Neidio i'r prif gynnwy

Bydd prosiect llanw pwysig oddi ar Ynys Môn yn elwa ar £31 miliwn sy’n debygol o fod y grant mawr olaf gan raglen ariannu ranbarthol yr UE.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James  wedi cadarnhau y bydd arian yn cael ei roi i brosiect seilwaith Morlais Menter Môn.

Nod datblygiad Seilwaith Morlais yw datblygu technoleg cynhyrchu ynni’r llanw ymhellach drwy gysylltiad â’r grid.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

"Rydyn ni am sefydlu Cymru fel lleoliad o ddewis ar gyfer datblygwyr ffrwd llanw a'r gadwyn gyflenwi.

"Hoeliodd archwiliad manwl diweddar gan Lywodraeth Cymru sylw ar yr angen i ystyried ein hanghenion ynni ac anghenion ein hecosystemau, yr amgylchedd ac anghenion defnyddwyr eraill y môr.

"Rydyn ni'n ceisio dod o hyd i lwybr ar gyfer datblygiadau adnewyddadwy morol, gan sicrhau canlyniadau y gall pawb elwa arnynt a chefnogi prosiectau i gyfrannu at ganlyniadau cadarnhaol ar gyfer bioamrywiaeth forol.

"Rydyn ni’n disgwyl i'r diwydiant achub ar y cyfle hwn a gweithio gyda'n gilydd i ddangos y gostyngiadau mewn costau a buddsoddiad preifat a fydd yn helpu i sefydlu'r pŵer glân, cadarn a moesegol hwn fel rhan sylweddol o'r system ynni fyd-eang."

Ychwanegodd Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths:

"Mae hyn yn newyddion gwych. Ymwelais ag Ynys Môn y llynedd i glywed mwy am y cynlluniau cyffrous ar gyfer Morlais. 

"Mae Ynys Môn a Gogledd Cymru yn gyffredinol mewn sefyllfa dda iawn i chwarae rhan allweddol mewn cynhyrchu ynni carbon isel arloesol sydd o fudd i gymunedau lleol.  

"Mae'r newyddion heddiw yn dystiolaeth bellach o hynny. Bydd y prosiect nid yn unig yn hwb i gynhyrchu ynni carbon isel yn y dyfodol ond bydd hefyd yn creu swyddi a sgiliau yn yr ardal."

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Bu cryn dipyn o gyfleoedd i'r sector ynni morol drwy raglenni'r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd. Nid oes amheuaeth nad yw cronfeydd yr UE wedi bod yn hanfodol i gefnogi busnesau i fanteisio i'r eithaf ar botensial adnoddau tonnau a llanw Cymru, gyda buddsoddiad sylweddol o £105miliwn mewn prosiectau Ynni Morol yng Nghymru.

"Mae prosiect Seilwaith Morlais yn allweddol i ddatgloi datblygiad sector y ffrwd lanw yn y Gogledd, gan ddod â nifer o fanteision economaidd i'r rhanbarth. Wrth adeiladu a phrofi dyfeisiau a pharatoi seilwaith, bydd y prosiect yn denu buddsoddiad pellach gan y sector gan alluogi'r gadwyn gyflenwi i dyfu a chreu swyddi sgiliau uwch."

Bydd Ystâd y Goron yn buddsoddi £1.2 filiwn arall ym mhrosiect Morlais, i gefnogi'r gwaith o gyflawni ei phecyn monitro a lliniaru amgylcheddol – cam hanfodol i ddiogelu'r amgylchedd morol a galluogi'r prosiect i symud ymlaen. Bydd y gwaith yn monitro am ryngweithio â rhywogaethau sensitif, yn ogystal â phrofi technolegau monitro parhaus. Bydd yn berthnasol i unrhyw ddyfais y ffrwd lanw a ddefnyddir ar y safle ac mae'n gam pwysig tuag at fynd i'r afael â bylchau mawr mewn tystiolaeth a heriau cydsynio a wynebir gan y sector llanw sy’n brin o ddata ar hyn o bryd.

Mae Grŵp Cynghori yn cael ei sefydlu i oruchwylio'r gwaith o ddatblygu a chyflawni'r gwaith, gydag aelodau sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, JNCC, cyrff anllywodraethol amgylcheddol, Cyngor Sir Ynys Môn, a datblygwyr y ffrwd lanw. Mae'r partneriaid cyflawni a ragwelir yn cynnwys Prifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe a SMRU Consulting, gan gryfhau'r cysylltiadau rhwng y sectorau ymchwil, ynni ac arloesi.

Dywedodd Nicola Clay, Pennaeth Mentrau Newydd yn nhîm Morol Ystâd y Goron:  

"Rydym yn croesawu'r buddsoddiad diweddaraf hwn yn y prosiect pwysig hwn, sydd â photensial enfawr i helpu i ddatgloi mathau newydd o bŵer glân i Gymru, gan baratoi'r ffordd ar gyfer technolegau ynni arloesol, mwy o gadernid o ran cyflenwad, a swyddi, sgiliau a mewnfuddsoddiad newydd.

"Mae ein hymrwymiad ariannu ein hunain ym Morlais yn un enghraifft o sut rydym yn gweithio mewn partneriaeth â llywodraethau'r DU a Chymru i gefnogi eu hymrwymiad i dwf ynni adnewyddadwy a'r newid i sero net.

"Drwy'r buddsoddiad diweddaraf hwn, byddwn yn helpu i ddarparu pecyn cynhwysfawr o ddata hanfodol i gefnogi datblygiad y prosiect pwysig hwn, diogelu bioamrywiaeth forol a sicrhau bod mewnwelediadau gwerthfawr ar gael er budd llawer o ddiwydiannau morol eraill."