws a gweithgarwch a chapasiti'r GIG mewn diweddariad wythnosol.

Mae staff eithriadol o agored i niwed yn glinigol ar y rhestr gwarchod, ac felly nad ydynt yn y gwaith oherwydd hyn, yn cael eu cynnwys yn y cyfrif hunanynysu a gesglir yn y wybodaeth reoli. Yn yr ystadegau swyddogol hyn, nid yw staff y GIG sy'n hunanynysu neu’n gwarchod yn cael eu cyfrif fel rhai sy'n sâl, ac felly nid ydynt wedi'u cynnwys yn yr ystadegau absenoldeb oherwydd salwch chwarterol hyn.

Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).

Cyhoeddir y data sydd wedi’i gynnwys yn y datganiad hwn ar StatsCymru.

Prif bwyntiau

Y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch cyfartalog ar gyfer y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Medi 2021 oedd 6.1%; yr uchaf erioed. Roedd y cyfartaledd wedi bod yn cynyddu yn araf ers 2018 ond cynyddodd yn amlwg o Ebrill 2020 (dechrau’r pandemig). Arhosodd tua 6.0% cyn gostwng o Ionawr 2021. Fodd bynnag mae wedi codi’n sylweddol eto yn y misoedd diwethaf.

Chwarter yn dod i ben ar 30 Medi 2021

  • Roedd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn 6.7%, i fyny 1.6 pwynt canran o gymharu â’r chwarter yn dod i ben 30 Medi 2020. Dyma’r gyfradd chwarterol uchaf ar gofnod.
  • Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch uchaf, 10.6%.
  • Addysg a Gwella Iechyd Cymru oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch isaf, 1.9%.
  • Y grŵp staff â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch uchaf oedd y grŵp Ambiwlans, 11.3%.
  • Y grŵp staff â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch isaf oedd staff Meddygol a Deintyddol, 1.6%.

Mae’r canrannau yn y datganiad hwn wedi’u talgrynnu i’r 0.1 agosaf; cyfrifir newidiadau pwyntiau canran gan ddefnyddio’r rhifau heb eu talgrynnu.

Tueddiadau yn y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch

Image
Siart llinell sy’n dangos y gyfradd salwch misol gwirioneddol ar gyfer y GIG yng Nghymru, ynghyd â chyfartaledd symudol 12 mis. Mae’r rhain yn dangos amrywiadau misol rhwng 4.6% a 7.5% ond mae’r cyfartaledd symudol 12 mis yn amrywio o 5.1% i 6.1% yn unig. Cynyddodd y cyfartaledd symudol 12 mis o fis Ebrill 2020 hyd at fis Ionawr 2021 yn unol â'r pandemig COVID-19; lleihaodd o Ionawr 2021 i Fehefin 2021 ond mae wedi cynyddu eto yn y chwarter diweddaraf.

Absenoldeb oherwydd salwch ar StatsCymru

Mae absenoldeb oherwydd salwch yn dangos amrywiad tymhorol eang drwy gydol y flwyddyn gyda'r gyfradd yn is yn yr haf ac yn uwch yn y gaeaf. Er mwyn darparu gwybodaeth gliriach am newidiadau hirdymor i gyfradd absenoldeb oherwydd salwch dangosir cyfartaledd symudol 12 mis yn Siart 1.

Mae’r siart yn dangos bod y cyfartaledd symudol 12 mis wedi parhau tua 6.0% ers mis Mai 2020 a dechreuodd leihau yn ystod hanner cyntaf 2021; mae eisoes wedi dechrau cynyddu eto i’r lefel uchaf erioed am y 12 mis yn dod i ben Medi 2021.

Mae’r siart hefyd yn dangos mai cyfradd absenoldeb oherwydd salwch mis Ebrill 2020 yw’r gyfradd fisol uchaf a gofnodwyd (7.5%) wedi ei ddilyn gan fis Medi 2021 (7.2%). O ystyried yr amseriad mae hyn yn fwy na thebyg oherwydd ton greiddiol a thon amrywiolyn delta COVID-19.

Nid yw staff y GIG sy'n hunanynysu, sy’n cynnwys staff sy’n gwarchod, yn cael eu cyfrif fel rhai sy'n sâl ac felly nid ydynt wedi'u cynnwys yn yr ystadegau hyn. Gellir dod o hyd i gyfraddau absenoldeb oherwydd salwch misol yn ôl sefydliad a grŵp staff ar StatsCymru.

Absenoldeb oherwydd salwch yn ôl sefydliad y GIG

Image
Mae data ar gyfer chwarter Gorffennaf i Fedi 2021 yn dangos cyfartaledd o 6.7% ar gyfer Cymru. Mae hyn yn amrywio ar draws sefydliadau o 1.9% yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru i 10.6% yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Canran a oedd yn absennol yn ôl sefydliad a dyddiad ar StatsCymru

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru oedd a’r gyfradd oherwydd salwch uchaf (10.6%) o holl sefydliadau’r GIG y chwarter yma, gyda’r gyfradd isaf yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (1.9%).

Cwm Taf Morgannwg a Bae Abertawe ar y cyd oedd a’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch uchaf (7.8%) o’r holl fyrddau iechyd lleol (BILlau) ar gyfer y chwarter yn diweddu 30 Medi 2021, gyda’r gyfradd isaf ym Mhowys (5.4%).

O gymharu â’r un chwarter yn 2020, roedd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn uwch ym mhob un o sefydliadau’r GIG yng Nghymru.

Mae data ar gyfer pob sefydliad ar gael ar StatsCymru.

Absenoldeb oherwydd salwch yn ôl grŵp staff

Image
Mae data ar gyfer chwarter Gorffennaf i Fedi 2021 yn dangos cyfartaledd absenoldeb oherwydd salwch o 6.7% ar gyfer Cymru. Mae hyn yn amrywio o 1.6% ar gyfer Meddygol a deintyddol i 11.3% ar gyfer staff Ambiwlans.

Canran a oedd yn absennol yn ôl grŵp staff a dyddiad ar StatsCymru

O’r chwe grŵp staff, y grŵp Ambiwlans oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch uchaf y chwarter yma (11.3%).

Staff Meddygol a Deintyddol oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch isaf y chwarter yma (1.6%) fel sydd wedi bod yn wir ers dechrau casglu data yn 2009.

Roedd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn uwch ym mhob grŵp staff yn y chwarter yn diweddu 30 Medi 2021 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Mae data ar gyfer pob grŵp staff ar gael ar StatsCymru.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

18 Mai 2022

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Bethan Sherwood
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 6735
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru 

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 50/2022