Neidio i'r prif gynnwy

Bydd mwy na 35,000 o liniaduron a thabledi yn cael eu darparu i ddysgwyr dros yr wythnosau nesaf, gan ddod â'r cyfanswm a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ers dechrau pandemig y coronafeirws i fwy na 133,000.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar ddechrau'r pandemig, addawodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams na fyddai 'unrhyw blentyn na theulu yn cael eu gadael ar ôl yn ystod yr argyfwng hwn' ac y bydd ‘pob plentyn yn cael cyfle i barhau i ddysgu'.

Gwnaeth Llywodraeth Cymru hyn yn flaenoriaeth ac roedd adroddiad annibynnol diweddar yn canmol ei hymateb. Dywedodd fod Cymru wedi 'arwain y ffordd' wrth ddarparu TG a gwersi ar-lein i ddisgyblion gartref drwy gydol y pandemig.

Felly, sut mae Cymru wedi adeiladu ar y llwyddiant hwnnw i gefnogi dysgwyr tra bod pandemig y coronafeirws yn parhau i darfu ar addysgu wyneb yn wyneb?

Cefnogi dysgwyr sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol

Dywedodd y Sefydliad Polisi Addysg fod Cymru wedi 'arwain y ffordd' wrth gefnogi dysgwyr sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol.

Gweithiodd Llywodraeth Cymru gyda’r Awdurdodau Lleol i ariannu bron i 11,000 o ddyfeisiau MiFi i helpu'r rhai heb ryngrwyd i fynd ar-lein, a bron i 10,000 o ddyfeisiau a addaswyd at ddibenion newydd i roi mynediad at ddysgu ar-lein.

Torri record am ddysgu o bell

Mae'r defnydd o blatfform Hwb wedi ffrwydro ers inni ddechrau dysgu o bell eto y tymor hwn. 

Mae cyfartaledd o dros 50 o ddysgwyr yr eiliad yn mewngofnodi i Hwb bob dydd. Mae’r platfform yn galluogi ei ddefnyddwyr i gael mynediad at ei wasanaethau digidol, sydd ar gael yn genedlaethol, gan gynnwys e-bost ac offer dysgu ar-lein.  

Mae'r platfform ei hun hefyd yn cofnodi’r nifer uchaf erioed o ddysgwyr yn mewngofnodi, dros 337,000, gyda mwy nag un miliwn o ddysgwyr yn edrych ar ei dudalennau bob dydd.

Mynediad am ddim at feddalwedd o'r radd flaenaf

Gall pob athro a dysgwr yng Nghymru lawrlwytho Microsoft Office a chael mynediad at Minecraft: Education Edition am ddim gartref ar eu dyfeisiau personol.

Gwneud pethau'n syml

Drwy Hwb, mae Llywodraeth Cymru yn darparu un pwynt mynediad i ysgolion at ddewis o becynnau dysgu ar-lein blaenllaw, gan gynnwys Google for Education a'r gyfres o raglenni Microsoft, i gefnogi dysgu ar-lein mewn amgylchedd diogel.

Addysgu'r athrawon

Mae tîm Hwb wedi parhau i gynnig cyfleoedd datblygu proffesiynol digidol i staff drwy gydol y pandemig, ac mae 6,295 o aelodau o staff wedi cymryd rhan mewn 87 o weminarau byw. Mae’r sesiynau hyn hefyd wedi cael eu gwylio ar-alw 9,000 o weithiau hyd yma.

Mae ystod eang o ganllawiau a deunyddiau sy’n rhoi cymorth â dysgu o bell ar gael ar Hwb.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i hwb.llyw.cymru