Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau hyd at £22 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol i gefnogi'r gwaith o ailddatblygu Theatr Clwyd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae buddsoddi yn y theatr eiconig yn Sir y Fflint yn un o ymrwymiadau allweddol Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.

Theatr Clwyd yw'r theatr sy'n cynhyrchu fwyaf yng Nghymru, sy'n adnabyddus am gynyrchiadau theatr o'r safon uchaf ac effaith gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd sylweddol yng ngogledd-ddwyrain Cymru.
Mae'n denu dros 200,000 o ymwelwyr bob blwyddyn ac mae ganddo raglen allgymorth gref, sy'n dod â diwylliant i gynulleidfaoedd amrywiol.

Mae Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Clwyd, Liam Evans-Ford, a'r Cyfarwyddwr Artistig, Tamara Harvey yn gweithio gyda Chyngor Sir y Fflint, Cyngor Celfyddydau Cymru a'r penseiri enwog Haworth Tompkins ar yr ailddatblygiad.

Meddai Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon:

"Mae gan Theatr Clwyd enw da yn rhyngwladol ac yn genedlaethol am ragoriaeth ac mae'n rhan allweddol o seilwaith diwylliannol Cymru. Drwy ei gwasanaethau a'i phartneriaethau arloesol, mae Theatr Clwyd yn dod â manteision cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd sylweddol i Gymru, yn enwedig y cymunedau lleol yn y gogledd-ddwyrain. Edrychwn ymlaen at weithio gyda'r tîm i gyflawni prosiect mor gyffrous ac arloesol.

Bydd yr ailddatblygiad trawsnewidiol yn darparu profiad llawer gwell i ymwelwyr a gwell cyfleusterau cynhyrchu incwm mewn adeilad gwyrddach, mwy effeithlon a chroesawgar.

Gyda tharged di-garbon sy'n arwain y diwydiant a mannau creu theatr, dysgu, teuluol a lles pwrpasol, gan gynnwys adeiladu golygfeydd ar y safle am y tro cyntaf, bydd y prosiect yn esiampl o ofod diwylliannol yr 21ain ganrif.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Neal Cockerton:

"Mae hwn yn gyhoeddiad i'w groesawu'n fawr gan Lywodraeth Cymru a bydd yn caniatáu i ni a'r Theatr symud ymlaen gyda'r cynlluniau cyffrous ar gyfer adnewyddu a datblygu.  Mae hwn yn gyfnod deinamig yn hanes y theatr – mae'r dyfodol yn edrych yn ddisglair gyda'r theatr yn parhau fel canolfan gelfyddydau hanfodol a bywiog wrth galon ein cymuned.

Dywedodd Liam Evans-Ford, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Clwyd:

"Mae'r cadarnhad o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru wrth ailddatblygu Theatr Clwyd yn hanfodol, ochr yn ochr â'r buddsoddiad a gadarnhawyd yn flaenorol gan Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Celfyddydau Cymru, yn ddatganiad arwyddocaol am sut yr ystyrir y celfyddydau, a'i effaith gymdeithasol ac economaidd, yng Nghymru, cenedl sy'n prysur ddod yn un o'r goreuon yn y byd o ran cefnogi ei sectorau diwylliannol. Bydd yr arian hwn yn datgloi buddsoddiad preifat pellach ac yn ein galluogi i ddarparu rhywbeth y gall ein cymunedau lleol, ein gwneuthurwyr theatr, ein cynulleidfaoedd, ein rhanbarth, a'n cenedl fod yn falch ohono, theatr sy'n cynhyrchu o'r safon uchaf yng Ngogledd Cymru a fydd bellach â chyfleusterau i gyfateb i safon y gwaith ar ein llwyfannau.

Dywedodd Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths:

"Mae buddsoddi yn ein theatrau ac ymrwymo i Theatr Clwyd yn elfen bwysig o'n Rhaglen Lywodraethu.  Mae'r cyhoeddiad hwn heddiw yn cydnabod arwyddocâd diwylliannol a statws uchel Theatr Clwyd nid yn unig yng Ngogledd Cymru ei hun ond ymhellach i ffwrdd hefyd. Mae'n ased gwerthfawr i'r rhanbarth.

Dywedodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Mae'r buddsoddiad hollbwysig hwn gan Lywodraeth Cymru yn cydnabod effaith y celfyddydau mewn bywyd cymunedol, er lles dinasyddion ac mewn datblygiad economaidd. Mae Theatr Clwyd yn dangos yr effaith honno yn amlwg drwy ei chynyrchiadau trawiadol o safon uchel, ei gwaith allgymorth cymunedol a'i gwaith mewn meysydd fel y Celfyddydau a Dementia a chyfiawnder ieuenctid. Bydd yr ailddatblygiad hwn yn ysgogi'r holl waith hwnnw ymhellach ac yn fantais fawr i bobl gogledd-ddwyrain Cymru. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch o'i gefnogi.

Drwy gydol y gwaith adeiladu bydd Theatr Clwyd yn parhau ar agor a disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau yn 2024.