Bydd pob busnes yng Nghymru yn elwa ar gymorth ardrethi newydd gan Lywodraeth Cymru i helpu gydag effeithiau costau cynyddol.
Bydd pecyn cymorth sy’n werth mwy na £460 miliwn dros y ddwy flynedd ariannol nesaf yn cael ei gyhoeddi yn y Gyllideb ddrafft sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y pecyn yn rhoi hwb i fusnesau ledled Cymru sy’n ei chael yn anodd ymdopi ag effeithiau chwyddiant uchel a chostau ynni cynyddol. Dyma gymorth sy’n ychwanegol at gynlluniau rhyddhad parhaol gan Lywodraeth Cymru sydd eisoes yn darparu £240 miliwn o ryddhad i dalwyr ardrethi ledled Cymru eleni.
Mae’r lluosydd ardrethi annomestig yn aros yn ei unfan ar gyfer 2023-24, sy’n cyfateb i gost o fwy na £200 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf. Mae hyn yn sicrhau unwaith eto na fydd cynnydd ar sail chwyddiant i’r ardrethi sy’n cael eu talu gan fusnesau a thalwyr ardrethi eraill.
Bydd £113 miliwn arall yn cael ei ddarparu dros y ddwy flynedd nesaf i roi rhyddhad trosiannol i bob talwr ardrethi y mae ei filiau’n cynyddu mwy na £300 yn dilyn yr ymarfer ailbrisio ledled y DU, sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2023.
Bydd £140 miliwn arall yn cynorthwyo busnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch. Bydd talwyr ardrethi cymwys yn cael rhyddhad ardrethi annomestig o 75% ar gyfer 2023 24, sy’n gynnydd o’r rhyddhad a ddarparwyd yn 2022-23, sef 50%.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans:
Rydym yn gwybod bod busnesau’n teimlo o dan bwysau oherwydd costau ynni a chwyddiant cynyddol, tra bo’r busnesau hynny’n dal yn ymadfer ar ôl effeithiau’r pandemig.
Rydym am i fusnesau wybod yn awr y byddwn yn parhau i weithredu gostyngiadau sylweddol i’w biliau ardrethi, ac y bydd y pecyn cymorth hwn yn helpu busnesau i ffynnu yn yr amseroedd anodd rydym yn gwybod eu bod yn eu hwynebu.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
Rydym am i Gymru fod yn lle deniadol i fyw, astudio, gweithio a buddsoddi ynddo, lle mae busnesau’n cael cymorth er mwyn sicrhau economi fwy cryf, teg a gwyrdd i Gymru.
Bydd y cymorth ychwanegol rydym wedi’i gyhoeddi heddiw yn ein helpu i roi mwy o sicrwydd i fusnesau er gwaethaf y costau cynyddol. Rwy’n gwbl ymroddedig o hyd i symud yr economi ymlaen drwy gynorthwyo busnesau i dyfu a ffynnu.