Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r data ar gyfer disgyblion sy’n absennol yn gyson ac absenoldeb yn ôl rhyw, ethnigrwydd, prydau ysgol am ddim ac anghenion addysgol arbennig ar gyfer Medi 2018 i Awst 2019.

Nid yw'r data hwn yn cwmpasu'r flwyddyn ysgol gyfredol, y flwyddyn academaidd ddiweddaraf yr ymdrinnir â hi yw 2018/19.

Mae’r data hwn yn adrodd ar absenoldeb o ysgolion yn ôl nodweddion disgyblion. Mae’n defnyddio data ar lefel disgyblion sy'n cysylltu data o’r Cofnod Presenoldeb Disgyblion i ddata ar nodweddion y disgyblion o'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD), ac yn cwmpasu’r cyfnod 2012/13 i 2018/19.

Nodwch fod y ffordd y mae anghenion addysgol arbennig disgyblion yn cael eu casglu a'u cofnodi yn wahanol i flynyddoedd blaenorol ac felly nid yw'r ffigurau yn uniongyrchol gymharol.

Disgyblion sy’n absennol yn gyson

Disgyblion sy’n absennol yn gyson yw disgyblion a oedd yn absennol am o leiaf 20% o nifer modd y sesiynau hanner diwrnod lle’r oedd ysgolion yn agored i ddisgyblion.

  • Yn 2018/19, roedd 1.8% o ddisgyblion ysgol gynradd yn absennol yn gyson, cynnydd o 0.1 pwynt canran o 2017/18.
  • Roedd 4.6% o ddisgyblion ysgol uwchradd yn absennol yn gyson, cynnydd o 0.5% dros 2017/18. Mae’r canran wedi mwy na haneru o’r 9.3% yn 2008/09.
  • Yn Sir Gaerfyrddin oedd y canran uchaf o ddisgyblion sy’n absennol yn gyson o ysgolion cynradd, ac yn Sir y Flint  roedd y canran uchaf yn ysgolion uwchradd.
  • Roedd dros hanner o’r holl absenoldebau gan bob disgybl oherwydd salwch, a chwarter oherwydd rhesymau anawdurdodedig. Roedd disgyblion sy’n absennol yn gyson yn fwy tebygol o fod yn absennol oherwydd rhesymau anawdurdodedig.
  • Roedd y gyfradd absenoldeb anawdurdodedig ymysg disgyblion sy’n absennol yn gyson yn uwch yn ysgolion uwchradd nac ysgolion cynradd.

Nodweddion disgyblion

  • Roedd absenoldeb cyson yn fwy cyffredin ymysg disgyblion a’r hawl i brydau ysgol am ddim ac anghenion addysgol arbennig.
  • Er bod cyfraddau absenoldeb wedi cynyddu yn ddiweddar ar gyfer disgyblion a’r hawl i brydau ysgol am ddim, mae’r cyfraddau dal yn is nag yn 2011/12.
  • Roedd absenoldeb cyson yn uwch ymysg bechgyn yn ysgolion cynradd ond yn uwch ymysg merched yn ysgolion uwchradd.
  • Mae absenoldeb cyffredinol yn is ymysg disgyblion a chefndir ethnig Tseiniaidd, and yn uchaf ymysg disgyblion o gefndir ethnigrwydd gwyn.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Absenoldeb o ysgolion yn ôl nodweddion disgyblion, Medi 2018 i Awst 2019: tablau , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 216 KB

ODS
216 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.