Mae dros 54,000 o bobl ledled Cymru wedi cael cymorth i wella eu rhagolygon gyrfa a dechrau gweithio yn ystod dwy flynedd gyntaf Cymru'n Gweithio, gwasanaeth cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru, yn ôl cyhoeddiad gan Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, heddiw.
Wedi'i lansio gan Lywodraeth Cymru yn 2019, mae Cymru'n Gweithio ar gael i unrhyw un dros 16 oed a heb fod mewn addysg amser llawn. Mae'r gwasanaeth, a ddarperir gan Gyrfa Cymru ac a gefnogir gan gronfeydd yr UE, yn cynnig dull wedi'i deilwra ar gyfer unigolion, yn seiliedig ar amgylchiadau personol. Mae'r cymorth sydd ar gael yn cynnwys atgyfeiriadau at hyfforddiant sy'n benodol i'r swydd, chwilio am swyddi a dod o hyd i leoliadau gwaith.
Hyd yma, mae 67% o'r bobl sy'n cysylltu â Cymru'n Gweithio wedi cael eu cyfeirio at gymorth neu gyfleoedd pellach gan gynnwys cyflogaeth, addysg a hyfforddiant a ariennir. O'r rhain, cafodd bron i 5,500 o unigolion chwiliad swydd dwys, sgiliau cyfweld a chymorth CV.
Mae Cymru'n Gweithio wedi profi ei gwerth dros y pandemig drwy arallgyfeirio ei gwasanaethau'n gyflym mewn ymateb i effaith COVID-19 a her gynyddol diweithdra.
Hyd yma, mae wedi helpu 54,351 o bobl i uwchsgilio, hyfforddi a dod o hyd i swyddi.
Un o'r rhai a gefnogwyd gan Cymru'n Gweithio yw David Rutter, 39, cogydd o Ynys Môn. Helpodd y gwasanaeth David i ddod o hyd i'r cydbwysedd perffaith rhwng bywyd a gwaith ar ôl iddo gael ei roi ar ffyrlo o'i swydd fel prif gogydd ar ddechrau y pandemig.
Er bod ffyrlo yn cynnig diogelwch swyddi iddo, a'r wybodaeth y byddai'n gallu dychwelyd i'r gwaith pan fyddai'r cyfyngiadau'n codi, newidiodd yr amser i ffwrdd o'r swydd feddylfryd David. Penderfynodd ei fod am newid swydd, rhywbeth y sylweddolodd y gallai ei wneud drwy Cymru'n Gweithio.
Meddai David:
"Pan darodd y pandemig, fel llawer yn y diwydiant lletygarwch, fe'm rhoddwyd ar ffyrlo. Rhoddodd amser i mi fyfyrio ar y pethau yr oeddwn am eu gweld. Er fy mod wrth fy modd yn gweithio fel cogydd, roeddwn i'n treulio mwy o amser gyda fy merch ddwyflwydd oed.
"Penderfynais ofyn am gyngor gan Cymru'n Gweithio ar ôl dod o hyd i'w gwefan. Ar y dechrau, roeddwn yn meddwl y byddai'n rhaid imi newid fy ngyrfa'n llwyr, ond dangosodd fy ymgynghorydd imi'n gyflym y gallwn gael y gorau o'r ddau fyd. Yn ein sgwrs gychwynnol o awr, dywedwyd wrthyf sut y gallai fy sgiliau trosglwyddadwy ganiatáu i mi barhau yn y swydd yr oeddwn yn ei charu a'm helpu i weld bod swyddi ar gael gyda'r oriau yr oeddwn am eu cael, a fyddai'n caniatáu i mi barhau i dreulio amser gyda fy merch.
Mae David bellach yn gweithio fel prif gogydd mewn meithrinfa i blant, sydd digwydd bod ble y mae ei ferch yn mynd. Golygodd ei frwdfrydedd dros goginio a'i flynyddoedd o brofiad mewn gwahanol leoliadau, gan gynnwys yr amser a dreuliodd fel cogydd yn Saudi Arabia, ei fod yn awyddus i barhau i weithio fel cogydd.
Aeth ymlaen i ddweud:
"Doeddwn i ddim o reidrwydd eisiau newid gyrfa, dim ond yr oriau. Heb gymorth Cymru'n Gweithio, dydw i ddim yn meddwl y byddwn wedi dod o hyd i swydd oedd yn fy ngalluogi i ddefnyddio fy sgiliau presennol a dal i dreulio amser gyda fy merch. Dysgodd gerdded tra oeddwn ar ffyrlo, ac ar adegau fel hynny roeddwn yn gwybod nad oeddwn am golli allan.
"Ni all bawb ddweud eu bod yn edrych ymlaen mewn gwirionedd at fynd i'r gwaith, ond rwy'n un o'r rhai lwcus sy'n gallu dweud fy mod i wir yn gwneud hynny. Gan weithio yn yr un feithrinfa y mae fy merch yn mynd iddi, a dal i'w gweld y tu allan i'r gwaith diolch i amserlen waith gymdeithasol yn werthfawr tu hwnt. Dwi mor ddiolchgar i Cymru'n Gweithio am eu cefnogaeth a'u hamser yn helpu imi ddod o hyd i'r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith rydw i wedi'i ddymuno erioed.
Wrth sôn am lwyddiant Cymru'n Gweithio hyd yma, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi:
"Fel rhan o gynlluniau adfer uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o COVID-19, rydym yn benderfynol o sicrhau nad oes cenhedlaeth goll, mewn Cymru sy'n dod yn beiriant ar gyfer twf cynaliadwy a chynhwysol.
"Mae Cymru'n Gweithio yn darparu cyngor ac arweiniad am ddim bob dydd i bobl ledled Cymru i'w helpu i gael gwaith, boed yn bobl ifanc yn y gweithle am y tro cyntaf neu bobl ar incwm isel sydd angen newid eu gyrfa. Mae'r gwasanaeth wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sydd wedi colli eu swyddi neu sy'n poeni eu bod mewn perygl o gael eu diswyddo. Nid yw Cymru'n Gweithio erioed wedi bod yn fwy gwerthfawr nag yn ystod ein cyfnod heriol presennol.
"Trwy Cymru'n Gweithio ein nod yw cynnig cyngor ar sut i gael gwaith cynaliadwy a chreu llwybrau gyrfa. Yr hyn na ddylem fyth ei anghofio yw y tu ôl i bob swydd a grëwyd a swydd wag sydd wedi’i llenwi, bod stori – rhywun y mae eu hincwm teuluol, eu hunan-barch a'u cyfleoedd mewn bywyd i gyd wedi gwella'n aruthrol drwy fod mewn gwaith.
"Rydym yn gweithio gyda sefydliadau i sicrhau nad swydd yn unig y mae pobl yn ei gael, ond swydd dda – ac mae Cymru'n Gweithio yn newid straeon pobl drwy eu helpu i ddod o hyd i waith, uwchsgilio drwy gyrsiau a chael mynediad at gyfleoedd hyfforddi, cymorth neu ariannu. Mae'n hanfodol bod pobl yn gadarnhaol am eu cyfleoedd gwaith yn y dyfodol, ac mae Cymru'n Gweithio yn helpu i ymgysylltu, ysgogi a rhoi sicrwydd iddynt o'u gwerth.
Gyda 4.4% o bobl 16 i 64 oed yng Nghymru yn ddi-waith ar hyn o bryd (Arolwg o'r Llafurlu, Ionawr i Mawrth 2021), bu i Cymru'n Gweithio addasu ei gwasanaethau i barhau i ddarparu cymorth i'r rhai sy'n wynebu rhwystrau i gyflogaeth.
Dywedodd Nikki Lawrence, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru:
"Rydym mor falch o bopeth y mae Cymru'n Gweithio wedi'i gyflawni ers ei lansio ddwy flynedd yn ôl. Mae'r pandemig wedi ein dysgu y gallwn addasu ein gwasanaethau mewn cyfnod heriol i barhau i gynnig cefnogaeth a chyfleoedd ystyrlon i bobl ledled Cymru sy'n chwilio am waith neu i wella eu rhagolygon am swydd.
"Effaith y pandemig ar y farchnad swyddi yn sicr fu'r her anoddaf rydym wedi'i hwynebu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda llawer o bobl yn gorfod goresgyn rhwystrau ychwanegol i ddod o hyd i waith. Drwy ein timau o gynghorwyr ymroddedig sy'n gweithio ledled Cymru, rydym am barhau i rymuso pobl i ennill y sgiliau a'r profiad rydym yn gwybod bod cyflogwyr yn chwilio amdanynt, nawr yn fwy nag erioed.
I gael gwybod sut y gall Cymru'n Gweithio eich helpu, ffoniwch 0800 028 4844 neu ewch i wefan Cymru'n Gweithio.